Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Rhoddodd yr Arweinydd yr wybodaeth ddiweddaraf i'r cyngor am gyhoeddiadau diweddar.

 

Cymorth i breswylwyr a busnesau

Roedd llawer o drigolion a busnesau'n wynebu dwy flynedd heriol a gallai’r cyfnod ar ôl y Nadolig fod yn arbennig o anodd ar rai.

 

Ynghyd â'i bartneriaid, gallai'r Cyngor gynnig cyfoeth o gyngor a chefnogaeth - o gymorth gyda biliau, hyd at gymorth i ganfod gwaith neu gael hyfforddiant. Os oedd unrhyw un yn cael trafferthion ariannol, roedd yr Arweinydd yn eu hannog i gysylltu. Roedd gwybodaeth hefyd ar gael ar y wefan drwy gysylltu â Chanolfan Cyswllt y Ddinas.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch bod y Cyngor yn gallu ymrwymo £100,000 i gefnogi sefydliadau lleol a oedd yn ymroi i helpu pobl sy'n dioddef oherwydd tlodi bwyd.  Roedd banciau bwyd yn achubiaeth i rai unigolion a theuluoedd, gan gynnig cyflenwadau hanfodol i'r rhai a oedd yn ei chael hi'n anodd talu am yr hanfodion mwyaf sylfaenol.

 

Roedd y galw am y banciau bwyd yn uchel iawn ac roedd y Cyngor yn cyllido gwasanaethau yng nghanol cymunedau, gan eu bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd pobl.

 

Byddai'r cyllid yn helpu mentrau bwyd cymunedol i fodloni'r cynnydd yn y galw neu'r anawsterau wrth geisio sicrhau rhoddion digonol.

 

Roedd y cyngor hefyd yn gweinyddu cynllun Cymorth Tanwydd y Gaeaf i breswylwyr Casnewydd, ac roedd yr Arweinydd yn annog pobl a oedd yn gymwys i wneud cais am y cymorth ariannol ychwanegol hwn cyn y dyddiad cau, sef 18 Chwefror.

 

Roedd cymorth i fusnesau lleol yn dal i fod ar gael drwy ddosbarthu grantiau i'r rhai hynny yr effeithiwyd ar eu bywoliaeth oherwydd y pandemig.

 

Roedd y Cyngor hefyd yn cefnogi'r rhai a oedd yn dymuno dechrau neu ehangu busnes bach drwy Gronfa Busnes Dinas Casnewydd. Roedd y Gronfa honno'n cynnig grantiau o hyd at £10,000 tuag at gostau fel rhent, neu i brynu cyfarpar.

 

Menter graffiti canol y ddinas

Roedd y Cyngor yn gweithio gyda Newport Now, yr Ardal Gwella Busnes, i fynd i'r afael â graffiti yng nghanol y ddinas.  Gallai busnesau a oedd wedi ymaelodi â'r fenter drefnu i'r cyngor gael gwared â graffiti yn rhad ac am ddim, yn sgil cyllid gan Newport Now.

 

Nod y fenter oedd gwneud canol y ddinas yn ardal fwy dymunol i siopwyr, preswylwyr a gweithwyr, a hyrwyddo'r economi leol.

 

Roedd hyn yn dal i fod ymhlith blaenoriaethau'r Cyngor, ac roedd yr Arweinydd yn falch o weld rhai busnesau annibynnol newydd yn agor eu drysau dros y misoedd diwethaf. Ni fu hi erioed mor bwysig i siopa'n lleol - yn ogystal â bod yn well i'r amgylchedd, roedd hyn yn hollbwysig gan mai drwy gael eu defnyddio oedd yr unig ffordd y gallai'r busnesau hyn ffynnu a goroesi.

 

Gwerth Cymdeithasol

Cyhoeddodd yr Arweinydd fod y Cabinet yr wythnos diwethaf wedi cytuno i roi gwerth cymdeithasol wrth galon ei waith.

 

Byddai'r Cyngor yn mabwysiadu fframwaith themâu, canlyniadau a mesurau cenedlaethol Cymru ar gyfer mesur gwerth cymdeithasol (a elwir yn TOMS).

 

Roedd yn nodi saith thema, 35 o ganlyniadau a 93 o fesurau a gynhyrchwyd i helpu cyrff y sector cyhoeddus i ennill mwy o werth cymdeithasol drwy eu prosesau comisiynu, caffael a rheoli contractau.

 

Byddai hyn y galluogi'r cyngor i sicrhau bod ei waith yn cynhyrchu cymaint o werth cymdeithasol ag sy'n bosibl, gan greu budd i'r bobl a'r cymunedau yr oedd yn eu gwasanaethu.

 

Cynllun cyllidebu cyfranogol

Ym mis Chwefror a mis Mawrth, gallai preswylwyr bleidleisio dros brosiectau a gynigir yn rhan o gylch diweddaraf y cynllun cyllidebu cyfranogol, Ein Llais, Ein Dewis, Ein Porth.

 

Lansiwyd y cynllun y llynedd, ac mae 24 o grwpiau a phrosiectau cymunedol wedi cael cyfran o'r £103,000 a oedd ar gael yn y cylch cychwynnol.

 

Dyrannodd y Cyngor £250,000 o'i gronfa adfer ar ôl Covid-19 ar gyfer cylch presennol y cynllun. Pwrpas y dyraniad oedd cael grwpiau cymunedol i ddatblygu prosiectau adfer ar ôl Covid yn y gymuned.

 

Darparwyd £165,000 arall gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, gan olygu bod cyfanswm o £415,000 ar gael yn y cylch hwn.

 

Roedd grwpiau a phrosiectau cymunedol yn gallu gwneud cais am hyd at £15,000 er mwyn helpu i gefnogi syniad neu brosiect a oedd o gymorth i gyflawni un o themâu allweddol y cynllun.

 

Byddai cyllid yn cael ei ddyrannu i brosiectau'n unol â'u cyfran o'r bleidlais.  Roedd hon yn ffordd wych o rymuso preswylwyr i benderfynu ar yr hyn a oedd yn bwysig iddynt.

 

Pont Devon Place

Diolchodd yr Arweinydd i bawb fu'n rhan o'r gwaith i osod rhychwantau pont newydd Devon Place dros y rheilffordd yn ystod y Nadolig. Bu'r gwaith yn llwyddiant mawr, ac roedd yn ddarn rhagorol o beirianneg.

 

Roedd y prosiect yn cael ei arwain gan y Cyngor, gan weithio gyda'n partneriaid, Trafnidiaeth Cymru a Network Rail, a'r contractwyr lleol Alun Griffiths.

 

Roedd gwaith bellach ar y gweill ar weddill y bont, a ddylai gael ei gwblhau'n ddiweddarach eleni.

 

Roedd yn cymryd lle hen danlwybr Devon Place, a fyddai'n creu cyswllt teithio llesol o ganol y ddinas i'r strydoedd i'r gogledd o'r llinell reilffordd.

 

Diwrnod Cofio'r Holocost

Dydd Iau 27 Ionawr fyddai un o'r diwrnodiau mwyaf difrifol ar y calendr.

 

I gydnabod Diwrnod Cofio’r Holocost, roedd y Cyngor yn paratoi i oleuo t?r cloc y Ganolfan Ddinesig yn biws, a chodi'r faner goffa y tu allan i'r adeilad.

 

Y thema eleni oedd "Un Diwrnod" lle byddai pobl o bob cwr o'r byd yn cofio pawb a fu farw mewn hil-laddiadau - yn yr Holocost, Cambodia, Rwanda, Bosnia, Darfur.

 

Roedd Casnewydd yn cynnwys llawer o gymunedau amrywiol ac roedd yr Arweinydd yn dymuno dathlu hynny yn ogystal â chroesawu'r rhai a oedd yn ymgartrefu yn y ddinas, ac roedd hi'n bwysig i bawb deimlo'n ddiogel yn y ddinas.

 

Roedd yr Arweinydd yn falch y byddai'r Cyngor unwaith eto yn "goleuo'r tywyllwch" drwy oleuo t?r y cloc, a gobeithiai y byddai pobl yn ymuno â'r digwyddiad coffa cenedlaethol ac yn gosod cannwyll mewn man diogel ar sil ffenestr am 8pm.

 

Cwestiynau i'r Arweinydd

 

Cynghorydd M Evans:

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd M Evans at benderfyniad brys a gymerwyd gan yr Arweinydd ar 1 Rhagfyr 2021 yng gysylltiedig  a threfniadau teithio am ddim ar fysus dros gyfnod y Nadolig, lle nad oedd cyfle i'r cynghorwyr wneud sylw gan na chynhaliwyd unrhyw ymgynghoriad. Gofynnodd y Cynghorydd Evans pam nad oedd hyn wedi'i gynllunio yn gynharach, faint oedd y cynllun teithio am ddim wedi'i gostio, ac a oedd yn cynyddu nifer yr ymwelwyr.

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd fod y penderfyniad a wnaed yn seiliedig ar gyngor swyddogion proffesiynol.  Roedd y cynllun yn cynnig cyfle i breswylwyr deithio am ddim o amgylch Casnewydd yn ystod 1-21 Rhagfyr.  Dangosai adroddiad Burns nad oedd gan 35% o’r preswylwyr geir, felly roedd hyn yn galluogi'r rhai heb geir i gael mynediad at ganol y ddinas ac ymweld â theulu a ffrindiau yn ystod y cyfnod cyn y Nadolig. Roedd hefyd yn adlewyrchu gwerth teithio llesol i bobl.  Cafwyd cynnydd yn nifer y teithiau gan deithwyr, ac roedd y manylion wedi'u cynnwys yn yr adroddiad yr oedd y Cyng. Evans yn cyfeirio ato yn ei gwestiwn.

 

Atodol:

Pam na phenderfynwyd ynghylch hyn yn yr haf er mwyn hyrwyddo cyllid.  Ar gyngor swyddogion, pam bod y penderfyniad wedi'i wneud mor hwyr yn y dydd.

 

Ymateb:

Cyfeiriodd yr Arweinydd yr adroddiad i sylw'r Cynghorydd Evans eto, a dywedodd y llwyddwyd i sicrhau cyllid allanol ar gyfer cynllun arall tebyg i hwn, ac y byddai'r Arweinydd yn gwneud cyhoeddiad ynghylch hynny'n fuan.

 

Cynghorydd Whitehead:

Pryd fyddai'r mynwentydd yn cael eu hagor yn llawn, gan fod ein Cyngor ni ymhlith yr olaf yng Nghymru i beidio ag agor yn llawn, ac roedd y cyhoedd wedi mynegi pryder ynghylch hyn.

 

Ymateb:

Roedd yr Arweinydd yn ymwybodol o'r pryderon a fynegwyd gan y cyhoedd a chytunodd â'r gydnabyddiaeth gan y Cynghorydd Whitehead ynghylch y mesurau a weithredwyd yn sgil covid.  Rhai problemau'n gysylltiedig â'r peiriannau mawr a mynediad i gerbydau yn ystod yr wythnos.  Roedd modd cael mynediad i'r mynwentydd bob dydd, ond weithiau roedd y mynediad hwnnw wedi'i gyfyngu i gerddwyr. Gallai pobl a oedd angen mynediad i'r fynwent gysylltu â'r cyngor i drefnu hynny.  Roedd mynwentydd ar agor dros gyfnod y Nadolig, ond adroddwyd bod rhai pobl yn trin mynwentydd yn wael gan ddangos diffyg parch.  Bu bron i un gyrrwr daro galarwyr yn ystod angladd.  Cafwyd difrod gwerth £25,000 ym mynwent Eglwys y Drindod, pan dorrwyd i mewn iddi, ac roedd llawer o luniau a ddangosai ddiffyg parch, gyda phobl yn parcio ar fynwentydd.  Serch hynny, roedd angen inni sicrhau eu bod ar agor i'r cyhoedd, ac roedd y Cyngor ar ganol cynnal asesiad pellach i agor i'r cyhoedd mewn modd diogel, a byddai gwybodaeth ar gael yn fuan.

 

Atodol:

Soniodd y Cynghorydd Whitehead fod y system archebu i'w gweld yn gymhleth i gr?p oedran penodol, a gobeithiai y byddai'r drefn arferol yn dychwelyd cyn gynted ag â phosib.

 

Cynghorydd C Townsend:

Yn debyg i Whitehead, cyfeiriodd y Cynghorydd Townsend hefyd at fynediad at fynwentydd a gofynnodd a ellid cynnal Asesiad Effaith Tegwch a Chydraddoldeb, a fyddai o gymorth mawr.[DVX31] 

 

Ymateb:

Dywedodd yr Arweinydd na fyddai angen ystyried hynny o ran agor mynwentydd, gan nad oedd unrhyw newidiadau i bolisi, er bod AETChau yn berthnasol ac yn cael eu hystyried ym mhob penderfyniad a wneir gan y Cyngor.

 

Cwestiynau Pleidlais

 

Cynghorydd K Thomas:

Yng ngoleuni'r argyfwng costau byw sy'n dod i'r amlwg, a allai'r Arweinydd roi amlinelliad i'r aelodau o'r cymorth sydd ar gael i ddinasyddion ar hyn o bryd.

 

Ymateb:

Soniodd yr Arweinydd ei bod hi'n gyfnod anodd ac mai'r brif her oedd yr argyfwng ynni, ac yn y misoedd nesaf byddai codiadau mewn biliau ynni nas gwelwyd mo'u tebyg erioed o'r blaen. Roedd y Resolution Foundation wedi tynnu sylw at y ffaith bod y cynnydd mewn prisiau ynni yn mynd heibio'r cyflog byw.  Yn ôl adroddiad Resolution, roedd y gwanwyn yn ymddangos yn arbennig o anodd, gyda thrychineb costau byw eang ym mis Ebrill, a dyma'r hyn yr oedd dinasyddion yn ei wynebu ar ôl pandemig.  Gyda biliau eraill yn codi, gallai hyn olygu bod aelwydydd yn wynebu cynnydd o fwy na £1,000.  Roedd y Cyngor yn ceisio lliniaru effeithiau hyn, ond roedd pwysau aruthrol hefyd ar gyllidebau cyngor.  Roedd yr effaith ar deuluoedd yn golygu bod yn rhaid i breswylwyr ddewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwyta.  Byddai'r Cyngor yn cyfeirio preswylwyr, gan gynnwys busnesau bach, i wasanaethau cymorth a chefnogaeth.  Roedd gwybodaeth hefyd ar gael ar y wefan, ac roedd yr Arweinydd yn annog preswylwyr a busnesau i gysylltu gan fod cyllid o £100,000 ar gael gan y Cyngor, yn ogystal â chyllid Tanwydd y Gaeaf, felly roedd yn rhaid i'r preswylwyr ymgeisio cyn 18 Chwefror.


 [DVX31]Townsend - please correct English