Agenda item

Diweddariad Brexit

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd adroddiad Brexit i’r Cabinet, sef diweddariad ar gynnydd wedi Brexit / y trefniadau masnach ers 31 Rhagfyr 2020.

 

Ersadroddiad diwethaf y Cabinet, aeth naw wythnos heibio ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd (UE) a’r Farchnad Sengl yn swyddogol. Dan drefniant y cytundeb masnach tariff rhydd newydd, yr oedd gofyn i fusnesau, yn fewnforwyr ac allforwyr ar y naill ochr a’r llall gydymffurfio â’r trefniadau tollau newydd.

 

Dywedwydeisoes fod rhai busnesau yn cael trafferth i gwrdd â’r gofynion hyn, a chafwyd adroddiadau am fethu â chludo a/neu dderbyn nwyddau oherwydd y gwaith papur, a bod incwm yn gyffredinol wedi ei golli.

 

Er y rhagwelwyd y byddai peth tarfu yn y tymor byr, yn y tymor canol i’r tymor hir, yr oedd yn bwysig cefnogi busnesau er mwyn sicrhau bod hyn yn llai o faich arnynt.   

 

Yr oedd gwytnwch economaidd Casnewydd a De Ddwyrain Cymru at y dyfodol yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallai busnesau cyfredol a rhai newydd ffynnu yn gynaliadwy. Fel Cyngor, yr oedd yn bwysig hefyd ein bod yn hyrwyddoCynnig Casnewyddi entrepreneuriaid cynhenid yn ogystal â busnesau byd-eang.

 

Byddai bod ag economi amrywiol a chynaliadwy allai roi twf cynaliadwy yn galluogi  cymunedau Casnewydd nid yn unig igodi’r gwastadond hefyd i roi cyfleoedd i gymunedau ffynnu yn y tymor hir er budd cenedlaethau’r dyfodol yng Nghasnewydd. 

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn bwysig i’r Cabinet weithredu fel llais i Gasnewydd a gweithio gyda’u partneriaid (Dinas-Ranbarth Caerdydd, Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, Porth y Gorllewin) i sicrhau y gallai cymunedau a grwpiau mwyaf difreintiedig Casnewydd fynd at y cyfleoedd hyn i godi’r gwastad, a galluogi Casnewydd i adfer o’r pandemig. 

 

Yr hyn oedd yn gwneud Casnewydd yn ddinas wych i fyw, gweithio ac ymweld â hi oedd ei chymunedau a’i grwpiau amrywiol. Byddai Casnewydd fel dinas yn  stad yn croesawu pobl o bob cenedl, waeth beth fo’u hil, eu rhywioldeb na’u crefydd. 

 

I ddinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghasnewydd, yr oedd yn bwysig iddynt hwy, aelodau eu teuluoedd a’u cyfeillion yn gwneud cais am Statws Sefydlu yr UE cyn 30 Mehefin 2021.

·        Yr oedd gan  Gyngor Casnewydd a Llywodraeth Cymru yr holl wybodaeth berthnasol i helpu trigolion i ymgeisio.

·        Yr oedd Cyngor Casnewydd yn gweithio gyda’u partneriaid i sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi trwy’r broses.  

 

Yr oedd yn dal yn bryder i Gyngor Dinas Casnewydd fod dinasyddion yr UE yn sôn am broblemau gyda’u hawliau, problemau gelyniaeth, a mynediad at arian cyhoeddus. Fel cynrychiolwyr wardiau Casnewydd, yr oedd yn bwysig fod y Cyngor yn cefnogi eu cymunedau.

 

Yr oedd tîm cyfathrebu Cyngor Casnewydd yn dal i rannu gwybodaeth Llywodraeth Cymru am y trefniadau masnach newydd, gofynion busnes a gwybodaeth i ddinasyddion yr UE.  Yr oedd hyn yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, llythyrau newyddion i fusnesau, a gwefan y Cyngor.

Yn ystod tri mis cyntaf y trefniant newydd, ni wnaeth gwasanaethau Cyngor Casnewydd adrodd am unrhyw broblemau a/neu bryderon cychwynnol o ran cyflenwi nwyddau a gwasanaethau.

Adroddoddtîm cyllid y Cyngor (gan gynnwys Caffael) am beth cynnydd yng nghost caffael, ond mae’r cyflenwadau yn gyffredinol wedi rhedeg fel arfer. 

Fel rhan o ddarbodaeth ariannol y Cyngor, yr oedd arian wrth gefn i reoli effeithiau Brexit / Covid, ac wrth i’r risg sefydlogi ymhen amser, bydd y dyraniad yn cael ei ail-flaenoriaethu. 

 

Y mae’r Gwasanaethau Rheoleiddio yn dal i gynnig cefnogaeth i fusnesau ac y mae staff Iechyd Amgylchedd wedi cwblhau yr hyfforddiant angenrheidiol i wneud gwiriadau tystysgrifau iechyd.

 

Mae swyddogion Cydlynu Cymunedol y Cyngor yn dal i weithio gyda chymunedau’r UE ac i gynnig cymorth i gymunedau bregus. 

 

Yr oedd grwpiau/elusennau lleol hefyd yn cael cyfle i gael cefnogaeth tlodi bwyd i’r sawl sydd wedi dioddef oherwydd Brexit / Covid.

 

Penderfyniad:

 

Gofyni’r Cabinet ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi ymateb y Cyngor i Brexit.

 

Dogfennau ategol: