Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Uwch-arolygydd Mike Richards ddiweddariad ar flaenoriaethau plismona lleol, cyn gwahodd cwestiynau gan yr Aelodau.

 

Gwahoddodd y Maer yr Arweinydd i ddweud gair.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Uwch-arolygydd M Richards a’i gyd-swyddogion am eu gwaith mewn partneriaeth o ran gorfodi rheoliadau Covid, oedd wedi addysgu a hysbysu pobl yn hytrach na’u cosbi. Er hynny, yr oedd swyddogion wedi cymryd y camau gorfodi priodol lle bo angen, yn erbyn y sawl oedd wedi torri’r rheoliadau yn gyson ac mewn modd mwy difrifol.

 

Apeliodd yr Arweinydd at gydweithwyr yng nghyswllt digwyddiad oedd yn destun ymchwiliad gan yr IPOC i beidio â holi ynghylch hyn.

 

Yn olaf, ar lefel leol, cyfarfu’r Arweinydd a chydweithwyr o ward Malpas â Paul Turner, oedd yn ychwanegiad i’w groesawu at y tîm plismona, ac yn llawn brwdfrydedd a syniadau da.

 

Cwestiynau gan Gynghorwyr:

 

Yr oedd y Cynghorydd Rahman wedi codi pwnc gyda’r Arolygydd Cawley ynghylch diffyg llefydd parcio o gwmpas Ffordd Harrow, Ffordd Rugby a Ffordd Bedford. Yr oedd trigolion wedi defnyddio biniau i gadw’r llefydd hyn, a bu Gwasanaethau’r Ddinas yn ymdrin â hyn. Daeth yn fater corfforol, er hynny, gydag ymladd, ac yr oedd pryder y byddai pethau’n gwaethygu. Awgrymodd yr Arolygydd ddiwrnod cymunedol, tebyg i’r hyn a ddigwyddodd cyn y clo, a holodd y Cynghorydd Rahman a allai’r Uwch-arolygydd Richards ddarparu’r fan gymunedol gydag adnoddau o Orsaf Heddlu Maendy i hwyluso hyn. Byddai’r Uwch-arolygydd yn dod i gysylltiad â’r Arolygydd Cawley.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i’r heddlu am eu hymyriad gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Ffordd Cromwell, ac yr oedd yn edrych ymlaen at weld mwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal honno. Byddai’r Uwch-arolygydd yn sicrhau y bydd yr adnoddau priodol ar gael.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Lacey at ddigwyddiad diweddar lle torrodd llanciau i mewn i Ysgol Gynradd Ringland a rhai rhan o’r ardal chwarae ar dân; daliwyd hyn ar TCC. Yr oedd hyn yn dilyn patrwm tebyg i danau eraill oedd wedi eu cynnau yn ardal Ringland, a gofynnodd y  Cynghorydd Lacey a allai’r Arolygydd Cawley edrych i mewn i hyn. Yr oedd yr Uwch-arolygydd yn ymwybodol o’r digwyddiad hwn, a byddai’n ei drafod gyda’r Arolygydd Cawley ac yn cysylltu â’r cynghorydd o ran adnabod y rhai dan amheuaeth.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Davies at ganfasio o ddrws i ddrws ym mis Ionawr a holodd a oedd hyn yn dderbyniol dan drefniadau clo Lefel 4 Covid. Cadarnhaodd yr Uwch-arolygydd nad oedd canfasio gwleidyddol o ddrws i ddrws yn cael ei ganiatáu dan y cyfyngiadau clo cyfredol, a byddai’n cysylltu â’r Cynghorydd Davies am y g?yn hon.

 

Soniodd y Cynghorydd Whitehead fod y cae ger Ysgol Rougemont yn cael ei ddefnyddio’n aml gan sgramblwyr. Gyda’r tywydd yn gwella, gallai hyn ddigwydd yn amlach, gan darfu ar y trigolion yn ogystal â tharfu ar wersi yn yr ysgol. Awgrymodd y Cynghorydd Whitehead y gellid rhoi creigiau wrth y fynedfa i’r cae i atal y math hwn o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Yr oedd yr Uwch-arolygydd wedi gweld cynnydd yn y math hwn o ymddygiad ers y penwythnos diwethaf, ac yr oedd Operation Harley wedi cychwyn llynedd, a byddai’r swyddogion yn ail-ymrwymo i hyn yn y misoedd i ddod. 

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Holyoake yr heddlu am waith a wnaed yn ddiweddar i ymdrin â gweithwyr stryd; fodd bynnag, bu masnachwyr cyffuriau a gweithwyr stryd yn ymgasglu yn ystod y cyfnod clo. Diolchodd yr Uwch-arolygydd i’r Cynghorwyr Holyoake a Hayat am eu cefnogaeth gyson a dweud petai grwpiau o bobl yn ymgasglu, y gallai’r Heddlu ddefnyddio eu pwerau gorfodi. Byddai hyn yn cael ei ategu gan yr Uwch-arolygydd.

 

Holodd y Cynghorydd M Evans, pan oedd cyhuddiadau yn cael eu cyfeirio at Wasanaeth Erlyn y Goron, a oedd modd iddynt argymell cyhuddiadau llai; er enghraifft, gostwng cyhuddiad o ladrad ac ymosod i un o ddwyn, a bod hyn yn cael effaith ar y dioddefwyr, y cyhoedd a’r heddlu. A oedd unrhyw beth y gallai’r cyngor wneud i gefnogi dioddefwyr troseddau a sicrhau bod troseddwyr yn derbyn cyfiawnder priodol? Cytunodd yr Uwch-arolygydd fod yn rhaid i’r heddlu gysylltu â GEG ynghylch gostwng cyhuddiadau troseddol. Serch hynny, ychydig o achosion fel hyn oedd, a byddai’r Uwch-arolygydd yn hapus i barhau’r sgwrs y tu allan i’r cyfarfod ac ystyried unrhyw gefnogaeth fyddai’n cael ei gynnig i’r heddlu.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Al-Nuaimi yr Uwch-arolygydd Richards am ei waith caled dros y flwyddyn a aeth heibio. Lleisiodd y  Cynghorydd Al-Nuaimi bryder fod yr ymarferiad atal a chwilio ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr wedi gweld cynnydd yn yr ystadegau yn ymwneud â’r gymuned BAME. Yr oedd yr Uwch-arolygydd wedi ymwneud llawer â’r rhaglen atal a chwilio, a byddai’n trefnu i gwrdd â’r Cynghorydd, gan fod yr ystadegau a ddyfynnwyd yn ymddangos yn uchel o gymharu ag ystadegau’r heddlu.

 

Byddai cwestiynau pellach gan y Cynghorydd Al-Nuaimi yn cael eu hanfon yn ysgrifenedig at yr Uwch-arolygydd Richards.