Agenda item

Dadansoddiad Perfformiad Canol Blwyddyn 2020/21

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Dadansoddiad Perfformiad Canol Blwyddyn am chwe mis cyntaf eleni (Ebrill i Fedi).

 

Rhoddodd meysydd gwasanaeth y Cyngor ddiweddariad am gynnydd yn erbyn cyflwyno eu hamcanion a’u mesuriadau perfformiad, a gyfrannodd tuag at Nodau Adfer Strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys adborth ac argymhellion y Pwyllgor Craffu Pobl a’r Pwyllgor Craffu Lle a Chorfforaethol yn dilyn cyflwyno’r adolygiadau canol-blwyddyn ym mis Tachwedd 2020.

 

Yn ôl yn, gwnaethom lansio ein Cynllun Corfforaethol 5-mlynedd oedd yn gosod allan ein gweledigaeth a’n nod i wella bywydau pobl yng Nghasnewydd a chyflwyno ein gwasanaethau yn well.

 

Datblygodd wyth maes gwasanaeth y Cyngor gynlluniau gwasanaeth, oedd yn amlinellu sut y byddant yn cyfrannu at gyrraedd amcanion y Cyngor a chyflwyno gwasanaethau yn well.

 

Fel gydag unrhyw gynllun, yr oedd heriau a ffactorau allanol allai gael effaith ar gyrraedd y nod.

 

Bu 2020 yn annhebyg i unrhyw flwyddyn arall a wynebwyd gennym fel Cyngor ac ar draws ein cymunedau, ac yr oedd wedi tarfu ar gyflwyno gwasanaethau, wrth i ni gyfeirio ein hymdrechion at gefnogi cymunedau ac aelwydydd bregus ac ymylol. Er hynny, dangosodd hyn gryfderau’r Cyngor gan y bu’n rhaid ymateb yn sydyn i’r heriau hyn a gweithredu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno ein gwasanaethau.

 

I gefnogi hyn, cymeradwyodd y Cabinet bedwar Nod Adfer Strategol, Cyngor Dinas Casnewydd oedd yn cefnogi nod yr Amcanion Lles ond hefyd yn adlewyrchu’r cyfleoedd a’r heriau a ddaeth i’n rhan. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd fanylion am gynnydd yn erbyn y pedwar Nod Adfer Strategol, gyda’r rhan fwyaf o gamau yn adrodd statws ‘Gwyrdd’ yn gyffredinol. Yr oedd y statws Oren yn arwydd o broblemau posib,  allai effeithio ar gyflwyno’r camau hyn yn llwyddiannus, a dim ond 1% o’r camau a adroddodd am statws Coch ac a oedd mewn perygl o beidio â chael eu cwblhau erbyn y dyddiad targed. Trafodwyd y mesuriadau perfformiad yn fanwl gan yr Arweinydd fel yr amlinellir yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd wedi amlygu rhai o lwyddiannau a datblygiadau arwyddocaol gyda chyflwyno’r Cynllun Corfforaethol a’r Nodau Adfer Strategol. 

 

Ystyriodd y Cabinet hefyd adborth a sylwadau’r Pwyllgorau Craffu, a chroesawu’r craffu a’r adborth adeiladol a roddwyd gan Bwyllgorau Craffu Perfformiad y Cyngor ym mis Tachwedd am gyflwyno yn erbyn y cynlluniau gwasanaeth a chyd-destun ehangach argyfwng Covid. Yr oedd yr adroddiad hefyd yn cynnwys eu hadborth a phwyntiau allweddol a godwyd ym mhob un o’r cyfarfodydd, ac yr oedd modd mynd at gofnodion / fideos llawn y cyfarfodydd trwy wefan y Cyngor. 

 

Yn gyffredinol, yr oedd y Pwyllgorau Craffu yn deall yr heriau a wynebodd y Cyngor hwn a’i bartneriaid trwy gydol y flwyddyn, ac yr oedd y Swyddogion a’r Aelodau yn helpu Aelodau’r Pwyllgorau i ddeall a rhoi sicrwydd am gyflwyno gwasanaethau a chynlluniau.

 

Yr oedd yr Arweinydd a’r Cabinet yn derbyn yr adborth a gafwyd gan ein cydweithwyr ar y Pwyllgorau Craffu, ac anogwyd yr Aelodau Cabinet ac Uwch-Swyddogion y Cyngor i ystyried y rhain wrth gyflwyno gwasanaethau ac adroddiadau yn y dyfodol.

 

Daeth yr Arweinydd i’r casgliad fod Cyngor Casnewydd a’u gwasanaethau ar y cyfan yn gwneud yn dda yn erbyn yr amcanion, ar waethaf yr heriau a gafwyd yn ystod 2020 ac a ddaw yn y flwyddyn newydd. 

 

Fel y gwelwyd trwy gydol y flwyddyn hon, erys anghydraddoldeb mewn cymdeithas yn her fawr, ac fel Cyngor yn gweithio ynghyd gyda phartneriaid, trigolion a busnesau, yr oedd cyfle i wneud gwahaniaeth i bawb yn y ddinas.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud fod gan y Cabinet gyfrifoldeb dros oruchwylio a chyflwyno’r cynlluniau gwasanaeth hyn, ac y dylid cydnabod a dathlu llwyddiannau lle’r oeddent yn digwydd. Yn yr un modd, rhaid i’r Cabinet hefyd gymryd y cyfrifoldeb os oedd tanberfformio yn digwydd, a sicrhau bod y cam/au cywir yn cael eu cymryd gan y meysydd gwasanaeth i wella eu perfformiad a chyflwyno’r gwasanaethau y mae ein hetholwyr eu heisiau.

 

Gofynnodd yr Arweinydd felly i Aelodau’r Cabinet nodi a chytuno a chynnwys yr adroddiad.

 

Sylwadau’r Cabinet:

 

Ategodd y Cynghorydd Harvey fod hon yn flwyddyn ofnadwy, ond ei fod wedi synnu gyda’r holl ganlyniadau rhyfeddol yn yr adroddiad ac ni allai ganmol digon ar y swyddogion; yr oedd yr adroddiad i’w ganmol.

 

Ategodd y Cynghorydd Truman sylwadau’r Cynghorydd Harvey, gan gyfeirio at ei bortffolio a gwaith anhunanol staff y cyngor a wirfoddolodd i weithio i Brofi ac Olrhain.  Rhaid oedd i’r Swyddogion Amgylchedd hefyd wneud eu dyletswyddau arferol yn ogystal â rhoi gwasanaeth i Brofi ac Olrhain, a llongyfarchodd hwy ar eu hymdrech wych.

 

Soniodd y Cynghorydd Davies fod y Cyngor ym mis Rhagfyr wedi cael dwy wobr genedlaethol am ynni solar. Y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymdrechu i leihau eu hôl troed carbon trwy ddefnyddio cludiant dim-allyriadau ym meysydd Adfywio, Buddsoddi a Gwasanaethau Tai.

 

Rhestrodd y Cynghorydd Giles y galwadau enfawr y llwyddwyd i’w hateb o ran addysg a chefnogi ysgolion a hynny mewn byr amser: y straen ar ysgolion uwchradd, arholiadau’n cael eu canslo, a phroblemau staffio, gofalu am y rhai mwyaf bregus, presenoldeb plant, newidiadau mewn arferion dysgu, amddiffyn teuluoedd, darparu MS Teams ymysg llawer her arall.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at gasglu gwastraff ac ailgylchu, gan atgoffa’r sawl oedd yn bresennol fod y staff hefyd yn gallu dal Covid ond nad oedd hyn wedi atal eu gwaith caled. Ni chafodd parodrwydd yr holl staff ei anwybyddu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at y Tîm Troseddu Ieuenctid, gan ddweud na fu’r un plentyn yn y ddalfa ers 18 mis, a chyfeiriodd hefyd at y fenter gofalwyr maeth. Mae chwe gofalwr maeth ychwanegol ar gael, sy’n gam mawr at leihau dibyniaeth ar y sector preifat.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mayer at ddatblygu tudalen yr Hybiau Cymdogaeth a gafodd ei oedi oherwydd y pandemig; fodd bynnag, yr oedd yn disgwyl i hyn gael ei ddatblygu ymhellach yn y man.

 

Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i ddiolch i’r timau  Cyfraith a Rheoleiddio, Pobl a Newid Busnes, ac eraill oedd yn helpu’r cynghorwyr i weithredu fel aelodau etholedig, sefydlu ein llywodraethiant, a chaniatáu i bwyllgorau gael eu cynnal. Ni allai’r Cabinet gwrdd yn y modd hwn oni bai am gefnogaeth y staff.

 

Cytunwyd:

Gofynnwyd i’r Cabinet

1.     Nodi cynnwys yr adroddiad

2.     Dderbyn cyfoesiad pellach am y safle diwedd-blwyddyn unwaith i’r data fod ar gael

3.     Gweithredu ar frys ar y cyd â’r Cyfarwyddwyr a’r Penaethiaid Gwasanaeth i ymdrin â meysydd perfformiad gwael.

 

Dogfennau ategol: