Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd y canlynol cyn bwrw ymlaen at gwestiynau.

 

§  Yr wythnos ddiwethaf, yn ogystal â rhoi’r gyllideb ar ei ffurf derfynol, rhoddodd y Cabinet ganiatâd i un o’r prosiectau mwyaf cyffrous i ddod gerbron y cyngor yn y blynyddoedd diwethaf.

 

Byddai canolfan hamdden a lles newydd gwerth miliynau o bunnoedd ar safle allweddol ar lan yr afon yng nghanol y ddinas yn paratoi’r ffordd hefyd i gampws addas i’r 21ain ganrif yng nghanol y ddinas i Goleg Gwent.

 

Gyda’i gilydd, mae hyn yn golygu buddsoddiad o fwy na £100 miliwn yng nghanol y ddinas, fydd yn dod â mwy o bobl a bywiogrwydd yno. Bydd yn costio tua £4 miliwn, sy’n ymddangos yn bris bychan i’w dalu am y fath drawsnewidiad i’r rhan hon o ganol y ddinas; gan ddarparu cyfleusterau hamdden o’r radd flaenaf i’r trigolion a gwell amgylchedd dysgu ar gampws newydd sbon i’n pobl ifanc.

 

Mae’r amseroedd hyn yn rhai heriol, ond nid oes modd i ni aros yn llonydd na rhoi’r gorau i ymdrechu i wella bywydau pobl. Bydd y datblygiadau hyn yn dod a budd mawr i gymaint o bobl, ac yr ydym yn edrych ymlaen ar ymwneud mwy â’r trigolion wrth i’r cynigion hyn ddatblygu. Dangosodd yr ymateb i’r ymgynghoriad fod y cynlluniau wedi denu cefnogaeth cymaint o bobl yn y ddinas.

 

§  Yr oedd y cyngor yn ymgynghori gyda thrigolion, busnesau a grwpiau cymunedol am ein map rhwydwaith teithio llesol, i helpu i lunio dyfodol teithio llesol yng Nghasnewydd.  Yr ydym eisiau gwybod lle’r hoffai pobl weld llwybrau cerdded a beicio newydd yn cael eu datblygu, yn ogystal â’r hyn y gellir ei wneud i wella’r llwybrau presennol.

 

Anogodd yr Arweinydd bawb sydd heb gymryd rhan eisoes i ymwneud â’r hyn oedd yn ddarn pwysig o waith i’r ddinas a chenedlaethau’r dyfodol, gyda dinas fydd yn fwy gwyrdd, yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac yn anad dim, yn fwy diogel.

 

§  Llongyfarchodd yr Arweinydd y timau cynllunio ac adfywio a gafodd eu henwebu am wobr am eu gwaith ar gynllun tair arloesol Central View yn Stryd Masnach.

 

Cyrhaeddodd y cyngor y rownd olaf yng ngwobrau Sefydliad Brenhinol Cynllunio Trefi (RTPI) am ragoriaeth cynllunio yn 2021. Yr oedd ar y rhestr fer am ragoriaeth mewn cynllunio yn y categori cynlluniau tai bychain. Ni oedd un o ddau gyngor Cymreig yn unig i gyrraedd y rownd derfynol, gyda chystadleuwyr o bob cwr o’r DU yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.

 

Yr oedd Central View yn gynllun tai o ansawdd uchel i bobl dros 55 oed yn Stryd Masnach, a ddatblygwyd gan ddefnyddio cyllid o gymdeithas tai Gr?p Pobl, y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Byddwn yn dod i wybod fis nesaf a gawsom ein dewis fel enillydd, ond mewn maes mor safonol o bob cwr o’r wlad, roedd cael ein henwebu yn unig yn anrhydedd ynddo’i hun ac yn werth ei gydnabod.

 

§  Yn nes ymlaen y mis hwn, byddwn yn cyrraedd carreg filltir na fuasai neb wedi ei dymuno, oherwydd ar 23 Mawrth bydd blwyddyn wedi mynd heibio ers cyhoeddi’r cyfnod clo cyntaf oherwydd pandemig Covid 19, pan nad oedd fawr neb yn tybio y buasem yn dal i fyw dan gyfyngiadau 12 mis yn ddiweddarach.

 

Bu’n flwyddyn anodd i gymaint o bobl am gymaint o resymau. Yr ydym mor ddiolchgar i’r rhai yn y gwasanaethau brys, staff y cyngor, gweithwyr siopau, gyrwyr cludo a chymaint hwy, a ddaliodd at i weithio ar y rheng flaen trwy gydol y pandemig.

 

Effeithiwyd ar lawer o fywydau, yn enwedig y rhai a gollodd anwyliaid oherwydd Covid 19. Bydd llawer ohonom yma, os nad pawb, wedi colli cyfaill neu berthynas neu’n adnabod rhywun a wnaeth.

 

Cysylltwyd â’r cyngor gan breswylydd oedd yn rhan o gr?p o deuluoedd oedd oll yn y sefyllfa drist hon. Yr oedd yr Arweinydd dan deimlad pan glywodd y cais i ni oleuo un o’n hadeiladau cyhoeddus er cof ar y dyddiad hwnnw, ac yr oedd yn falch o gyhoeddi y gallwn wneud hynny ar 23 Mawrth. Gydag adeiladau eraill yng Nghymru, bydd t?r y cloc yn y Ganolfan Ddinesig yn cael ei oleuo’n felyn fel arwydd o barch.

 

Yr oedd y gr?p yn gofyn i’r cyhoedd gofio’r miloedd o fywydau yng Nghymru a gollwyd, a hynny trwy wahanol ffyrdd fel rhoi calon felen neu gennin Pedr yn eu ffenestri. Byddai’n amser i aros a myfyrio.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oeddem, gwaetha’r modd, wedi gweld diwedd coronafirws, a bod pobl yn dal i ddioddef. Anogodd bawb i barhau’n wyliadwrus, i gadw at y cyfyngiadau i’w hamddiffyn eu hunain ac eraill, rhag i fwy o bobl orfod dioddef poen y teuluoedd hynny.

 

Cwestiynau’r Arweinydd

 

§  Cynghorydd M Evans:

 

Cyfeiriodd at fuddsoddiad y DU mewn trydaneiddio’r rheilffyrdd yn 2014 gan y Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart, oedd yn cynnwys pont droed dros yr orsaf, a chafwyd astudiaethau dichonoldeb i hyn. Yn 2019, dywedwyd y byddai arian i’r bont droed yn dod ac y byddai’r gwaith yn cychwyn y flwyddyn ariannol nesaf, ynghyd ag arian gan Lywodraeth Cymru, o wneud cais. Oedd yr oedi parhaus felly yn dderbyniol, a phwy oedd yn gyfrifol?

 

Dywedodd yr Arweinydd fod y bont droed yn rhan o’r fenter teithio llesol ac y byddai’n cael ei hadeiladu. Y mae teithio llesol yn rhan o ateb cynaliadwy i ffordd liniaru’r M4.  Daeth argymhelliad gan adroddiad Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru yng nghyswllt Casnewydd oedd yn crybwyll buddsoddi mewn gorsafoedd rheilffyrdd, seilwaith ffyrdd, priffyrdd a chludiant cyhoeddus. Byddai nifer o’r prosiectau hyn yn cychwyn yn fuan iawn. Llofnodwyd Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng LlC a Thrafnidiaeth Cymru fyddai’n digwydd trwy’r uned gyflwyno, ac yr oedd y bont yn rhan o hyn, felly hefyd gynigion am fynd a dod o’r orsaf.

 

Atodol:

 

Dywedodd y Cynghorydd M Evans nad oedd y bont droed eto wedi ei chodi wedi 10 mlynedd, a chyfeiriodd at gyflwr gwael y danffordd; rhaid oedd ymdrin â hyn fel mater o fryd. Pwy oedd yn gyfrifol am hyn, ac a fyddai mwy o astudiaethau dichonoldeb? Allai’r Arweinydd ddweud pryd y bydd hyn yn cael ei gwblhau?

 

Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn rhan o gynllun ehangach, ond fod y system drydaneiddio wedi oedi hyn oherwydd y ceblau uwchben. Penodwyd contractwyr i’r prosiect, ac yr oedd y gwaith paratoi cyn adeiladu wedi cychwyn. Bu peth oedi oherwydd Covid fel gyda’r rhan fwyaf o brosiectau adeiladu. Hefyd, dim ond ddwywaith y flwyddyn y gellir cau’r rheilffyrdd, a byddai’n rhaid gwneud hyn er mwyn adeiladu’r bont.

 

I godi pwynt o eglurhad, gofynnodd y Cynghorydd M Evans a oedd cyllid LlC wedi ei gymeradwyo? Dywedodd yr Arweinydd y byddia’n rhoi ateb ysgrifenedig i’r Cynghorydd.

 

§  Cynghorydd Whitehead:

 

Yr oedd codi sbwriel i fod i ddigwydd yn y Betws, a nodwyd yn ystod y  pandemig y bu problemau gyda hyn mewn rhai wardiau. A allai’r Arweinydd roi sicrwydd fod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd o ran tipio anghyfreithlon ac y byddid yn mynd ar ôl troseddwyr, gyda diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol i roi gwybod i’r cyhoedd y byddai erlyniadau yn darparu cyllid. Byddai’n brosiect da i fwrw ymlaen ag effaith gadarnhaol o ran addysgu a newid agweddau.

 

Bu’r Arweinydd, ynghyd a chydweithwyr o ward Malpas hefyd yn codi sbwriel gyda’r trigolion ac ysgolion, ac yr oedd yn cytuno fod man drwg i dipio anghyfreithlon, yn enwedig o amgylch y pantiau yn y Betws a Malpas.  Byddai buddsoddiad ychwanegol yn caniatau i Gyngor Casnewydd gael fan ychwanegol ac aelodau o’r criw i gasglu saith diwrnod yr wythnos. Yn anffodus, cyn Covid, trefnwyd diwrnod i wirfoddolwyr i roi cefnogaeth a chyngor ynghylch codi sbwriel. Cafwyd problem o ran mynd ar dir, a pherchenogaeth tir fel safle Sainsbury, oedd yn dir preifat ac o’r herwydd yn codi pwnc yswiriant. Byddai gwybodaeth yn cael ei rannu gyda grwpiau er mwyn gwneud yn si?r y gellid ymdrin â hyn. Agwedd arall oedd lleoliad y sbwriel, ac nad oedd modd anfon staff allan i gasglu sbwriel o’r priffyrdd heb gau’r ffyrdd. Cydweithredu oed dyr alwed i gasglu sbwriel, a rhoi cyngor i grwpiau am lle i gasglu. Yr oeddem wedi ymrwymo i fuddsoddi a chefnogi grwpiau, ar y cyd â’r fforwm ledled y ddinas.  Yr oeddem hefyd wedi ymrwymo i orfodaeth, a bu nifer mwy nag erioed o ddirwyon ac erlyniadau ynghylch safleoedd penodol oedd yn broblemus. Yr oedd y camau y cyfeiriodd yr Uwch-arolygydd atynt yn gynharach yn cael eu trin.