Agenda item

Pill PSPO - 2021-2024 (Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus)

Cofnodion:

Gwahoddwyd:

 

This document is available in English / Mae'r ffurflen hon ar gael yn Saesneg

Gareth Price Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio

Rhys Thomas Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio

Sergeant Mervyn Priest Heddlu Gwent

Claire Drayton Rheolwr Gwarchod Cymunedol

Cyng. Ibrahim Hayat Cynghorydd Ward Pilgwenlli - Cyngor Dinas Casnewydd

 

Cyhoeddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad am y GGMC. Daethai’r GGMC blaenorol oedd mewn grym ym Mhilgwenlli i ben yng nghanol 2020, ac oherwydd bod hyn yn ystod y pandemig, hwn yw’r cyfle cyntaf i ddod â chynnig newydd gerbron.  

Mae swyddogion gwarchod cymunedol wedi bod yn gweithio ar y GGMC mewn partneriaeth â’r heddlu. Y nod yw adnabod cyfyngiadau blaenorol, ystyried a fuont yn effeithiol ai peidio ac a oes angen eu newid, ac ystyried a oes angen unrhyw gamau rheoli pellach. Bydd y GGMC hwn a gynigir am 2021 yn gweld cynnydd mewn cyfyngiadau yn y GGMC, cynyddu gallu gorfodi rhwng wardeniaid diogelwch cymunedol a Heddlu Gwent. Nod y GGMC yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol lefel isel ac ymateb i broblemau, a gallu rhoi rhybudd cosb benodol os bydd angen. 

 

Gofynniri’r Pwyllgor ystyried y GGMC, a oes angen ei roi ar waith eto, ac amodau’r GGMC. Mae angen i’r pwyllgor ystyried a ydynt yn fodlon ai peidio gyda’r broses ymgynghori cyhoeddus. Soniwyd fel pwynt esboniadol mai drafft yw hwn sy’n mynd ymlaen i ymgynghori arno.

Yroedd y Sarsiant Priest yn adleisio sylwadau Mr Rhys Thomas, gan gytuno â’r hyn a gyflwynwyd. Dywedodd y Sarsiant Priest y byddai’n croesawu unrhyw gwestiynau wrth i’r ymgynghoriad fynd rhagddo.

Dywedodd y Cynghorydd Ibrahim Hayat, sy’n cynrychioli Ward Pilgwenlli, y bu’r GGMC yn effeithiol o ran gwneud Pilgwenlli yn lle gwell i fyw ynddo. Mae’n bwysig gwneud yr ardal yn lle mwy dymunol. Fel cyngor, fe ddylem fod yn annog busnesau lleol i fuddsoddi yn yr ardal (h.y., Stryd Masnachol). Mae buddsoddiad wedi ail-gychwyn ers y GGMC. Mae angen sicrhau bod y GGMC hwn yn cael ei ymestyn a’i ail-sefydlu, gan roi i bobl yr hyder i fyw a buddsoddi yn ward Pilgwenlli. 

 

Gofynnodd yr Aelodau y cwestiynau canlynol a’u trafod:

 

       Dywedoddaelod ei fod yn llawn gefnogi cynghorwyr Pilgwenlli sydd eisiau adfer y GGMC. Dywedwyd ei bod yn bwysig cydnabod y pwysau arbennig sy’n bodoli yn ward Pilgwenlli. Mae’r adroddiad yn sôn mai bychan iawn oedd sancsiynau blaenorol (tudalen 22), ac mai ychydig o ddirwyon a roddwyd, yn enwedig mewn achosion o’r rhai sy’n cam-fanteisio’n rhywiol. Pam parhau i gynnwys y dirwyon os na fu llawer ohonynt yn y gorffennol? 

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, yn ychwanegol at yr heddlu, fod wardeniaid diogelwch cymunedol hefyd wedi defnyddio pwerau GGMC. Defnyddiodd yr heddlu a’r wardeniaid diogelwch cymunedol y mesurau gorfodi hyn. Dywedodd y Sarsiant Priest nad cyhoeddi RhCB yw’r unig waith fyddai’n cael ei wneud gyda menywod sy’n cael eu hecsploetio yn rhywiol, ac nad hwy yw targed y GGMC hwn. 

 

 

       Gofynnodd aelod sut maeychydigyn yr adroddiad hwn yn cael ei ddiffinio? 

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y rhoddwyd 8 GGMC a 10 RhCB gan swyddogion y cyngor, a hefyd bod RhCB heb fod yn ymwneud â GGMC wedi eu rhoi, yn gysylltiedig yn bennaf â gollwng sbwriel. 

 

       Gofynnoddaelod faint o les fyddai’r p?er i gyhoeddi RhCB? Ac a yw hyn yn werth chweil o ystyried pa mor debygol y bydd yr heddlu i gyhoeddi’r RhCB hyn? 

 

Atebodd y Sarsiant Priest fod llawer o gefnogaeth gyfun ar gael i’r unigolion hyn (gweithwyr rhyw a phobl fregus eraill yn y gymuned), a bod cydnabyddiaeth fod hyn yn gysylltiedig â phroblemau eraill fel cyffuriau a mathau eraill o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Erfyn yw’r RhCB hyn y gellir eu defnyddio gan y swyddogion, ond nid y nod yw cyhoeddi gormod o RhCB.  

       Cododdaelodau fater ynghylch y cynigion yn y GGMC sy’n gysylltiedig â chardota. A fydd y GGMC yn rhoi mwy o fanylion am safleoedd penodol lle na fydd hyn yn cael ei ganiatáu, er enghraifft, ger peiriannau arian neu yn nrysau siopau? 

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gall y cyfyngiad presennol fod yn gymwys yn unman yn ardal Pilgwenlli, nid rhai ardaloedd penodol yn unig. Nid oes tystiolaeth i awgrymu fod angen y mesurau penodol hyn. Nid yw’n cael ei neilltuo i un man yn benodol (e.e., o flaen siop) fel y gall swyddogion ddehongli hyn fel y teimlant yr angen, a lle bo rhaid, rhoi’r rhyddid i swyddogion i symud pobl ymlaen.

 

       Gofynnodd aelod pryd y gorfodir y gorchymyn hwn? 

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio, os cytunir i hyn fyd allan i ymgynghori arno yn y cyfarfod hwn, y dygir y drafft terfynol yn ôl i’r Pwyllgor i gytuno arno ym mis Ebrill. Aiff wedyn i gyfarfod nesaf y Cyngor i gytuno i’w roi ar waith.

 

       Dywedodd aelod y bu 12 mis bellach heb GGMC ym Mhilgwenlli. Gofynnwyd beth oedd effaith hyn, ac a fu unrhyw ddigwyddiadau andwyol am na fu ar waith? 

 

Atebodd y Sarsiant Priest nad mater o bwerau’r heddlu yn unig yw hyn, ond hefyd i bartneriaid (e.e. wardeniaid diogelwch cymunedol) a sut y maent yn ymwneud â’r gymuned. Gofynnodd yr aelod a yw llwyddiant y GGMC hwn yn dibynnu ar faint o adnoddau mae’r cyngor yn barod i’w neilltuo i’r maes hwn. Atebodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio  y deellir fod y cais am GGMC yn dod o du’r heddlu yn fwy na swyddogion y cyngor. 

 

Aeth yr aelod ymlaen wedyn i ddweud, o safbwynt yr heddlu, na ddefnyddiwyd lalwer ar y pwerau hyn, felly a oes eu hangen? Ymatebodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio trwy ddweud, o safbwynt CDC, fod y GGMC hwn yn ymwneud llawer mwy ag atal a rhwystro, nid o ran nifer y RhCB a gyflwynir, ond am wella a rheoli ymddygiad. Nid trwy gyfrif nifer y RhCB a gyhoeddir y mae mesur llwyddiant. Cytunodd aelod â’r pwynt hwn, gan ddweud y dylid defnyddio’r GGMC hwn fel erfyn ataliol yn hytrach na chyda’r nod o gyhoeddi mwy o RhCB. 

 

       Bu cyfnod heb y GGMC; beth ddigwyddodd o ganlyniad? A fydd y GGMC hwn yn caniatáu i’r swyddogion wneud eu gwaith yn fwy effeithiol? 

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio mai pwrpas y GGMC hwn yw cael y dulliau i drin ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cytunodd aelod ei bod yn bwysig pwysleisio mai un ffordd arall yw hon o orfodi’r drefn gyhoeddus a gwella ymddygiad yn yr ardal. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio nad gorfodi yn unig yw’r ateb delfrydol.

 

       Dywedoddaelod fod nifer o elusennau wedi dod i gysylltiad ag ef am y GGMC hwn. Lleisiwyd pryderon ynghylch ag a yw GGMC yn gweithio mewn gwirionedd. Gwnaed y sylw wedyn fod mudiadau fel Amnest Rhyngwladol yn gwrthwynebu cyfyngiadau fel y rhai sydd yn y GGMC, a’u bod yn hytrach o blaid dadgriminaleiddio gwaith rhyw. Mae hyn yn rhannol oherwydd pryderon eu bod yn gwthio’r broblem ‘dan ddaear’, lle nad oes modd ei drin. Rhaid canolbwyntio ar helpu’r unigolion sy’n dioddef cam-fanteisio rhywiol, yn hytrach na chreu’r posibilrwydd o’u troi’n droseddwyr. Mae cam-fanteisio a masnachu mewn pobl yn wir yn digwydd oddi ar y strydoedd.

Mae geiriad y GGMC yn awgrymu y bydd yn caniatáu i swyddogion dargedu rhywun sydd ar y stryd yn cynnig gwasanaethau rhyw. Awgryma’r aelod ein bod yn ymgynghori â grwpiau arbenigol sy’n deall llawer am y materion hyn. Mae New Pathways yn awyddus i roi eu barn am y ddeddfwriaeth hon. Ceisiodd yr Aelod sicrwydd hefyd y byddwn yn holi barn y Wallich, New Pathways, a grwpiau estyn-allan lleol eraill ar y pwynt hwn yn y GGMC, a’n bod yn cael eglurder hefyd ynghylch a fydd rhywrai sy’n loetran yn cael eu targedu.

Atebodd Claire Drayton yn gofyn am sicrwydd na fydd y GGMC yn targedu menywod sy’n cael eu hecsploetio yn rhywiol. Mae angen targedu’r sawl sy’n chwilio am y gwasanaethau hyn. Gofynnodd yr aelod a fyddai’r swyddogion yn cydnabod fod angen edrych ar y geiriad. Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio nad yw’r GGMC hwn yn targedu gweithwyr rhyw. Nododd yr aelod y defnydd o’r gair ‘ecsploetioyn y GGMC hwn, gan ddweud ei bod yn bwysig ystyried y diffiniad o ecsploetio neu gam-fanteisio, gan y gall hyn fod yn fater dadleuol. Holodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr aelod a oes grwpiau y dylid ymgynghori â hwy nas crybwyllir yn y gwaith papur, ac os felly, gellir ymgynghori â hwy. Cytunodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gallwn adolygu’r geiriad

llithio a loetranyng nghyswllt cam-fanteisio rhywiol

 

       Gofynnoddaelod am sicrwydd fod yr hyn a wnawn yn seiliedig ar dystiolaeth. Bu’r GGMC hwn a gorchmynion tebyg mewn bodolaeth ers tair blynedd yng nghanol y ddinas, ac y mae’n well synied amdanynt fel mesurau ataliol. Awgryma’r dystiolaeth y bu’r mesurau’n effeithiol am na welwyd ymddygiad bygythiol fel hyn yng nghanol y ddinas ers cyflwyno’r GGMC. A oes gennym dystiolaeth fod pobl wedi eu dadgriminaleiddio? A oes gennym dystiolaeth fod gweithwyr rhyw wedi eu trin yn annheg? Mae Cynghorwyr eisiau rhoi terfyn ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac eisiau i’r heddlu gael pwerau i atal sefyllfaoedd rhag datblygu. O ran atodiad 4, mae angen ymgynghori a charfan mor eang ag sydd modd o’r gymuned. 

Dywedoddaelod ei fod am fod yn glir nad yw’r GGMC hwn yn dadgriminaleiddio’r ymddygiad hwn, ond ein bod eisiau gwneud yn si?r fod pobl fregus yn cael eu hamddiffyn. 

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio am ymgynghori, gan esbonio fod grwpiau llywio cymunedol ar hyn o bryd wedi eu cynnwys. Bydd yn hapus i gynnwys grwpiau ychwanegol yn yr ymgynghori. Atebodd yr aelod gan ddweud bod llawer o arian wedi ei fuddsoddi i wneud Pilgwenlli yn lle dymunol i fyw a gweithio ynddo. Bydd yn bwysig felly cynnwys busnesau yn yr ymgynghoriad, gan eu bod wedi buddsoddi yn yr ardal. 

 

       Dywedoddaelod fod canol y ddinas ar hyn o bryd yn dawel iawn, a holodd ai’r cyfan a wnaethom yw symud y broblem ymaith o’r canol ac i Bilgwenlli? Codwyd pryder hefyd am bobl sydd yn chwilio am wasanaethau rhywiol - a yw’r RhCB hwn yn gadael iddynt ddianc heb fawr ddim cosb? 

 

Atebodd y Sarsiant Priest fod cosbau’n bodoli ar hyn o bryd i bobl sy’n cael eu dal yn llithio am wasanaethau rhywiol yn yr ardal hon.  Dywedodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio na ddylid edrych ar gosb benodol fel dewis hawdd - mesur ataliol ydyw, sy’n rhoi pwerau ychwanegol i’r heddlu yn gynharach i atal pobl rhag dod i’r ardal

 

       Dychwelodd yr aelodau at bwnc nifer y dirwyon a gyhoeddwyd. Rhoddwyd cyfanswm o 211 dirwy dros 3 blynedd. Y mae hyn yn ddefnydd rhesymol, a heb fod yn ormodol. Mae Cynghorwyr Ward Pilgwenlli  yn byw ac yn gweithio yn yr ardal hon, ac wedi eu hethol at y diben hwnnw. Mae’n bwysig felly talu sylw i’r hyn a ddywed cynghorwyr o’r ardal hon. Cytunodd yr aelodau fod nifer o broblemau yn ardal Pilgwenlli a bod angen i ni gydnabod fod pobl yn byw ac yn gweithio ym Mhilgwenlli. Mae rhai o’r problemau ym Mhilgwenlli yn annerbyniol i’r trigolion sy’n byw yno. Mae angen i ni wrando ar farn y cyhoedd yno. 

 

       Holodd yr Aelodau beth oedd yr ymateb yr ymgynghoriad â’r cyhoedd y tro cyntaf i hyn ddigwydd? 

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod dulliau blaenorol o ymgynghori wedi cael ymateb is am nad oedd cymaint o bobl o gwmpas yn y gymuned. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio hefyd ei bod yn werth nodi mai cynnig ar gyfer Pilgwenlli yw hwn, ac felly ei bod yn hanfodol dwyn y trigolion lleol i mewn. 

 

       Cyfeiriodd Aelodau at yr holiadur ar dudalen 20 yr adroddiad. O ran y cwestiwn ynghylch o le mae pobl yn dod, rhaid cael mwy o fanylion ynghylch a yw pobl o Gasnewydd neu beidio, ai unigolion neu rywrai sy’n cynrychioli busnes neu elusen ydynt. Dylid rhoi’r pwysau dyladwy ar eu barn.

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddog am fynychu.

Casgliadau a sylwadau

 

       Cytunodd y Pwyllgor fod angen i gwestiwn 1 ar y ffurflen ymgynghori (Tudalen 30) roi mwy o fanylion am bwy oedd yn llenwi’r ffurflen, a oeddent yn byw yng Nghasnewydd neu y tu allan, ac a oeddent yn ymateb fel unigolyn neu ar ran mudiad. Os yn ymateb ar ran mudiad, dylid rhoi manylion am y gr?p er mwyn bod yn sicr beth yw ffynhonnell y wybodaeth. 

 

       Yn ogystal â’r dulliau a awgrymwyd yn yr adroddiad, yr oedd yr Aelodau yn gobeithio y byddai’r ymgynghoriad yn cyrraedd grwpiau arbenigol, megis New Pathways, Tîm Helpu Gofalu (THG) a Pride ym Mhilgwenlli.  

 

       Codwydpryder am eiriad Gwaharddiad 9 - “Ni ddylai neb fynd i’r ardal, ymwneud, loetran na llithio ar y strydoedd er mwyn ecsploetio rhywiol yn yr Ardal Gyfyngedig”, yn benodol, y gair “ecsploetio”. Holwyd a fyddai modd gwirio’r diffiniad o “ecsploetioyng nghyswllt materion o’r fath o ran cydsynio, ac o bosib edrych ar ddiffiniad Gwasanaeth Erlyn y Goron o’r gair. Awgrymodd Aelod hefyd y dylid tynnu’r geiriauloetran” a “llithioallan o’r geiriad. 

 

       Gofynnodd y Pwyllgor, unwaith i’r ymgynghori cyhoeddus orffen, i’r canlyniadau a’r adroddiad terfynol gael eu dwyn yn ôl i’r Pwyllgor ar 30 Ebrill 2021 i’w trafod ymhellach. 

 

Dogfennau ategol: