Agenda item

Diweddariad ar ôl Brexit

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad y Cabinet oedd yn rhoi’r diweddaraf am drafodaethau masnach Brexit rhwng Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd, a pharatoadau’r Cyngor am y trefniadau wedi 31 Rhagfyr. 

 

Ar 24 Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU a’r Undeb Ewropeaidd eu bod wedi cytuno ar berthynas fasnach at y dyfodol a olygai y gallai busnesau fasnachu’n rhydd o dariffau o 1 Ionawr 2021.  

 

I lawer o fusnesau yng Nghymru a Chasnewydd, mae masnachu gyda’r UE yn rhoi sicrwydd mewn cyfnod fu’n anodd iawn. Bydd yn rhaid i fusnesau o hyd gydymffurfio â’r rheolau tollau newydd, ac efallai y bydd tarfu ar gyflenwad thai nwyddau a gwasanaethau yn y tymor byr. Anogodd yr Arweinydd fusnesau yng Nghasnewydd i fynd at wefan Llywodraeth Cymru (Busnes Cymru) a gofalu eu bod yn deall y rheoliadau newydd ac yn cydymffurfio â hwy.

 

Mae Casnewydd yn ddinas sydd a hanes hir o ffurfio cysylltiadau busnes a masnach cryf gyda’r byd, gan alluogi pobl o bob cwr o’r byd ddod i fyw a gweithio yn y ddinas. Bydd yn bwysig parhau i hyrwyddo Casnewydd a rhoi cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig dyfu wrth i ni adfer o’r pandemig.

 

O 1 Ionawr 2021, byddai rheolau newydd yn dod i rym. Un o’r newidiadau mwyaf oedd diwedd symud rhydd i ddinasyddion y DU a’r UE (ac eithrio am ddinasyddion Iwerddon) a chyflwyno system fewnfudo seiliedig ar bwyntiau. Gan gadw hyn mewn cof, byddai Casnewydd yn wastad yn ddinas gynhwysol, ac y mae’n bwysig i’r holl drigolion, yn ddinasyddion y DU ac eraill, wybod fod croeso i bawb fwy a gweithio a helpu i gefnogi twf cynaliadwy y ddinas a’r rhanbarth.          

 

Yr oedd Casnewydd eisoes wedi gweld nifer fawr o bobl yn derbyn cadarnhad o’u statws sefydlu, ond bod llawer eto yn gorfod ymgeisio cyn 30 Mehefin.  Yr oedd y Cyngor a’u partneriaid amlasiantaethol wedi cefnogi ac annog trigolion yr UE i ymgeisio, a byddai hyn yn parhau hyd at ac ar ôl y terfyn amser.

 

Rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad am y sefyllfa fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2020 fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad:

 

·      Gan gydweithio â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a phartneriaid amlasiantaethol, yr oedd  Gr?p Gorchwyl a Gorffen Brexit y Cyngor a Fforwm Gwytnwch Lleol Gwent yn nodi ac yn ystyried unrhyw risgiau / problemau allweddol yn y tymor byr yn ogystal â’r tymor canol i’r tymor hir.

·      Byddaiunrhyw faterion Brexit a allai godi yn cael eu hadrodd i fecanweithiau presennol Aur Covid.

·      Yr oedd y Cyngor yn cysylltu â phob cyflenwr allweddol a darparwyr gwasanaethau, a chawsom sicrwydd y bydd cyflenwadau ar gael gyda risgiau i’r gadwyn gyflenwi wedi eu lleihau. 

·      Yr oedd tîm Cyfathrebu’r Cyngor yn anfon negeseuon yn cyfeirio busnesau at wefannau Busnes Cymru a Llywodraeth Cymru.

·      Yr oedd tîm Cydlynu Cymunedol y Cyngor yn gweithio gyda’r gweithgor banciau bwyd, Gweithgor SSUE i gefnogi dinasyddion yr UE, trigolion a cheiswyr lloches ac i annog ymgeisio am Statws Sefydlu yr UE. Gweithiodd y banciau bwyd yn ddiflino gydol 2020 i gefnogi aelwydydd bregus a rhai ar incwm isel. Bu cyllid gan y Cyngor yn help i gefnogi banciau bwyd yn y ddinas. 

·      Yr oedd y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu Gwent a grwpiau amlasiantaethol eraill i nodi unrhyw achosion o droseddau casineb a chamwahaniaethu wedi eu hanelu at ddinasyddion yr UE sy’n byw ac yn gweithio yn y ddinas. 

 

Yr oedd y tabl yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion llawn am y meysydd sy’n dod dan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Croesawodd yr Arweinydd feddyliau  Aelodau’r Cabinet am yr adroddiad.

 

Cytunwyd:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad gan nodi paratoadau Brexit y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: