Agenda item

Materion yr Heddlu

30 minutes is allocated for questions to the Gwent Police representative.

Cofnodion:

Roedd y Maer yn falch o groesawu'r Uwcharolygydd Vicki Townsend i'r cyfarfod.

 

Gofynnwyd a wnâi'r aelodau nodi mai hwn oedd cyfarfod cyntaf yr Uwcharolygydd Townsend a'i bod yma heddiw i'w cyflwyno ei hun ac i bennu ei blaenoriaethau plismona. Gofynnodd y Maer felly i’r aelodau gyfyngu unrhyw gwestiynau i unrhyw faterion a oedd yn codi o’i chyflwyniad, yn hytrach na gofyn unrhyw gwestiynau manwl a allai fod ganddynt ynghylch materion plismona penodol yn eu wardiau, gan na fyddai'r Uwcharolygydd Townsend mewn sefyllfa i ateb y cwestiynau hynny heddiw, a byddai angen disgwyl tan gyfarfod nesaf y Cyngor i'w gofyn.

 

Cwestiynau a godwyd gan gynghorwyr:

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Whitehead at y defnydd o feiciau oddi ar y ffordd, ger Hosbis Dewi Sant. Adroddwyd yn flaenorol fod hyn yn broblem gyson, a'u bod yn amharu ac yn tarfu ar gleifion a'u teuluoedd. Soniodd yr Uwcharolygydd wrth y Cynghorydd Whitehead am brofiad tebyg yr oedd wedi dod ar ei thraws wrth weithio ym Mlaenau Gwent a'r mesurau a roddwyd ar waith i fynd i'r afael â hynny.  Roedd yr Uwcharolygydd Townsend wedi bod yn bresennol mewn cyfarfod diweddar ynghylch beiciau ffordd a cheir gydag adolygiad ar 27 Ionawr.  Byddai'r Heddlu'n croesawu unrhyw wybodaeth bellach drwy gysylltu â 101 i roi cudd-wybodaeth a fyddai'n galluogi'r Heddlu i greu darlun o'r sefyllfa.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Al Nuaimi am gyllid partneriaeth rhwng y Cyngor a’r Heddlu yn gysylltiedig â diogelwch a oedd i'w wario erbyn mis Mawrth 2022, a gofynnodd sut roedd yr arian yn cael ei wario, a beth y gellid ei ddisgwyl gan y cyhoedd.  Roedd yr Uwcharolygydd yn ymwybodol o'r fenter Strydoedd Mwy Diogel a Phrif Arolygydd penodedig a oedd yn cyfeirio cyllid at y meysydd a nodwyd.  Roedd yr Heddlu yn y cam caffael a oedd yn golygu bod angen cadw at rai prosesau a gofynion ond byddai targed mis Mawrth yn cael ei gyrraedd.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Jeavons at ddefnydd amhriodol o gerbydau ar SDR ar nosweithiau Sul yn arbennig a gofynnwyd am ddefnyddio Gan Bwyll i fynd i'r afael â hyn, a gofynnodd y Cynghorydd Jeavons a allai'r Uwcharolygydd fynd ar drywydd hyn â'r Arolygydd Cawley.  Sicrhaodd yr Uwcharolygydd Townsend y cynghorydd y byddai hyn yn cael ei drafod â'r Arolygydd Cawley.

 

§  Dywedodd y Cynghorydd Harvey fod yr Arolygydd Cawley ac S Greening bob amser yn barod iawn i helpu gyda'u gwaith rhagorol yn Alway.

 

§  Soniodd y Cynghorydd Forsey am Reolau’r Ffordd Fawr newydd a oedd i’w cyflwyno gyda newidiadau i hawliau tramwy cerddwyr a beicwyr. Gyda hyn mewn golwg, pa gynlluniau fyddai’n cael eu rhoi ar waith i weithredu a hyrwyddo hyn yng Nghasnewydd.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Townsend fod yr Heddlu'n derbyn briff gwylio pan ddeddfwyd ynghylch hyn, ynghyd â chyngor gan eu hadran gyfreithiol.  'Gan Bwyll' a'r Adran Cynllunio Gweithrediadau a fyddai'n arwain y gwaith ymgysylltu, a byddai'r gwaith hwnnw'n cefnogi'r gweithrediadau hynny, ond ni fyddai'n arwain yn hynny o beth gan fod addysg yn rhywbeth a oedd yn cael ei gweithredu o ganol yr heddlu. [DVX31] Byddai'rUwcharolygydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor pan fyddai newidiadau'n digwydd.  Yn ogystal â hynny, gofynnodd y Cynghorydd Forsey a oedd Ymgyrch Llwybrau Caeedig wedi'i chynnal.  Dywedodd yr Uwcharolygydd y byddai'n ymchwilio i hyn ac yn rhoi adborth.

 

§  Gofynnodd y Cynghorydd Hourahine pa adnoddau oedd yn cael eu trefnu i fynd ar drywydd beiciau oddi ar y ffordd a beiciau cwad.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Townsend fod hyn yn broblem genedlaethol.  Nid oedd unrhyw dactegau ar gyfer y cerbydau hyn oherwydd y goblygiadau diogelwch pe bai'r heddlu'n ceisio'u hatal, gan nad oeddent wedi'u hyswirio i'w defnyddio ar y ffyrdd.  Roedd Blaenau Gwent wedi ystyried targedu'r cerbydau hyn wrth iddynt gael eu llenwi â thanwydd neu eu trwsio, wrth gael tanwydd mewn cyfeiriadau penodol.  Roedd felly angen ystyried ffordd ddiogel o atafaelu a stopio'r cerbydau a pheidio â'u canlyn, oherwydd gallai hynny beryglu'r unigolyn a'r swyddog.

 

§  Gofynnodd y Cynghorydd M Evans i'r Uwcharolygydd Townsend ymhelaethu ar gynaliadwyedd a phlismona, y cyfeiriodd atynt yn ystod ei chyflwyniad, ac i roi'r newyddion diweddaraf am wasanaeth 101. Dywedodd yr Uwcharolygydd mai ystyr cynaliadwyedd oedd gwneud pethau mewn modd mwy effeithlon.  Enghraifft o hyn oedd defnyddio dyfais/ffôn symudol i uwchlwytho gwybodaeth yn gysylltiedig â digwyddiad drwy fewngofnodi ac anfon yr wybodaeth i'r orsaf yn hytrach na gorfod mynd i'r orsaf ei hun. Roedd hynny'n llawer cynt ac yn galluogi swyddogion i symud ymlaen i'w galwad nesaf.  Roedd technoleg adnabod wynebau hefyd yn cael ei defnyddio drwy TCC, ond nid oedd y defnydd hwnnw'n ddefnydd byw a fyddai'n amharu ar hawliau pobl. Roedd 26 o wahanol brosiectau ar waith, pob un ag agwedd dechnegol i sicrhau arbedion effeithlonrwydd ar y rheng flaen.  O ran 101, roedd yr amseroedd aros ychydig yn wahanol gan fod y galw wedi cynyddu ar ôl covid.  Fodd bynnag, dulliau eraill o riportio digwyddiadau oedd drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ac roedd swyddog penodol i ymdrin â'r cyfryngau cymdeithasol yn llwyddo i drafod chwech i saith galwad bob dydd o gymharu ag 1 alwad drwy  wasanaeth 101.  Roedd dulliau eraill dan ystyriaeth, gan gynnwys ymatebion rhithiol drwy ddefnyddio Teams, a olygai y gallai aelodau o'r cyhoedd siarad â'r heddlu yng nghyfforddusrwydd eu cartref yn hytrach na gorfod ymweld â gorsaf yr heddlu.

 

§  Cyfeiriodd y Cynghorydd Suller at atafaelu ceir.  Dywedodd yr Uwcharolygydd fod hyn yn cael ei wneud drwy ddefnyddio atafaeliadau Adran 59.  Roedd tîm heddlu ffyrdd canolog yn canolbwyntio ar ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â cheir.  Roedd hyn yn cynnwys hyfforddiant, ac roedd carfan wedi'i dyrannu i Gasnewydd, gyda chwe swyddog yn gweithio sifftiau 12 awr, yn y bore a chyda'r nos.

 

Roedd y Cynghorydd Townsend wedi siarad â gyrwyr tacsi am y cynnydd yn y sylwadau hiliol a gofynnodd a oedd hyn yn cael sylw gan yr heddlu ac a fyddent yn gallu cyfarfod â gyrwyr tacsi.  Dywedodd yr Uwcharolygydd Townsend nad oedd yn ymwybodol o hyn ond y byddai'n siarad â'i chydweithiwr wrth i droseddau casineb gael eu hadrodd a'u hadolygu'n ddyddiol, felly byddai'r Uwcharolygydd yn ymchwilio i hyn.  Gofynnodd yr Uwcharolygydd Townsend i'r Cynghorydd Townsend anfon y manylion ati.


 [DVX31]English doesn't make sense