Agenda item

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid - Adroddiad Covid 19

Cofnodion:

Yn bresennol:

               Sally Jenkins - Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc

Caroline Ryan Phillips - Rheolwr Gwasanaeth Cymorth Integredig i Deuluoedd 

 

 

 

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc yr adroddiad ar y

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a sut yr oedd wedi bod yn gweithredu yn ystod cyfnod y pandemig. Roedd yr Adroddiad ar y Cynllun Adfer yn manylu ar y dull gweithredu a fabwysiadwyd gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ers dechrau'r pandemig, gan gynnwys gwybodaeth am sut yr oedd holl feysydd allweddol y gwasanaeth wedi parhau i gael eu darparu drwy gydol y pandemig. Bu'n flwyddyn anodd a heriol ac roedd y staff wedi mynd i drafferth fawr i ddarparu dilyniant a hefyd i ddatblygu'r gwasanaeth a symud pethau ymlaen. 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol: 

Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg / This document is available in English.

 

       Pa gamau a gymerwyd ym maes cyfiawnder adferol?

 

Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaeth Plant a Phobl Ifanc nad oedd llawer o'r gweithgareddau a ddilynwyd flwyddyn yn ôl wedi gallu parhau yn ystod y pandemig yn anffodus. Fodd bynnag, ni ddefnyddiodd Cyngor Dinas Casnewydd yr hen ddulliau o gosbi, fel casglu sbwriel. Roedd unrhyw weithgaredd yn ystyrlon ac roedd elfen addysgol iddo. Rhoddwyd enghraifft o berson ifanc a gollfarnwyd am achos o losgi bwriadol ac fel rhan o’i gwaith unioni, defnyddiodd ei sgiliau celf i greu poster yn amlygu'r peryglon. Y syniad oedd addysgu'r troseddwyr ifanc fel eu bod yn dysgu o'u cyfnod yn y gwasanaeth cyfiawnder adferol.

 

 

       Dywedodd aelod fod yr adroddiad yn amlygu sut yr oedd yr addasiadau a wnaed yn ystod y pandemig i'w gweld yn gweithio mor effeithiol fel eu bod yn bwriadu parhau ar ôl y pandemig. Holodd hefyd beth oedd yr effaith negyddol o ran bod y gwahanol bartneriaid yn defnyddio gwahanol systemau TG.

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Cymorth Integredig i Deuluoedd y bu problemau i ddechrau oherwydd y defnydd o wahanol systemau TG ond eu bod wedi'u datrys i ryw raddau. Rydym bellach yn gallu defnyddio’r platfform rhithiol sy’n cael ei ddefnyddio gan yr Heddlu. Yn ddelfrydol byddem i gyd ar systemau cydnaws ond roeddem wedi llwyddo i oresgyn y rhan fwyaf o rwystrau’n amserol. Roeddem i gyd wedi elwa o gyfarfodydd rhithwir. Erbyn hyn, roedd mwy o bresenoldeb yng nghyfarfodydd rhithwir gorchmynion ôl-lys nag o'r blaen ac wrth symud ymlaen byddem yn parhau i gynnal cyfarfodydd rhithwir o ryw fath. Roedd yn amlwg mai cyfarfodydd cyfunol fyddai'r ffordd ymlaen yn y dyfodol.

 

 

       Gofynnodd aelod pam nad oeddem wedi croesawu cyswllt wyneb yn wyneb â phobl ifanc a'u teuluoedd eto. Mynegodd bryder ei bod yn anodd asesu deinameg teuluol yn llawn gan ddefnyddio dulliau ymgysylltu rhithwir yn unig ac y gallai fod materion diogelu.

 

Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc ein bod wedi parhau i gynnal ymweliadau wyneb yn wyneb yn ystod y pandemig. Roedd yr holl ymweliadau wedi'u cynllunio ymlaen llaw gan gynnal asesiad risg ymlaen llaw i sicrhau bod gan y staff y cyfarpar diogelu personol angenrheidiol a'u bod yn gallu rheoli unrhyw risgiau dan sylw. Roeddem yn yr un sefyllfa ag awdurdodau cyfagos ac yn defnyddio dull cyffredin ac yn parhau i gynnal ymweliadau wyneb yn wyneb pan oedd yn ddiogel gwneud hynny. Roedd yn rhaid i ni fod yn ofalus i weithio yn unol â’r gyfraith tra roedd cyfyngiadau ar waith.  

 

       Gofynnodd yr Aelodau beth oedd manteision symud y tîm i'r Ganolfan Ddinesig 

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Cymorth Integredig i Deuluoedd fod y tîm wedi’i symud ar ddechrau’r pandemig, yn unol â’r hyn a drefnwyd ymlaen llaw. Roedd gwir werth mewn cael staff o wahanol feysydd o'r Gwasanaethau i Blant yn agos at ei gilydd yn yr un adeilad. Roedd y cyfathrebu wedi gwella'n fawr.

 

       Holodd aelod am y sefyllfa bresennol o ran gweithio mewn Partneriaeth a sut yr effeithiodd hyn ar y canlyniadau i bobl ifanc.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod gweithio mewn partneriaeth yn gadarnhaol iawn. Roeddem yn wasanaeth amlasiantaethol ac yn weithredol roedd ein gwaith a'n cydweithrediad â'r Heddlu yn arbennig wedi gwella. Ar ôl i’r Llysoedd gau i gychwyn, gwnaethom sicrhau na fyddai oedolion ifanc yn llithro drwy'r rhwyd ac yn cael eu rhoi ar brawf fel oedolion. Gwnaethom sicrhau na fyddai unrhyw blentyn yn mynd ar goll yn y system.

Gwnaethom gynnal cysylltiadau da â'n timau amddiffyn plant i ddod â phopeth ynghyd gan rannu gwybodaeth rhyngom i sicrhau'r canlyniadau gorau. Y nod oedd nodi materion cyn gynted â phosibl ac ymyrryd cyn cyrraedd y pwynt arestio a chyhuddo. Roedd dros hanner ein llwyth achosion presennol ar y lefel ataliol.

 

       Gofynnodd yr aelod gwestiwn dilynol am yr heriau wrth symud ymlaen.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc fod cryn bryder, fel gyda phob gwasanaeth, o’r effeithiau ar blant a'u hiechyd meddwl ar ôl Covid. O blant ifanc iawn i bobl ifanc yn eu harddegau, effeithiwyd ar bob un ohonynt drwy darfu ar eu dysgu a'u profiadau bywyd. Yr heriau wrth symud ymlaen fyddai dysgu sut i fynd i'r afael â hyn yn y dyfodol. Roeddem wedi dechrau meddwl am hyn ac wedi dechrau cyfarfod â'n hasiantaethau partner i feddwl am sut yr oeddem yn mynd i drwsio hyn. Roedd materion i'w hystyried hefyd yngl?n â'n gweithlu sydd hefyd wedi gorfod delio â'r heriau hyn eu hunain. Er bod gennym gamau ar waith i gefnogi staff, byddai'n dal yn broblem ac yn peri anhawster ar ôl yr adferiad.

 

 

       Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod y Llysoedd Ieuenctid yng Nghasnewydd a Chwmbrân ill dau ar agor ar hyn o bryd.

 

 

       Gofynnodd yr Aelodau a fu cynnydd yn y niferoedd yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a pha effaith a gafodd hyn ar staff y Gwasanaeth.

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaeth - Cymorth Integredig i Deuluoedd fod y niferoedd wedi cynyddu'n araf ond roedd hynny oherwydd bod y gwasanaeth yn ymgysylltu ac yn cydweithio ac roedd y rhain bellach yn achosion ataliol a nodwyd yn llawer cynharach yn y broses. Roedd hwn yn ddangosydd da ein bod wedi llwyddo i geisio atal pobl ifanc rhag cyrraedd y system cyfiawnder ieuenctid.  Y gyfradd aildroseddu ar ôl bod drwy’r llys oedd 25% er bod y nifer y mae’r gyfradd hon yn ei chynrychioli’n fach iawn, dim ond 2 achos.  Roedd goruchwylwyr ar gael i'r holl staff am gyngor a chymorth ac roedd llwybrau lles Corfforaethol hefyd fel Care First ac ati.  Roedd staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi'n fwy gan eu bod yn gallu gweld bod eu rôl yn fwy effeithiol wrth helpu plant ac roedd mesurau ataliol yn rhoi gwell canlyniadau i blant. Roedd morâl yn ymddangos yn weddol uchel gan fod y staff yn teimlo’n angerddol ac wedi’u hymgysylltu.

 

       Gofynnodd Aelod a oeddem yn rhagweld cynnydd mawr yn nifer yr achosion llys oherwydd ôl-groniad ac a fyddai angen mwy o staff arnom i ddelio â'r rhain.

 

Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc nad oedd yn rhagweld cynnydd mewn achosion llys gan y byddai'r mesurau ataliol yr oedd y Gwasanaeth yn eu cyflwyno yn gwrthbwyso'r angen am achosion llys. 

 

Diolchodd y Cadeirydd i Bennaeth y Gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc a'r Rheolwr Gwasanaeth - Cymorth Integredig i Deuluoedd am ddod i'r cyfarfod a gofynnodd i ddiolch i'w staff am eu gwaith yn ystod y pandemig ar ran y Pwyllgor.

The Chair thanked the Head of Children and Young Peoples Services and the Service Manager- Integrated Family Support for their attendance and the meeting and asked that the thanks of the Committee be conveyed to their staff for their work during the pandemic.

 

Dogfennau ategol: