Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Cofnodion:

Roedd yna bum cwestiwn ysgrifenedig i Aelodau'r Cabinet:

 

Cwestiwn 1 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Forsey:

Mae llawer ohonom wedi gweld y ffilm ryfeddol o bont droed newydd Devon Place yn cael ei gosod dros wyliau'r Nadolig. A all yr Aelod Cabinet roi'r newyddion diweddaraf i'r Cyngor am y prosiect a nodi'r dyddiad cwblhau a ragwelir.

 

Ymateb:

Cwblhawyd y gwaith i osod y prif ddeciau dros y Nadolig yn llwyddiannus. Fel y mae'r aelodau'n ymwybodol, dim ond pan nad oes trenau yn rhedeg y gellir meddiannu traciau rheilffordd i wneud gwaith o'r fath, felly roedd angen i'r staff weithio dros nos a thrwy gydol dydd Nadolig.

 

Hoffwn felly ddiolch i staff o fewn Gwasanaethau'r Ddinas am eu hymroddiad a'u hymdrechion, ein contractwyr Alan Griffiths a Llywodraeth Cymru am ariannu'r prosiect.

 

Ar hyn o bryd mae contractwyr yn gwneud gwaith datgymalu i gael gwared â'r cynhalwyr a'r padiau concrit dros dro yr oedd eu hangen i'r craen godi darnau o'r bont i'w lle, ac yn gwneud gwaith addasu ar y llinellau trydan uwchben.

 

Mae'r gwaith i gwblhau'r grisiau, yr esgynfeydd a'r canllawiau yn derfynol yn mynd rhagddo'n unol â'r rhaglen yng ngweithdy Prosteel Engineering ym Mhont-y-p?l. Byddai'r rhain yn cael eu danfon i'r safle ym mis Mawrth a'u gosod yn eu lle o Queensway a Devon Place.

 

Ar ôl cwblhau elfen strwythurol y bont, byddai gwaith yn dechrau ar ardal y cyhoedd a fyddai'n cynnwys palmentydd, cynwysyddion ar gyfer planhigion a system ddraenio gynaliadwy.

 

Mae'r gwaith wedi'i amserlennu i'w gwblhau yr haf yma.

 

Cwestiwn 2 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau'r Ddinas

 

Cynghorydd Marshall:

A all yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyngor am gynlluniau Teithio Llesol ac amlinellu cynlluniau ar gyfer teithio llesol yn y dyfodol yng Nghasnewydd.

 

Ymateb:

Mae cynlluniau teithio llesol (TLl) eleni wedi mynd rhagddynt yn dda, gyda’r holl gynlluniau wedi’u cwblhau neu wedi’u hamserlennu i’w cwblhau erbyn 31 Mawrth. Dyma'r cynlluniau a gyflawnwyd eleni:

 

Parc Tredegar

Mae'r llwybr yn mynd drwy barc Tredegar, gan barhau ar hyd y tanlwybr i gerddwyr o dan Heol yr Efail i greu cyswllt i'r llwybr drwy'r hen gwrs golff.

 

Ynys y Mwncïod

Mae’r llwybr drwy Ynys y Mwncïod yn cynnwys pont newydd anwahanedig sy'n cysylltu troedffordd gogleddol y brif ffordd, yr ardal o dir agored a'r stad dai, fel nad oes rhaid i ddefnyddwyr ddefnyddio'r croesfannau lluosog i gerddwyr ar gyffordd Ffordd Ddosbarthu'r De. Bydd goleuadau stryd lefel isel hefyd yn cael eu gosod ar y ddau lwybr. Mae'r goleuadau hynny hefyd wedi'u dylunio i sicrhau cyn lleied o effaith ag sy'n bosibl ar fywyd gwyllt a'r amgylchedd.

 

Pont Newydd yng Nghanolfan Camlas y Pedwar Loc ar Ddeg

Mae pont teithio llesol newydd wedi'i hadeiladu ar safle camlas Y Pedwar Loc ar Ddeg. Mae’r bont wedi’i lleoli o dan Ganolfan Ymwelwyr y Gamlas ac yn cynnig croesfan ddiogel a chyfleus dros y llyn.

 

Y Gaer

Mae'r llwybr yn mynd o Heol Basaleg i Wells Close (Ystâd Gaer) ac yn creu cyswllt ag ardaloedd gogleddol y ddinas a Chanol y Ddinas.

 

Cynlluniau i'r Dyfodol

Mae nifer o brosiectau eraill yn cael eu datblygu (astudiaeth ddichonoldeb amlinellol) eleni gan gynnwys cyswllt a phont camlas y Betws, pont heol y pedwar loc ar ddeg a phont Dociau'r Hen Dref. Bydd yr awdurdod yn cyflwyno ceisiadau am gyllid pellach yn 2022/23 er mwyn gallu cyflawni'r cynlluniau hyn.

 

Er mwyn helpu i gynllunio gwaith gwella ac ehangu Teithio Llesol yn y ddinas yn y dyfodol, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori cyhoeddus graddfa fawr yn 2021. Rydym wedi defnyddio'r wybodaeth o'r ymgynghoriad yn sail ar gyfer ein Map Rhwydwaith Teithio Llesol statudol ar gyfer Casnewydd. Cyflwynwyd hwn ym mis Rhagfyr i Lywodraeth Cymru

 

Cwestiwn 3 – Aelod Cabinet: Datblygu Cynaliadwy

 

Cynghorydd Horton:

Yng nghyfarfod diwethaf y cyngor llawn cyhoeddodd yr Arweinydd fod Cyngor Dinas Casnewydd wedi ennill “Gwobr Sefydliad Eithriadol” yng ngwobrau Amgylchedd cyntaf y National. A all yr aelod cabinet roi gwybodaeth i'r cyngor am y gwaith parhaus sydd wedi arwain at y wobr hon.

 

Ymateb:

Mae'r wobr hon yn deillio o'r ymdrech eithriadol a gafwyd yn gyffredinol, ac yn adlewyrchiad o gyfanswm y gostyngiad y mae'r Cyngor wedi'i sicrhau mewn allyriadau carbon dros y 3 blynedd diwethaf. Drwy gyfuniad o brosiectau cyfalaf a newidiadau polisi beiddgar, mae’r Cyngor wedi lleihau ei ôl troed carbon yn sylweddol, ac wedi parhau i sicrhau'r gostyngiadau hyn mewn ynni er gwaethaf effaith COVID 19.

 

Mae’r prosiectau hyn wedi amrywio rhwng:

 

Hyfforddiant ac ymgysylltu â gweithwyr ynghylch cynaliadwyedd a lleihau carbon

Darparu hyfforddiant ar lythrennedd carbon i'r Aelodau a'r staff, a thrwy ymgysylltu'n eang drwy weithdai yn rhan o'r gwaith i greu Cynllun Newid Hinsawdd arfaethedig y Cyngor. Bydd y gwaith ymgysylltu hwn yn parhau fel rhan o’r gwaith i gyflawni ein hamcanion carbon niwtral ar gyfer 2030, a bydd yn allweddol cynnwys yr holl Aelodau a'r gweithwyr er mwyn llwyddo.

 

Ôl-ffitio adeiladau

Mae’r cyngor wedi cwblhau prosiectau fel trosi holl oleuadau'r felodrom yn oleuadau LED 100%, ac rydym bellach yn datblygu rhaglen waith uchelgeisiol ar draws yr ystâd a fydd yn cynnwys gosod pympiau gwres i leihau’r defnydd o foeleri nwy, paneli PV Solar, goleuadau LED, systemau awyru mwy effeithlon a rheolaethau newydd.

 

Gosod paneli solar

Gan weithio mewn partneriaeth ag Egni Co-op (gr?p ynni cymunedol) cipiodd y Cyngor y wobr am y “Cynllun Ynni Cymunedol” gorau yng Ngwobrau Ystadau Cymru am y gwaith a gyflawnwyd gennym, yn gosod paneli solar ar gynifer â 27 o adeiladau cyngor. Mae caniatâd cynllunio hefyd wedi'i sicrhau ar gyfer fferm solar fechan ar dir y cyngor sy'n adlewyrchu ymrwymiad y weinyddiaeth i fynd i'r afael â'r newid hinsawdd a chynaliadwyedd.

 

Cerbydau trydan a chyfleusterau i'w gwefru

Mae'r cyngor wedi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan i'r cyhoedd ar draws nifer o'n meysydd parcio cyhoeddus (https://www.newport.gov.uk/en/Transport-Streets/Electric- vehicle-charge-points.aspx) ac rydym yn parhau i ddarparu seilwaith cyhoeddus drwy osod pwyntiau gwefru ar y stryd a phwyntiau gwefru cyflym i'w defnyddio gan breswylwyr.

 

Dylunio Cynaliadwy

Mae'r Cyngor yn cefnogi dau ddatblygiad tai carbon isel, y cytunwyd i beidio llosgi tanwydd ffosil ynddynt i ddarparu gwres. Mae’r datblygiadau hefyd wedi cynnwys parthau gwanhau SDCau â chymysgedd dôl wlyb o fflora wedi'u plannu, gan gynnwys rhywogaethau o goed/llwyni cnau/aeron i gynnig cyfleoedd am borthiant a chynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt.

 

Mae'n amlwg pam bod Cyngor Dinas Casnewydd wedi ennill y wobr ardderchog hon.

 

Atodol:

A ellid rhoi hyfforddiant i'r aelodau er mwyn cyfeirio preswylwyr yn well?

 

Ymateb:

Byddai, byddai hyn yn digwydd yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn cael dealltwriaeth well o'r agenda amgylcheddol yn y ddinas.  Byddai'r Arweinydd hefyd yn hapus i roi briff i'r Cynghorydd Horton.

 

Cwestiwn 4 – Aelod Cabinet: Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Cynghorydd Mogford:

O fewn y ddwy flynedd ddiwethaf mae nifer o ddinasoedd yn y DU, fel Manceinion a Birmingham, wedi cyflwyno 'Parthau Aer Glân'. A fu unrhyw gynlluniau neu drafodaethau gan y Cyngor i gyflwyno 'Parth Aer Glân' yng nghanol dinas Casnewydd neu yn y cyffiniau?

 

Ymateb:

Nid oes unrhyw gynlluniau na thrafodaethau ar hyn o bryd ynghylch cyflwyno Parthau Aer Glân yng Nghanol Dinas Casnewydd na’r cyffiniau.

 

Mae’r cynghorau hynny sydd wedi cyflwyno Parthau Aer Glân wedi'u nodi'n benodol, ac wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan y Llywodraeth Ganolog. Maent hefyd wedi cael cyllid ychwanegol i alluogi hyn, oherwydd problemau penodol yn gysylltiedig ag ansawdd yr aer yng nghanol y dinasoedd dan sylw.

 

Hoffwn gyfeirio i sylw'r Cynghorydd Mogford yr wybodaeth fanwl a ddarparwyd gennyf yn flaenorol yng nghyfarfod y Cyngor mewn ymateb i gwestiynau ynghylch rheoli ansawdd yr aer yng Nghasnewydd. Mae'r ardaloedd gwaethaf o ran llygredd yr aer yng Nghasnewydd, lle mae lefelau ocsid nitrus yn uwch na safonau ansawdd yr aer, wedi'u dynodi'n Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer, ac mae'r rhan fwyaf o'r ardaloedd hyn ar hyd coridor yr M4. Yr unig Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer sydd ar gyrion Canol y Ddinas yw'r ardaloedd ar Hoel Cas-gwent  a Stryd Siôr. Cafodd pob un o'r Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer hyn eu datgan flynyddoedd yn ôl ac, fel yr hysbysais y Cyngor yn flaenorol, mae lefelau allyriadau'r holl ardaloedd hynny'n gostwng yn raddol. Rydym felly'n gwneud cynnydd da o ran lleihau allyriadau a gwella ansawdd yr aer.

 

Byddwn yn parhau i fonitro ansawdd yr aer ac rydym yn bwriadu prynu a gosod monitorau amser real ychwanegol ar gyfer yr Ardaloedd Rheoli Ansawdd yr Aer (RhAA) hyn, yn nes at Ganol y Ddinas. Bydd hyn yn ein galluogi i ddiweddaru Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer y Cyngor drwy gynnwys camau gweithredu i wella ansawdd yr aer yn yr Ardaloedd RhAA hyn. Rhan allweddol o'r cynllun gweithredu fydd sefydlu grwpiau gweithredu lleol i ymgysylltu â'r cymunedau lleol, gan fod addysgu'r cyhoedd ac annog newidiadau o ran ymddygiad yn hanfodol er mwyn inni leihau effeithiau llygredd yr aer ar iechyd y cyhoedd. Rydym eisoes wedi sefydlu'r gr?p gweithredu lleol cyntaf yng Nghaerllion, a bydd ail gr?p gweithredu'n cael ei ffurfio'n fuan ar gyfer ardal Heol Cas-gwent.

 

Mae defnyddio Parthau Aer Glân ymhlith ystod o fesurau posibl y gellir eu defnyddio i fynd i'r afael ag ansawdd yr aer, ac ni fyddent ond yn briodol wedi i fesurau eraill, llai ymwthiol, fethu. Fel y dywedais eisoes, mae'r Cyngor wedi datblygu llwybrau teithio llesol a metrau teithio cynaliadwy, gan gynnwys defnyddio cerbydau trydan. Ni ellir mynd i'r afael â phroblem ansawdd yr aer ar ei ben ei hun, ac mae'n rhan o'r agenda ehangach yn gysylltiedig â'r newid hinsawdd, ac i leihau carbon.

 

Atodol:

Byddai dynodi parth aer glân yn welliant, a oedd hynny felly o fewn gallu'r Cyngor?

 

Ymateb:

Dywedodd y Cynghorydd Truman nad oedd hynny o fewn ei allu.

 

Cwestiwn 5 – Aelod Cabinet: Addysg a Sgiliau

 

Cynghorydd Hourahine:

Mae llawer o gynghorwyr yn llywodraethwyr ysgol ac yn ymwybodol o’r heriau y mae ein hysgolion wedi’u hwynebu yn ystod y pandemig. A all yr Aelod Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyngor am ddychwelyd i’r ysgol ar gyfer tymor y gwanwyn a chynnwys trosolwg o’r cymorth sydd ar gael i ddisgyblion a staff?

 

Ymateb:

Mae ein hysgolion wedi wynebu heriau amrywiol wrth ddychwelyd i dymor y gwanwyn, ac mae'r ysgolion hynny'n dal i weithredu'n dda iawn o dan yr amgylchiadau. Rydym yn parhau i weithio gyda'n harweinwyr ysgol i sicrhau ein bod yn rhoi cyngor clir a chefnogaeth wedi'i theilwra i gyd-fynd ag anghenion ysgolion unigol.

 

Mae swyddogion awdurdodau lleol wedi parhau i gyfathrebu'n rheolaidd â Phenaethiaid i roi cyngor iechyd a diogelwch, gwybodaeth am y gronfa galedi, y cyngor hunanynysu diweddaraf gan TTP i gymuned yr ysgol, ac unrhyw gyflenwadau angenrheidiol o fonitorau CO2, gorchuddion wyneb a PPE.

 

Mae dysgu wyneb yn wyneb yn parhau i fod yn flaenoriaeth. Ar ddechrau’r tymor hwn, caniataodd Llywodraeth Cymru ddau ddiwrnod cynllunio i ysgolion ystyried sut y gallent weithredu gyda'r rhagolygon o bwysau ar y gweithlu. Roedd ein holl ysgolion yn gwerthfawrogi'r amser a'r lle i wneud hynny, ac yn sgil gwaith rhagorol gan yr awdurdod lleol a'r ysgolion, nid yw'r sefyllfa wedi tarfu rhyw lawer ar Gasnewydd ar y cyfan. Nid yw hyn yn diystyru lefel uchel o gymhlethdodau gweithredol y mae ysgolion wedi ymdrin â nhw o ddydd i ddydd, a hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n Pennaeth, i staff yr ysgolion ac i swyddogion yr awdurdod lleol sydd wedi gweithio’n ddiflino i ‘gadw pethau mor normal ag sy'n bosibl i'n dysgwyr'. Rydym yn gwerthfawrogi eu hymdrechion yn fawr. Mae ymroddiad ein staff y tu hwnt i'n holl ddisgwyliadau.

 

Hyd yma, cafwyd llai na deg achos o gau grwpiau blwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym wedi gorfod rheoli presenoldeb disgyblion mewn modd sensitif iawn. Mae staff yr ysgol a’r Gwasanaeth Lles Addysg wedi bod yn cefnogi teuluoedd drwy gynnig ystod o strategaethau i roi sicrwydd i ddisgyblion, rhieni a gofalwyr fod yr ysgol yn lle diogel, ac mai dyna yw'r lle gorau i fod.

 

Lle bo'n bosibl, mae ein hysgolion wedi parhau i ddatblygu eu cynlluniau strategol tymor canolig a hirdymor sy'n cynnwys er enghraifft, gwaith sy'n ymwneud â safonau dysgwyr, rhaglenni dal i fyny, gweithredu Diwygio ADY, a dilyniant Cwricwlwm i Gymru.

 

Yng Nghasnewydd rydym wedi sicrhau bod lles disgyblion yn parhau i fod yn ganolog i bopeth a wnawn ac rwy’n falch o adrodd bod mwy o gapasiti yn yr ysgolion bellach i atgyfeirio disgyblion i dderbyn gwasanaeth cwnsela yn yr ysgol. Yn ogystal â hynny, mae ysgolion yn parhau i gael eu cefnogi gan yr awdurdod lleol i sicrhau eu bod yn gallu cynnal a gwella eu hymagweddau ysgol gyfan eu hunain at lesiant yn dilyn yr ansefydlogrwydd parhaus a ddaeth yn sgil y pandemig.

 

Er mwyn galluogi a chefnogi disgyblion wrth ddysgu, rydym fel Cabinet wedi goruchwylio'r buddsoddiad mewn offer digidol a fydd yn galluogi dysgu gartref a hefyd yn cynnig tegwch o ran mynediad ar draws yr holl awdurdod lleol. Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon byddwn wedi darparu’r canlynol i ysgolion:

 

§  9024 o liniaduron, gliniaduron Chrome, cyfrifiaduron personol a dyfeisiau apple

§  146 o drolïau gwefru

§  105 o sgriniau rhyngweithiol

§  106 o daflunwyr

 

Yn ogystal â hynny, mae'r Cabinet wedi cynnig cyfres o fuddsoddiadau o'r gyllideb i gefnogi addysg a'n hysgolion. Sylwer mai cynigion drafft yw’r rhain, sy’n destun ymgynghoriad ac adolygiad, ond maent ar hyn o bryd yn cynnwys:

 

§  3 Ymgynghorydd Addysgu newydd ar gyfer ysgolion a fydd yn cefnogi gwaith i adnabod ADY yn gynnar, anghenion ymddygiadol ac yn gweithio gyda'r ysgolion sydd â'r plant mwyaf agored i niwed.

§  Cefnogaeth ychwanegol i’r Hyb Diogelu

§  1.2 miliwn ychwanegol ar gyfer dysgwyr ADY

§  £1.75 miliwn i gefnogi galw ychwanegol am leoedd i disgyblion

§  Cyllid i fynd i’r afael â chodiadau cyflog athrawon a’r gweithlu addysg.

§  Bydd angen £888k ychwanegol, sydd ei angen i dalu'r cynnydd a ragwelir yn y nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim.

 

Mae’n werth nodi bod 3200 o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim ar ddechrau’r pandemig. Bellach mae angen pryd ysgol am ddim ar 7000 o blant amser cinio. Mae hyn yn gynnydd o 118% ac yn dangos lefel y cymorth sydd ei hangen ar deuluoedd ar draws ein dinas. Y mae hefyd yn mesur effaith y pandemig, yn ogystal â Brexit a’r cynnydd mewn costau byw yn sgil hynny.

 

Fel Cabinet rydym yn parhau i ymrwymo i gefnogi ein hysgolion, ein staff a'n disgyblion. Rydyn ni eisiau’r gorau i’n plant a bu'r ffocws yn ddiweddar ar lesiant ac ar sicrhau bod teuluoedd a disgyblion yn cael eu cadw'n ddiogel, a bod y diogelwch hwnnw'n parhau. Fodd bynnag, rydym hefyd am i'n plant gael dyheadau a symud ymlaen i wireddu eu breuddwydion, a bydd hyn hefyd yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r awdurdod hwn.