Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd y Rhaglen Gyfalaf helaeth o fuddsoddi ar draws yr awdurdod mewn meysydd fel ysgolion, asedau treftadaeth, cynlluniau effeithlonrwydd ynni, rhaglenni buddsoddi i arbed, ac adfywio canol y ddinas.
Mae’r adroddiad hwn yn adeiladu ar y buddsoddiad a gymeradwywyd eisoes gan y cabinet, gyda chais i ychwanegu £3.915 miliwn at y rhaglen er mwyn cyflwyno blaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor, a’r rhan fwyaf yng nghyswllt prysuro gyda Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Caerdydd( “y Fargen Ddinesig”). Y mae hefyd yn rhoi’r rhagolygon diweddaraf am wariant ar gynlluniau eleni, a llithriad gwariant y gyllideb i’r blynyddoedd i ddod.
Gofynnwyd i’r Cabinet gymeradwyo £3.915 miliwn yn ychwanegol i’r rhaglen gyffredinol, yn bennaf yng nghyswllt prysuro gyda Bargen Ddinesig Dinas-Ranbarth Caerdydd. Fel aelod o’r Fargen Ddinesig, yr oedd gofyn i ni ddarparu arian cyfalaf yn ogystal â thalu am unrhyw lif arian petai’n cael ei wario cyn i arian y Trysorlys gyrraedd. Cafodd y cynllun busnes diweddaraf ei adolygu a’i gymeradwyo gan Gabinet y Fargen Ddinesig, a chymeradwywyd y prysuro. Er y byddai’r gwariant yn gyffredinol yn aros o fewn y terfynau cyllido cyffredinol y cytunwyd arnynt, bydd angen i bob cyngor yn y ddinas-ranbarth dalu am hyn yn gynt na’r disgwyl. Y cynllun gwreiddiol oedd i wariant ar y fargen ddinesig ddod i’w rhan bob blwyddyn tan 2026/27 ond byddai’r cynllun newydd yn dwyn y gwariant hwn ymlaen i ddiweddu yn 2022/23. Byddai’r effaith refeniw felly yn ymestyn dros lawer blwyddyn, ac er y byddai hyn yn cynyddu’n raddol hyd at 2026/27, byddai’n cyflymu hyd at 2023/24, a byddai’n rhaid caniatáu am hyn yn ein cynllunio cyllidebol am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf yn ein CATC. Yn amlwg, mae hyn yn gyflymu uchelgeisiol ar y gwariant, a hynny dan amgylchiadau anodd, felly bydd angen cadw golwg fanwl. Mae’r tabl yn dangos y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu’r ychwanegiad hwn, ac yr oedd y gyllideb eleni ychydig dan £32 miliwn gyda rhaglen gyffredinol o bron i £211 miliwn.
O ran monitro gwariant, cadarnhaodd yr adroddiad ei fod yn gymharol isel, sef ychydig dros £11 miliwn ar gyllid sydd fymryn dan £32 miliwn. Nid oedd y patrwm hwn yn anghyffredin, ond yn amlwg mae’n gyd-destun heriol i fwrw ymlaen â chynlluniau, sy’n arwain yn anorfod at lithriad eleni. Fel rhan o adolygu’r rhagolygon, nododd rheolwyr cyllidebau/prosiectau bron i £4.6m o lithriad yn y gyllideb, a gofynnwyd am gario hwn ymlaen i gyllidebau blynyddoedd i ddod. Yr oedd y tabl sy’n dangos y rhaglen gyfalaf yn adlewyrchu hyn, ac yr oedd y gyllideb wedyn eleni ychydig dan £32 miliwn.
Sylwadau’r Cabinet:
Tynnodd y Cynghorydd Giles sylw at y ffaith fod sôn am ysgolion yn cyd-fynd â’r sylwadau am gynigion buddsoddi, yn enwedig Ysgolion yr 21fed Ganrif a Band B yn derbyn cyllid cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, ac er nad oedd hyn yn ddigon, yr oedd y Cyngor yn gwneud ei orau o ystyried yr holl welliannau a’r datblygiadau sy’n digwydd mewn Addysg. Y mae hyn yn adlewyrchiad da o’n hymrwymiad i drigolion Casnewydd.
Cytunwyd:
Fod y Cabinet yn
1. Cymeradwyo’r ychwanegiadau a’r newidiadau i’r Rhaglen Gyfalaf y gofynnwyd amdanynt yn yr adroddiad (Atodiad A)
2. Cymeradwyo llithriad i £4,568k i’r blynyddoedd i ddod
3. Nodi’r diweddariad am weddill yr adnodau cyfalaf (‘arian rhydd’) at a chan gynnwys 2022/23
4. Nodi’r sefyllfa o ran rhagolygon gwariant cyfalaf fel ar Dachwedd 2020
5. Nodi a chymeradwyo dyraniadau derbyniadau cyfalaf am y flwyddyn
Dogfennau ategol: