Agenda item

Diweddariad Brexit

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cabinet.  Dyma’r diweddariad i’r Cabinet ers y berthynas fasnach newydd rhwng y DU-UE ers 31 Rhagfyr 2020. 

 

Y Diweddaraf am y Trafodaethau Masnach

·      Ers adroddiad diwethaf y Cabinet (8 Ionawr 2021) yr oedd y Deyrnas Unedig yn swyddogol wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Farchnad Sengl. 

·      Yr oedd gan y DU a’r UE yn awr gytundeb masnach oedd yn galluogi masnachu rhydd o dariffau rhwng y ddwy ardal.  Fodd bynnag, roedd yn rhaid i fusnesau’r DU a’r UE gydymffurfio â rheolau tollau newydd oedd yn mynnu bod mewnforwyr ac allforwyr yn llenwi dogfennau ychwanegol.

o    Yn genedlaethol, yr oedd llawer o fusnesau wedi sôn am yr anawsterau wrth gwrdd â’r gofynion hyn, ac ambell waith, na lwyddwyd i gyflenwi nwyddau naill ai i’r DU neu’r UE. 

·      Nawr ein bod mewn perthynas newydd, mae’n bwysig fod  Cymru, Casnewydd a’r rhanbarth yn gosod ei hun mewn sefyllfa fel y gall busnesau presennol ffynnu at y dyfodol; fod entrepreneuriaid newydd, cynhenid yn cael eu cefnogi, a’n bod yn gallu hyrwyddo buddsoddiad byd-eang newydd i’r ardal.

·      Addawodd Llywodraeth y DU y byddai rhanbarthau ledled y DU gan gynnwys Casnewydd a De Ddwyrain Cymru yn derbyn buddsoddiad trwy fframweithiau newydd megis y Gronfa Ffyniant Gyffredin a’r drefn gymhorthdal arfaethedig. 

·      Fel gyda llawer tref a dinas yng Nghymru, yr oedd y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn lledu, a daeth hyn yn fwyfwy amlwg yn ystod y pandemig. 

o  Gydag unrhyw arian ychwanegol mae Cymru’n dderbyn trwy’r fframweithiau newydd, rhaid i ni sicrhau bod Casnewydd yn gallu defnyddio’r buddsoddiad hwn i alluogi cymunedau nid yn unig i ‘godi’r gwastad’ ond i sicrhau eu bod yn dod yn dod yn fwy gwydn a ffynnu yn y tymor hir.           

 

·      Daeth rheolau mewnfudo newydd i rym ar 1 Ionawr a roes ddiwedd ar symud rhydd rhwng y DU ac Ewrop. 

·      Bu Casnewydd erioed yn ddinas gynhwysol a bydd yn parhau i fod felly, lle mae croeso i bobl o bob cenedl fyw, gweithio a bod yn rhan o’n cymunedau sy’n cyfrannu at dwf cynaliadwy’r ddinas.

·      I ddinasyddion yr UE, eu teuluoedd a chyfeillion sydd eisoes yn byw yng Nghasnewydd, yr oedd yn bwysig ymgeisio am Statws Sefydledig yr UE cyn y terfyn amser, 30 Mehefin. 

o    Mae gan wefannau’r Cyngor a Llywodraeth Cymru yr holl wybodaeth angenrheidiol i helpu pobl i ymgeisio.

·      Yr oedd yn dda hefyd gweld sut y bu’r Cyngor a’i bartneriaid dros y pedair blynedd ddiwethaf yn gweithio gyda chymunedau’r UE i gefnogi’r mwyaf bregus a gofalu fod pobl yn gallu ymgeisio. 

·      Fel y dangosodd yr adroddiad, yr oedd llawer o ddinasyddion yr UE yn wynebu rhwystrau ac ansicrwydd am eu hawliau, a phroblemau gelyniaeth. Fel cynrychiolwyr wardiau Casnewydd, yr oedd yn bwysig i ni gefnogi ein cymunedau, a bydd swyddogion y Cyngor a phartneriaid yn codi unrhyw faterion neu bryderon.

·      Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at y ffaith y bydd y DU yn galluogi dinasyddion Hong Kong i wneud cais am fisas i fyw, gweithio ac astudio yn y DU.  Gan fod Casnewydd yn ddinas amlddiwylliannol, y disgwyl oedd y buasem yn croesawu dinasyddion Hong Kong i’r ddinas.

o    Yr oedd y Cyngor, ynghyd â’i bartneriaid amlasiantaethol mewn Tai ac Addysg eisoes yn ystyried pa gefnogaeth, adnoddau a gofynion fyddai eu hangen i helpu pobl i ymgartrefu yn ein cymunedau. 

       

Cyfoesiad ar Gynnydd fel yr amlinellwyd yn yr Adroddiad

·      Yn neufis cyntaf y trefniant newydd ni chrybwyllodd gwasanaethau Cyngor Casnewydd unrhyw broblemau a/neu bryderon cychwynnol o ran cyflenwi nwyddau a gwasanaethau.

·      Fodd bynnag, fe wnaeth prisiau rhai nwyddau a gwasanaethau gynyddu, a byddai timau Caffael/Cyllid y Cyngor yn monitro’r effaith ar gyllidebau’r flwyddyn hon a’r flwyddyn nesaf.

·      Nododd Cyngor Casnewydd un cynllun yn unig (Ysbrydoli i Lwyddo) oedd yn derbyn ei gyllid yn uniongyrchol o’r UE a byddai hwnnw’n cau yn naturiol ym mis Rhagfyr 2023. Wedi’r dyddiad hwn, byddai’r Cyngor yn cefnogi Llywodraeth Cymru gydag unrhyw fentrau newydd fyddai’n helpu pobl i fynd at yr hyfforddiant, cefnogaeth a’r gwaith yr oedd rhaglen Ysbrydoli i Lwyddo eisoes yn gynnig.    

·      Y mae tîm Cyfathrebu’r Cyngor yn dal i hyrwyddo cynllun Statws Sefydledig yr UE i drigolion ar y cyfryngau cymdeithasol (Facebook a Twitter) a gwefan y Cyngor ei hun. 

·      Yr oedd Gwasanaethau Rheoleiddio’r Cyngor yn cefnogi busnesau yng Nghasnewydd i gydymffurfio a gofynion newydd a sicrhau bod holl wiriadau Tystysgrif Iechyd yr UE yn cael eu cwblhau.  

·      Yn ychwanegol at y gwaith Cydlynu Cymunedol a amlygwyd yn gynharach, yr oedd y tîm yn parhau i gynnig cefnogaeth i bobl fregus a chymunedau nad oedd yn gallu cyrchu arian cyhoeddus. Byddai’r Cyngor hefyd yn cynnig grantiau bychan i fanciau bwyd/ sefydliadau y cafodd Covid a Brexit effaith arnynt.  

·      Mae’r tabl yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion llawn am yr holl feysydd sy’n dod dan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Penderfynwyd:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi paratoadau Brexit y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: