Agenda item

Cynigion Terfynol y Gyllideb Refeniw a'r Cynllun Ariannol Tymor Canol (CATC)

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i’r Cyngor. Yn dilyn argymhelliad y Cabinet, bydd angen i’r Cyngor adolygu a phenderfynu ar lefel treth y cyngor a chyfanswm y gyllideb refeniw net am 2021/22.

 

Cyfarfu’r Cabinet ar 22 Chwefror 2021 a rhoi’r argymhellion am y gyllideb ar eu ffurf derfynol. Mae’r adroddiad hwn yn gosod allan y gyllideb gyffredinol a argymhellir ar gyfer 2021/22, y terfynau arian gwasanaeth sy’n deillio o hyn, codiad yn nhreth y cyngor ac arian cyffredinol y cyngor wrth gefn. Argymhellwyd cynnydd o 3.7%  yn nhreth y cyngor (i £1,242.20 y flwyddyn am Band D) i Gyngor Dinas Casnewydd.  Yr oedd codiad o 3.7% ar dreth y cyngor yn gynnydd o 66 ceiniog yr wythnos, 76 ceiniog yr wythnos ac 85 ceiniog yr wythnos i eiddo ym mandiau Band B, C a D.

 

I droi at y gyllideb i ddechrau, dywedodd yr Arweinydd er nad oedd y Cyngor yma i gytuno ar y manylion, am mai’r Cabinet oedd yn gyfrifol am lle i wario’r adnoddau a pha rai, yr oedd yn bwysig nodi rhai pwyntiau allweddol:

 

1. Yr oedd yn binacl tua chwe mis o waith caled, o gytuno ar ragdybiaethau’r gyllideb i ffurfio sail ein cynllunio i roi’r cynigion ar eu ffurf derfynol yr wythnos ddiwethaf, wedi cyfnod o ymgynghori ar ein cyllideb ddrafft a gyhoeddwyd gennym yn gynnar ym mis Ionawr. Gwnaethom hyn dan amodau anodd, yn gweithio o bell a than gryn ansicrwydd am gyllidebau oedd yn datblygu yn y cyfnod heriol hwn. Yr oedd llawer o aelodau etholedig wedi cymryd rhan yn hyn, o aelodau’r Cabinet, i’r rhai ar y pwyllgorau Craffu, y Comisiwn Tegwch a llawer o lywodraethwyr ysgolion. Diolchodd yr Arweinydd i bawb oedd wedi chwarae eu rhan, a swyddogion y  Cyngor sydd wedi gweithio’n ddiflino a delio ar yr un pryd â chefnogi’r ddinas a’r trigolion trwy’r 12 mis diwethaf.

 

2. Byddai cyllid y Cyngor yn cynyddu’n sylweddol y flwyddyn nesaf, ac yr oedd hyn yn rhoi rhai dewisiadau a chyfle i fuddsoddi mewn gwasanaethau allweddol, gan gynnwys paratoi’r Cyngor a’r ddinas ar gyfer her adfer o’r 12 mis diwethaf. Tra bod y Grant Cynnal Refeniw yn cyfrif am tua 76% o’n cyllid cyffredinol, yr oedd Treth y Cyngor yn dal yn elfen bwysig. Gyda Threth Cyngor o 3.7% byddai’r cyllid yn cynyddu o ychydig dros £15m.

 

3. Yr oedd y Cabinet yn dal i wneud arbedion oherwydd bod y buddsoddiadau arfaethedig yn fwy na’r gyllideb oedd ar gael, felly yr oedd arbedion yn angenrheidiol. Dangosodd y cynigion drafft am y gyllideb o ran arbedion ein bod ar y trywydd iawn. Ni fyddai’r rhan fwyaf o’r arbedion yn cael dim neu fawr ddim effaith ar wasanaethau, ac yr oeddent wedi eu dirprwyo i Benaethiaid Gwasanaeth i’w gweithredu. O’r rhai yr ymgynghorwyd arnynt, dau gynnig yn unig a gafodd adborth negyddol gan y trigolion. Dywedodd yr Arweinydd ei bod wedi gwrando ac fe ddileodd un arbediad nad oedd yn cael ei hoffi (codi tâl yn y CAGC) a lleihau’r codiad yn Nhreth y Cyngor o’r hyn yr ymgynghorwyd arno.

 

4. Mae’r buddsoddiadau’r gyllideb yn rhoi blaenoriaeth i ‘bobl’ yn ein dinas ac yn buddsoddi mewn ‘lle’.

 

-        Bydd £4.9m yn talu am y cynnydd costau yn ein hysgolion, gan gynnwys ysgolion newydd a rhai sy’n ehangu. Yr ydym wedi cadw’r elfen codiad cyflog yn ôl ac am ei ddosbarthu pan wyddom beth fydd, hyd at y lefel yr ydym wedi darparu ar ei gyfer. Ein bwriad oedd o leiaf dalu am y cynnydd mewn costau yn ein cyllideb gyffredinol i ysgolion.

 

-        £2.5m yn ein gwasanaethau gofal cymdeithasol mewn nifer o feysydd - lleoliadau brys i blant bregus, helpu ein hoedolion ag anableddau dysgu i fyw yn annibynnol, a darpariaeth am gostau uwch i’n darparwyr gofal oherwydd problemau Covid / Brexit a sicrhau eu bod yno i ddarparu’r gofal gorau posib.

 

-        £4m yng ngwasanaethau ein dinas ac adfywio, buddsoddi a gwasanaethau tai. Y mae hyn yn ymdrin â nifer o bynciau ond yn rhoi’r gallu i ymdrin â thai gwag, datblygu economaidd a phrosiectau i adfywio a chynnal mwy ar ganol y ddinas. Yr oedd y rhain yn hanfodol yn awr wrth i ni edrych y tu hwnt i heriau’r 12 mis a aeth heibio.

 

-        £2.1m i gyllido rhaglen gyfalaf y Cyngor. Yr oedd hyn yn rhoi’r gallu i roi ar droed raglen gyfalaf helaeth iawn er budd ein hysgolion, seilwaith diwylliannol allweddol, canolfan hamdden newydd yn y ddinas, a hefyd yn rhyddhau lle i gampws coleg a phrosiectau adfywio canol y ddinas. 

 

-        Bron i £1m i ddarparu’r gallu i gydgordio a gweithredu ein swyddogaethau er mwyn cyflawni dyheadau’r ddinas o ran datblygu cynaliadwy, priffyrdd a mentrau dad-garboneiddio, datblygu ein cynlluniau ar gyfer y gweithlu, datblygu a gweithredu cynllun a mentrau i gynyddu balchder yn ein dinas, dod o hyd i ffyrdd o gefnogi cymunedau lleol a’u cysylltu â’r ddinas yn ehangach.  

 

Dywedodd yr Arweinydd ei bod yn gyllideb gyfrifol oedd yn canolbwyntio ar adfer yn ogystal â gwasanaethau allweddol oedd yn cefnogi trigolion bregus a phobl ifanc.

 

O ran Treth y Cyngor, penderfyniad i’r Cyngor yma heddiw oedd hwn. Fel y cyhoeddodd yr Arweinydd yr wythnos ddiwethaf, yr oedd y Cabinet wedi argymell codiad llai o 3.7%.  Gwnaeth yr Arweinydd y pwyntiau canlynol:

 

-        Yr oedd yn sylweddol is na’r 5% yr ymgynghorwyd arno a hefyd yn is na’r rhagdyb sylfaenol ar gynllun ariannol tymor canol y Cyngor

-        Yr oedd lefel treth Casnewydd yn un o’r rhai isaf yng Nghymru a’r DU i gynghorau tebyg (unedol a sirol) ac yr oedd y codiad yma yn cadw at hynny. Nid oedd y gyfradd yn anghymesur a chodiadau eraill ledled Cymru. Bydd yn sylweddol is na chodiadau yn Lloegr, lle nad oedd cyfraddau o fwy na 5% yn anghyffredin

-        Nid yw lefel gymharol isel ein Treth Cyngor heb ei heriau, yn enwedig fel dinas sy’n tyfu, a chyda lefelau gweddol uchel o amddifadedd. Ni allwn fforddio llithro’n ôl fwy fyth gan nad oedd hynny’n gynaliadwy nac yn gyfrifol. Yr oedd y lefel a roddir yma yn gytbwys.

 

Mae hon yn gyllideb dda sydd yn canolbwyntio ar adfer cyfrifol wrth i ni edrych ymlaen a rhoi’r Cyngor wrth galon cefnogi ein dinas a symud ymlaen o heriau y 12 mis diwethaf.

 

Eiliodd y Cynghorydd Jeavons yr adroddiad.

 

Sylwadau gan Gynghorwyr:

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i bawb am eu gwaith caled a’u cyfraniad at y gyllideb. Ynghyd a gwneud i ffwrdd â thaliadau parcio mewn rhai safleoedd yn y ddinas, a wnaed gan y Cabinet yn gynharach yng nghylch y gyllideb, yr oedd tynnu ymaith gynnig arbediad STR2122/02 – taliadau am wastraff annomestig oedd yn cyfrif am £20K i’w groesawu.

 

Yr oedd yr arbediad ar wastraff annomestig i ddefnyddwyr safle CAGC (oedd wedi derbyn dros 60,000 o ymweliadau ers cyflwyno’r system archebu) yn dangos eto ein bod wedi gwrando ar yr ymateb i’r gyllideb.

 

Bydd hyn, ynghyd â’r cynnydd mewn gorfodi gwastraff yn y gyllideb hon, yn helpu i drin tipio anghyfreithlon.

 

Anogodd y Cynghorydd Jeavons yr holl grwpiau codi sbwriel i gadw at arferion gweithio diogel a pholisi archebu’r Cyngor, a gofynnod i’r cyhoedd wirio, pan fydd eitemau yn cael eu symud o’u heiddo, fod gan y bobl sy’n mynd â’r gwastraff y gwaith papur/trwyddedau cywir.

 

Yr oedd y Cynghorydd Jeavons yn falch iawn o weld cynnydd yn y gyllideb cynnal a chadw dros y gaeaf, oedd yn helpu i gadw lefelau diogelwch ein priffyrdd yn uchel. Yr oedd pob taith graeanu yn costio llawer o arian, ac anaml yr oedd y cyhoedd yn eu gweld am eu bod hwy dan do yn ystod tywydd garw.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at y cynnydd yng nghost  treth y cyngor Band D n 2009/10 i 2021sef £1,242 - cynnydd o £500.  Teimlwyd na ddylai treth y cyngor fod wedi codi yn yr hinsawdd ariannol presennol. Soniodd hefyd fod £6M wedi ei roi tuag at gyllideb Cymru gyda setliad o 5.6%   Fodd bynnag, yr oedd y Cynghorydd M Evans yn croesawu rhai cynigion, megis taliadau parcio ac ymdrin â thipio anghyfreithlon. Oherwydd Covid a’r gostyngiad mewn darparu gwasanaethau fel cau yr Orsaf Wybodaeth, nid oedd y gyllideb felly yn cael ei chefnogi gan ei gydweithwyr Ceidwadol.

 

Yr oedd y Cynghorydd Truman yn ystyried bod hon yn gyllideb anodd, a bod y swyddogion a’r aelodau wedi treulio cryn amser arni. Ymdriniwyd hefyd â’r heriau o ddod allan o Covid, ac yr oedd felly yn cefnogi’r adroddiad.

 

Cefnogodd y Cynghorydd Davies yr adroddiad gan ddweud fod cymorth ariannol i drigolion petaent yn methu fforddio treth y cyngor. Y mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi’r cyngor a’r trigolion.

 

Soniodd y Cynghorydd Harvey am arbedion mewn gwahanol feysydd gwasanaeth, gan ddweud fod y swyddogion wedi mynd yr ail filltir i baratoi’r adroddiad, gan gefnogi ysgolion a rhoi grantiau i fusnesau; yr oedd felly’n cefnogi’r gyllideb.

 

Yr oedd y Cynghorydd Whitehead yn tybio fod llawer o bethau dan yn adroddiad y gyllideb.  Er hynny, yr oedd yn gwrthwynebu’r codiad yn nhreth y cyngor ar ran y trigolion ac wedi ystyried cynnig cyllideb ddiwygiedig gyda llai o godiad treth y cyngor, ond penderfynodd beidio.

 

Tynnodd y Cynghorydd Rahman sylw at fuddsoddiadau, fel y rhai i fusnesau bach, ysgolion, adferiad gwyrdd yng Nghasnewydd pan wynebwyd toriadau yn y blynyddoedd blaenorol. Yn ychwanegol at hyn, roedd y Ganolfan Hamdden arfaethedig. Yr oedd y Cynghorydd Rahman yn deall fod llawer o deuluoedd yn cael trafferthion, a dywedodd fod help ar gael gan y Cyngor, gan annog trigolion i ddod i gysylltiad.

 

Yr oedd y Cynghorydd Routley yn gwrthwynebu’r codiad yn nhreth  y cyngor, gan deimlo y byddai’n effeithio ar y sawl sy’n ei chael yn anodd. Soniodd hefyd nad oedd refeniw ychwanegol ar gyfer canolfan Cyrhaeddiad y Bont.

 

Dywedodd y Cynghorydd C Townsend fod pethau da yn y gyllideb ond teimlai nad oedd yn mynd yn ddigon pell gyda glanhau strydoedd a thipio anghyfreithlon. Mae angen hefyd cryfhau’r broses gynllunio trwy orfodaeth a’r broses apeliadau.

 

Ystyriai’r Cynghorydd Cockeram mai hon oedd un o’r cyllidebau gorau dros y blynyddoedd diwethaf yng ngoleuni’r toriadau cyson o flwyddyn i flwyddyn, ac adleisiodd hefyd y sylwadau am adfywio canol y ddinas. 

 

Dywedodd y Cynghorydd C Evans fod y gyllideb wedi ei hystyried yn y Pwyllgor Craffu Perfformiad, a bod awgrymiadau wedi eu cynnig am y cynnydd yn y dreth. Soniodd hefyd fod cyllideb cyngor cyfagos wedi gweld toriadau eithaf llym. Dywedodd fod gan y Rheolwr Casglu Incwm wybodaeth i drigolion fu ar ffyrlo yn ystod y cyfnod clo, a chynghorodd drigolion i estyn allan i Gyngor Dinas Casnewydd petaent mewn caledi ariannol, i drafod sut i gael cefnogaeth.

 

Awgrymodd y Cynghorydd Hourahine y dylai’r holl gydweithwyr gymryd rhan yn y broses ymgynghori a chynnig cyllideb amgen petae’n well ganddynt ganlyniad arall.

 

Cytunodd y Cynghorydd J Watkins fod pwyntiau da yn y gyllideb, fel mwy o arian i’r gwasanaethau cymdeithasol a phrentisiaethau i bobl ifanc. Byddai grwpiau gwirfoddol hefyd yn elwa o’r gyllideb, ond yr oedd yn erbyn y codiad yn nhreth y cyngor yng ngoleuni Covid.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Morris am gynnig i gloi, ond gofynnodd yr Arweinydd i’r Maer a allai hi roi terfyn ar y drafodaeth.

 

Daeth yr Arweinydd i’r casgliad ei bod yn gyllideb dda ac y cafwyd llawer o drafod. Yr oedd y gyllideb yn blaenoriaethu pobl ac yn buddsoddi mewn lle, ac yn gosod y sylfaen i adferiad gwyrdd a threth y cyngor is, oedd yn bwysig ar hyn o bryd.

 

Nodwyd na lwyddodd y Cynghorwyr Williams a Mogford i ail-ymuno a’r cyfarfod i fwrw eu pleidlais y tro hwn.

 

Penderfynwyd:

Fod y Cyngor yn -

 

Cyllideb refeniw a threth y cyngor 21/22 (adran 2-8)

 

1.     Nodi y cwblhawyd ymarferiad ymgynghori eang ar gynigion cyllideb 2021/22. 

 

2.     Nodi argymhellion y Pennaeth Cyllid y dylid cadw isafswm balans y Gronfa Gyffredinol ar £6.5miliwn o leiaf; cadarnhau cadernid y gyllideb gyffredinol o ran y cynigion, yn amodol ar y materion allweddol a amlygwyd yn adran 7, a digonoldeb yr arian cyffredinol wrth gefn yng nghyd-destun arian arall a glustnodwyd, a’r gyllideb refeniw gyffredinol wrth gefn o £1.5miliwn.

 

3.     Cymeradwy cynnydd o  dreth y cyngor i Gyngor Dinas Casnewydd o 3.7%, treth Band D o £1,242.20; a’r  gyllideb refeniw gyffredinol sy’n deillio o hyn a welir yn atodiad 1.

 

4.     Cymeradwyo cynnig ffurfiol treth y cyngor, sydd yn atodiad 3 ac sy’n ymgorffori praeseptiau Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gwent a Chynghorau Cymuned.

 

Cynllun Ariannol Tymor Canol (adran 5)

 

1.      Nodi’r CATC a’r ansicrwydd sy’n wynebu llywodraeth leol dros y tymor canol.

 

2.      Nodi fod y Cabinet yn cymeradwyo gweithredu’r cynllun pedair-blynedd, gan gynnwys holl ddewisiadau buddsoddi ac arbedion y gyllideb, fel y’u crynhoir yn y cynllun ariannol tymor canol (atodiad 4).  Yng ngoleuni pwynt 5 uchod, dylid nodi fod y rhagfynegiadau ariannol yn destun adolygu a chyfoesi cyson.

 

Nodi a chymeradwyo strategaeth arian wrth gefn y Cyngor a’r protocol buddsoddi i arbed. Mae amcangyfrif o’r balansau wrth gefn ar 31 Mawrth yn atodiad 5a.

 

Dogfennau ategol: