Agenda item

Gorfodi Cyfyngiadau Busnes COVID

Cofnodion:

Presennol:

-       Mathew Cridland (Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddiol - Safonau Masnachol)

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddiol drosolwg byr i'r Pwyllgor a thynnodd sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried. Roedd hyn yn cynnwys Crynodeb o Allbynnau'r Adran, a nododd nifer yr archwiliadau, yr hysbysiadau a gyhoeddwyd a chyfanswm nifer yr hysbysiadau cosb benodedig a roddwyd.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod Safonau Masnach a Thrwyddedu wedi rhoi cyngor i fusnesau ar dros 2,000 o achlysuron ers diwedd mis Mawrth 2020, wedi cwblhau 3,000 o archwiliadau ac wedi asesu cydymffurfiaeth ar 4,000 o achlysuron.  Roedd 74% o'r archwiliadau hyn yn cydymffurfio a chydymffurfiodd 16% tra bod swyddogion yn y safle, yn dilyn cyngor. Roedd angen ymchwilio ymhellach i 10%. Rhoddwyd 45 o hysbysiadau gwella safleoedd ynghyd â 7 hysbysiad cau a gofynnwyd am 3 adolygiad trwydded.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gwaith a wnaed yn ystod y cyfyngiadau clo cychwynnol pan orchmynnwyd llawer o fusnesau i gau a dim ond busnesau hanfodol oedd yn parhau i fod ar agor i gwsmeriaid. Roedd yn rhaid i'r rhai a ganiatawyd i aros ar agor sicrhau bod popeth yn ddiogel drwy reoli ciwiau a niferoedd, sicrhau cadw pellter cymdeithasol a gosod arwyddion hylendid ac ati. Cysylltodd y timau perthnasol â phob busnes unigol ar eu cronfa ddata, gan sicrhau eu bod yn gwybod beth oedd yn ddisgwyliedig ganddynt a bod llinell ar ddyletswydd wedi'i sefydlu'n gyflym i roi cyngor. Cynhaliwyd patrolau hefyd i sicrhau cydymffurfiaeth â'r rheoliadau.  Y mathau o faterion a gododd oedd adeiladau megis tafarndai lle'r oedd gerddi cwrw agored yn cael eu defnyddio, yr oedd y perchennog yn credu eu bod yn ddiogel, ond a oedd, mewn gwirionedd, yn torri'r rheoliadau ar y pryd. Hefyd trinwyr gwallt a barbwyr yn gweithredu yng nghartrefi pobl.

 

Wrth gynnal y gwiriadau hyn, bu cynnydd hefyd mewn sgamiau a materion safon masnachu i ddelio â hwy megis codi prisiau am nwyddau a gwasanaethau, gwrthod ad-daliadau am wyliau a ganslwyd ac offer amddiffynnol personol a diheintydd dwylo anniogel.

 

Wrth i'r gyfradd achosion leihau yn y gwanwyn, cynhaliodd y staff wiriadau ar archfarchnadoedd i sicrhau bod yr arwyddion, y cyfarwyddiadau i symud o amgylch y siopau ac ati yn ddigonol. Cysylltwyd â'r holl Reolwyr siopau a rhoi cyngor iddynt fel eu bod yn gwybod yr hyn oedd yn ddisgwyliedig ganddynt yn y cyswllt hwn. Gweithiodd y Gwasanaeth yn agos gyda'r Heddlu yn ystod y pandemig a hefyd gyda Phriffyrdd Gwasanaethau'r Ddinas er mwyn trefnu mannau bwyta awyr agored yng Nghanol y Ddinas i alluogi cwsmeriaid i gyrchu gwasanaethau yn ddiogel ac yn unol â chyfyngiadau a rheoliadau Covid-19.  Ymchwiliwyd yn drylwyr i anwybyddu amlwg neu ddiffyg cydymffurfiaeth â’r rheoliadau gan 2 safle trwyddedig yng Nghanol y Ddinas ac ataliwyd eu trwyddedau.

 

Eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio eu bod yn defnyddio’ dull YEAG tuag at orfodi, sef 'Ymgysylltu, Esbonio, ac Annog', ac fel dewis olaf, 'Gorfodi'. Dangosodd y ffigurau a ddyfynnwyd yn yr adroddiad fod y lefelau cydymffurfio yn uchel drwy ymgysylltu ac annog, a bod yr angen am orfodi wedyn yn isel iawn.

Roedd yr holl staff wedi gweithio'n eithriadol o galed o dan yr amgylchiadau anodd hyn.  Roedd deddfwriaeth yn newid yn wythnosol ac roedd yr angen i drosglwyddo'r wybodaeth hon i fusnesau ac unigolion mewn modd amserol yn hollbwysig a chanmolodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio ei staff, gan ddweud ei fod yn credu bod eu hymdrech a'u hymroddiad wedi gwneud Casnewydd yn lle mwy diogel i fyw a gweithio ynddo yn ystod y pandemig.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio am ei adroddiad llawn gwybodaeth ac ar ran y Pwyllgor, gofynnodd i'w gwerthfawrogiad gael ei anfon at yr holl staff am eu hymroddiad a'u gwaith caled yn ystod y pandemig.

 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         Beth oedd y tebygolrwydd y byddai unrhyw ddirwyon yn cael eu talu a sut y byddai hyn yn cael ei orfodi?

 

Dwedodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y byddai'n rhaid talu pob dirwy ond eu bod hefyd yn ceisio bod yn gyfrifol ac yn deg. Roedd y taliad yn ddyledus o fewn 28 diwrnod neu fe'i cynyddid i erlyniad am beidio â thalu. Roedd rhai busnesau a oedd wedi cael trafferth talu'r dirwyon wedi cyflwyno sylwadau ac roedd y rhain yn cael eu hystyried ac er enghraifft, cynllun talu yn cael ei sefydlu. Fel Awdurdod, byddem am sefyll yn gadarn o ran talu dirwyon, ond yn anelu at osgoi erlyniad am beidio â thalu lle bynnag y bo modd.

 

·         Gofynnodd aelod pa fath o fusnesau oedd yn gyfrifol am y  ffigurau diffyg cydymffurfio?

 

Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddiol fod dolen i’r  dadansoddiadau gwirioneddol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Yn ystod yr hydref yn benodol, roedd tafarndai a chlybiau yn cael problemau o ran cydymffurfio ac felly'n derbyn Hysbysiadau Gwella. Roedd y Rheolwr wedi mynychu archwiliadau safle gyda swyddogion ac yn cydnabod ei bod yn anodd i Drwyddedigion. Er enghraifft, pe bai pobl yn dweud celwydd am niferoedd yn eu haelwydydd, swigod aelwyd ac ati, roedd yn anodd herio a gwrth-ddweud pobl. Yn yr un modd, roedd y mater o wisgo masg mewn archfarchnadoedd yn heriol gan fod staff yn pryderu y byddent yn plismona'r gofyniad hwn eu hunain. Yn dilyn cyfarfodydd gyda Rheolwyr yr Archfarchnadoedd, cytunwyd y byddai'r staff ond yn atgoffa pobl o'r polisi yn hytrach na'u herio am beidio â chydymffurfio. Roedd deddfwriaeth bellach ar waith fel rhan o systemau gweithio’n ddiogel ac roedd masgiau'n orfodol oni bai bod eithriad ar sail feddygol.

 

·         Gofynnodd aelod beth oedd y sefyllfa tra yn y cyfyngiadau clo presennol

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y gwerthuso'n mynd rhagddo a bod cymorth a chyngor yn cael eu rhoi yn barod ar gyfer ailagor. Byddai'r Swyddogion Cydymffurfio yn parhau yn eu swyddi tan fis Mehefin ac o bosibl yn cael eu hymestyn tan fis Medi. Roedd y cyfyngiadau clo wedi rhoi cyfle i fynd i'r afael â gwaith risg uchel arall fel ymchwiliadau tybaco anghyfreithlon ac wrth gwrs roedd y gwaith arferol o ddydd i ddydd wedi parhau law yn llaw â hyn

 

Dogfennau ategol: