Agenda item

Ariannu Pont Gludo

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad.  Yr oedd Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol wedi cymeradwyo cais y Cyngor am arian i atgyweirio ac adfer y Bont Gludo yn ogystal â darparu canolfan ymwelwyr newydd ym mis Rhagfyr.  Yr oedd angen i’r Cyngor yn awr dderbyn hyn yn ffurfiol a chyflawni nifer o oblygiadau cyn i’r Gronfa Treftadaeth roi ‘caniatad i gychwyn’. Y dyfarniad o 8.65 miliwn oedd y trydydd uchaf wnaed gan y Gronfa Treftadaeth yng Nghymru.

 

Yr oedd yr adroddiad yn ceisio caniatad i roi i’r Loteri Genedlaethol warant cytunedig am y £365k o gyllid cyfatebol nas cadarnhawyd yng  nghyllideb y prosiect.  Y cyllid nas cadarnhawyd oedd arian y disgwylid ei godi dros einioes y prosiect o godi arian uniongyrchol a cheisiadau pellach am grantiau am becynnau o arian i gynnal cyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau. Byddai’r Cyngor yn atebol am uchafswm o £365k a byddai angen hyn yn unig pe na bai ceiniog yn fwy yn cael ei godi.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant i gyflwyno’r adroddiad.

 

Yr oedd y Cynghorydd Harvey yn falch o roi gwybod am ganlyniad yr ymgynghori. Yr oedd y Bont Gludo yn rhan hanesyddol ac amlwg o Gasnewydd, a diolchodd i’r Rheolwr Diwylliant a Dysgu Parhaus am ei waith caled iawn, gan hyd yn oed oedi ei ymddeoliad er mwyn cwblhau’r prosiect.

 

Byddai cais cam 2 i Sefydliad Wolfson yn dilyn cais cam 1 llwyddiannus yn cael ei gyflwyno ddiwedd Chwefror. Cais oedd hwn am arian i helpu i gau’r bwlch presennol, nid am swm penodol.  

 

Pwyntiau allweddol

Cyflwynodd tîm y prosiect gais i Lywodraeth Cymru am becyn cefnogaeth pellach o £1.5M trwy gynllun Cefnogaeth Buddsoddi Croeso Cymru. Yr oedd swyddogion Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn mynd trwy broses diwydrwydd dyladwy ac wedi dweud fod yr arian angenrheidiol yn eu cronfa gyfalaf.  Yr oedd Llywodraeth Cymru hefyd wedi rhoi datganiad i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol oedd yn rhoi digon o gefnogaeth i alluogi CTLG i wneud y dyfarniad. Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddant yn rhoi gwybod am y canlyniad yn yr wythnos yn cychwyn 15 Chwefror, ond derbyniwyd nodyn ddydd Iau yn dweud na fyddai’r penderfyniad gweinidogol yn cael ei gymryd tan yr  wythnos yn cychwyn 22 Chwefror. Serch hynny, yr oedd yn bwysig bwrw ymlaen i gadarnhau hyn gyda’r gwarantwr, am ei bod yn bwysig cael caniatad am ddau reswm:

 

1.      Roedd y gwaith cyfalaf cysylltiedig ag atgyweirio’r Bont a’r ganolfan ymwelwyr newydd yn cael ei dendro, a byddai unrhyw oedi sylweddol yn debyg o gynyddu’r costau.

2.      Y dyddiad targed ar gyfer ail-agor oedd Mawrth 2023.  Yr oedd rhai trefniadau wrth gefn yn rhan o gynllun y prosiect, ond fe ddeuai cryn fudd o agor y bont ar ddechrau’r tymor.

 

Ni fyddai Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn rhoi caniatad i gychwyn hyd nes i Lywodraeth Cymru gytuno ar eu cyfran o’r cyllid.

 

Bydd y prosiect a gyllidir gan arian sylweddol o Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn caniatáu gwaith trwsio ac adfer i’r strwythur, ac yn ei sefydlogi. Bydd y ganolfan ymwelwyr newydd a’r cyfleusterau dehongli gwell yn rhoi cyfleusterau gwych i ymwelwyr ac yn caniatáu i’r Bont ddatblygu marchnadoedd twristiaeth newydd fyddai yn ei dro yn cyfrannu at gynaliadwyedd yn gyffredinol.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Mayer nad oedd gwerth yn cael ei roi ar y Bont Gludo yn y pumdegau, ac nad oedd hyd yn oed yn cael ei chynnwys ar y murluniau yn y Ganolfan Ddinesig. Bu’n frwydr galed i gadw’r Bont Gludo ar yr agenda.  Daethpwyd o hyd i’r cynlluniau gwreiddiol yn Archifdy Gwent ddwy flynedd yn ôl, oedd yn rhyfeddol. Soniodd y Cynghorydd Mayer fod hyn wedi llonni calon yr Aelod Cabinet dros Hamdden a Diwylliant, oedd yn hoff iawn o’r prosiect.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Jeavons y sylwadau, a diolch i’r holl swyddogion yn ogystal â’r Aelod Cabinet am eu gwaith caled.

 

Soniodd y Cynghorydd Cockeram fod y goleuadau ar y Bont Gludo yn ychwanegu at nenlen Casnewydd ac yn rhoi hanes personol i Gasnewydd.

 

Dywedodd y Cynghorydd Truman fod y Bont Gludo yn DNA Casnewydd, ei bod yn eiconig ac yn ddarn cymhleth o beirianwaith. Diolchodd i Lywodraeth Cymru a Chronfa Treftadaeth y Loteri am eu cefnogaeth ariannol.

 

Soniodd y Cynghorydd Davies fod y Bont Gludo yn rhan annatod o Gasnewydd ac yr oedd yn falch fod y Cynghorydd Harvey, y Rheolwr Diwylliant a Dysgu Parhaus a’r holl swyddogion wedi gweithio mor galed i gadw’r bont i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Rahman sylwadau ei gydweithwyr.

 

Rhoddodd aelodau’r Cabinet eu hatgofion personol am y Bont Gludo dros y blynyddoedd, gan ddiolch eto i’r Cynghorydd Harvey a’r holl swyddogion am yr adroddiad cadarnhaol hwn.

 

Diolchodd yr Arweinydd hefyd i Gyfeillion Pont Gludo Casnewydd am eu brwdfrydedd a'u  hymrwymiad, a diolch hefyd i’r cyn-gynghorydd David Hando am ei ymroddiad cyson a’i waith caled, oedd wedi cyfrannu at adfer Pont Gludo Casnewydd.

 

Penderfynwyd:

Penderfynodd y Cabinet

i)                 Dderbyn y dyfarniad o £8.7 miliwn, yn amodol ar gadarnhad Llywodraeth Cymru o’r Grant Cefnogi Buddsoddiad Twristiaeth fel cyllid cyfatebol; a

ii)                Rhoi gwarant cytunedig i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am gyllid cyfatebol nas cadarnhawyd

 

 

Dogfennau ategol: