Agenda item

Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys 2021/22

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor.

 

Cyflwynwyd y Strategaeth Gyfalaf a Strategaeth Rheoli'r Trysorlys  i’r Pwyllgor Archwilio ac y mae eu sylwadau yn yr adroddiad.  Cadarnhaodd y Cabinet  y strategaethau yn eu cyfarfod diweddaraf, ac y mae gofyn i’r Cyngor gymeradwyo’r strategaethau gan gynnwys y terfynau benthyca a’r dangosyddion cynghorus a rheoli trysorlys sydd ynddynt. 

 

Mae’r adroddiad hwn yn cynnwys y Strategaethau Cyfalaf a Rheoli Trysorlys sydd, yn y bôn, yn (i) cadarnhau’r rhaglen gyfalaf, fel rhan o’r Strategaeth Gyfalaf, a (ii) y gwahanol derfynau benthyca a dangosyddion eraill oedd yn rheoli gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor, fel rhan o Strategaeth Rheoli'r Trysorlys.

 

Mae’r naill strategaeth a’r llall yn ofynion Cod Cynghorus CIPFA, sy’n gosod allan y gofynion ac yn sicrhau, o fewn y fframweithiau a osodir yn y dogfennau hyn, fod cynlluniau gwariant cyfalaf yn:

 

§  Fforddiadwy – bod gwariant a rhaglenni cyfalaf o fewn terfynau cynaliadwy a bod lle iddynt o fewn lefelau cyllido cyfredol a’r rhai a ragwelir at y dyfodol

 

§  Darbodus - Rhaid i gynghorau osod terfynau benthyca - a elwir yn derfynau ‘gweithredol’ ac ‘awdurdodedig’ sy’n adlewyrchu eu cynlluniau cyfalaf fforddiadwy a chost eu cyllido. O ran gweithgareddau buddsoddi, rhaid i gynghorau ystyried y cydbwysedd rhwng diogelwch, hylifedd ac elw sydd yn adlewyrchu eu hawch hwy am risg ond sydd yn rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch a hylifedd dros elw. 

 

§  Cynaliadwy – Rhaid i gynlluniau cyfalaf cynghorau a chost refeniw cyllido’r benthyciadau/dyledion cyfredol a rhai’r dyfodol a gymerir ar gyfer hynny fod yn gynaliadwy yn nhermau cyllid cyffredinol y Cyngor a’i effaith ar hynny. 

 

Er mai’r Cabinet oedd yn gwneud penderfyniadau am ba brosiectau cyfalaf a gwariant i’w gwneud, y Cyngor llawn sy’n cymeradwyo’r ‘terfynau benthyca’ i’r rhain gadw o’u mewn. Mae llawer o brosiectau yn cael eu cyllido o grantiau cyfalaf, derbyniadau cyfalaf ac arian penodol wrth gefn nad yw’n cael effaith ar lefelau benthyca, ond lle mae angen benthyca, rhaid i’r rhaglen gadw o fewn y terfynau hynny.

 

Yr oedd hyn yn faes pwysig o lywodraethiant rheoli ariannol yn gyffredinol, oherwydd unwaith i lefelau benthyca gael eu cymryd, maent yn cloi’r Cyngor i atebolrwydd tymor-hir am gostau refeniw ad-dalu’r benthyciadau hyn (costau IDR) a chostau llog benthyciadau allanol – a adwaenir gyda’i gilydd fel ‘costau cyllido cyfalaf’.

 

Rhaglen gyfalaf

Aeth  rhaglen gyfalaf  y Cyngor i 2024/25 (hon oedd y rhaglen gyfalaf 5-mlynedd wreiddiol hyd at 2022/23 a estynnwyd o ddwy flynedd ar gyfer prosiectau a gymerai fwy na 5 mlynedd i’w cwblhau). Yr oedd yn rhaglen gyfalaf  sylweddol ac yn cynnwys £211.4m o brosiectau a gymeradwywyd eisoes, ynghyd â buddsoddiadau newydd fel benthyca i wario ar Ddinas-Ranbarth Caerdydd £17.3m, £19.7m i’r cynllun hamdden newydd a £4.5m o fenthyca heb eto ei ymrwymo ar gyfer prosiectau yn y dyfodol, sy’n gyfanswm buddsoddiad o £252.9m ar gyfer y rhaglen yn diweddu 2024/25.

 

Yr oedd hwn yn fuddsoddiad mawr i seilwaith allweddol y ddinas. Ymysg prosiectau allweddol mae:

 

§  Ein cynllun hamdden newydd yng nghanol y ddinas -£19.7m.  Byddai hefyd yn paratoi’r ffordd i Goleg Gwent newydd, a’r naill a’r llall yn dod â mwy o bobl a bywiogrwydd i ganol y ddinas

§  Buddsoddi i adnewyddu ac adfer Pont Gludo’r ddinas – bron i £13m

§  Ehangu, moderneiddio a chynnal adeiladau ein hysgolion yn sylweddol, sef y rhan fwyaf o’n buddsoddiad yn y rhaglen hon mewn addysg ac ysgolion

§  Dros £25m o gyllid i Ddinas-Ranbarth Caerdydd, fyddai’n galluogi lefel enfawr o ddatblygu economaidd ar draws ein rhanbarth, a fyddai o fudd i Gasnewydd a’r rhanbarth yn ehangach.

§  Dros £7m ym mhrosiectau canol y ddinas ac adfywio, gan gynnwys mwy o gyllid yn ein cyllideb refeniw i barhau ac ehangu wrth i ni ‘adeiladu’n well’ o’r 12 mis a aeth heibio.

 

Mae gwariant cyfalaf a gyllidir gan ddyledion yn cynyddu’r angen i fenthyca’n allanol. Ffactor arall yn yr angen i fenthyca’n allanol oedd lleihad yn y gallu i ‘fenthyca’n fewnol’ wrth i arian wrth gefn gael ei ddefnyddio, a hyn yn ei dro yn golygu benthyca allanol yn eu lle. Yr oedd hyn yn arbennig o wir am y Cyngor hwn oedd â lefel uchel o ‘fenthyca mewnol’, sy’n gostwng yn awr dros y tymor canol i’r tymor hir. Yr oedd y Cyngor felly wedi ymrwymo ac yn gorfod bod yn fenthyciwr net am y tymor hir.

 

Am y tair blynedd oedd weddill o’r rhaglen gyfalaf tan 2024/25, yr oedd lefel y benthyca i hwyluso’r rhaglen gyfalaf gyfredol yn sylweddol, gyda benthyca allanol yn codi o amcangyfrif o £164m ar ddiwedd y flwyddyn ariannol hon i £234m yn 2024/25, cynnydd o fwy na £70m. Rhagwelwyd y byddai cyfanswm yr ymrwymiadau o ran benthyca allanol yn ryw £284m. Mae hyn yn nhabl 2 yr adroddiad.

 

Arweiniodd yr ymrwymiad i gynyddu benthyca allanol at fwy o gostau cyllido cyfalaf fel y gwelir yn nhabl 3 yr adroddiad, ac y mae’n gryn gynnydd  ers costau cyllido cyfalaf 2020/21.  Yr oedd y costau hyn wedi eu cynnwys yn CATC y Cyngor. Dal i gynyddu fyddai costau yn y tymor canol i’r tymor hir. O gymharu ag awdurdodau eraill, yr oedd canran y costau cyllido cyfalaf fel cyfran o gyfanswm refeniw net y Cyngor yn uchel. Yr ydym wedi talu yn llawn y costau cyllido cyfalaf sydd eu hangen i gwblhau’r rhaglen gyfalaf gyfredol hon ac yr oedd hyn yn bwnc allweddol o ran dangos fforddiadwyedd. Gan fod  cyllideb net y Cyngor hefyd yn cynyddu’n sylweddol, erys cyfran cyllideb net y Cyngor a neilltuir i hyn yn fras yr un fath ag ar hyn o bryd, ac nid yw’r risg o dwf is neu isel mewn cyllid yn un newydd. Felly o safbwynt cynaliadwyedd, yr oedd cost cymharol uchel y gyllideb hon yn her ac yn risg, ond heb fod yn uwch nac yn fwy newydd nag y mae heddiw. 

 

Gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo’r strategaeth gyfalaf a’r terfynau benthyca.

 

Strategaeth Rheoli Trysorlys

Mae a wnelo hyn a chynlluniau ar gyfer gweithgareddau benthyca a buddsoddi’r Cyngor. O ran benthyca, byddai’r gallu i fenthyca’n fewnol yn gostwng dros y tymor canol i’r tymor hir. Yn 2021/22 yr oedd disgwyl i’r Cyngor fenthyca’n allanol i dalu am fenthyciadau oedd yn aeddfedu ac i dalu am fwy o wariant cyfalaf yn y rhaglen gyfalaf bresennol; byddai’n parhau i ‘fenthyca yn fewnol’ gymaint ag sydd modd a chynyddu benthyca allanol dim ond pan fydd angen hynny i reoli’r gofynion am arian. Fodd bynnag, lle teimla’r Cyngor fod angen er mwyn lliniaru’r risg o godiadau mewn cyfraddau llog, gall fenthyca’n gynnar er mwyn sicrhau cyfraddau llog o fewn y cyllidebau refeniw y cytunwyd arnynt. Byddai hyn yn cael ei wneud yn unol â chyngor gan ein Hymgynghorwyr Trysorlys.

 

O ran buddsoddi, amcan yr awdurdod wrth fuddsoddi arian oedd cadw cydbwysedd priodol rhwng risg ac elw, gan leihau’r risg o golli oherwydd drwgdalu a’r risg o dderbyn incwm anaddas o isel o fuddsoddiadau. O gofio’r risg gynyddol a’r elw isel iawn o fuddsoddiadau banc ansicredig, nod yr awdurdod oedd arallgyfeirio i ddosbarthiadau ased fyddai’n talu’n well yn ystod 2021/22, a chafodd hyn ei oedi yn yr hinsawdd economaidd cyfredol oherwydd y pandemig.  Yr oedd hyn yn arbennig o wir am y £10 miliwn a amcangyfrifwyd oedd ar gael i’w fuddsoddi yn y tymor hwy. Yr oedd holl arian dros ben yr awdurdod ar hyn o bryd wedi ei fuddsoddi mewn adneuon banc ansicredig tymor-byr ac awdurdodau lleol. Byddai’r strategaeth i arallgyfeirio i  ddosbarthiadau ased uwch eu helw yn cael ei rhoi ar waith yn y flwyddyn i ddod.

 

Unwaith eto, gofynnwyd i’r Cyngor gymeradwyo’r strategaeth Rheoli Trysorlys, gan gynnwys y strategaeth buddsoddi, y dangosyddion a  therfynau rheoli trysorlys a’r polisi Isafswm Darpariaeth Refeniw sydd yn y strategaeth.

 

Eiliodd y Cynghorydd Jeavons yr adroddiad.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Al-Nuaimi at y rhaglen gyfalaf saith-mlynedd ac yr oedd am eglurhad am gost benthyca ar gyfer Dinas-Ranbarth Caerdydd cyn i arian ddod o’r llywodraeth ganolog a pha arian fyddai’n talu am brosiectau yng Nghasnewydd.  Dywedwyd wrth y Cynghorydd Al-Nuaimi i roi unrhyw gwestiynau yn ysgrifenedig i’r Pennaeth Cyllid.

 

Yr oedd y Cynghorydd Truman yn llawn gefnogi’r cynigion fel rhai blaengar, a’u bod yn delio â’r holl brif bynciau, gan gynnwys tai a chyfleusterau hamdden, a’u bod yn hwb i brosiectau adfywio canol y ddinas.  Yr oedd y Cynghorydd Truman hefyd yn cefnogi’r cyllid ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol a’r gronfa eiddo gwag. Yr oedd croeso hefyd i adnewyddu’r Bont Gludo.

 

Ategodd y Cynghorydd Hourahine yr hyn a ddywedodd y Cynghorydd Truman, gan ychwanegu y byddai adfywio canol y ddinas yn llesol i’r trigolion iau.  Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd yn awdurdod blaengar. Byddai’r adfywio yn esgor ar swyddi o ansawdd da sy’n talu’n dda i bobl ifanc, gan ddiogelu eu dyfodol, ac yr oedd felly yn croesawu’r adroddiad.

 

Penderfynwyd:

Fod y Cyngor yn -

·        Cymeradwyo’r Strategaeth Cyfalaf(Atodiad 2), gan gynnwys y rhaglen gyfalaf ynddi (a ddangosir ar wahân yn 1) a’r gofynion/terfynau benthyca sydd eu hangen i gyflwyno’r rhaglen gyfalaf gyfredol.

·        Cymeradwyo’r Strategaeth Rheoli Trysorlys a’r Dangosyddion Rheoli Trysorlys, y Strategaeth Fuddsoddi a’r Isafswm Darpariaeth Refeniw (IDR) am 2021/22. (Atodiad 3)

 

Fel rhan o’r uchod:

 

o   Nodwyd cost gynyddol y ddyled a chost refeniw cyfatebol hyn o ran cyflwyno’r rhaglen gyfalaf gyfredol, ac oblygiadau hyn dros y tymor byr a chanol o ran fforddiadwyedd, darbodaeth a chynaliadwyedd.

 

o   Nodwyd argymhelliad y Pennaeth Cyllid i’r Cyngor, fod angen cyfyngu benthyca i’r hyn a gynhwysir yn y rhaglen gyfalaf gyfredol a’r dangosyddion cynghorus ar derfynau benthyca i wneud hyn.

 

o   Y tu hwnt i gyfnod y rhaglen gyfalaf gyfredol, mae heriau ariannol ynghylch fforddiadwyedd a chynaliadwyedd cyson, ond bydd angen adolygu’r rhain yn nes at gychwyn y rhaglen newydd yng nghyd-destun lefelau cyllido a sefyllfa cyllideb y Cyngor. 

 

·        Nodwyd sylwadau’r Pwyllgor Archwilio ar 28 Ionawr 2021 (paragraffau 5 a 6).

 

Dogfennau ategol: