1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda item

Cofrestr Risg Gorfforaethol (Chwarter 3)

Cofnodion:

Eglurodd y Cadeirydd fod yr eitem hon yn ymwneud ag adolygu proses y gofrestr risg, yn hytrach na'r risgiau ariannol gwirioneddol eu hunain.

 

Cyflwynodd Pennaeth Pobl a Newid Busnes, Rhys Cornwall, yr eitem hon. Ar ddiwedd Chwarter 3, roedd gan y Cyngor gyfanswm o 52 o risgiau, yr oedd 18 ohonynt wedi’u cofnodi ac yn cael eu monitro yn y gofrestr risgiau corfforaethol. Mae 1 o'r risgiau hyn bellach wedi’i chau, ac mae sgôr risg 5 wedi newid. Mae sgôr risg y galw ar y tîm ADY ac AAA wedi cynyddu, yn ogystal â sgôr risg Ystad Eiddo Cyngor Casnewydd. Mae'r risg 'Brexit' wedi gostwng, mae llai o risg o ran lleoliadau Addysg y Tu Allan i'r Sir, ac mae risg cyllid/pwysau cost yr Ysgolion wedi gostwng. 

 

Yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor Archwilio, codwyd y matrics risg, a mynegwyd bod y pwyllgor am iddo fod yn fwy soffistigedig. Ni fydd newid i hyn yn y cyfarfod hwn gan ein bod yn Ch3, ond bydd y rhain yn cael eu datblygu fel rhan o'r adolygiad blynyddol o'r polisi risgiau corfforaethol.

 

Roedd y trafodaethau'n cynnwys y canlynol:

·       Gofynnodd yr Aelodau a yw risgiau pwysau ariannol ar ysgolion yn cael eu nodi yn ôl ysgolion cynradd ac uwchradd. Gallai hyn amlygu’r ffigurau'n well.

o   Atebodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y byddai'n holi'r Penaethiaid Gwasanaeth perthnasol.

 

·       Dywedodd yr Aelodau, gan gyfeirio at dudalen 35 yr adroddiad, fod amgylchiadau sy'n newid yn barhaus ar y gofrestr risg. Pa mor aml y caiff lefel y risg ei diweddaru, gan fod lefel y risg yn newid yn gyson?

o   Eglurodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes, ym mhob gwasanaeth, yr ymdrinnir ag ystod eang o risgiau, ac ymdrinnir â llawer ohonynt o ddydd i ddydd. Cynhelir yr adolygiad a'r diweddariad ffurfiol bob chwarter. Mae'r sgôr risg hwn yn rhoi cipolwg ar y chwarter hwnnw. Mae'n broses sy'n symud yn gyson, ond fel rhan o'r broses lywodraethu, cipolwg ar y wybodaeth yn unig ydyw.

o   Ychwanegodd y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil, Paul Flint, fod y ganolfan gwybodaeth reoli yn cael ei defnyddio i gofnodi'r holl risgiau o’r gwasanaethau. Gall swyddogion ddefnyddio'r system hon i ddiweddaru eu sgoriau risg eu hunain. Yna ystyrir pob risg y gwasanaethau, er mwyn sicrhau bod y sgôr risg yn gywir ac yn adlewyrchu'r sgôr gywir. Yna bydd y tîm rheoli yn ystyried risgiau y mae angen eu dwysáu neu eu cau. Yn Ch3, enghraifft o hyn oedd y risg o ran tai, lle cafodd dwy risg eu cyfuno i adlewyrchu gwir lefel y risg yn y gwasanaeth.

 

·       Gofynnodd yr Aelodau a ydym yn asesu risg ar draws cynghorau eraill, ac os felly a yw hyn yn cael effaith ar y sgôr risg yn ein Cyngor ein hunain?          

o   Atebodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes gan ddefnyddio'r enghraifft o seiberddiogelwch. Bydd y Cyngor yn ystyried yr hyn sy'n digwydd mewn ardaloedd eraill, arferion arloesol, eu risg ac ati. Fodd bynnag, waeth beth fo'r materion hynny, nid yw hynny'n lleihau nac yn cynyddu ein risg bersonol ein hunain. Gyda seiberddiogelwch, yr ydym ar y blaen yng Nghasnewydd, ond mae'n dal i fod yn risg sylweddol. Rydym yn edrych ar ALlau eraill, ond nid yw hyn yn effeithio ar ein risgiau ein hunain.

o   Cytunodd yr Aelodau y bydd ALlau unigol yn nodi gwendidau. Gall hyn gael effaith ar leoedd eraill ond mae’n dal i gael ei ddal yn bennaf o fewn yr ALl ei hun.

Cytunwyd:

Ystyriodd y Pwyllgor Archwilio gynnwys yr adroddiad hwn ac asesodd y trefniadau rheoli risg ar gyfer yr Awdurdod, gan roi unrhyw sylwadau/argymhellion ychwanegol i'r Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: