Agenda item

Cyllideb 2021-22 a Rhagolygon Ariannol Tymor Canolig

Cofnodion:

Cyllideb 2021-22 a’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC)

Gwahoddedigion 

-                 Meirion Rushworth - Pennaeth Cyllid

-                 Amie Garwood-Pask – Uwch Bartner Busnes Cyllid (Strategaeth y Gyllideb)

-                 Rhys Cornwall - Pennaeth Pobl a Newid Busnes

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid drosolwg o sefyllfa'r gyllideb a oedd wedi dilyn proses debyg i flynyddoedd blaenorol. Roedd y bwlch yn y gyllideb yn £4.1 miliwn ym mis Medi y llynedd. Wedyn, roedd y swyddogion wedi ystyried cynllunio arbedion lawr i hanner miliwn erbyn i'r setliad gael ei gyflwyno, ac felly roedd y gyllideb bron wedi’i mantoli ar yr adeg hon. Roedd yr arian grant a dderbyniwyd ychydig cyn y Nadolig yn £9 miliwn yn well na'r disgwyl. Defnyddiwyd niferoedd poblogaeth fel rhan fawr o'r cyfrifiad hwn ac roedd y niferoedd a ddefnyddiwyd ar gyfer Casnewydd yn hanesyddol wedi bod yn rhy isel. Roedd hyn bellach wedi'i gywiro ac felly roeddem wedi derbyn mwy o arian eleni. Hefyd, yn hytrach na'i gyflwyno fesul cam, cafwyd y grant yn llawn a oedd yn llawer gwell i'r Cyngor eleni. Byddai'r gyllideb derfynol yn cael ei gosod ym mis Chwefror yn dilyn adborth a dderbynnir ac a ystyrir.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol: 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

       Roedd yr Aelodau'n falch o'r adroddiad optimistaidd a diolchon nhw i'r tîm am baratoi'r Gyllideb drwy'r pandemig parhaus. Croesawon nhw hefyd setliad Llywodraeth Cymru. Wedyn, gofynnwyd sut mae’r setliad yn wahanol i’r llynedd?

 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid nad oedd y manylion hynny ganddo, ond dywedodd ein bod yn bwriadu cyflwyno cynnydd cyffredinol o 1% a chyfran o’r cynnydd yn y boblogaeth. Esboniodd yr Uwch Bartner Busnes Cyllid, o ran y proffil, fod y rhestr a ragdybiwyd, yn seiliedig ar y dull graddol, yn £1.6 miliwn yn 2021-22, sef £3.8 miliwn dros y tair blynedd. Fodd bynnag, penderfynwyd talu'r cywiriad poblogaeth cyfan mewn un flwyddyn ariannol heb unrhyw godiadau eraill yn y setliad.

Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid y setlir ar ychydig dros 3% ar gyfartaledd ledled Cymru, ein nod yw setlo ar 1%. Fodd bynnag, roedd y taliad ychwanegol o'r cywiriad poblogaeth yn llawer mwy na'r disgwyl gan synnu pawb. Oherwydd hyn, setliad Casnewydd oedd y setliad gorau yng Nghymru.

   

       Dywedodd yr Aelodau fod y cynnydd oherwydd y cywiriad poblogaeth yn haeddiannol oherwydd twf y ddinas, ac y byddai'n annheg peidio â chyflwyno cynnydd yn unol â’r cynnydd yn y boblogaeth.

 

Cytunodd y Pennaeth Gwasanaeth fod y taliad uwch yn haeddiannol a bod ei angen ar y ddinas.

 

       A wyddom pa mor aml y bydd y cywiriadau poblogaeth yn digwydd yn y dyfodol? 

 

Esboniwyd bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio data i ragweld niferoedd poblogaeth ar draws pob ardal Cyngor, er enghraifft data poblogaeth, sy'n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn. Bob 10 mlynedd rydym yn cynnal Cyfrifiad a gellir rhoi ffigur go iawn bryd hynny. Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn rhagweld drwy ddefnyddio ffigurau genedigaethau a marwolaethau.  Amcangyfrifir y boblogaeth rhwng Cyfrifiadau. Hwn fydd y Cyfrifiad olaf cyn y defnyddir methodoleg newydd, i gynhyrchu ffigurau mwy cywir.  Wedyn, dywedodd y Pennaeth Cyllid mai ffigur pwysig arall a ddefnyddir i wneud penderfyniadau o ran dosbarthu oedd nifer yr ysgolion a disgyblion. Cesglir y data hwn yn flynyddol drwy arolygon a gwblheir gan yr ysgolion. Elfen arall yw gwybodaeth gan yr Adran Gwaith a Phensiynau, am lefelau budd-daliadau a nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau. 

 

       Gofynnodd yr Aelodau am yr ansicrwydd grantiau penodol, ar dudalen 29 yr adroddiad. Roedd yr Aelodau'n gwerthfawrogi nad yw'n gwneud gwahaniaeth i ffigurau'r gyllideb; fodd bynnag, mae'n gwneud gwahaniaeth i dderbynwyr grantiau penodol fel Addysg, gan nad oes unrhyw arwydd gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd beth fydd y grantiau. Gallai hyn gael effaith fawr ar ysgolion unigol o ran niferoedd athrawon a swm y cymorth a roddir. Gofynnodd yr Aelodau hefyd a allai adroddiadau yn y dyfodol esbonio mwy sut y bydd y grantiau hyn yn effeithio ar sefydliadau unigol yn ogystal â staff a benodir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y Cyngor.

 

Rhannodd y Pennaeth Cyllid rwystredigaethau cydweithwyr, a dywedodd fod grantiau penodol yn rhan annatod o'r gyllideb gan eu bod yn cefnogi swyddogaethau pwysig a gwasanaethau sylfaenol, ond nid yw grantiau penodol yn hysbys ar hyn o bryd. Dywedwyd bod adran grantiau, grantiau penodol a llawer o fylchau mewn setliadau drafft. Yr hyn sy'n gwneud hyn yn anodd yw’r ffaith bod nifer o achosion yn achosion arwyddocaol sy'n effeithio ar Wasanaethau Cymdeithasol ac Addysg yn benodol, sydd hefyd yn cael y lefel uchaf o grantiau penodol. Bob blwyddyn bydd angen i wasanaethau sy’n weddill addasu eu cyllidebau gwariant yn unol â'r grantiau penodol. Wedyn dywedwyd wrth yr Aelodau i 

 

       Teimlai'r Aelodau y dylai adroddiadau yn y dyfodol esbonio mwy sut y bydd grantiau'n effeithio ar sefydliadau unigol, fel effaith ar staff a benodir yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol gan y Cyngor.

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau, os na ellir cynnwys hyn yn adroddiad Cyllideb mis Chwefror, y caiff ei ymgorffori yn yr adroddiad ymgynghori y flwyddyn nesaf.

 

 

Ymgysylltu

Rhoddodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes drosolwg i'r Pwyllgor am yr ymgysylltiad â’r cyhoedd ar gyfer y Gyllideb, ac esboniodd ei fod wedi bod yn her gyda’r lefelau Covid presennol yng Nghasnewydd a chyda'r cyfyngiadau sydd ar waith ar hyn o bryd. Oherwydd hyn, nid ydym wedi gallu cynnal nifer o’r gweithgareddau y byddem yn eu cynnal fel arfer. Ar hyn o bryd, rydym yn ymgynghori drwy ddulliau electronig, ein cyfleusterau ar-lein partner yn ogystal â Wi-Fi bysus. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei defnyddio gymaint â’r arfer felly mae nifer yr ymatebion o Wi-Fi bysus yn is nag a welir fel arfer.  

Roedd y broses ymgynghori'n cynnwys cwestiwn penodol ynghylch cyfradd y dreth gyngor, y byddwn yn casglu barn arni ac yn adrodd i'r Cabinet ym mis Chwefror. Rhoddwyd gwybodaeth am yr Asesiadau o'r Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb (AEDCh) a dywedwyd wrth yr Aelodau y bydd y rhain yn cael eu diweddaru yn sgil yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar bob un o'r cynigion sydd gennym yn ôl yr angen. Dylai'r AEDCh fod yn eu fersiynau terfynol erbyn cyfarfod y Cabinet. Crëir crynodeb o effaith gronnol yr holl gynigion yn y gyllideb, a chrëir wedyn ddatganiad, sef yr asesiad effaith, a fydd wedyn yn dwyn ynghyd lawer o'r effeithiau a welwn yn y diwydiant.

 

Yn olaf, dywedodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes wrth yr Aelodau, er bod llawer o waith wedi’i wneud ar ymgysylltu ac ymgynghori, nad yw'r gwasanaeth wedi cyrraedd y pwynt y mae am ei gyrraedd.  Fodd bynnag, mae ganddo werth nifer o flynyddoedd o ddata a gwybodaeth y mae angen dibynnu arnynt, yn ogystal â rhan o'n proses ymgynghori eleni.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol - 

       Sawl ymateb a gafwyd hyd yma a faint mae Covid a’r cyfyngiadau wedi effeithio ar yr ymgynghoriad â’r cyhoedd? 

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau eu bod wedi cael effaith fawr. Y llynedd, cafwyd dros 3000 o ymatebion, a oedd yn cynnwys ymatebion WiFi bysus, arolygon electronig a'r digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd cyn rhoi'r gyllideb ar waith. Cafwyd dros 1000 o ymatebion drwy’r Wi-Fi bysus y llynedd, eleni dim ond cannoedd a gafwyd hyd yn hyn. Byddwn yn cael ymatebion o ardaloedd penodol a chan rai o’r grwpiau penodol a dargedwyd yn benodol hefyd. Dywedodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes y daeth ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan o’i wasanaeth tua saith mlynedd yn ôl ac y daeth yn rhywbeth yr oedd y Cyngor am ganolbwyntio arno. Teimlai fod llawer o gynnydd wedi'i wneud ers hynny, gan mai dim ond tua 17 o ymatebion a gafwyd y flwyddyn honno i'r ymgynghoriad ar y gyllideb. Dywedwyd wedyn y bydd mwy i'w wneud. Rhoddwyd cynllun ar waith ynghylch yr ymgysylltu hwnnw, a ddeilliodd o sylwadau a thrafodaethau’r pwyllgor craffu hwn dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid oedd modd gwneud llawer o hynny oherwydd Covid.

 

       Roedd yr Aelodau'n gwerthfawrogi y byddai ymgysylltu â’r cyhoedd yn anodd ac yn heriol eleni oherwydd y pandemig a'r cyfyngiadau sydd ar waith. Y llynedd, cododd y Pwyllgor y mater ynghylch sut y gallwn ymgynghori â phobl cyn gwneud penderfyniadau, a sut y mae'n bwysig cynnal ymchwiliadau rhagarweiniol. Byddai hyn hefyd yn sicrhau bod gan yr Aelodau a'r cyhoedd syniad cyn bwrw ymlaen ag argymhellion. Gwnaed sylwadau hefyd y byddai hyn hefyd yn osgoi atal ymgynghoriadau cyhoeddus ar gynigion eto.

 

       Dywedwyd wrth yr Aelodau fod mecanwaith ar waith ar gyfer hyn, ond o ystyried yr amgylchiadau presennol gall fod yn anodd, yn dibynnu ar rai o'r cynigion. Yna cyfeiriodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes at y Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol, ac esboniodd fod hon yn ddyletswydd newydd sy'n dechrau o fis Mawrth, sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni hefyd ystyried effeithiau economaidd-gymdeithasol unrhyw benderfyniadau a wneir. Dywedwyd bod mwy o ddylanwad yno i sicrhau ein bod wedi gwneud y gwaith rhagarweiniol cyn ysgrifennu'r achosion busnes yn y lle cyntaf.

 

       Roedd yr Aelodau'n gobeithio y byddai'r gwasanaeth yn edrych ar ffyrdd arloesol a chyffrous o ymgysylltu â'r cyhoedd a phartneriaid. Gyda mwy o bobl ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol, gallai fod yn gyfle i elwa. Yna gofynnodd yr Aelodau am drosolwg byr ar sut rydym yn trafod goblygiadau'r hyn rydym yn gofyn i ysgolion ei wneud, yn enwedig o ran y diffygion yn eu cyllidebau a hefyd sut rydym yn ymgynghori â phenaethiaid ynghylch goblygiadau'r polisi hwnnw iddynt hwy.

 

Dywedodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod y flwyddyn ddiwethaf wedi dangos i ni fod gweithio'n agos gyda chymunedau, unigolion a defnyddwyr gwasanaethau a gwrando ar eu hanghenion a'u dymuniadau’n eithriadol o bwysig. Er bod eleni wedi bod yn her o ran gwneud hyn, mae'n bwysig edrych ar wahanol ffyrdd o ymgysylltu. Mae angen i ni barhau i wneud cynnydd ar y blynyddoedd blaenorol, ond hefyd dysgu'r gwersi gan y bydd y byd yn edrych yn wahanol yn y dyfodol. Y mis nesaf, bydd yr adroddiad ar Ffyrdd Newydd o Weithio’n dod i'r pwyllgor craffu hwn i'r Aelodau drafod a mynegi barn. 

Dywedodd y Pennaeth Cyllid yr ymgynghorir ag ysgolion drwy siarad â'r Fforymau Ysgolion a'r is-grwpiau ynghylch y cynigion cyffredinol ar gyfer y gyllideb. O ran ysgolion sydd â diffyg, rydym yn cadw mewn cysylltiad â'n holl ysgolion sydd â diffyg mawr gan siarad â nhw am eu cynlluniau adfer o leiaf unwaith y tymor. Bydd y Pennaeth, y Cadeirydd, Rheolwr Adnoddau a Rheolwr Cyllid yr Ysgol yn cyfarfod â thimau'r Pennaeth Addysg a’r Pennaeth Cyllid. Mae tîm ar y cyd o'r Cyngor hefyd yn ceisio gweithio gyda'r ysgolion i weld sut y gallent arbed arian i helpu gyda'u diffygion. Mae hyn wedi’i wneud gyda'r ysgolion Uwchradd yn bennaf hyd yma gan mai nhw yw'r rhai sydd â'r diffygion mawr. 

 

       Awgrymodd yr Aelodau y gellid defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol yn ystod y cyfnod ymgynghori, er enghraifft hysbysebu ar dudalennau Facebook a Twitter y Cyngor ac o bosibl creu hysbyseb naid ar wefan y Cyngor i weld a hoffai pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Gofynnwyd hefyd a oedd digon o amser cyn diwedd yr ymgynghoriad i gwrdd â chymunedau anodd eu cyrraedd fel y grwpiau LHDTC, BAME, Pobl H?n i gael eu barn.

 

Dywedodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes y byddai'n cysylltu â'r Tîm Cyfathrebu i sicrhau ein bod yn gwthio'r negeseuon hynny allan i atgoffa pobl. Wedyn, dywedwyd wrth yr Aelodau fod y Tîm Ansawdd yn cael ei ariannu drwy ein Tîm Cymunedau Cysylltiedig, Risg a Chymuned. Mae gennym arian gan y Swyddfa Gartref

 a Llywodraeth Cymru ar gyfer amrywiaeth o wahanol weithgareddau. Dywedwyd hefyd fod ymgynghoriad penodol wedi'i gynnal hefyd â grwpiau BAME, Anabledd a Gofalwyr, ac y bydd yn parhau.

 

       Y llynedd, awgrymodd y Pwyllgor y dylid anfon y dolenni ymgynghori i ysgolion i'w hanfon at rieni. Gan fod llawer o waith wedi'i wneud ar-lein drwy gydol y pandemig, efallai y byddai nifer dda wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad. A yw hyn wedi'i wneud?

 

Nid oedd Pennaeth Pobl a Newid Busnes yn si?r a oedd hyn wedi'i wneud eleni, ond bydd yn cael gwybod ac yn gwneud y Pwyllgor yn ymwybodol ohono. 

 

       Dywedwyd wrth yr Aelodau i’r Cyngor gael 3000 o ymatebion i’r ymgynghoriad Cyhoeddus y llynedd, a oedd yn cynnwys ymatebion trwy WiFi bysus, arolygon electronig a'r digwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd a gynhaliwyd cyn rhoi'r gyllideb ar waith. Eleni, bu effaith fawr ar niferoedd. Er y bu effaith oherwydd y pandemig, dywedodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes wrth y Pwyllgor fod y gwasanaeth wedi cymryd awenau’r gwaith o ymgysylltu â’r cyhoedd ar gyfer y Gyllideb tua 7 mlynedd yn ôl, ac yn y flwyddyn honno cafwyd 17 o ymatebion i'r ymgynghoriad felly bu llawer o gynnydd ers hynny. 

Dywedwyd wrth yr Aelodau wedyn fod cynllun wedi'i roi ar waith ynghylch ymgysylltu, sydd wedi deillio o sylwadau a thrafodaethau’r pwyllgor hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Ond nid oedd modd gwneud llawer o hyn oherwydd Covid.

 

       A fyddem byth yn ystyried defnyddio corff ymchwil i’r farchnad annibynnol ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd, a yw'n hysbys a yw unrhyw awdurdodau lleol eraill erioed wedi gwneud hynny? 

 

Mae'n debyg bod awdurdodau eraill wedi gwneud hynny ond rydym yn edrych yn fanwl ar awdurdodau eraill ac maent yn gwneud yr un peth â ni’n bennaf. Mae swyddogion o'r Cyngor wedi mynd allan yn ystod ymgynghoriadau blaenorol ar y Gyllideb gyda chlipfyrddau ac wedi cynnal eu hymchwil eu hunain i’r farchnad. Dywedwyd wrth yr Aelodau na ellir tanbrisio gwerth cael rhywun â bathodyn y Cyngor a chlipfwrdd yn cael sgwrs gydag aelod o'r cyhoedd am sut mae’n teimlo am bethau. 

O ran "pysgota yn yr un pwll", cawn rai ymatebion gan y Panel Dinasyddion, y Comisiwn Tegwch a'r Cyngor Ieuenctid. Yr her o ran dod â hynny i gyd at ei gilydd yw ceisio cyrraedd pwynt lle mae gennych farn ystyriol o ganlyniad i'r holl ymatebion hynny. Byddwn yn mynd drwy broses arferol eleni ac yn edrych i weld beth y gellir ei wella ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wedyn, dywedodd Pennaeth Pobl a Busnes wrth y Pwyllgor ei fod yn agored i roi cynnig ar unrhyw beth i wneud y broses yn well.

 

       Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylid gwneud mwy o waith o ran cyn ymgynghori, er enghraifft ymgynghori yn gynharach y flwyddyn nesaf â grwpiau defnyddwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud unrhyw argymhellion. Byddai hyn hefyd yn sicrhau bod gan yr Aelodau a'r cyhoedd gyfle i wneud sylwadau cyn bwrw ymlaen ag argymhellion.

 

Cytunodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes mai cael sgyrsiau cyn gwneud unrhyw argymhellion yw'r ffordd orau yn rhesymegol.  Argymhellion cwbl ddilys i fynd i'r Cabinet oherwydd yn y bôn rydych wedyn yn datblygu'r cynnig gyda'r defnyddwyr. Efallai fod rhai heriau, ond mae mecanweithiau ar waith i'n galluogi i wneud hynny gyda'r Asesiadau Tegwch a Chydraddoldeb.

 

       Y llynedd, teimlai'r Pwyllgor fod yr arolygon bysus wedi'u sgiwio’n gymdeithasol ac yn economaidd tuag at breswylwyr nad ydynt yn talu'r dreth gyngor neu sy’n talu haenau is y dreth gyngor. A oes gennym yr adnoddau i edrych yn ôl i gymharu'r adborth a gafwyd? Gofynnodd yr Aelodau hefyd a allai'r gwasanaeth edrych ar y syniad o raglwytho Ymgynghoriadau o ran y gronfa ddata o wasanaethau a ddarperir gan y Cyngor a'r pethau y mae'r cyhoedd yn eu gwerthfawrogi?

 

Dywedwyd wrth yr Aelodau fod y gwasanaeth yn cymryd rhywfaint o ddata demograffig o’r arolygon WiFi bysus felly gallwn wneud cymariaethau rhwng eleni â'r llynedd, ond mae'n debyg y bydd eleni'n dangos demograffeg wahanol i flynyddoedd blaenorol felly bydd yn ddiddorol dadansoddi. 

Wedyn, dywedwyd i’r gwasanaeth, ar gyfer y broses ymgysylltu edrych yn y gorffennol ar wasanaethau'r Cyngor a oedd yn cael eu blaenoriaethu fwyaf gan y cyhoedd, yn debyg i ymarfer graddio. Roedd hyn yn anodd, ond cafwyd ymatebion. Dywedwyd wrth yr Aelodau wedyn fod hyn yn rhywbeth y gallai fod yn werth ei wneud eto i edrych ar yr hyn y mae'r cyhoedd yn credu y dylid ei flaenoriaethu. Gallai'r gwasanaeth edrych drwy'r archifau i weld a ellid dod o hyd i adroddiad h?n a'i ddosbarthu i'r Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r swyddogion am fod yn bresennol.

 

 

Casgliadau:

Roedd y Pwyllgor yn dymuno gwneud y sylwadau ac argymhellion canlynol i’r Cabinet:

 

       Canmolodd y Pwyllgor y swyddogion am eu gwaith caled mewn amgylchiadau heriol, yn enwedig o ran ymgysylltu â'r cyhoedd. Awgrymodd y Pwyllgor y gellid defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yn fwy effeithiol yn ystod y cyfnod ymgynghori, er enghraifft hysbysebu ar dudalennau Facebook a Twitter y Cyngor ac o bosibl creu hysbyseb naid ar wefan y Cyngor i weld a hoffai pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.

 

       Roedd y Pwyllgor am dynnu sylw at eu siom nad yw rhai o'r sylwadau a wnaeth yr Aelodau y llynedd, megis anfon y dolenni  ymgynghori i ysgolion i'w hanfon at rieni, wedi'u dwyn ymlaen ac wedi'u colli eto eleni. Os yw hyn wedi'i golli, mae'r Pwyllgor yn dymuno iddo gael ei gynnwys yn ymgynghoriad y flwyddyn nesaf ar y Gyllideb.

 

       Argymhellodd y Pwyllgor y dylid gwneud mwy o waith o ran cyn ymgynghori, er enghraifft ymgynghori yn gynharach y flwyddyn nesaf â grwpiau defnyddwyr a rhanddeiliaid cyn gwneud unrhyw argymhellion. Byddai hyn hefyd yn sicrhau bod gan yr Aelodau a'r cyhoedd gyfle i wneud sylwadau cyn bwrw ymlaen ag argymhellion. Byddai hyn hefyd yn osgoi tynnu cynigion oddi ar y rhestr o arbedion ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yng nghyfarfod y Cabinet eto.

 

       Gofynnodd y Pwyllgor i'r Cabinet edrych yn ddyfnach ar y cynnydd arfaethedig yn y Dreth Gyngor. Roedd y Pwyllgor yn gwerthfawrogi bod hwn yn fater anodd ei drafod gyda pandemig Covid, ond nododd fod llawer o breswylwyr ar ffyrlo, yn ennill cyflogau is ac yn hunangyflogedig a allai ei chael yn anodd talu'r tâl uwch. Os na ellir osgoi'r cynnydd, mae'r Pwyllgor yn gofyn a allai unrhyw gynnydd fod mor fach â phosibl.

 

       Hoffai'r Pwyllgor wybod mwy am sut y caiff yr ymgynghoriad ei ddadansoddi a sut mae atebion y cyhoedd yn dylanwadu ar y broses wirioneddol o wneud penderfyniadau. Roedd y Pwyllgor hefyd am gael gwybod sut rydym yn rhoi gwybod i'r cyhoedd am ganlyniadau'r ymgynghoriad fel eu bod yn gwybod bod yr hyn rydym yn ei wneud yn cael ei ddefnyddio ac yn dylanwadu'n gadarnhaol ar benderfyniadau.

 

       Gofynnodd y Pwyllgor a oedd digon o amser cyn diwedd yr ymgynghoriad i gwrdd â chymunedau anodd eu cyrraedd fel y Grwpiau LHDTC, BAME, Pobl H?n i gael eu barn. Hoffai'r Pwyllgor hefyd weld a ellid anfon yr ymgynghoriad i fusnesau yng Nghasnewydd i gael eu barn nhw.

 

       Dywedodd y Pwyllgor, yn hytrach na chael nifer cyfyngedig o eitemau yn yr ymgynghoriad, y byddai'n well ymgynghori'n ehangach â'r cyhoedd ynghylch gwasanaethau'r Cyngor. Gofynnwyd a ellid ailedrych ar fodel o flynyddoedd blaenorol, sy'n gofyn i breswylwyr pa wasanaethau y mae'r Cyngor yn eu darparu sydd fwyaf ystyrlon iddynt. 

 

Dogfennau ategol: