This Council acknowledges the need for an M4 Relief Road around Newport and calls on the Welsh Government to issue a special directive ordering the implementation of an advisory referendum within the Newport Local Authority boundary area.
Cofnodion:
Ystyriodd y Cyngor y cynnig canlynol, y rhoddwyd y rhybudd priodol ohono. Fe’i cynigiwyd gan y Cynghorydd M Evans a’i eilio gan y Cynghorydd Routley.
Mae’r Cyngor hwn yn cydnabod yr angen am Ffordd Liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cyfarwyddeb arbennig yn gorchymyn gweithredu refferendwm ymgynghorol yn ardal ffin awdurdod lleol Casnewydd.
Cyflwynodd y Cynghorydd M Evans y cynnig trwy ofyn i gynghorwyr ystyried gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu refferendwm. Byddai hyn yn rhoi cyfle i Senedd Cymru drafod manteision ymwneud â’r etholwyr ar fater oedd yn effeithio ar bawb ledled y ddinas. Soniodd y Cynghorydd M Evans, yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus gan Gomisiwn Annibynnol, y penderfynwyd y dylid cael ffordd liniaru’r M4. Penderfynodd y Prif Weinidog, serch hynny, i beidio â thrafod yr argymhelliad hwn ac felly nid aethpwyd ymlaen i adeiladu’r ffordd liniaru.
Yr oedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gofyn i gynghorau ddod o hyd i ffyrdd newydd o ymwneud â’r cyhoedd.
Soniodd y Cynghorydd M Evans fod Arweinyddion blaenorol wedi cefnogi ffordd liniaru’r M4. Byddai refferendwm na fyddai’n rhwymo yn arwydd o gryfder teimladau trigolion Casnewydd, un ffordd neu’r llall. Byddai hyn yn fwy ystyrlon na deiseb, a’r gobaith oedd y byddai’n arwain y ffordd mewn democratiaeth o ran gwrando ar lais pobl Casnewydd mewn ffordd anwleidyddol.
Eiliodd y Cynghorydd Routley y cynnig yn ffurfiol a chadw’r hawl i siarad yn nes ymlaen yn y ddadl.
Gwahoddodd y Maer aelodau i gynnig gwelliant.
Gofynnodd y Cynghorydd Mudd am gynnig gwelliant i’r cynnig, a eiliwyd gan y Cynghorydd Hughes.
Nododd y Cynghorydd H Townsend hefyd y gallai hithau fod eisiau cynnig gwelliant pellach i’r cynnig.
Esboniodd y Swyddog Monitro mai un gwelliant fyddai’n cael ei glywed ar y tro, felly gwahoddwyd yr Arweinydd i siarad yn gyntaf.
Cyn i’r Arweinydd fynd ymlaen, gofynnodd y Cynghorydd C Evans am bwynt o drefn, a cheisio eglurhad am y llwybr arfaethedig. Cadarnhaodd mai’r llwybr du oedd dan sylw.
Aeth yr Arweinydd ymlaen i siarad ar y gwelliant isod:
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn wastad wedi cydnabod y farn gyhoeddus am Ffordd Liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd. Yr ydym yn cydnabod fod yn rhaid i ni weithredu heddiw am well yfory.
Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus unrhyw alwadau am refferendwm ymgynghorol neu ymgynghoriad cyhoeddus arall o fewn ffin awdurdod lleol Casnewydd yng nghyd-destun ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, sydd yn sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gwnaeth yr Arweinydd sylw am y gwelliant gan ddweud fod y rhan fwyaf o gynghorwyr yn ogystal â’r cyhoedd wedi bod yn eistedd mewn traffig yn dymuno am well ffordd i wella’r seilwaith. Bu digon o gyfle yn y gorffennol i ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y cynigion am ffordd liniaru’r M4. Yn y cyfamser, yr oedd Covid wedi newid bywydau pawb; nid oedd modd mynd yn ôl, ond yr oedd yn bosib newid ein bywydau er gwell, o ran y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio, gan ein bod wedi cael amser i feddwl. Yr oedd Canghellor y Trysorlys wedi cyhoeddi cynigion y gyllideb heddiw, gan annog ffyrdd o wneud arbedion, gyda buddsoddiadau mewn bargeinion dinesig a thechnoleg werdd. Y teimlad oedd na fyddai gwario £1.5bn ar ffordd yn gwneud hyn, ac yr oedd yn gobeithio y byddai’r llywodraeth ganolog yn cefnogi adferiad gwyrdd yn Ne Ddwyrain Cymru trwy fuddsoddi yn seilwaith y rheilffyrdd. Os ydym am fod yn gyfrifol am adferiad ariannol i Gasnewydd, nid refferendwm drud oedd yr ateb, ac y mae angen i ni fuddsoddi’n ddoeth mewn seilwaith trwy adeiladu Casnewydd i bawb.
Sylwadau gan Gynghorwyr:
Ystyriodd y Cynghorydd Whitehead y buasai’r cynnig cyntaf wedi cael mwy o effaith petai pob cyngor wedi cefnogi refferendwm i Lywodraeth Cymru. Cytunodd y Cynghorydd Whitehead fod angen am ffordd liniaru a bod tagfeydd traffig a gwahanol gyflymder yn broblem. Yr oedd hefyd yn cefnogi sylwadau’r Arweinydd.
Yr oedd y Cynghorydd C Evans wedi gofyn cwestiynau cyn Covid gan geisio hyrwyddo agenda gwyrdd, ac yr oedd y Cyngor wedi mabwysiadu gwneud Casnewydd yn ddinas gyfeillgar i wenyn, a gosod pwyntiau gwefru ceir trydan. Yr oedd y llwybr du yn bryder, a byddai’n cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd a’r ecosystem. Bu mwy o bobl yn gweithio o gartref ers y pandemig, gyda’r bwriad o wneud hynny yn barhaol, felly yr oedd newidiadau cadarnhaol yn digwydd. Gwaddol Casnewydd fyddai dyfodol mwy gwyrdd.
Dywedodd y Cynghorydd Hughes fod amcangyfrifon rhai am gost ffordd liniaru’r M4 yn £2bn ac mai oblygiadau cost oedd y prif reswm pam y gwrthododd Llywodraeth Cymru y ffordd liniaru. Cafod prosiect yr A55 yng ngogledd Cymru hefyd ei atal am resymau ariannol ac amgylcheddol. Yr oedd Gwlypdiroedd Casnewydd yn rhan allweddol o lwybr du yr M4. Yr ateb oedd gwella cludiant cyhoeddus a rheilffyrdd, a’r gobaith oedd y byddai Casnewydd ar flaen y gad mewn adferiad gwyrdd. Byddai’r gwelliant yn caniatáu i’r cyngor weithio gyda Llywodraeth Cymru.
Diolchodd y Cynghorydd Mudd i’w chydweithwyr am gyfrannu at y ddadl a dweud nad dyma’r tro cyntaf i ffordd liniaru’r M4 gael ei thrafod, ond y tro cyntaf ydoedd ers Covid. Yng ngoleuni Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), Cymru oedd y wlad fwyaf democrataidd yn y DU ac Ewrop, ac yr oedd gwir gyfle i ymwneud â llywodraeth leol a chael gwaddol i Gasnewydd yn ogystal â chael dinas fwy gwyrdd gyda thrafnidiaeth gynaliadwy.
Siaradodd y Cynghorydd Routley yn erbyn y gwelliant ac awgrymu na fyddai’r llwybr du ond yn cymryd 2% o dir yng Nghasnewydd heb effeithio ar y Gwlyptiroedd. Cafwyd problemau gyda thawelu’r meicroffon, a gofynnodd y Cynghorydd Routley i’r Swyddog Monitro ymchwilio.
Esboniodd y Swyddog Monitro y pwyntiau o drefn a godwyd a dywedodd, gan i’r areithiau gael eu cymryd allan o ddilyniant, y gallai’r Cynghorydd Mudd ateb y Cynghorydd Routley.
Dywedodd y Cynghorydd Mudd eto fod yn rhaid i ni fod yn ariannol gyfrifol a bod y gwelliant yn ei gwneud yn glir i gydweithwyr fod yn rhaid i ni weithredu heddiw er mwyn cael yfory gwell. Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gludiant cynaliadwy ac yr oedd yn rhan o Borth y Gorllewin a Dinas-Ranbarth Caerdydd, ac yr oedd felly o blaid y cynnig hwn i’r Cyngor.
Yr oedd y Cynghorydd M Evans yn siomedig gyda’r gwelliant ac atgoffodd ei chydweithwyr y byddai 8% o’r ardal o fewn y llwybr du hen ei gyffwrdd. Yr oedd ar drigolion Casnewydd angen swyddi a’r economi i ffynnu, yr oedd ceir yn dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar, ac yr oedd tacsis a bysus hefyd yn defnyddio’r M4. Yr oedd y damweiniau a’r tagfeydd o gwmpas Twneli Brynglas yn effeithio ar fywydau pawb, a byddai’n gyfle i drigolion Casnewydd gael dweud eu dweud. Nid oedd y Cynghorydd M Evans fell yn derbyn y gwelliant.
Cynigiodd y Cynghorwyr Harvey, Mogford, Wilcox, C Evans a J Guy y dylid cofnodi’r bleidlais ar y gwelliant arfaethedig.
Yr oedd y Cynghorydd C Townshend am wybod a oedd y gwelliant yn ychwanegol at y cynnig gerbron y Cyngor neu yn cymryd ei le. Cadarnhaodd yr Arweinydd mai bwriad y gwelliant oedd cymryd lle y cynnig gwreiddiol yn gyfan gwbl.
Cofnodwyd y bleidlais fel a ganlyn:
Enw’r Cynghorydd |
|
O blaid |
Yn erbyn |
Ymatal |
Al-Nuaimi, Miqdad |
|
1 |
|
|
Berry, Graham |
|
1 |
|
|
Clarke, James |
|
1 |
|
|
Cleverly, Jan |
|
|
|
|
Cockeram, Paul |
|
1 |
|
|
Cornelious, Margaret |
Absennol |
|
|
|
Critchley, Ken |
Absennol |
|
|
|
Davies, Deb |
|
1 |
|
|
Dudley, Val |
Ymdd. |
|
|
|
Evans, Chris |
|
1 |
|
|
Evans, Matthew |
|
|
1 |
|
Ferris, Charles |
|
|
1 |
|
Forsey, Yvonne |
|
1 |
|
|
Fouweather, David |
Ymdd. |
|
|
|
Giles, Gail |
Ymdd. |
|
|
|
Guy, John |
|
1 |
|
|
Harvey, Debbie |
|
1 |
|
|
Hayat, Ibrahim |
|
1 |
|
|
Hayat, Rehmaan |
|
1 |
|
|
Holyoake, Tracey |
|
1 |
|
|
Hourahine, Phil |
|
1 |
|
|
Hughes, Jason |
|
1 |
|
|
Jeavons, Roger |
|
1 |
|
|
Jordan, Jason |
|
1 |
|
|
Kellaway, Martyn |
|
|
|
|
Lacey, Laura |
|
1 |
|
|
Linton, Malcolm |
|
1 |
|
|
Marshall, Stephen |
|
1 |
|
|
Mayer, David |
|
1 |
|
|
Mogford, Ray |
|
|
1 |
|
Morris, Allan |
|
|
|
1 |
Mudd, Jane |
|
1 |
|
|
Rahman, Majid |
|
1 |
|
|
Richards, John |
|
1 |
|
|
Routley, William |
|
|
1 |
|
Spencer, Mark |
|
1 |
|
|
Suller, Tom |
|
|
1 |
|
Thomas, Herbie |
|
1 |
|
|
Thomas, Kate |
|
1 |
|
|
Townsend, Carmel |
|
|
|
1 |
Townsend, Holly |
|
|
|
1 |
Truman, Ray |
|
1 |
|
|
Watkins, Joan |
|
|
1 |
|
Watkins, Trevor |
|
|
|
|
Whitcutt, Mark |
|
1 |
|
|
White, Richard |
|
|
1 |
|
Whitehead, Kevin |
|
1 |
|
|
Wilcox, Debbie |
|
1 |
|
|
Williams, David |
|
|
1 |
|
|
|
|
|
|
|
|
30 |
8 |
3 |
Yr oedd 30 aelod o blaid y gwelliant, 8 yn erbyn a 3 yn ymatal. Yr oedd y gwelliant felly wedi ei basio. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’r cynnig gwreiddiol yn awr yn cwympo ac mai’r gwelliant fyddai’r cynnig, oni fyddai gwelliannau pellach yn cael eu cynnig yn awr.
Dywedodd y Cynghorydd H Townsend ei bod hi wedi bwriadu cynnig gwelliant pellach i’r cynnig gwreiddiol, ond nad oed bellach am wneud.
Cymerwyd pleidlais bellach felly ar y gwelliant cyntaf fel cynnig. Ni alwyd am gofnodi’r bleidlais, a gwahoddwyd yr aelodau felly i nodi a ddymunai unrhyw rai ohonynt newid eu pleidlais.
Nid oedd neb am newid eu pleidlais o’r bleidlais flaenorol a gofnodwyd ar y gwelliant. Felly yr oedd y cynnig wedi ei basio o fwyafrif.
Penderfynwyd:
Fod -
Cyngor Dinas Casnewydd yn wastad wedi cydnabod y farn gyhoeddus am Ffordd Liniaru’r M4 o gwmpas Casnewydd. Yr ydym yn cydnabod fod yn rhaid i ni weithredu heddiw am well yfory.
Mae’r Cyngor hwn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried yn ofalus unrhyw alwadau am refferendwm ymgynghorol neu ymgynghoriad cyhoeddus arall o fewn ffin awdurdod lleol Casnewydd yng nghyd-destun ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol, sydd yn sail i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.