Agenda item

Cyllideb Refeniw a Chynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC): Cynigion Terfynol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Cynllun Ariannol Tymor Canol  a’r adroddiad cyllideb refeniw 2021/22. Dyma un o adroddiadau mwyaf arwyddocaol y Cyngor, ac oedd angen rhoi ystyriaeth ofalus iddo.

 

Y mae’n benllanw rhyw chwe mis o waith caled o gytuno ar ragdybiaethau’r gyllideb i fod yn sail i’n cynllunio. Wedi cytuno ar gynigion manwl y gyllideb, cafwyd cyfnod pellach o fireinio a datblygu yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y grant  cynnal incwm. Gwnaeth y Cyngor hyn dan amodau anodd, gan weithio o bell, mewn ansicrwydd mawr am ddatblygu cyllidebau yn yr amser heriol hwn. Ar y pwynt olaf hwn, yn hwyr iawn ym mis Rhagfyr y cafodd y Cyngor wybod am ei Grant Cynnal Incwm; rhyw ddeufis yn hwyrach na’r arfer, ac o edrych ymlaen, yr oedd rhagolygon cyllido’r sector cyhoeddus yn ansicr, o gofio fod cyllideb un flwyddyn wedi cymryd lle’r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr a fwriadwyd ar gyfer 2020. Yr ydym yn aros am fwy o wybodaeth gan Ganghellor y DU am y modd y byddai’n delio â dyled gynyddol y DU  ac effaith hynny ar gyllido’r sector cyhoeddus, a bydd hyn yn cynnwys y llwybr presennol allanol o gyfnod clo cenedlaethol, a sut y bydd y DU, a gweddill y byd yn wir, yn adfer o bandemig Covid. Y mae’r sefyllfa yn dal yn fregus.

 

Ar waethaf hyn oll, fe gynhyrchwyd cyllideb, a diolchodd yr Arweinydd i’w chydweithwyr yn y Cabinet a swyddogion y Cyngor a weithiodd yn galed i gyrraedd y pwynt hwn; bu’n ymdrech enfawr gan bawb.

 

Atgoffodd yr Arweinydd, y bydd y weinyddiaeth yn cymryd penderfyniadau ar lle i wario adnoddau’r Cyngor, a rhan allweddol o hynny oedd lefel Treth y Cyngor fyddai ei angen i dalu am hynny, ynghyd â’r Grant Cynnal Incwm. Nid oedd Treth y Cyngor ond tua 24% o gyllid refeniw’r Cyngor, ond yn rhan hanfodol, er hynny. Y Cyngor llawn fyddai’n penderfynu ar Dreth y Cyngor,  a byddant yn adolygu ac yn ystyried argymhellion y Cabinet.

 

Ein cyllid

Cynyddodd Grant Cynnal Incwm y Cyngor yn sylweddol, o bron i £13m, yn bennaf oherwydd cywiriad yn yr amcangyfrifon poblogaeth a oedd yn cyfrif am ran helaeth o ddosbarthiad y grant i Gynghorau. Buom yn ymgynghori ar gynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor, a ychwanegodd £3.2m i gyllideb bosib y flwyddyn nesaf. Cynyddodd cyfanswm ein cyllideb ddrafft o £15.9m. 

 

Arbedion y gyllideb

Yr oeddem wedi cynnwys £2.7m o gynigion am arbedion newydd yn ein cyllideb ddrafft. Fodd bynnag, nid oedd y rhan fwyaf, sef £1.8m, yn effeithio ar impact on wasanaethau, ac yr oedd eu gweithredu yn rhoi mwy o hyblygrwydd i ni fuddsoddi mwy mewn gwasanaethau rheng-flaen i’r cyhoedd a’r ddinas. Buom yn ymgynghori ar gynigion a fyddai yn ein barn ni yn gwella gwasanaethau ac a oedd yn rhan o drawsnewid y gwasanaethau hynny yn ehangach. Byddai canlyniadau’r ymgynghori cyhoeddus yn cadarnhau hyn, gan eu bod yn cytuno’n gryf â’r cynigion ac eithrio un – y bwriad i gynyddu treth y cyngor. Yr oedd hwn yn ganlyniad cadarnhaol iawn am ei fod yn dangos ein bod yn gwneud y pethau iawn. Nid oedd y codiad yn Nhreth y Cyngor yn boblogaidd yn yr ymgynghoriad, ac yr oeddem yn sylweddoli hynny, a bod angen ail-ystyried hyn yn yr hinsawdd presennol. Dywedodd yr Arweinydd fod y cyhoedd wedi dweud eu barn, a’n bod ni wedi gwrando.

 

Y sefyllfa bresennol a sut y byddwn yn defnyddio’r ‘balans sydd mewn llaw’

Fel y dangosodd yr adroddiad yn Nhabl un, yr oedd gennym £2.8m o adnoddau ar gael mewn llaw yng nghyfnod y gyllideb ddrafft, ac ychwanegwyd arbedion effeithlonrwydd pellach ers hynny, fel y gwelir yn Nhabl un yr adroddiad. Mae’r balans mewn llaw o adnoddau i’w dyrannu yn awr yn £3.98m.

 

Mae crynodeb isod o’r modd y caiff yr elfen derfynol hon ei dyrannu a’i defnyddio gyntaf.

 

 

2021/22

£’000

Balans diwygiedig mewn llaw

(£3,988k)

Buddsoddiadau newydd:

 

 

GOFAL CYMDEITHASOL

 

 Darparu ar gyfer risg bosib costau uwch yn ein sector Gofal Cymdeithasol, yn sgîl heriau o ddod allan o Covid a Brexit, sef £828k, y talwyd amdano yn rhannol gan gynnydd yn ein ‘Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol’. Yr oedd gwir botensial gan y ddau i greu pwysau cost gwirioneddol yn y maes hwn, a byddai hyn yn help i sicrhau bod cyllidebau yn gadarn, yn helpu i liniaru’r risgiau hynny, a sicrhau ein bod yn talu am y gofal gorau i drigolion.

 

Byddai hyn yn sefydlogi ac yn helpu recriwtio i’n timau gofal cymdeithasol iechyd meddwl oedolion, sydd yn faes anodd o ran cadw a recriwtio. Byddai darparu £40k am hyn yn caniatáu i ni ei wneud mewn maes gwaith cynyddol heriol a phwysig. 

 

Mae angen i ni fuddsoddi yn ein cyllidebau i blant sy’n derbyn ac amddiffyn plant oherwydd y galw cynyddol, a bydd hyn yn costio £116k 

 

Buddsoddiadau ychwanegol yw'r rhain yn ein cyllidebau gofal cymdeithasol, ac y mae’n dangos ymrwymiad y weinyddiaeth i’r maes hwn, ei alwadau a’i heriau. Mae gofalu am aelodau mwyaf bregus ein cymunedau yn flaenoriaeth.

 

 

 

£828k

(£500k)

 

 

 

 

 

£40k

 

 

 

£116K

 

 

 

 

BLAENORIAETHAU ERAILL

 

Byddwn yn buddsoddi £911k mewn nifer o anghenion sy’n cael blaenoriaeth. Yn eu plith mae:

 

-        gallu yn ein tîm rheoli prosiect a gwella busnes i gefnogi gwasanaethau gyda phrosiectau fydd yn newid sefydliadau a gwasanaethau

-        gallu yn ein swyddogaethau i gyrraedd uchelgais y ddinas ar ddatblygu cynaliadwy, priffyrdd a mentrau dad-garboneiddio. Byddai hyn yn galluogi’r cyngor i gyflwyno prosiectau allweddol gan gynnwys unrhyw brosiectau a mentrau newydd sy’n deillio o adolygiad Burns

-         datblygu ein gallu i gynllunio gweithlu. Byddai hyn yn cynnwys datblygu a gweithredu polisi am fwy o hyfforddi, prentisiaethau a mathau tebyg o hyfforddiant yn ein gweithlu ac yn sicrhau y bydd gan ein trigolion gyfle i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth, profiad a gyrfaoedd gyda’r Cyngor

-         darpariaeth i ddatblygu a rhoi ar waith gynllun a mentrau i greu mwy o falchder yn ein dinas, dod o hyd i ffyrdd o gefnogi cymunedau lleol a chysylltu ein cymunedau a’r ddinas yn ehangach.  

 

 

£911k

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

ADFYWIO A CHEFNOGAETH ECONOMAIDD I GANOL Y DDINAS

 

Mae sefyllfa canol y ddinas, fel llawer o rai eraill, yn dal yn heriol, a bydd yn parhau yn fregus am beth amser. Byddwn yn gwneud darpariaeth o £1.9m yn ein cyllideb fel y gallwn barhau â phrosiectau adfywio allweddol megis adnewyddu’r farchnad ganolog a phrosiectau mawr eraill. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i ganol y ddinas a’r agwedd bositif, yr esiampl a’r arweiniad y mae angen i Gyngor y Ddinas roi. 

 

Mae hyn yn rhan o becyn ehangach  o fuddsoddiad i gefnogi datblygiad economaidd y ddinas ac adfywio canol y ddinas, yn ein rhaglen gyfalaf a’r hyn a gyhoeddwyd eisoes yn ein cyllideb ddrafft ym mis Ionawr.

 

£1,820k

 

TYNNU ALLAN GYNNIG ARBEDIAD STR2122/02 – Taliadau am wastraff heb fod yn wastraff cartref

 

Mae’r Cabinet wedi ystyried yr holl gynghorion ac adborth o’r ymgynghoriad cyhoeddus, ac ni fyddant yn cyflwyno taliadau am wastraff heb fod yn wastraff cartref  a gymerir i’r ganolfan ailgylchu gwastraff cartref (CAGC).

 

£20K

 

TRETH Y CYNGOR

 

Ymgynghorodd y Cabinet ar gynnydd o 5% yn Nhreth y Cyngor. Casnewydd sydd ag un o’r cyfraddau isaf yng Nghymru o hyd, ac yn wir yn y DU. Mae’n golygu gostyngiad o £9m mewn cyllid o gymharu â’r gyfradd gyfartalog yng Nghymru, ac fe gaiff hyn effaith negyddol ar y gwasanaethau y gallwn eu cyflwyno. Fodd bynnag, gwnaeth y Cabinet yn glir eu bod am wrando ar y trigolion. Maent yn sylweddoli fod pob Casnewydd yn mynd trwy gyfnod anodd, ac yn cydnabod yr ansicrwydd. Felly cytunodd y Cabinet i leihau’r cynnydd arfaethedig mewn Treth Cyngor i 3.7% a bydd hyn yn costio £753k. 

 

£753k

Gweddill sydd ar ôl i’w ddyrannu

£0

 

Sut ydym ni wedi buddsoddi ein hadnoddau ychwanegol?

Y tri phrif faes oedd:

 

I’n hysgolion, yr oedd y gyllideb yn caniatáu bron i £5m o arian ychwanegol. Yr oedd hyn yn cynnwys y cynnydd mewn costau a aseswyd ar gyfer ein hysgolion, a bwriadwn gyllido hynny’n llawn, hyd at y ddarpariaeth sydd gennym yma. Gal bod hyn yn cynnwys amcangyfrif am unrhyw godiadau cyflog, bydd yr elfen hon yn cael ei chadw a’i hystyried pan fyddwn yn gwybod beth fydd y sefyllfa derfynol. Bwriad y Cabinet oedd cwrdd o leiaf â chyfanswm y cynnydd mewn costau, hyd at y codiadau yn y gyllideb a gynhwysir yma. Byddai angen i ysgolion gyda diffygion yn eu cyllidebu neu sydd wedi gorwario ar eu cyllideb eleni orfod datrys y problemau hyn gyda chynlluniau adfer, ac yr oedd y swyddogion yn gweithio’n galed gydag ysgolion ar hyn, gan wneud cynnydd da. Mae ein hanes ar gyllido ysgolion yn dal i brofi ein bod yn rhoi blaenoriaeth iddynt. Heb gynnwys unrhyw gynnydd mewn grantiau penodol gan Lywodraeth Cymru, sydd hefyd wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, yr ydym wedi cynyddu cyllid craidd ysgolion o ryw £15m dros y tair blynedd ddiwethaf, cynnyd blynyddol o 5% ar gyfartaledd. Yr oedd rhan o hyn ar gyfer ehangu ysgolion a rhai newydd wrth i’r ddinas dyfu, ond hefyd i sicrhau talu am gynnydd mewn costau.

 

Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol lle mae’r galw wedi cynyddu, ac yr ydym yn darparu bron i £2.5m o gyllid ychwanegol, dros ben y cynnydd mewn tâl a phrisiau. Yn 2021/22, byddwn yn buddsoddi bron i £2.5m mewn gwasanaethau plant ac oedolion. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth i gwrdd â chynnydd mewn costau yn ein cartrefi gofal a gwasanaethau cartref oherwydd risgiau Covid a Brexit.

 

Yr ydym hefyd wedi ymrwymo i ‘adeiladu’n ôl yn well’ wrth i ni helpu’r ddinas i adfer o 12 mis o effeithiau’r pandemig. Cafwyd nifer o gynigion i wneud hyn. Yn gyntaf, yr oedd y Cabinet yn bwriadu buddsoddi ychydig dros £2m i dalu am y rhaglen gyfalaf. Yr oedd adroddiad arall ar agenda’r cyfarfod hwn yn ymdrin â rhaglen gyfalaf y Cyngor, ond dangosodd, ymysg prosiectau eraill, ein bod yn buddsoddi yn ein hysgolion, canol y ddinas, seilwaith diwylliannol allweddol fel y Bont Gludo, ac wrth gwrs, cyfleuster hamdden newydd cyffrous fyddai’n paratoi’r ffordd i gael campws dysgu newydd yng nghanol y ddinas. Yn ail, yr ydym wedi darparu £1.8m i dalu am fentrau a phrosiectau adfywio yng nghanol y ddinas. Yn drydydd, fel y cyhoeddais, bwriadwn wneud mwy o ymdrech i gynyddu nifer ein prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi a chynlluniau eraill yn y Cyngor. Byd hyn yn rhoi cyfle gwych i’n trigolion gael gwaith a hyfforddiant ac yn helpu’r Cyngor dyfu a datblygu’r gweithlu.

 

Yr oedd y polisi manwl bron wedi ei gwblhau, a bydd yr Arweinydd yn cyhoeddi hyn mor fuan ag y gallai. Yn bedwerydd, byddai’r Cabinet yn buddsoddi mewn mwy o adnoddau i’r prosiectau datblygu cynaliadwy, fyddai hefyd yn cynnwys adolygiad Burns ar draffig. Rhoddir blaenoriaeth i’r ‘agenda werdd a dad-garboneidio’, a byddai’r adnoddau yn dechrau creu’r gallu oedd ei angen i gydgordio a chyflwyno prosiectau priodol ar draws y Cyngor, i gyfrannu at hyn. Yn olaf, mae’r Cabinet yn buddsoddi adnoddau i farchnata’r ddinas a chyflwyno mwy o ddigwyddiadau a mentrau lleol, fel y gallai’r ddinas godi ei phroffil i bawb.

 

Rhan allweddol o’r maes olaf hwn yw defnyddio adnoddau unwaith-am-byth. Yr oedd cyllido ein gofynion cyllidebu cyfalaf hyd at ddiwedd cyfnod y rhaglen gyfalaf bresennol i gyd yn 2021/22 yn bwysig ac yn angenrheidiol. Byddai hefyd, dros y 2-3 blynedd nesaf, yn cynhyrchu arian unwaith-am-byth o ryw £3m. Ynghyd â’r tanwariant a ragwelir gan y Cyngor ar gyllideb eleni, dylai roi bod i ‘bot’ o arian unwaith-am-byth fyddai’n cael ei ddefnyddio i gefnogi’r gyllideb refeniw hon a’i blaenoriaethau. Byddai’n cael ei ddefnyddio hefyd i fuddsoddi mewn prosiectau arbennig i helpu gyda’r amcanion datblygu cynaliadwy a amlygwyd, a byddai hefyd yn gwella’r amgylchedd. Mae hyn yn cynnwys clirio’r hyn sy’n ddolur i’r llygad, na allai’r cyllidebau presennol dalu amdanynt, a gwella mannau gwyrdd, sydd yn bwysicach nac erioed. Y mae’r swyddogion yn datblygu cynlluniau am y rhain a byddai mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau, a mwy o sicrwydd am yr adnoddau hyn yn y gwanwyn. Rhwng yr arian craidd sydd yn cael ei ddarparu i greu gallu, y rhaglen gyfalaf, a’r arian unwaith-am-byth, yr oedd yr Arweinydd yn hyderus y gellid cael effaith wirioneddol i greu mwy o falchder yn ein dinas a’i gwneud yn lle gwell.

 

Yr oedd y gyllideb yn ymdrin â’r sefyllfa bresennol o ran lle’r oedd angen gwasanaethau a buddsoddiad, ac yn edrych ymlaen a dechrau cynllunio ar gyfer y blaenoriaethau am yr amgylchedd. Y mae hyn yn cynnwys nid yn unig yr agenda ehangach am yr hinsawdd a dad-garboneiddio, ond hefyd amgylchedd y ddinas yn nes at adref, cymdogaethau, parciau a mannau eraill. Byddai hyn yn cael ei wneud gyda Threth Cyngor is, oedd yn bwysig ar yr adeg hon.  

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Jeavons fod y Tîm Gwastraff yn effeithiol iawn ac yn delio â thipio anghyfreithlon fel rhan o’i waith. Byddai’r buddsoddiad o gymorth yma ac yn helpu gyda’r dyletswyddau statudol, oedd yn cynnwys:

 

·        Symud gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon ar dir cyhoeddus/priffordd a fabwysiadwyd ( nid yw symud gwastraff a dipiwyd yn anghyfreithlon ar dir preifat yn gyfrifoldeb Cyngor Dinas Casnewydd, ond y tirfeddiannwr.)

·        Ymchwilio i dipio anghyfreithlon, a chamau gorfodi, sy’n cynnwys HCB, erlyniadau

·        Cario a gwaredu gwastraff anghyfreithlon gan gynnwys gwiriadau dyletswydd o ofal

·        Monitro casgliadau gwastraff cartref ac ymwneud â’r trigolion

 

Yn ychwanegol:

·        Gwaith partneriaeth gyda LlC /Cyfoeth Naturiol Cymru ac KWT - meincnodi – rhannu arferion da

·        Cyflwyno digwyddiadau/dyddiau gweithredu penodol gyda Heddlu Gwent /Gwasanaeth Tân ac Achub DC i fynd i’r afael â thipio anghyfreithlon ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

·        Cefnogi grwpiau gwirfoddol codi sbwriel

·        Rydym yn croesawu gweithgareddau codi sbwriel, sydd yn  beth cadarnhaol i gymunedau a’r amgylchedd

·        Mae grwpiau gwirfoddol yn cael eu cefnogi gan CDC, ond:

§  Byddwn yn gofyn i grwpiau gwirfoddol gydymffurfio a’r rheolau sydd mewn cytundebau cyn-archebu/casglu sydd ar gael ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd i wneud y broses yn ddiwnïad

·        Mae rhai grwpiau yn anwybyddu’r rheolau, sydd:

§  Yn peryglu eu hiechyd a’u diogelwch

§  Yn creu problemau i’r Cyngor a mudiadau eraill sy’n delio a sbwriel/tipio anghyfreithlon/ ymddygiad gwrthgymdeithasol/erlyn posib

 

Yr oedd peth o hyn yn cynnwys:

·        Peidio â chadw pellter cymdeithasol yn ôl canllawiau’r llywodraeth yn y cyfnod clo

·        Peidio â dilyn trefniadau iechyd a diogelwch

·        Codi sbwriel ar dir preifat

·        Didol gwastraff yn ddeunydd i’w ailgylchu

·        Bagiau yn unig – dim gwastraff swmpus

·        Dim nodwyddau na deunydd miniog

·        Pwyntiau casglu diogel, sydd ar wefan Cyngor Dinas Casnewydd, a dim bagiau i’w casglu ar ffyrdd a therfyn cyflymder dros 50mya

 

Mae sbwriel/tipio anghyfreithlon yn fater i ni i gyd ac anogaf bobl i waredu eu gwastraff yn gyfrifol.

 

Nododd y Cynghorydd Truman fod hon yn gyllideb oedd yn gwrando, o gofio’r gostyngiad mewn treth cyngor i’r cyhoedd. Yr oedd angen buddsoddi yng nghanol y ddinas. Y mae’r gyllideb yn newyddion da i ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, ac yn ymdrin hefyd ag eiddo gwag am y tro cyntaf, sydd yn ardderchog.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Harvey sylwadau’r Cynghorydd Truman am dreth y cyngor, gan ddweud ei fod yn ostyngiad mawr, er y bu adwaith negyddol gan drigolion am yr ymgynghoriad. Yr oedd hefyd yn canmol athrawon, staff ategol, staff swyddfeydd cefn a phawb fu’n helpu i redeg yr ysgolion yn rhithio, heb roi’r gorau i weithio, a darparu cefnogaeth TG i ddisgyblion, ar waethaf y rhewi ar gyflogau’r sector cyhoeddus. Ychwanegodd y Cynghorydd Harvey y dylai trigolion Casnewydd edrych yn fanwl ar y gyllideb, oedd yn drylwyr iawn, a diolchodd i’r Arweinydd am gyllideb dda dan yr amgylchiadau.

 

Ystyriodd y Cynghorydd Davies yr holl amcanion lles y llwyddwyd i’w cyrraedd yn yr adroddiad hwn, a’r ffaith fod arian wedi ei ddyrannu’n ofalus i gwrdd ag anghenion. Rhoddwyd ystyriaeth i drigolion bregus adeg Covid.  Yr oedd dyletswydd erbyn 2050 i fod yn garbon niwtral, ac fe ddylem fel dinas gyflawni hyn; yr oedd hefyd yn croesawu’r cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Bydd y gronfa tai gwag yn help i ddatblygu cartrefi da ac ymestyn ffiniau, fel bod trigolion yn ymfalchïo yn y lle maent yn byw.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Rahman sylwadau ei gydweithwyr am wrando ar y trigolion. Bu llai o ymateb nag arfer i’r ymgynghoriad cyhoeddus, ond yr oedd gostwng y cynnydd yn nhreth y cyngor a thynnu’n ôl y ffioedd am wastraff heb fod yn wastraff cartref yn golygu bod y cyngor wedi gwrando. Ystyriodd y Cynghorydd Rahman yr heriau a wynebai’r cyngor: colli incwm a chostau ychwanegol oherwydd y pandemig. Yr oedd y ddinas wedi newid hefyd ers y Cyfrifiad diwethaf, ac yr oedd am i bawb fod yn rhan o’r Cyfrifiad. Yr oedd help ar gael o hyd i’r rhai yn y gymuned oedd mewn trafferthion. Yr oedd hon felly yn gyllideb y gallem fod yn falch ohoni, gan ei bod yn buddsoddi mewn cymunedau a seilwaith y ddinas.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mayer i’r Arweinydd am ei chyflwyniad ardderchog, ac adleisiodd sylwadau’r Cynghorydd Truman. Byddai’r  Cabinet a swyddogion cyllid yn canolbwyntio ar gyllideb y flwyddyn nesaf, gan edrych ymlaen yn wastad at fuddsoddi yng Nghasnewydd.  Yr oedd y trigolion a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad am y ganolfan hamdden wedi dangos eu bod yn ymddiried yn y cyngor.  Cyfarfu’r Cynghorydd Mayer hefyd gyda chynrychiolwyr yr undebau llafur fel o’r blaen, ac eleni nid oedd llawer o sylwadau gan y gwyddai’r gweithwyr fod y cyngor yn gwneud eu gorau i gyflwyno’r gyllideb orau bosib.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at sylwadau’r Cynghorydd Harvey, a dweud y bu rhai sylwadau negyddol, ond ei fod yn ystyried y bu’n rhaid i’r cyngor weithio’n galed, a bod y gyllideb a ddeilliodd o hyn yn rhagorol. Ar y cyfan, ni chafwyd cymaint o sylwadau gan y trigolion, a rhaid bod hyn yn arwydd eu bod yn fodlon gyda’r hyn a gyflawnwyd.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Dirprwy Arweinydd am ei gyfarwyddyd, gan ychwanegu y dylai’r Cabinet ddiolch i’r Penaethiaid Gwasanaeth am orfod delio â’r a pandemig a chyllideb gynaliadwy, a diolchodd iddynt am eu gwaith ar yr adroddiad.

 

Diolchodd yr Arweinydd hefyd i’r tîm cyllid am eu gwaith ar fanylion y gyllideb hon er mwyn cyd-fynd â dyheadau pobl Casnewydd.  Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Weithredwr am ei harweinyddiaeth ar yr agenda werdd ac adferiad cyfrifol i ddinasyddion Casnewydd.

 

Penderfynwyd:

Bod y Cabinet yn nodi/cytuno i’r isod:

 

Cynigion y gyllideb a rhagfynegiadau’r tymor canol

 

1.      Nodi’r ymgynghori ffurfio ar y gyllideb a amlinellwyd yn adran 4 a’r adborth a dderbyniwyd, fel y gwelir yn atodiadau 1 i 4b.

2.      Nodi’r grynodeb o asesiad effaith cydraddoldeb ar gynigion y gyllideb, yn atodiad 9.

3.      Adolygu a chadarnhau cynigion y gyllideb (atodiad 5 - 6), fel y’u crynhoir yn y cynllun ariannol tymor canol (atodiad 7) a dyrannu’r hyblygrwydd ariannol a welir yn nhabl 5. Wrth wneud hynny, cytuno i weithredu’r rhaglen arbedion tymor canol llawn a defnyddio buddsoddiadau i arbed fel y nodir ym mharagraff 6.4 i weithredu arbedion fel rhan o’r gofyniad tymor canol am arbedion.

4.      Cytuno gyda’r ffioedd a’r taliadau am 2021/22 i’r cyngor a ddangosir yn atodiad 11.

5.      Nodi buddsoddiad y gyllideb mewn ysgolion o hyd at £4,937k, seiliedig ar ragdyb o godiad cyflog athrawon / NJC a darparu ar gyfer cynnydd wedi ei gyllido’n llawn yn y gofyniad cyllido yn ychwanegol at gost darparu ysgolion newydd ac ehangu’r rhai presennol fel y nodir ym mharagraff 3.7 - 3.12.  Yn benodol, cytunodd y Cabinet i gadarnhau hyn a’i roi ar ei ffurf derfynol pan geir sicrwydd am gyflogau athrawon o Fedi 2021 ymlaen gyda’r bwriad o leiaf o gadw’r amcan uchod, o fewn y ddarpariaeth arian sydd ar gael.

 

 

Cyllideb refeniw gyffredinol a threth y cyngor am 21/22

 

6.        Nodi argymhellion y Pennaeth Cyllid y dylid cynnal isafswm balansau’r Gronfa Gyffredinol ar lefel o £6.5miliwn o leiaf, cadarnhau cadernid y gyllideb gyffredinol sy’n sail i’r cynigion, a digonoldeb yr arian wrth gefn yng nghyd-destun arian arall  a glustnodwyd, a chyllideb refeniw wrth gefn o £1.5miliwn.

7.        Nodi lefel gyfredol treth cyngor i Gyngor Dinas Casnewydd a gwerth ariannol gwahanol godiadau canrannol a sut y mae hyn yn cymharu â lefelau treth y cyngor mewn cynghorau eraill fel y gwelir yn nhabl 6.

8.        Argymell cyllideb net gyffredinol a’r dreth cyngor sy’n deillio o hyn i’r Cyngor llawn, gan nodi y bydd cynnig ffurfiol gan gynnwys praeseptiau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a’r Cynghorau Cymuned yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor ar 3 Mawrth.

9.        Cymeradwy gwariant a defnyddio arian wrth gefn yn unol â’r grynodeb yn atodiad 10b, gan nodi eu bod yn seiliedig ar gynigion manwl a adolygwyd gan y Cabinet yn eu cyfarfod yn Ionawr 2021 meeting.

 

Dogfennau ategol: