Agenda item

Diweddariad Ymateb ac Adferiad Covid-19

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad y Cabinet yn rhoi diweddariad ar ymateb y Cyngor a’u partneriaid i argyfwng Covid-19, a chefnogi’r ddinas, yn drigolion a busnesau i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol, a chynnydd gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

 

Ers cyflwyno’r adroddiad diwethaf i’r Cabinet ym mis Rhagfyr, codwyd Cymru i gyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar oherwydd bod y straen newydd o Covid-19 yn lledaenu mewn cymunedau.  Ond yr oedd gobaith hefyd gyda chyflwyno’r rhaglen frechu ar raddfa eang y mis hwn.

 

Yn ystod y diweddariad, dywedodd yr Arweinydd fod cyfnod yr ?yl yn anodd ac yn wahanol i ni i gyd gan i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar ddod i rym am hanner nos 20 Rhagfyr yn dilyn cadarnhad fod y straen newydd o Covid-19 wedi achosi cynnydd yn nifer yr achosion positif ledled De Ddwyrain Cymru. 

 

Unwaith eto, golygodd hyn y bu’n rhaid i fusnesau heb fod yn rhai hanfodol, campfeydd, canolfannau hamdden a lletygarwch gau, a bod yn rhaid i aelwydydd aros gartref a pheidio â pharhau â’u swigen estynedig i’r aelwyd (ac eithrio am bobl sengl ac ar ddydd Nadolig).

 

Dros y misoedd diwethaf, bu’r GIG yng Ngwent dan bwysau aruthrol wrth i fwy a mwy gael eu derbyn i’r ysbyty, a gwaetha’r modd, i lawer golli eu hanwyliaid oherwydd Covid-19.

 

Bydd y Cyngor a’u partneriaid yn dal i gefnogi cydweithwyr iechyd i oroesi’r argyfwng hwn, a hefyd i gefnogi neges Llywodraeth Cymru i aros gartref, a mynd allan yn unig i ymarfer, am fwyd ac i weithio (os oedd angen).

 

Yr oedd yn bwysig i’r holl drigolion a busnesau gydymffurfio a’r cyfyngiadau hyn a’n helpu i ddod trwy’r cyfnod anodd hwn. Mae gobaith yng nghyflwyno’r brechlynnau Pfizer ac Oxford/AstraZeneca, a bydd y Cyngor yn cefnogi Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i ofalu fod cynifer ag sydd modd o drigolion Casnewydd yn cael eu brechu dros y flwyddyn.  Byddai’n broses hir, a bydd angen i drigolion fod yn amyneddgar, ond gyda’r brechlyn, bydd modd i ni yn y diwedd gwrdd eto a helpu llawer o’n busnesau i adfer.

 

Yr oedd yn bwysig fod y Cabinet yn cefnogi pobl i swyddi newydd, hyfforddiant ac ennill sgiliau newydd; yn cefnogi plant, pobl ifanc ac ysgolion gyda’u haddysg; yn lleihau anghydraddoldeb sy’n dal mewn cymdeithas i’n haelwydydd ymylol sydd ar incwm isel, a’r cymunedau BAME; ac yn ofal, yn cefnogi’r busnesau hynny i adfer ac i dyfu.    

 

Trwy gydol 2020, daliodd Cyngor Casnewydd a’n partneriaid i gyflwyno gwasanaethau, gyda swyddogion yn gwneud mwy na’r disgwyl i wneud yn si?r y gallai’r mwyaf bregus dderbyn gofal a chefnogaeth. Mae’r adroddiad yn amlygu’r gwaith sy’n dal i fynd ymlaen, yr heriau a wynebir gan y gwasanaethau, a’r hyn sy’n cael ei wneud gan Gyngor Casnewydd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r staff, partneriaid a sectorau eraill am eu gwaith cyson wrth gyflwyno gwasanaethau, gan edrych ymlaen at 2021 gwell. Bydd cyfoesiad pellach ar gynnydd y Cyngor yn cael ei roi fis nesaf.

 

Sylwadau’r Cabinet:

 

Soniodd y Cynghorydd Truman, er y byddai hwn yn Nadolig gwahanol, fod llygedyn o oleuni gyda thri brechlyn yn cael eu cyflwyno; rhaid bod yn amyneddgar, ac fe oroeswn.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Harvey sylwadau’r Cynghorydd Truman, gan atgoffa’r sawl oedd yn creu mai twyll oedd y cyfan fod miloedd wedi marw o’r firws.

 

Ategodd y Cynghorydd Rahman y sylwadau, a phwysleisio fod pobl ifanc hefyd yn dal y firws, ac mai dim ond un person ar aelwyd oedd angen i gael Covid a heintio’r teulu cyfan.

 

Tynnodd y Cynghorydd Davies sylw at y modd yr oedd y cyngor yn gweithio’n dda a bod gwastraff yn dal i gael ei gasglu dros y Nadolig.  Yr oedd swyddogion yn ceisio sicrhau fod pobl ddigartref yn cael eu cefnogi gyda llety, a bod banciau bwyd ar gael. Soniodd hefyd am ymroddiad gofalwyr, sydd yn aml heb eu cydnabod.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn adlewyrchiad o waith caled pawb, a chroesawodd sylwadau gan y Cabinet. Diolchodd yr Arweinydd i bawb a gyfrannodd at fanciau bwyd. Yr oedd y gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan bobl oedd hefyd yn agored i Covid, a rhaid i ni gadw hyn mewn cof a’i fonitro at y dyfodol. 

 

Cytunwyd:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a’r risgiau sy’n dal i wynebu’r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: