Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet. Mae’r Ddyletswydd Cymdeithasol-Economaidd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 yn mynnu bod cyrff cyhoeddus penodol, wrth wneud penderfyniadau strategol fel pennu blaenoriaethau a gosod amcanion, yn cadw mewn cof yr angen i leihau anghydraddoldebau deilliannau o ganlyniad i anfantais cymdeithasol-economaidd.
Yr oedd anghydraddoldebau deilliannau yn cael eu teimlo amlycaf mewn meysydd fel iechyd, addysg, gwaith, safonau byw, cyfiawnder a diogelwch personol, a chyfranogi.
Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy i gyflwyno’r adroddiad.
Yr oedd gan Lywodraeth Cymru y pwerau i weithredu’r rhan hon o’r Ddeddf, a bwriada wneud hynny ar 31 Mawrth 2021. Bwriad y ddyletswydd oedd ategu dyletswyddau statudol eraill, nid cymryd eu lle, fel , er enghraifft, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).
Nod cyffredinol y Ddyletswydd oedd cyflwyno gwell deilliannau i’r rhai oed dan anfantais gymdeithasol-economaidd trwy sicrhau bod y sawl oedd yn cymryd penderfyniadau strategol yn ymwneud â’r cymunedau perthnasol, yn croesawu herio a chraffu, ac yn sbarduno newid yn y ffordd mae penderfyniadau yn cael eu gwneud.
Yr oedd yr adroddiad i’r Cabinet yn cynnig camau yn y tymor byr a chanol i wreiddio’r Ddyletswydd yn effeithiol ar draws prosesau’r cyngor i wneud penderfyniadau. Yr oedd hyn yn cynnwys newid ein hasesiad effaith cydraddoldeb presennol, rhoi hyfforddiant i’r sawl sy’n cymryd penderfyniadau, ac ymgorffori mesurau priodol yn y fframweithiau sydd gennym i fonitro perfformiad.
Pwyntiau Allweddol
Yr oedd cysylltiadau agos rhwng y Ddyletswydd a’n Cynlluniau Strategol Cydraddoldeb a Lles, a’r cyfan yn anelu at leihau anghydraddoldeb i’n dinasyddion mwyaf bregus neu ddifreintiedig. Yr oedd hefyd yn cydnabod y tebygrwydd sy’n bodoli ar draws grwpiau sydd dan anfantais gymdeithasol-economaidd a phobl sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig; er enghraifft, gwyddom fod pobl BAME a phobl anabl hefyd yn fwy tebygol o ddioddef caledi ac anawsterau ariannol.
Yr ydym yn cydnabod effaith anfantais gymdeithasol-economaidd ar gyfloed a bywydau pobl o ran gwaith, iechyd a chyfranogi. Byddai’r Ddyletswydd yn sicrhau ein bod yn canoli ar y bobl hynny sy’n byw mewn tlodi yng Nghasnewydd, ac yn cymryd camau i leihau’r bwlch hwn, oedd yn bwysicach nag erioed, o gofio effaith COVID-19 ar ein cymunedau.
Yr oedd yr adroddiad yn amlygu pwysigrwydd gwreiddio’r Ddyletswydd yn ein prosesau i wneud penderfyniadau, osgoi tocenistiaeth, a sicrhau bod ein hymwneud â’r Ddyletswydd yn ystyrlon, gyda chanlyniadau cadarnhaol.
Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod a wnelo’r Ddyletswydd â phenderfyniadau strategol, a bod rheidrwydd ar y sawl sy’n gwneud penderfyniadau ar y lefel uchaf i gadw at hyn.
Anogwyd Aelodau’r Cabinet i ymgyfarwyddo â gofynion y Ddyletswydd a manteisio ar unrhyw hyfforddiant sydd yn cael ei gynnig.
Sylwadau Aelodau’r Cabinet:
Bu’r Cynghorydd Mayer yn trafod gyda’r Aelod Cabinet dros Ddatblygu Cynaliadwy am yr adroddiad a chytunodd fod Llywodraeth Cymru yn flaengar o ran cyflwyno’r Ddyletswydd, ac edrychai ymlaen at weld hyn ar waith er mwyn gwneud yn si?r fod popeth fyddai’n cael ei wneud yng Nghasnewydd yn effeithio’n well ar y rhai difreintiedig na’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd. Yr anhawster oedd gwreiddio hyn a deall nad rhywbeth ychwanegol oedd y Ddyletswydd ond y dylai fod yn ail natur i bawb.
Yr oedd y Cynghorydd Davies am ddiolch i’r swyddogion am eu gwaith caled a’u cefnogaeth i’r Cabinet er mwyn sicrhau y byddai’r Ddyletswydd Cymdeithasol-Economaidd yn cael ei gweithredu at y dyfodol.
Penderfynwyd:
Cymeradwyodd y Cabinet yr argymhellion yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: