Agenda item

Chwarter 3 2020/21 Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr eitem nesaf i’r Cabinet, sef diweddariad ar GofrestrRisg Gorfforaethol y Cyngor am ddiwedd Chwater Tri (31 Rhagfyr 2020).

 

Gofynnwydi’r Aelodau ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau i Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

 

Mae Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’i swyddogion i fod yn effeithiol wrth nodi, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

Byddai’radroddiad risg Chwarter Tri yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ar ddiwedd Mawrth  i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’i drefniadau llywodraethiant.

 

Arderfyn chwarter tri, yr oedd gan y Cyngor 52 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor. Cafodd y risgiau hynny a bennwyd fel rhai’r mwyaf arwyddocaol o ran cyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu codi i Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor er mwyn eu monitro. 

 

Arderfyn chwarter tri, cofnodwyd 18 risg ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol:

·        DegRisg Ddifrifol (15 i 25);

·        Chwe Risg Fawr (7 i 14); a

·        Dwy Risg Ganolig.

 

Cafodd un risg (Risg Pwysau ar Dai) ei chau yn chwarter tri gan iddi gael ei chyfuno gyda’r Risg Pwysau ar Ddigartrefedd (yn y GofrestrRisg Gorfforaethol).  Ymateb oedd hyn i’r cysylltiad agos rhwng y ddwy ardal risg a’r camau lliniaru yr oedd y maes gwasanaeth (gan gynnwys partneriaid) yn gymryd i gefnogi teuluoedd a phobl oedd angen tai fforddiadwy a diogel yn y ddinas. 

 

Hefyd, gwelodd chwarter tri yGofrestr Risg Gorfforaethol ddwy sgôr risg yn cynyddu, tair yn gostwng, ac yr oedd 13 risg yn dal ar yr un sgôr ag yn chwarter dau.

 

O ran y galw am ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) (Sgôr Risg 12 i 16), cynyddodd y sgôr risg hon o 12 i 16 am i’r gwasanaeth weld nifer cynyddol o ddisgyblion gydag anghenion cymhleth yn dod i’r ysgolion oherwydd y pandemig. Yr oedd ysgolion arbennig a chanolfannau Adnoddau Dysgu cynradd yn llawn, a byddai’r gr?p gweithredu ADY yn ailymgynnull yn y gwanwyn i adolygu cyllid AAA i ysgolion.

 

StadEiddo Cyngor Casnewydd (Sgôr Risg wedi cynyddu o 8 i 12).  Yr oedd partneriaid y Cyngor, Casnewydd Norse, wedi cynnal arolygon o gyflwr y stad weithredol ac wedi nodi mwy o weithiau lle’r oedd angen atgyweirio a chynnal cyflwr yr asedau.

 

Y cyfnod trosi wedi Brexit (Sgôr risg wedi gostwng o 16 i 12), yn dilyn cytundeb  masnach rhwng y DU a’r UE.   Er hynny, yr oedd risgiau yn y trefniadau wedi Brexit i sicrhau y byddai dinasyddion yr UE oedd yn byw yn y DU yn gwneud cais am Statws Sefydlu yr UE erbyn y terfyn amser o 30 Mehefin. 

 

Hefyd, yr oedd yr economi yn dal yn fregus oherwydd Covid a gweithredu’r trefniadau masnach newydd, a allai gael effaith ar sefydlogrwydd yr economi, y farchnad lafur a hyder defnyddwyr yn y tymor byr i ganol.

 

LleoliadauAllsirol Addysg (Sgôr risg wedi gostwng o 12 i 9). Yr oedd y gyllideb hon yn cael ei monitro’n ofalus iawn bob mis. Comisiynwyd lleoliadau lleol ychwanegol gan Gasnewydd Fyw a Catch 22.

 

Mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu Ysgol Bryn Derw i roi lleoliadau Cyfnod Sylfaen ychwanegol.

 

PwysauCyllid / Cost ar Ysgolion (Sgôr risg wedi gostwng o 16 i 12).  Yr oedd cyfanswm cyllidebau’r sector yn awr mewn £2M o warged am i’r ysgolion fod ar gau am gyfnodau maith, Heb reolaeth ofalus ar y gyllideb, serch hynny, yr oedd risg o hyd y byddai ysgolion  yn mynd i ddiffyg. Yr oedd nifer yr ysgolion oedd mewn diffyg yn dal yr un fath.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

Rhoddodd y Cynghorydd Rahman, fel Aelod Cabinet dros Asedau, beth gwybodaeth gefndir am hyn, a chyfeirio at arolwg a wnaed yn 2019 ar stad eiddo’r Cyngor, ac er i ni gael ein taro gan y pandemig, bu’r tîm yn weithredol yn ystod y cyfnod clo. Nodwyd problemau gydag adeiladau fel ysgolion ac adeiladau corfforaethol, tebyg i rai’r ganolfan hamdden. Yr oedd y Rheoliadau Adeiladu a Rheoliadau Iechyd a Diogelwch wedi newid ers i lawer o’r adeiladau hyn gael eu codi: yr oedd diogelwch y trigolion o’r pwys mwyaf, ac yr oedd dewisiadau eraill yn cael eu hystyried, gyda’r risg yn cael ei lliniaru a’i rheoli trwy ddefnyddio arian o’r rhaglen gyfalaf cynnal a chadw o £1.5M y flwyddyn. Yr oedd yr Aelod Cabinet hefyd yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda thîm y stadau i gael diweddariad am unrhyw broblemau, ac yr oedd cyllid ychwanegol yn cael ei. Nid oedd yn syndod felly fod y sgôr risg eiddo wedi cynyddu, ac y mae cyllid yn cael ei geisio gan LlC gyda phartneriaid Norse. Yr oedd yn bwysig fod y cyngor yn buddsoddi’n helaeth i gynnal diogelwch ysgolion, a dyna pam y darparwyd £5M yn y gyllideb ddiweddar.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at y risg o’r gwaith mawr sy’n cael ei wneud oherwydd clefyd marwolaeth ar ynn ar goed yng Nghaerllion, ac y mae Gwasanaethau’r Ddinas yn edrych ar ardaloedd eraill yng Nghasnewydd. Yr oedd y risg yn debyg ledled Cymru, ac yr oedd yn bwysig felly ymdrin â hyn.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mayer at y maes risg gyda digideiddio. Mae’r rhaglen ddigidol wedi gwella’n sylweddol ers y pandemig, gan alluogi’r staff i weithio o gartref. Byddai risgiau seibr yn wastad yn bodoli, megis ymosodiadau ‘phishing’ a firysau cyfrifiaduron, ond yr oedd hyn, yn anffodus, yn anorfod.  Yr oedd yn dda felly fod y risg yn goch, gan ei bod yn ein cadw’n effro i’r sefyllfa.

 

Yr oedd y Cynghorydd Harvey yn falch o weld y portffolio addysg yn symud o goch i oren, a diolchodd i’r Prif Swyddog Addysg am ei gwaith caled, ac i staff yr ysgolion.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at sefydlogrwydd darparwyr gwasanaethau cymdeithasol, oedd yn risg bosib oherwydd bod darparwyr gofal cartref ar yr isafswm cyflog, a hyn yn arwain at drosiant staff uchel. Mae angen i LlC roi’r gwaith ar lefel fwy proffesiynol, a dylai hyn fod yn flaenoriaeth. Mae’r cyflog byw gwirioneddol hefyd, gobeithio, yn gam yn y cyfeiriad iawn. Yr oedd pwysau eraill ar y gwasanaethau cymdeithasol ar wasanaethau oedolion; fel y crybwyllwyd yn gynharach, yr oedd pobl yn byw’n hwy, a dementia yn cynyddu. Yr oedd yn well gan drigolion oedrannus a’u teuluoedd gael pecynnau gofal cartref, ac nid oedd pethau felly yn rhad, yn gallu costio hyd at £1K yr wythnos, felly mae angen i bobl fod yn ymwybodol o’r oblygiadau cost. Mae pwysau ar gyflwyno gwasanaethau plant yn llacio oherwydd bodolaeth cartrefi fel Rose Cottage, sy’n lleihau nifer y plant sy’n cael eu cartrefu allan o’r ardal, a’u dwyn yn ôl i Gasnewydd. Yr oedd

niferuchel hefyd yn cael eu cyfeirio oherwydd y pandemig.

 

Ychwanegodd yr Arweinydd ei bod yn falch o’r gwaith yng Nghasnewydd o ran moderneiddio gwasanaethau a gwneud adeiladau yn addas at y diben yn yr 21ain Ganrif, ac yr oedd wedi ei rhyfeddu wrth weld adnewyddu eiddo i blant yng Nghasnewydd, gan roi diogelwch cartref gwirioneddol iddynt.

 

Penderfyniad:

 

Gofynnwydi’r Cabinet ystyried cynnwys cyfoesiad chwarter tri y GofrestrRisg Gorfforaethol

 

Dogfennau ategol: