Agenda item

Papur Gwyn LlC ac Ymgynghoriad - Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i Aelodau’r Cabinet. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Bapur Gwyn ar Ail-gydbwyso Gofal a Chymorthac yr oedd yn ymgynghori ar gynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau gweithio mewn partneriaeth er mwyn cyrraedd y weledigaeth a osodir allan yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014. 

 

Fel aelod o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent, yr oedd yn bwysig i’r Cyngor gyfrannu at yr ymgynghoriad fyddai’n helpu i lunio a datblygu’r trefniadau partneriaeth yn y dyfodol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Bu cryn gynnydd wrth gyflwyno gwasanaethau gofal cymdeithasol (Oedolion a Phlant) dros y ddeng mlynedd ddiwethaf, gan drawsnewid cyflwyno gofal cymdeithasol trwy Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 a Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.  Yr oedd y naill Ddeddf a’r llall wedi eu hasio a’u llunio gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 oedd yn anelu at y nod llesCymru Iachach’ a chael system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gweithio i bawb. 

 

Yr oedd pedwar o gynigion penodol yn y papur ymgynghori, sef:

 

1.   Datblygufframwaith comisiynu cenedlaethol fyddai’n safoni prosesau comisiynu gwasanaethau gofal gan gynnwys dull o bennu’r ffioedd a delir i ddarparwyr gofal yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol.

2.   Sefydlu swyddfa gomisiynu gofal genedlaethol naill ai yn Llywodraeth Cymru neu trwy sefydlu corff bychan hyd-braich.

3.   Cyflwyno Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol a Gwaith Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru i fod yn llais cenedlaethol, proffesiynol i Weithwyr Gofal Cymdeithasol a Gweithwyr Cymdeithasol.

4.   SefydluByrddau Partneriaeth Rhanbarthol fel endidau corfforaethol cyfreithiol a chyfoethogi eu swyddogaethau fel bod PBRh yn gallu cyflogi staff yn uniongyrchol; sicrhau atebolrwydd tryloyw o ran cyllidebau sy’n cael eu cronni a chyd-gomisiynu gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd; dal cyllidebau integredig; comisiynu iechyd a gofal yn uniongyrchol trwy gytundeb â phartneriaid lleol; sefydlu fframwaith monitro cynllunio a pherfformiad ym mhob BPRh; a bod gofyniad i adrodd i Weinidogion Cymru ar gynnydd cyflwyno ar y cyd yn erbyn eu blaenoriaethau integredig.

 

Yr oedd yr ymgynghoriad a osodwyd allan gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ceisio barn am y cynigion i gyflwyno deddfwriaeth newydd i wella trefniadau gofal cymdeithasol a chryfhau  gweithio mewn partneriaeth. Yr oedd y Dirprwy Weinidog yn ceisio barn fyddai’n cael ei ystyried wrth ddatblygu unrhyw ddeddfwriaeth newydd, a rhaid oedd cyflwyno ymatebion erbyn 6 Ebrill 2021 fan bellaf. Yr oedd 12 cwestiwn yn yr ymgynghoriad yn ymdrin â phob agwedd o’r cynigion. Amlinellir ymateb arfaethedig y Cyngor i’r cwestiynau yn Atodiad 1. 

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Cyfarwyddwr CorfforaetholPobl/Pennaeth Gwasanaethau oedolion a Chymunedol i ddweud gair.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod y papur yn gam sylweddol ymlaen i gyflwyno uchelgeisiau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.  Y llinyn arian oedd yn rhedeg trwy hyn oedd mwy o integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol.  Yr oedd trafodaethau gyda chydweithwyr yn LlC hefyd yn dangos hyn, a hefyd eu bod eisiau clywed barn y cyhoedd. Yr oedd yn bwysig, serch hynny, deall sut yr oedd yn ffurfio’r berthynas yn y dyfodol rhwng yr awdurdodau lleol a’r bwrdd partneriaeth rhanbarthol a chyda LlC ei hun. Yr oedd yn gryn gam yn y cyfeiriad hwnnw, ac yn bwysig ein bod yn cyfrannu at yr ymgynghoriad, gan mai dyma’r ail faes cyllideb mwyaf i awdurdodau lleol, ac y byddai’n cael cryn effaith ar drefniadau gofal cymdeithasol yn y dyfodol.

  

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

Cododd y Cynghorydd Cockeram rai materion am yr ymgynghoriad. Cyfarfu’r gr?p polisi gwasanaethau cymdeithasol gyda’r Gweinidog, ac yr oeddent yn teimlo’n bositif am y syniad o fframwaith, a’r pot cyllido. Fodd bynnag, yr oedd yr Aelod Cabinet yn siomedig â’r Papur Gwyn. Yr oedd teimladau cymysg am hyn, ac yr oedd cadeiryddion y byrddau partneriaeth rhanbarthol hefyd yn siomedig, am eu bod yn gwneud yn arbennig o dda gyda’r ffyrdd newydd o weithio. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn pryderu am yr effaith ar gynaliadwyedd petai’r cyllid yn lleihau. Yr oedd y papur yn un helaeth iawn, ac yr oedd llawer o bwysau ar LlC.  Cafwyd cynnydd yn y boblogaeth h?n, a chynnydd hefyd mewn dementia, a byddai angen mynd i’r afael â’r materion hyn. Holodd yr Aelod Cabinet lle’r oedd y gwasanaethau cymdeithasol yn ffitio i mewn i hyn, a beth fyddai cyfraniad y Cyngor? Er hynny, yr oed dyn canmol y symudiad gan LlC i osod Prif Swyddog Gwasanaethau Cymdeithasol yn LlC.  Yr oedd rhai pwyntiau da yn y papur, ond yr oedd yn pryderu am ddyfodol y bwrdd partneriaeth rhanbarthol. Hefyd, yr oedd y terfyn amser o 6 Ebrill yn gyfnod byr i wneud cyfiawnder â’r Papur Gwyn.

 

Dywedodd y Cynghorydd Truman y byddai cyfle i fynegi unrhyw farn neu bryderon yn ystod y cyfnod ymgynghori. Yr oedd llawer pwynt i’w ystyried, yn benodol sut y byddai’r fframwaith cenedlaethol yn gweithredu, ac yr oedd angen eglurhad am y cynnig a roddwyd gan LlC.

 

Adleisiodd yr Arweinydd  sylwadau ei chydweithwyr, a chytunodd fod y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, dan gyfarwyddyd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio’n dda, ac yng ngoleuni hyn, fe all materion llywodraethiant godi. O ystyried canlyniadau’r Papur Gwyn, yr oedd yn bwysig felly i’r Cabinet rannu eu barn gyda Llywodraeth Cymru. 

 

Penderfyniad:

 

Fod y Cabinet yn ystyried cynnwys yr adroddiad ac yn cytuno ar gyflwyno ymateb i’r ymgynghoriad erbyn y dyddiad cau o 6 Ebrill 2021.

 

 

Dogfennau ategol: