Agenda item

Diweddariad Adferiad Covid-19

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud mai diweddariad oedd hwn ar ymateb y Cyngor a phartneriaid i argyfwng Covid-19 trwy gefnogi’r ddinas, yn fusnesau a thrigolion, i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol, a’r cynnydd gyda  Nodau Adfer Strategol y Cyngor. 

 

Aeth blwyddyn heibio ers yr adroddiad cyntaf yn y DU am achosion o Covid-19 ac wyth wythnos (20 Rhagfyr 2020) ers i Gymru fynd i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar presennol.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf hon, gwelsom effaith Covid-19 ar ein teuluoedd, cymunedau, busnesau, ysgolion a gwasanaethau yn y ddinas. 

 

Gwaetha’r modd, rydym wedi parhau i weld colli ein hanwyliaid oherwydd Covid, ond yr ydym hefyd wedi gweld dyfeisgarwch a gwytnwch ein cymunedau i gefnogi’r trigolion mwyaf bregus.

 

Wrth ymateb ac adfer o’r argyfwng hwn, gwnaethom gadarnhau pedwar Nod Adfer Strategol sy’n sicrhau y byddwn yn ymateb i anghenion ein cymunedau a’n busnesau yn awr ac yn y dyfodol.

 

·      Nod Adfer Strategol 1 – Cefnogi Addysg a Chyflogaeth;

·      Nod Adfer Strategol 2 – Cefnogi’r Amgylchedd a’r Economi;

·      Nod Adfer Strategol 3 – Cefnogi Iechyd a Lles Dinasyddion, a

·      Nod Adfer Strategol 4 – Cefnogi Dinasyddion wedi Covid-19.

 

Ers gweithredu’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar ym mis Rhagfyr, gwelodd Casnewydd a rhanbarth ehangach y de-ddwyrain ostyngiad yng nghyfradd achosion Covid-19. 

 

Yr oeddem yn deall yr anhawster a achosodd y cyfyngiadau hyn ar fywyd normal, bod hynny yn ymweld â chyfeillion agos a theulu, plant yn mynd i’r ysgol, ymarfer yn ein campfeydd lleol, neu siopa yn y ddinas. Heb y cyfyngiadau hyn, er hynny, byddai’r gwasanaeth iechyd wedi ei chael yn anodd, a gallai llawer mwy fod wedi marw neu ddioddef effeithiau Covid a’i amrywiolion newydd.   

 

Yr oedd cyflwyno’r brechiad gan y GIG yng Ngwent a Chymru wedi bod yn rhyfeddol, gyda mwy na 600,000 o bobl yn derbyn eu brechiad cyntaf yng Nghymru.   

 

Yr oedd yr un mor bwysig yn awr ag ar ddechrau’r cyfyngiadau i ni barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn gostwng y gyfradd achosion eto, a sicrhau y gallwn ddychwelyd i fywyd fel yr oedd.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud ei bod yn siwr fod llawer o deuluoedd gyda phlant ifanc yn falch o weld y disgyblion ieuengaf yn dychwelyd i’r ysgol o heddiw ymlaen (22 Chwefror 2021). 

 

Ers mis Rhagfyr, bu’n anodd i athrawon a rhieni gefnogi eu plant gyda dysgu gartref, ac i’r ysgolion gefnogi plant gweithwyr allweddol a’r rhai bregus.

 

Yr oedd yn bwysig i ni barhau i gefnogi ysgolion y ddinas i ddychwelyd yn ddiogel, a helpu’r plant hynny a ddioddefodd oherwydd y cyfyngiadau i ddal i fyny a gwneud iawn am unrhyw anfantais dros y flwyddyn a aeth heibio.    

 

Effeithiwyd yn sylweddol ar yr economi yng Nghasnewydd a Chymru gan gyfyngiadau Covid. Bu’r flwyddyn ddiwethaf hon yn hynod anodd i siopau a masnachwyr ar y stryd fawr, busnesau bychain a chanolig, a’r sector lletygarwch / adloniant yn gweld llawer o bobl yn colli eu swyddi. 

 

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad hwn, bu’r Cyngor a’u partneriaid (Casnewydd Fyw) yn rhoi cefnogaeth i helpu’r sawl a gollodd eu swyddi i ail-hyfforddi, dod o hyd i waith newydd a dysgu sgiliau newydd.

 

Hefyd dros y misoedd diwethaf, yr ydym wedi lansio ymgynghoriad (gyda Chasnewydd Fyw a Choleg Gwent) ar  y datblygiad hamdden newydd a’r Coleg yng nghanol y ddinas; a derbyn £8.75 miliwn tuag at brosiect Trawsnewid y Bont Gludo gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  

 

Aeth yr adroddiad ymlaen i amlygu’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd, yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau, a llwyddiannau Cyngor Casnewydd.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Diolchodd y Cynghorydd Cockeram i reolwr gwasanaeth y rhaglen frechu a benodwyd i oruchwylio’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghanolfan Casnewydd, oedd yn eithriadol.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Harvey y dylem gofio ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chofio’r bobl hynny yng Nghymru fu farw: pwynt y cyfnod clo oedd amddiffyn pobl rhag hyn. Diolchodd y Cynghorydd Harvey i’r trigolion am ddilyn y rheolau, yn ogystal â’r gofalwyr a gweithwyr ysbyty fu’n gweithio mor galed.

 

Soniodd y Cynghorydd Jeavons nad oedd staff Cyngor Dinas Casnewydd yn gallu osgoi Covid, a bod rhai aelodau staff hefyd yn hunan-ynysu. Crybwyllodd waith caled staff Gwasanaethau’r Ddinas, yn y tywydd oer yn ddiweddar, gyda’r graeanwyr allan yn dal i gynnal y ffyrdd yng Nghasnewydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Truman i’r swyddogion iechyd amgylchedd a safonau masnach dan ei bortffolio ef, am eu gwaith caled cyson.

 

Diolchodd y Cynghorydd Davies i’r staff am baratoi’r adroddiadau misol hyn, a gofyn i’r trigolion eu darllen, gan eu bod yn rhoi manylion am yr hyn oedd yn cael ei wneud. Yr oedd yr hanes yn yr adroddiadau misol hefyd yn gofnod hanfodol bwysig at y dyfodol. Anogodd y Cynghorydd Davies bobl o bob cymuned, gan gynnwys cymunedau BAME, i gymryd y brechiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mayer i Wasanaethau’r Ddinas am eu gwaith caled, a’r  Gwasanaeth Gwastraff na roddodd y gorau iddi yn ystod y pandemig.  Bu’r Hybiau Cymdogaeth hefyd yn cefnogi trigolion, a diolchodd i bawb a ddarparodd y gwasanaethau hyn.

 

Diolchodd yr Arweinydd yn bersonol i’r Prif Weithredwr am yr adroddiad a gwahodd ei sylwadau. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Arweinydd ac ychwanegu fod y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig yn deyrnged i’r Uwch-Dîm Arweiniol a’r staff ar draws y cyngor.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr na fuasem lle’r ydym heddiw heb ymroddiad pob un o’r staff a ddangosodd y fath wytnwch emosiynol, yn enwedig gan staff hefyd yn agored i Covid.  Nid busnes fel arfer oedd hyn, a bydd yn rhaid i ni fyw gyda’r firws am amser maith. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Tîm Rheoli Corfforaethol, cydweithwyr mewn Cyllid, yn ogystal â’r rhai fu’n rhan o’r Prosiect Hamdden a’r Bont Gludo, gan ychwanegu ei diolch i Aelodau’r Cabinet a phob Pennaeth Gwasanaeth.

 

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud mai diweddariad oedd hwn ar ymateb y Cyngor a phartneriaid i argyfwng Covid-19 trwy gefnogi’r ddinas, yn fusnesau a thrigolion, i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol, a’r cynnydd gyda  Nodau Adfer Strategol y Cyngor. 

 

 

Aeth dros flwyddyn heibio ers yr adroddiad cyntaf yn y DU am achosion o Covid-19 ac wyth wythnos (20 Rhagfyr 2020) ers i Gymru fynd i’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar presennol.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf hon, gwelsom effaith Covid-19 ar ein teuluoedd, cymunedau, busnesau, ysgolion a gwasanaethau yn y ddinas. 

 

Gwaetha’r modd, rydym wedi parhau i weld colli ein hanwyliaid oherwydd Covid, ond yr ydym hefyd wedi gweld dyfeisgarwch a gwytnwch ein cymunedau i gefnogi’r trigolion mwyaf bregus.

 

Wrth ymateb ac adfer o’r argyfwng hwn, gwnaethom gadarnhau pedwar Nod Adfer Strategol sy’n sicrhau y byddwn yn ymateb i anghenion ein cymunedau a’n busnesau yn awr ac yn y dyfodol.

 

·      Nod Adfer Strategol 1 – Cefnogi Addysg a Chyflogaeth;

·      Nod Adfer Strategol 2 – Cefnogi’r Amgylchedd a’r Economi;

·      Nod Adfer Strategol 3 – Cefnogi Iechyd a Lles Dinasyddion, a

·      Nod Adfer Strategol 4 – Cefnogi Dinasyddion wedi Covid-19.

 

Ers gweithredu’r cyfyngiadau Lefel Rhybudd Pedwar ym mis Rhagfyr, gwelodd Casnewydd a rhanbarth ehangach y de-ddwyrain ostyngiad yng nghyfradd achosion Covid-19. 

 

Yr oeddem yn deall yr anhawster a achosodd y cyfyngiadau hyn ar fywyd normal, bod hynny yn ymweld â chyfeillion agos a theulu, plant yn mynd i’r ysgol, ymarfer yn ein campfeydd lleol, neu siopa yn y ddinas. Heb y cyfyngiadau hyn, er hynny, byddai’r gwasanaeth iechyd wedi ei chael yn anodd, a gallai llawer mwy fod wedi marw neu ddioddef effeithiau Covid a’i amrywiolion newydd.   

 

Yr oedd cyflwyno’r brechiad gan y GIG yng Ngwent a Chymru wedi bod yn rhyfeddol, gyda mwy na 600,000 o bobl yn derbyn eu brechiad cyntaf yng Nghymru.   

 

Yr oedd yr un mor bwysig yn awr ag ar ddechrau’r cyfyngiadau i ni barhau i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn gostwng y gyfradd achosion eto, a sicrhau y gallwn ddychwelyd i fywyd fel yr oedd.

 

Aeth yr Arweinydd ymlaen i ddweud ei bod yn siwr fod llawer o deuluoedd gyda phlant ifanc yn falch o weld y disgyblion ieuengaf yn dychwelyd i’r ysgol o heddiw ymlaen (22 Chwefror 2021). 

 

Ers mis Rhagfyr, bu’n anodd i athrawon a rhieni gefnogi eu plant gyda dysgu gartref, ac i’r ysgolion gefnogi plant gweithwyr allweddol a’r rhai bregus.

 

Yr oedd yn bwysig i ni barhau i gefnogi ysgolion y ddinas i ddychwelyd yn ddiogel, a helpu’r plant hynny a ddioddefodd oherwydd y cyfyngiadau i ddal i fyny a gwneud iawn am unrhyw anfantais dros y flwyddyn a aeth heibio.    

 

Effeithiwyd yn sylweddol ar yr economi yng Nghasnewydd a Chymru gan gyfyngiadau Covid. Bu’r flwyddyn ddiwethaf hon yn hynod anodd i siopau a masnachwyr ar y stryd fawr, busnesau bychain a chanolig, a’r sector lletygarwch / adloniant yn gweld llawer o bobl yn colli eu swyddi. 

 

Fel yr amlygwyd yn yr adroddiad hwn, bu’r Cyngor a’u partneriaid (Casnewydd Fyw) yn rhoi cefnogaeth i helpu’r sawl a gollodd eu swyddi i ail-hyfforddi, dod o hyd i waith newydd a dysgu sgiliau newydd.

 

Hefyd dros y misoedd diwethaf, yr ydym wedi lansio ymgynghoriad (gyda Chasnewydd Fyw a Choleg Gwent) ar  y datblygiad hamdden newydd a’r Coleg yng nghanol y ddinas; a derbyn £8.75 miliwn tuag at brosiect Trawsnewid y Bont Gludo gan Gronfa Treftadaeth y Loteri.  

 

 

Aeth yr adroddiad ymlaen i amlygu’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd, yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau, a llwyddiannau Cyngor Casnewydd.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Diolchodd y Cynghorydd Cockeram i reolwr gwasanaeth y rhaglen frechu a benodwyd i oruchwylio’r gwaith sy’n cael ei wneud yng Nghanolfan Casnewydd, oedd yn eithriadol.

 

Ychwanegodd y Cynghorydd Harvey y dylem gofio ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, a chofio’r bobl hynny yng Nghymru fu farw: pwynt y cyfnod clo oedd amddiffyn pobl rhag hyn. Diolchodd y Cynghorydd Harvey i’r trigolion am ddilyn y rheolau, yn ogystal â’r gofalwyr a gweithwyr ysbyty fu’n gweithio mor galed.

 

Soniodd y Cynghorydd Jeavons nad oedd staff Cyngor Dinas Casnewydd yn gallu osgoi Covid, a bod rhai aelodau staff hefyd yn hunan-ynysu. Crybwyllodd waith caled staff Gwasanaethau’r Ddinas, yn y tywydd oer yn ddiweddar, gyda’r graeanwyr allan yn dal i gynnal y ffyrdd yng Nghasnewydd.

 

Diolchodd y Cynghorydd Truman i’r swyddogion iechyd amgylchedd a safonau masnach dan ei bortffolio ef, am eu gwaith caled cyson.

 

Diolchodd y Cynghorydd Davies i’r staff am baratoi’r adroddiadau misol hyn, a gofyn i’r trigolion eu darllen, gan eu bod yn rhoi manylion am yr hyn oedd yn cael ei wneud. Yr oedd yr hanes yn yr adroddiadau misol hefyd yn gofnod hanofodol bwysig at y dyfodol. Anogodd y Cynghorydd Davies bobl o bob cymuned, gan gynnwys cymunedau BAME, i gymryd y brechiad.

 

Diolchodd y Cynghorydd Mayer i Wasanaethau’r Ddinas am eu gwaith caled, a’r  Gwasanaeth Gwastraff na roddodd y gorau iddi yn ystod y pandemig.  Bu’r Hybiau Cymdogaeth hefyd yn cefnogi trigolion, a diolchodd i bawb a ddarparodd y gwasanaethau hyn.

 

Diolchodd yr Arweinydd yn bersonol i’r Prif Weithredwr am yr adroddiad a gwahodd ei sylwadau. 

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Arweinydd ac ychwanegu fod y gwaith a wnaed yn ystod y pandemig yn deyrnged i’r Uwch-Dîm Arweiniol a’r staff ar draws y cyngor.  Ychwanegodd y Prif Weithredwr na fuasem lle’r ydym heddiw heb ymroddiad pob un o’r staff a ddangosodd y fath wytnwch emosiynol, yn enwedig gan staff hefyd yn agored i Covid.  Nid busnes fel arfer oedd hyn, a bydd yn rhaid i ni fyw gyda’r firws am amser maith. Diolchodd y Prif Weithredwr i’r Tîm Rheoli Corfforaethol, cydweithwyr mewn Cyllid, yn ogystal â’r rhai fu’n rhan o’r Prosiect Hamdden a’r Bont Gludo, gan ychwanegu ei diolch i Aelodau’r Cabinet a phob Pennaeth Gwasanaeth.

 

Penderfynwyd:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a’r risgiau y mae’r Cyngor yn dal i’w hwynebu.

 

 

Dogfennau ategol: