Agenda item

Cyfleuster Hamdden a Lles Arfaethedig

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad. Ym mis Rhagfyr, cytunodd y Cabinet i ymgynghori â’r cyhoedd am gynigion i godi cyfleuster hamdden a lles newydd oedd yn amgylcheddol gynaliadwy ac yn ynni-effeithlon ar safle tir llwyd sy’n edrych dros Afon Wysg, gan neilltuo tir presennol Canolfan Casnewydd i Goleg Gwent  iddynt adleoli eu campws addysg bellach i ganol y ddinas.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant i gyflwyno’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Harvey ei bod yn glir o dros 1,000 o ymatebion a gafwyd fod y cyhoedd wedi eu cyffroi gyda’r cynlluniau ac yn ymwneud â hwy.

 

Yr oedd adeilad presennol Canolfan Casnewydd yn ddioddef nifer o broblemau strwythurol a bod angen cryn fuddsoddiad i’w ddwyn i fyny i safonau heddiw.

 

Nid oedd yr adeilad yn effeithlon na chynaliadwy ac yr oedd newidiadau yn y galw dros y degawdau yn golygu na allai bellach gystadlu â chyfleusterau modern.

 

Yr oedd y cynlluniau a roddwyd gerbron yn cynnwys pwll hamdden modern gyda chyfleusterau newid i’r teulu, ystafell ffitrwydd a gardd do / to byw. Byddai mannau ymlacio mwy anffurfiol yn y cyfleuster hefyd, a byddai wedi ei gysylltu’n ddiwnïad i rwydwaith teithio llesol fydd yn ehangu.

 

Byddai codi cyfleuster newydd nid yn unig yn gadael i ni roi gwell profiad i’r defnyddwyr, ond hefyd yn rhyddhau tir i adleoli darpariaeth addysg bellach Coleg Gwent i ganol y ddinas, yn nes at y ddarpariaeth addysg uwch sydd yno eisoes.

 

Byddai’r cynigion yn dwyn mwy o bobl i mewn i ganol y ddinas ac yn helpu i gefnogi’r siopau a’r busnesau lletygarwch i adfer o effaith Covid.

 

Byddai’r prosiect yn costio £20M, ond dim ond £4.5M fyddai’n dod o gronfeydd y cyngor, sydd yn llai o lawer na chost adnewyddu’r ganolfan bresennol.

 

Byddai rhan fawr o’r prosiect yn cael ei gyllido o arbedion effeithlonrwydd o ganlyniad i weithio mewn cyfleuster modern fyddai’n denu mwy o bobl. Yr oedd y cyngor hefyd yn ceisio buddsoddiad cyfalaf gan Lywodraeth Cymru trwy eu Cronfa Adfywio a Buddsoddi wedi’i Thargedu.

 

Bu’r flwyddyn a aeth heibio yn heriol iawn, ond ni roesom y gorau i weithio trwy’r pandemig i wella’r ddinas a bywydau ein trigolion, yn enwedig o ran cefnogi canol y ddinas i ddychwelyd yn gryfach.

 

Ar sail yr adborth o’r ymgynghoriad, byddai swyddogion yn awr yn gweithio gyda’r Cabinet i ddatblygu cynlluniau manwl a chyflwyno’r prosiect hwn i’n trigolion.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Nododd y Cynghorydd Mayer fod hwn yn brosiect, a’i fod wedi dychryn gyda’r niwed strwythurol i Ganolfan Casnewydd, ond yn falch ein bod mewn sefyllfa lle bydd gennym un o’r cyfleusterau hamdden gorau yng Nghymru ac o bosib yn y DU.  Yr oedd 94% o’r trigolion yn meddwl y byddai codi canolfan hamdden newydd yn syniad da, a chytunai 85% y dylai Coleg Gwent fod yn rhan o’r Chwarter Gwybodaeth.

 

Yr oedd y Cynghorydd Davies yn tybio fod lefel yr ymateb gan y trigolion yn eithriadol. Yr oedd y Cyngor yn gwrando ar y trigolion, oedd yn rhan hanfodol o’r hyn a wnawn. Yr oedd yn berthnasol i rôl y Cynghorydd Davies fel Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy fod y cynllun yn gyfeillgar i’r amgylchedd ac yn cyfrannu at ymrwymiad y Cyngor i leihau ei ôl troed carbon.  Cyrhaeddwyd yr amcanion lles hefyd trwy gael cymunedau annibynnol a gwydn, yn ogystal ag ymestyn y Chwarter Gwybodaeth.

 

Dywedodd y Cynghorydd Truman fod hyn yn newyddion gwych y byddai’r trigolion yn groesawu. Yr oedd yn benderfyniad call symud addysg bellach ac uwch i’r un fan, a byddai’n gyfle i adfywio’r ddinas, felly yr oedd yn croesawu’r adroddiad.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Jeavons sylwadau ei gydweithwyr, gan ddweud bod hyn yn symudiad cyfrifol i ystyried adferiad a lles Casnewydd.  Derbyniwyd 30 o atebion o Gymru, oedd yn gyffrous ac yn dangos ein bod yn gwneud rhywbeth oedd yn iawn i’r ddinas.

 

Nododd y Cynghorydd Rahman fod cefnogaeth amlwg i’r cyngor, a diolchodd i’r swyddogion am eu cyfraniad o ran cyflwyno’r prosiect hwn ar ben y gyllideb a drafodwyd, hen sôn am gefnogi busnesau bach. Dywedodd mai at hyn yr oedd treth y cyngor yn cyfrannu, a bod y ganolfan hamdden o les i ni oll.

 

Llongyfarchodd y Cockeram yr Arweinydd ar yr adroddiad ac ystyriodd fod y crynodeb yn amlygu’r amcanion yn glir; ni ddylem anghofio’r partneriaid eraill oedd yn rhan o’r prosiect hwn ac a oedd â ffydd ynom. 

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y prosiect yn cysylltu’n ddiwniad â’n gwaith teithio llesol, a diolchodd i’n partneriaid Coleg Gwent a Chasnewydd Fyw yn ogystal â diolch i Bennaeth Gwasanaethau’r Ddinas a Phennaeth Dros Dro Adfywio, Buddsoddi a Thai am eu gwaith caled a’u cyfraniad cyson.

 

Penderfynwyd:

Cytunodd y Cabinet i’r canlynol:

 

·        Bwrw ymlaen a dylunio a chodi cyfleuster hamdden a lles newydd ar dir ehangu, yn amodol ar gael bob caniatâd angenrheidiol.

·        Cymeradwyo’r arian cyfalaf a’r cyllid arfaethedig o £19.7 miliwn ar gyfer y cynllun.

·        Symud safle Canolfan Casnewydd o ddarpariaeth Hamdden at ddibenion adfywio, a chytuno i waredu’r safle i Goleg Gwent trwy brydles ddatblygu 250-mlynedd ar bris net y farchnad, gan ystyried yr holl gostau dymchwel ac eraill a ganiateir, ac ar delerau ac amodau y cytunir arnynt gan y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio a Chasnewydd Norse, yn amodol ar gael bob caniatâd angenrheidiol.

·        Awdurdodi’r swyddogion i gytuno a chwblhau’r holl ddogfennau angenrheidiol am y cynllun a’r gwaredu.

 

 

Dogfennau ategol: