Agenda item

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet ar y Strategaethau Cyfalaf a Rheoli'r Trysorlys. Yr oedd y rhain eisoes wedi eu hadolygu gan Bwyllgor Archwilio’r Cyngor ac yr oedd eu sylwadau a’u hymatebion wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Yr oedd yr adroddiad yn cynnwys y Strategaethau Cyfalaf a Rheoli'r Trysorlys a oedd yn gwneud y canlynol (i) cadarnhau’r rhaglen gyfalaf, fel rhan o’r Strategaeth Gyfalaf  a (ii) y gwahanol derfynau benthyca a dangosyddion eraill oedd yn llywodraethu rheoli gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor, fel rhan o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.

 

Dywedodd yr Arweinydd, er bod y Cabinet yn gwneud penderfyniadau am yr hyn y gellid ei wario ar brosiectau cyfalaf, mai’r Cyngor llawn oedd yn cymeradwyo’r ‘terfynau benthyca’.  Yr oedd llawer o brosiectau yn cael eu cyllido gan grantiau cyfalaf, derbyniadau cyfalaf ac arian penodol wrth gefn nad oedd yn cael effaith ar lefelau benthyca, ond lle’r oedd angen benthyca, fod angen gosod y rhaglen o fewn y terfynau hynny. Yr oedd hwn yn faes pwysig o lywodraethiant rheoli ariannol oherwydd bod lefelau benthyca, unwaith iddynt gael eu gosod, yn cloi’r Cyngor i mewn i atebolrwydd tymor hir am gostau refeniw o ran darpariaeth ar gyfer ad-dalu’r benthyciadau hynny (costau MRP) a chostau llog ar fenthyciadau allanol, oedd, gyda’i gilydd, yn cael eu galw yn ‘gostau cyllido cyfalaf’.

 

Yr oedd y naill strategaeth a’r llall yn ofynion Cod Cynghorus CIPFA sy’n gosod allan y gofynion ar eu cyfer ac yn sicrhau, o fewn y fframweithiau yn y dogfennau hyn, fod y cynlluniau gwariant cyfalaf yn:

 

·        Fforddiadwy - gwariant a rhaglenni cyfalaf o fewn terfynau cynaliadwy ac y gellir gwneud lle iddynt o fewn lefelau gwario cyfredol a’r rhai a ragwelir at y dyfodol.

·        Darbodus – mae angen i Gynghorau osod terfynau benthyca a elwir yn ‘weithredol’ a ‘therfynau awdurdodedig’ sy’n adlewyrchu eu cynlluniau cyfalaf fforddiadwy a’u costau cyllido. O ran gweithgareddau buddsoddi, rhaid i Gynghorau ystyried y cydbwysedd rhwng diogelwch, hylifedd ac elw sy’n adlewyrchu eu hawch hwy am risg ond sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a hylifedd dros elw. 

·        Cynaliadwy – rhaid i gynlluniau  cyfalaf  y Cyngor a chost refeniw cyllido benthyciadau/dyledion cyfredol a’r dyfodol a gymerir ar gyfer hynny fod yn gynaliadwy o ran cyllid cyffredinol y Cyngor a’i effaith ar hynny. 

 

Cafodd y materion hyn eu hadolygu a chynhwyswyd sylwadau’r Pennaeth Cyllid yn ei adran ym mharagraff 31 ymlaen. 

 

Strategaeth Trysorlys a’r rhaglen gyfalaf

Estynnodd rhaglen gyfalaf y Cyngor at 2024/25 (sef y rhaglen gyfalaf bum-mlynedd wreiddiol hyd at 2022/23 a estynnwyd o ddwy flynedd ar gyfer prosiectau yr oedd eu cwblhau yn mynd y tu hwnt i’r pum mlynedd). Yr oedd yn rhaglen gyfalaf sylweddol, ac yn cynnwys £211.4m o brosiectau a gymeradwywyd eisoes, ochr yn ochr â buddsoddiadau newydd megis y benthyca ar gyfer gwariant Dinas-Ranbarth Caerdydd o £17.3m, £19.7m ar gyfer y cynllun hamdden newydd, a £4.5m o fenthyca pellach nas ymrwymwyd ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, oedd yn dod â chyfanswm buddsoddiad o £252.9m ar gyfer y rhaglen yn diweddu 2024/25.

 

Yr oedd hyn yn fuddsoddiad mawr i seilwaith allweddol y ddinas. Ymysg prosiectau allweddol mae:

 

·        Ein cynllun hamdden newydd yng nghanol y ddinas - £19.7m.   Byddai hyn yn paratoi’r ffordd hefyd am Goleg Gwent newydd, a’r ddau yn dod â mwy o bobl a bywiogrwydd, oedd ei fawr angen, i ganol y ddinas.

·        Buddsoddi i adnewyddu ac adfer Pont Gludo’r ddinas – bron i £13m.

·        Ehangu, moderneiddio a chynnal a chadw ein hadeiladau ysgolion, sef y rhan fwyaf o’n buddsoddiad o £101m yn y rhaglen hon mewn addysg ac ysgolion.

·        Dros £25m i Ddinas-Ranbarth Caerdydd oedd yn galluogi lefel enfawr o ddatblygu economaidd ar hyd a lled ein rhanbarth, fyddai o fudd i Gasnewydd a’r rhanbarth ehangach.

·        Dros £7m i’n prosiectau adfywio a rhai canol y ddinas, gyda chyllid ychwanegol wedi ei gynnwys yn ein cyllideb refeniw i barhau ac ehangu wrth i ni ‘adeiladu’n well’ ers y 12 mis a aeth heibio.

 

Yr oedd gwariant cyfalaf y talwyd amdano trwy ddyled wedi cynyddu’r angen i fenthyca’n allanol. Sbardun arall i’r angen i fenthyca’n allanol oedd y gosty7ngiad yn y gallu i ‘fenthyca’n fewnol’ wrth i arian wrth gefn a glustnodwyd gael ei ddefnyddio, oedd yn golygu yn ei dro fod angen benthyca’n allanol i wneud iawn am hyn. Yr oedd hyn yn arbennig o wir am y Cyngor hwn oedd â lefel; uchel o ‘fenthyca mewnol’, sydd bellach yn gostwng dros y tymor canol i’r tymor hir. Yr oedd y Cyngor felly wedi ymrwymo ac yr oedd gofyniad i fod yn fenthycwr net dros y tymor hir term.

 

Am y tair blynedd oedd weddill o’r rhaglen gyfalaf gyfredol tan 2024/25, yr oedd lefel y benthyca i hwyluso’r rhaglen gyfalaf gyfredol yn sylweddol, gyda benthyca allanol yn codi o amcangyfrif o £164m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon i £234m yn 2024/25, cynnydd o dros £70m. Rhagwelwyd y byddai cyfanswm yr ymrwymiad am fenthyca allanol tua £284m. Dangosir hyn yn nhabl 2 yr adroddiad.

 

Arweiniodd yr ymrwymiad i gynyddu benthyca allanol at gynnydd mewn costau cyllido cyfalaf fel y gwelir yn nhabl 3 yr adroddiad, ac y mae’n dangos cynnydd sylweddol mewn costau cyllido cyfalaf o 2020/21.  Yr oedd y costau hyn i’w cynnwys yn CCTC y Cyngor. Byddai costau yn dal i gynyddu yn y tymor canol i’r tymor hir. O gymharu ag awdurdodau tebyg, yr oedd canran y costau cyllido cyfalaf fel cyfran o gyfanswm refeniw net y  Cyngor yn uchel. Yr oeddem wedi talu’n llawn am y costau cyllido cyfalaf oedd eu hagen i gwblhau’r rhaglen gyfalaf gyfredol, ac yr oedd hyn yn fater allweddol o ran dangos fforddiadwyedd. Gan fod cyllideb net y Cyngor hefyd yn cynyddu’n sylweddol, yr oedd cyfran cyllideb net y Cyngor a neilltuwyd i hyn yn aros yn fras yr un fath, ac nid oedd twf is neu isel posib mewn cyllid yn risg newydd: y mae’n bodoli heddiw. Felly, o safbwynt cynaliadwyedd, yr oedd cost cymharol uchel y gyllideb hon yn her ac yn risg, ond nid yn uwch nac yn fwy newydd na’r sefyllfa bresennol.   

 

Strategaeth Trysorlys

Yr oedd hyn yn ymdrin â chynlluniau ar gyfer gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor. Byddai’r gallu i fenthyca’n fewnol yn gostwng dros y tymor canol i’r tymor byr. Yn 2021/22 yr oedd disgwyl i’r Cyngor fenthyca’n allanol, i ad-dalu benthyciadau oedd yn aeddfedu ac i dalu am fwy o wariant cyfalaf yn y rhaglen gyfalaf bresennol; byddai’n  cadw hynny o ‘fenthyca mewnol’ ag sydd modd ac yn cynyddu benthyca allanol gwirioneddol yn unig pan oedd angen i reoli ei ofynion am arian. Fodd bynnag, lle teimla’r Cyngor fod hyn yn angenrheidiol i liniaru risg cynnydd mewn cyfraddau llog, gall fenthyca’n gynnar er mwyn sicrhau cyfraddau llog o fewn y cyllidebau refeniw y cytunwyd arnynt. Byddai hyn yn cael ei wneud yn unol â chyngor gan ein Hymgynghorwyr Trysorlys.

 

Nod yr Awdurdod wrth fuddsoddi arian oedd cadw cydbwysedd priodol rhwng risg ac elw, gan leihau’r risg o golledion trwy ddiffygdalu, a’r risg o gael incwm annerbyniol o isel o fuddsoddi. O ystyried y risg gynyddol a’r elw isel iawn o fuddsoddiadau tymor-byr ansicredig o fanciau, nod yr Awdurdod oedd arallgyfeirio i ddosbarthiadau ased fyddai’n rhoi mwy o elw yn ystod 2021/22, a chafodd hyn ei oedi oherwydd yr hinsawdd economaidd presennol o ganlyniad i’r pandemig.  Yr oedd hyn yn arbennig o wir am yr amcangyfrif o £10 miliwn oedd ar gael ar gyfer buddsoddi tymor-hwy. Mae holl arian dros ben presennol yr Awdurdod wedi ei fuddsoddi ar hyn o bryd mewn adneuon banc ansicredig tymor-byr ac awdurdodau lleol. Byddai’r strategaeth o arallgyfeirio i ddosbarthiadau ased fyddai’n rhoi mwy o elw  yn cael ei rhoi ar waith yn y flwyddyn i ddod.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Nododd y Cynghorydd Rahman fod ymrwymo i’r gwariant cyfalaf yn ddull cynaliadwy o leihau’r risg, o gadw mewn cof Covid a Brexit.  Fel Aelod Cabinet dros Asedau, yr oedd hyn nid yn unig yn fuddsoddiad yn y seilwaith presennol ond yn nyfodol y ddinas, gan gynnwys y Ganolfan Hamdden newydd. Anogodd y Cynghorydd Rahman ei gydweithwyr i edrych lle’r oedd yr arian yn cael ei wario; yr oedd gan ysgolion yn arbennig gryn fuddsoddiad.  Golygai’r cyfleuster trafnidiaeth yn y ddinas a’r bont droed dros Orsaf Reilffordd Casnewydd fod y Cyngor yn gweithredu i gyflawni dros y gymuned trwy gadw addewidion a gweithio tuag at hyn. Yr oedd ymrwymiad i leihau’r ôl troed carbon, buddsoddi yn System Oleuo’r Felodrom i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, a bod yn garbon niwtral at y dyfodol yn rhan o ystyriaeth y gyllideb.

 

Ystyriodd y Cynghorydd Truman fod yr adroddiad yn newyddion da o ran dangos y ffordd ymlaen i’r cyngor. Yr oedd y buddsoddiad a amlinellwyd yn yr adroddiad yn ymdrin â phopeth. Soniodd hefyd am y gwaith caled a aeth i hyn, a diolchodd i’r holl swyddogion a chydweithwyr am eu cyfraniad i’r adroddiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cockeram i’r Arweinydd am gyflwyniad ardderchog. Yr oedd y buddsoddiad o £4M mewn cartrefi preswyl i blant yn caniatáu i’r cyngor beidio â dibynnu ar leoliadau allsirol yn y sector, a byddai hyn yn cael effaith sylweddol ar iechyd y plant, trwy eu cymryd adref.

 

Penderfynwyd:

Fod y Cabinet yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo’r isod:

 

§  Y Strategaeth Gyfalaf (Atodiad 2), gan gynnwys y rhaglen gyfalaf gyfredol ynddi (a ddangosir ar wahân yn Atodiad 1) a’r gofynion/terfynau benthyca sydd eu hangen i gyflwyno’r rhaglen gyfalaf gyfredol.

§  Y Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r Dangosyddion Rheoli Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi a’r Isafswm Darpariaeth Refeniw (IDR) am 2021/22. (Atodiad 3).

 

Fel rhan o’r uchod, nododd y Cabinet:

 

§  Y ddyled gynyddol a chost refeniw yn sgil hyn o ran cyflwyno’r rhaglen gyfalaf bresennol, ac oblygiadau hyn yn y tymor byr a’r tymor canol o ran fforddiadwyedd, darbodaeth a chynaliadwyedd.

 

§  Argymhellion y Pennaeth Cyllid i’r Cyngor, fod angen cyfyngu benthyca i’r hyn sydd wedi ei gynnwys yn y rhaglen gyfalaf gyfredol a’r dangosyddion cynghorus a argymhellwyd am derfynau benthyca i wneud hyn.

 

§  Y tu hwnt i gyfnod y rhaglen gyfalaf gyfredol, yr oedd heriau ariannol posib o ran fforddiadwyedd a chynaliadwyedd, ond adolygir y rhain yn nes at gychwyn y rhaglen newydd yng nghyd-destun lefelau cyllido a  sefyllfa gyllidebol y Cyngor. 

 

Dogfennau ategol: