Agenda item

Diweddariad Adferiad Covid

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud mai diweddariad oedd hwn ar ymateb y Cyngor a phartneriaid i argyfwng Covid-19 trwy gefnogi’r ddinas, yn fusnesau a thrigolion, i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol, a’r cynnydd gyda  Nodau Adfer Strategol y Cyngor.

 

Aeth blwyddyn heibio ers i Gasnewydd dderbyn cadarnhad o’i achos cyntaf o Covid-19, a bu’r ddinas wedyn dan rai mathau o gyfyngiadau Covid-19.

 

Oherwydd hyn, mae’r Cabinet a’r Cyngor dros y flwyddyn a aeth heibio wedi wynebu llawer penderfyniad anodd, wedi gweld anwyliaid yn colli eu bywydau, a rhai o’n dinasyddion mwyaf bregus a difreintiedig yn dioddef yn sgil yr argyfwng.

 

Gwelodd y Cyngor hefyd bobl Casnewydd ar eu gorau, yn mynd tu hwnt i’r galw i helpu eraill yn yr argyfwng, a lawer tro, bu’r Cyngor a’n partneriaid yn cefnogi pobl a busnesau ar hyd a lled Casnewydd.

 

Yn ymateb y Cyngor ac wrth adfer o’r argyfwng, mae pedwar Nod Adfer Strategol sydd yn sicrhau y gallwn fod mewn sefyllfa i ymateb i anghenion ein cymunedau a’n busnesau yn awr ac yn y dyfodol, megis:

 

·      Nod Adfer Strategol 1 – Cefnogi Addysg a Chyflogaeth;

·      Nod Adfer Strategol 2 – Cefnogi’r Amgylchedd a’r Economi;

·      Nod Adfer Strategol 3 – Cefnogi Iechyd a Lles Dinasyddion, a

·      Nod Adfer Strategol 4 – Cefnogi Dinasyddion wedi Covid-19.

 

Aeth unarddeg wythnos heibio bellach (20 Rhagfyr 2020) ers i Lywodraeth Cymru roi Cymru ar gyfyngiadau lefel Rhybudd Pedwar. Bu’r misoedd diwethaf yn anodd i ni i gyd, gydag effaith ar fywyd normal megis ymweld â ffrindiau a theuluoedd, plant a phobl ifanc yn mynd i’r ysgol, colegau a phrifysgol; a busnesau heb fod yn rhai hanfodol yn gorfod cau. 

 

Wrth i ni symud i’r gwanwyn ac i’r tywydd wella, yr oedd y Cyngor yn deall rhwystredigaeth a pharodrwydd pobl i ddychwelyd i fywyd normal. Er hynny, anogir pobl i gadw at y mesurau pellter cymdeithasol a chydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru i gadw’r gyfradd achosion mor isel ag sydd modd fel y gall y GIG adfer.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Gasnewydd Fyw am eu cyfraniad gyda’r ganolfan frechu yng nghanol y ddinas.

 

Gyda chyflwyno’r brechiad, yr oedd dros 900,000 o bobl wedi derbyn eu dos gyntaf, ac y mae’r rhai dros 40 oed eisoes yn cael cynnig y brechiad. 

 

Anogodd yr Arweinydd drigolion Casnewydd i fanteisio ar y brechiad, ac annog cyfeillion a theuluoedd i wneud yr un peth er mwyn dychwelyd i sefyllfa normal mor fuan ag sydd modd.

 

Mae Cyngor Casnewydd a’u partneriaid yn cefnogi ysgolion wrth weld plant y Cyfnod Sylfaen yn dychwelyd, a gweddill y plant cynradd yn dod yn ôl ar 15 Mawrth. Mae’n bwysig fod rhieni a gwarcheidwaid yn helpu eu hysgolion trwy gadw at reolau pellter cymdeithasol ac adrodd mor fuan ag sydd modd am unrhyw achosion Covid posib. 

 

Mae economi Casnewydd wedi dioddef wrth i fusnesau gau, trigolion yn colli eu swyddi neu fod ar ffyrlo. Mae Cyngor Casnewydd a’u partneriaid wedi ymrwymo i gefnogi pobl i ddychwelyd i waith, ennill sgiliau a/neu ail-hyfforddi. Yr oedd y Cyngor hefyd wedi ymrwymo i gefnogi’r busnesau i ddychwelyd wrth i’r cyfyngiadau lacio, ac anogwyd pawb yng Nghasnewydd i gefnogi eu busnesau lleol.

 

Mae adroddiad diweddar gan Estyn ar y modd mae awdurdodau lleol a chonsortia addysg rhanbarthol wedi cefnogi disgyblion bregus yn ystod yr argyfwng eisoes wedi cael ei ddosbarthu. Yr oedd argymhellion yr adroddiad eisoes yn cael eu rhoi ar waith gan y Cyngor ac ysgolion Casnewydd.

 

Mae prosiectau economaidd mawr sydd eisoes yn digwydd yn gwneud cynnydd da, a chroesawyd y cyhoeddiad am arian Cronfa Treftadaeth y Loteri i’r Bont Gludo.

 

Yr oedd cynnydd yn cael ei wneud hefyd gyda phrosiectau tai a darparu tai fforddiadwy ledled y ddinas.

 

Mae’r Cyngor yn dal i gynnig gwasanaethau ar-lein, a lle nad yw hyn yn bosib, yn unol â chyfyngiadau pellter cymdeithasol. 

 

Rhoddir mwy o ddiweddariad am gynnydd y Cyngor y mis nesaf.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Adleisiodd y Cynghorydd Davies y pwyntiau allweddol a godwyd, gan ddeall ei bod yn amser hynod anodd i’r trigolion. Diolchodd yr Aelod Cabinet i bawb am gadw at egwyddorion hunan-ynysu a gweithio o gartref yn ystod y cyfnod clo. Yr oedd am bwysleisio mor anodd oedd hyn i’r economi,  a bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi gwneud byd o wahaniaeth trwy roi help a chyngor. Yr oedd llwyddiannau Casnewydd yng nghyswllt y nodau adfer strategol yn gadarnhaol iawn, ac yr oedd prosiect y Farchnad Dan Do wedi dechrau, ynghyd â’r buddsoddiad yn Ninas-Ranbarth Caerdydd. Llwyddodd  Casnewydd a Chonwy i gael eu dewis mewn bid diweddar am gynllun peilot i Gymru gyfan am brosiect ynni ardal leol, fel ffordd o wella’r ymdrechion i leihau carbon. Nod LlC oedd bod yn garbon niwtral erbyn 2030, a dylid canmol hyn yn y cyfnod anodd hwn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Harvey i bawb yng Nghasnewydd oedd i raddau helaeth wedi cadw at y rheolau yn ystod y pandemig. Yr oedd yn bleser ganddo atgoffa cydweithwyr fod Trafnidiaeth Casnewydd yn ddiweddar wedi prynu bysus trydan, ac yr oedd Trafnidiaeth Casnewydd hefyd bellach yn Gwmni Cyfeillgar i Ddementia, gyda’r bws Cyfeillgar i Ddementia gyntaf yng Nghymru, sy’n gam yn y cyfeiriad iawn. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch o gyhoeddi fod Cyngor Dinas Casnewydd a’u partneriaid yn rhoi’r trigolion yn gyntaf.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Truman sylwadau ei gydweithwyr, ac yr oedd yn falch o weld yr ysbryd cymunedol a ddangoswyd gan drigolion Casnewydd yn ystod y pandemig.  Diolchodd i’r swyddogion amgylcheddol a swyddogion safonau masnach am gadw Casnewydd yn ddiogel; mae holl staff Casnewydd yn haeddu eu canmol am eu gwaith caled.

 

Soniodd y Cynghorydd Rahman fod Casnewydd wedi dod yn bell iawn fel awdurdod ac fel cymuned, a bod yr adferiad yn galonogol. Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn parhau i ddarparu gwasanaethau, a diolchwyd i holl staff y cyngor am beryglu eu bywydau a bywydau eu teuluoedd i gadw gwasanaethau Casnewydd i fynd. Yr oedd y Riverfront yn brysur ac yn fywiog, gan fanteisio ar y seilwaith a’r llwybrau teithio llesol. Crybwyllodd hefyd y 143,259 o bobl fu farw yn y pandemig: mae hyn yn cyfateb i boblogaeth Casnewydd, sy’n peri i rywun feddwl. Mae  Casnewydd wedi gweithredu’n gyflym i gyfyngu effaith y pandemig ar ein cymunedau.  Yr oedd grwpiau BAME hefyd yn fregus, a bu gweithredu sydyn ynf odd i arbed bywydau. Rhoddwyd cymorth gyda bywoliaeth y bobl hyn hefyd gyda grant a help gan bartneriaid a LlC, o gymharu â chynghorau eraill. Diolchodd yr Aelod Cabinet i’r Arweinydd a swyddogion y cyngor, ac anogodd y trigolion i fanteisio ar y cynnig o frechiad.

 

Tynnodd yr Arweinydd sylw at y grantiau i fusnesau sydd ar gael gan y Cyngor, a weithredodd yn gyflym i gefnogi busnesau bychain a rhai oedd newydd gychwyn, yn ogystal â busnesau mawr. Mae’r Cyngor yn gweithio’n galed i helpu’r busnesau hynny, ac y mae cymorth a chyfarwyddyd yn dal ar gael.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Cockeram at Drafnidiaeth Casnewydd, gan ddweud y byddai gan bob gyrrwr bws fathodyn ar y bws i ddangos eu bod yn gyfeillgar i ddementia: byddant yn derbyn gwobr genedlaethol am hyn, a’r gobaith oedd y bydd dulliau cludiant cyhoeddus eraill fel tacsis yn dilyn eu hesiampl. Yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch dros y Cynghorydd Harvey ac aelodau o fwrdd Trafnidiaeth Casnewydd.

 

Gobeithiai’r Arweinydd y byddai pob partneriaeth yn barod i hwyluso’r cludiant cyhoeddus gwych, o ystyried fod Llywodraeth y DU yn ystyried buddsoddi yng nghoridor De Ddwyrain Cymru.

 

Yr oedd y Cynghorydd Jeavons yn croesawu’r newydd cadarnhaol yn yr adroddiad, ac yn gobeithio y deuai mwy o newyddion da o du LlC ddydd Gwener ar derfyn y cyfnod tair wythnos. Diolchodd i holl aelodau’r staff yn y cyngor, ac adleisiodd sylwadau aelodau’r cabinet. Anogodd y Dirprwy Arweinydd bobl i fod yn ofalus er mwyn gostwng lefel yr heintiadau.

 

Soniodd y Cynghorydd Mayer am rôl yr hybiau cymunedol oedd wedi rhoi cefnogaeth wych ers y dechrau, gan gludo pecynnau bwyd. Maent wedi aeddfedu llawer fel gwasanaeth gan y cyngor, a bydd hyn yn gwella darpariaeth gyhoeddus yn y dyfodol.

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn rhinwedd ei swydd wedi cyfarfod yn ddyddiol, bron, ers y pandemig gyda swyddogion a chydweithwyr. Yr oedd y clefyd enbyd hwn yn cyffwrdd pob un ohonom, a’r pandemig wedi ein taro oll mewn rhyw ffordd neu’i gilydd, heb gyfle i ffarwelio yn iawn, ac yr oedd hyn yn anodd. Gan gadw hyn mewn cof, dywedodd yr Arweinydd y byddai’r cyngor yn goleuo’r T?r Dinesig yn felyn ar 23 Mawrth ar ddiwrnod cenedlaethol o fyfyrio a chofio ein colledion yn ystod y cyfnod hwn.

 

Penderfyniad:

 

I’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma, a’r risgiau sy’n dal i gael u hwynebu gan y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: