Agenda item

Adroddiad Blynyddol Archwilio Cymru ar Waith Grantiau 2020-21- Drafft

Cofnodion:

Cyflwynoddcynrychiolydd o Archwilio Cymru, Gareth Lucey, yr eitem hon. Dyma’r adroddiad blynyddol am grantiau y mae Archwilio Cymru yn gyfrifol am eu hardystio. Mae’r manylion llawn yn yr adroddiad. Ardystiodd Archwilio Cymru lawer llai o archwiliadau eleni, am i LlC wneud i ffwrdd â’r gofyniad i Archwilio Cymru ardystio yn allanol rai mathau o grantiau; gostyngwyd nifer y grantiau a ardystiwyd o 10 i 4.

 

Ni chodwyd unrhyw broblemau na materion ffocws o’r canfyddiadau eleni. Fodd bynnag, mae nifer o faterion a godwyd ynghylch y cofnod cymhorthdal Budd-daliadau Tai. Cododd Archwilio Cymru nifer o argymhellion, yn enwedig yng nghyswllt y berthynas rhwng y tîm budd-daliadau tai a’r tîm anghenion tai. Os gweithredir yr argymhellion hyn yn llwyddiannus, bydd hyn yn lleihau cost ardystio’r eitem hon, a lleihau’r risg sy’n ymwneud â’r mater hwn.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Cododd y Cadeirydd gwestiwn am fudd-daliadau tai a phensiynau athrawon. Wedi gofyn am eglurhad gan Gyllid ynghylch y camau a gymerir, ond ymddengys bod yr ateb yr un bob blwyddyn, er nad oes dim yn cael ei wneud. Mae’r adroddiad newydd hwn yn pwysleisio bod hon yn broblem barhaus. Beth mae’r tîm cyfrifeg a’r tîm archwilio am wneud ynghylch hyn?

o   Atebodd Gareth Lucey o safbwynt Archwilio Cymru. Y nod yw cyflymu’r gyfres hon o argymhellion i ddal y tîm budd-daliadau tai i gyfrif. Yn y blynyddoedd i ddod, rhaid i ni sicrhau y bydd gweithredu yn digwydd. Mae modd o hyd i gymryd camau yn awr i gywiro unrhyw faterion  yng nghofnodion 2020/21. 

o   Esboniodd Mark Howcroft bod hyn yn nodwedd gyffredin mewn hawliadau budd-daliadau tai ar draws awdurdodau lleol, oherwydd ei fod yn hawliad mawr a chryn symud ynddynt. Ond nid dweud y mae hyn na all y cyngor wella’r cyfathrebu rhwng y tîm budd -daliadau tai a’r tîm anghenion tai.

·         Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y ffaith ei fod yn digwydd mewn mannau eraill yn ei wneud yn iawn

o   Esboniodd Mark Howcroft mai rhoi cyd-destun yn unig yw hyn i gydnabod fod hwn yn hawliad cymhleth sy’n golygu symiau mawr o arian

o   Atebodd y Cadeirydd fod yr un pethau’n digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn, e.e., y ffurflen heb ei llofnodi gan y swyddog cyllid perthnasol; mae hyn yn edrych fel gwiriad sylfaenol sydd angen ei wneud. Os oes rhai meysydd cymhleth lle mae pobl angen hyfforddiant, gall hyn ddigwydd. Serch hynny, y mae achosion o wybodaeth nad yw ar gael. Pethau sylfaenol yw llawer o hyn, pan nad yw pobl yn cael y wybodaeth a ddisgwylir. Rhaid i ni geisio lleihau camgymeriadau dynol yn hyn o beth.

·         Holodd y Cadeirydd hefyd am elfen pensiynau athrawon.

o   Esboniodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes y gall hyn fod yn gymhleth pan fydd athrawon yn newid eu horiau, etc. Mae’r cyngor wedi buddsoddi mewn system AD sydd yn awr yn gyfan gwbl ar-lein, a fydd yn help i weithio allan pensiynau yn well.

o   Gofynnodd y Cadeirydd i’r tîm archwilio edrych ar y ddwy eitem hon.

·         Dywedoddyr aelodau fod yr adroddiad fel petai’n awgrymu bod gwall mewn systemau wedi arbed £400,000. Beth sy’n cael ei wneud i wirio hyn?

o   Esboniodd Gareth Lucey mai achos unigol yw hyn, ond ei fod, er hynny, wedi lleihau’r swm y bu’n rhaid i’r cyngor dalu. Camgymeriad yn y daenlen yn unig ydoedd (dilëwyd rhes).

Gweithredu:

Gofyni’r tîm archwilio edrych i mewn i weithrediadau’r tîm budd-daliadau tai.

 

Cytunwyd:

Nododd y pwyllgor yr adroddiad, gan nodi y bydd cyllid yn gweithio gyda budd-daliadau tai i ddatrys rhai o’r problemau hyn.

 

Dogfennau ategol: