Agenda item

Teithio Llesol

Cofnodion:

Mynychwyr:

-       Joanne Gossage (Rheolwr Gwasanaeth - Amgylchedd a Hamdden)

-       Leah Young (Swyddog Prosiectau Teithio Llesol)

-       Luke Stacey – Swyddog Datblygu Mynediad a Hawliau Tramwy Cyhoeddus

-       Paul Jones - Pennaeth Gwasanaethau’r Ddinas

 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth ac aelodau'r Tîm drosolwg i'r Pwyllgor o'r Cynllun Teithio Llesol, gan dynnu sylw at y meysydd allweddol i'w hystyried.  Gosododd y brif Ddeddf nifer o ddyletswyddau ar yr awdurdod lleol i hwyluso teithio llesol.  Roedd hyn yn bennaf drwy greu, uwchraddio, mapio a hyrwyddo'r llwybrau a'r gweithgarwch yn gyffredinol er mwyn gallu nodi'r cynlluniau yr oedd y Cyngor am eu datblygu.

 

Dangoswyd ffilm animeiddio fer i'r Pwyllgor a eglurodd y gwaith a wnaed gan yr adran, a rhoddodd hwn drosolwg sylfaenol o gynigion Teithio Llesol.

Fel rhan o Ddeddf Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, roedd yr Adran wedi bod yn gweithio'n galed i wella'r llwybrau cerdded a beicio heb fawr o darfu o amgylch y ddinas ar ôl eu cwblhau. Nid yn unig y byddai'r llwybrau'n well, yn fwy diogel ac yn fwy hygyrch i bawb, ond hefyd byddent yn cyflymu amser teithio. Drwy adeiladu teithio llesol i mewn i deithiau bob dydd, byddai'n gwella iechyd corfforol, yn cefnogi lles meddyliol, yn helpu'r amgylchedd ac yn gwella'r gymuned leol a'r economi.

 

Roedd yr Adran wedi ymchwilio i ddichonoldeb a hygyrchedd llwybrau.

Bu nifer o ddigwyddiadau ymgynghori dros y pum mlynedd diwethaf.  Roedd y cyntaf o'r rhain yn 2015 pan nodwyd y rhwydwaith llwybrau presennol a'r ail yn 2017, lle nodwyd y map rhwydwaith integredig ar gyfer y llwybrau arfaethedig. O ganlyniad i'r ymgynghoriadau hyn, roedd y cyhoedd wedi awgrymu lle roeddent am gael llwybrau ac yna ymchwiliwyd i ddichonoldeb y llwybrau awgrymedig hynny. Dangoswyd sleidiau'n nodi’r llwybrau teithio presennol ac yn awgrymu rhwydweithiau beicio integredig. Ers 2015 roedd rhai llwybrau wedi'u cwblhau a byddai'r map yn cael ei ddiweddaru fel rhan o'r Adolygiad Map Rhwydwaith sydd ar y gweill.

 

Fel rhan o ymgynghoriad Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, roedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymgysylltu â phartneriaid, y cyhoedd, pobl â nodweddion gwarchodedig a phlant i annog mwy o bobl i gerdded a beicio.  Yn ystod y cam cychwynnol (Chwefror / Mawrth 2021) ceisiwyd adborth gan yr holl randdeiliaid a'r cyhoedd ar y rhwystrau a oedd yn cadw pobl rhag cerdded a beicio yn eu hardal.   Byddai drafft cyntaf o Fap Rhwydwaith Teithio Llesol Casnewydd yn cael ei baratoi yn seiliedig ar yr adborth hwn.  Yna, byddai'r Map Rhwydwaith Teithio Llesol cymeradwy yn mynd at Lywodraeth Cymru yn yr hydref 2021 er mwyn ymgynghori’n statudol arno a throsglwyddir yr MRhTLl terfynol i Lywodraeth Cymru erbyn 31/12/2021.

 

Dangoswyd fideo byr yn hyrwyddo ymgysylltiad y cyhoedd ar gyfer y prosiectau, y llwybrau presennol a pha welliannau y gellid eu gwneud.  Hysbyswyd y Pwyllgor ar faint o ymwelwyr, cyfraniadau, sylwadau a chytundebau a wnaed.

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

·         Soniodd aelod yn gadarnhaol am y goleuadau ar hyd llwybr troed Coed Melyn a gofynnodd am ddarparu biniau gwastraff ychwanegol ar gyfer baw c?n.

Atebodd y Rheolwr Gwasanaeth mai nodwedd amlwg allweddol y llwybr hwnnw ar hyn o bryd oedd gosod y goleuadau ac yn amlwg yn ystod misoedd y gaeaf yn cymudo yn oriau mân neu gyda’r hwyr, roedd yn anochel y byddai ychydig yn dywyll ac felly roedd darparu goleuadau yn ffordd bwysig iawn o annog defnyddwyr i ddefnyddio'r llwybrau hynny. Bu'n rhaid iddynt hefyd fod yn ystyriol o ecoleg nosol yr ardal honno.  Roedd angen i'r goleuadau fod yn ddigon isel, yn ddigon llachar i oleuo'r llwybr, ond heb ledaenu'r golau i'r ardal gyfagos nac effeithio ar ystlumod, moch daear a chreaduriaid nosol eraill.  Dywedodd Pennaeth Gwasanaethau'r Ddinas fod yr holl finiau gwastraff yn addas ar gyfer gwastraff cymysg, gan gynnwys gwastraff c?n ac efallai fod rhywfaint o werth mewn hyrwyddo ac atgyfnerthu'r wybodaeth hon i'r cyhoedd.

 

·         Gofynnodd aelod sut yr oeddem yn perfformio ar hyn o bryd o ran ymatebion i'r ymgynghoriad a sut y gallai'r cyhoedd gymryd rhan yn ymateb.

Ymatebodd y Tîm eu bod hyd yma wedi derbyn 2,383 o ymwelwyr i'r wefan, a chyfanswm o 2,167 o sylwadau. O’i gymharu, yn 2000 dim ond 69 o sylwadau a gafwyd. Roedd gwasgariad daearyddol i'r ymatebion hefyd, tystiolaeth bod y bobl a oedd yn defnyddio'r llwybrau llesol a oedd wedi'u rhoi ar waith yn yr ardaloedd hynny yn awyddus i ddefnyddio teithio llesol fel dull gwahanol o deithio, megis ward T?-du. Roedd tudalen Teithio Llesol bwrpasol ar wefan y Cyngor ac roedd yr ymgynghoriad yn cael ei wthio ar sianeli cyfryngau cymdeithasol, y Cyngor Ieuenctid ac roedd mwy o ymgysylltu'n cael ei wneud gydag ysgolion.  Unwaith y byddai'r data a dderbyniwyd wedi'i ddadansoddi, byddai drafft cyntaf y map rhwydwaith yn cael ei gynhyrchu ac yna'n cael ei anfon yn ôl allan i ymgynghori’n gyhoeddus arno.

 

·         Dywedodd aelod ei bod yn bwysig hyrwyddo'r llwybrau’n helaeth, y llwybrau troed a'r mannau agored ledled y Ddinas fel y gallai pobl eu defnyddio a hyrwyddo teithio llesol. Awgrymodd o bosibl y gellid hyrwyddo teithiau tywys o amgylch yr ardaloedd hyn gan fod faint o waith a oedd wedi mynd i mewn i'r cynlluniau hyn yn haeddu cael ei ddefnyddio gan gynifer o bobl â phosibl.

 

Dwedodd y Swyddog Prosiect, er ein bod wedi bod yn gweithio'n galed i gynyddu nifer y llwybrau cerdded a beicio ar draws y ddinas, ein bod yn gwybod bod mwy yr oedd angen i ni ei wneud i wella'r seilwaith. Dyma lle daeth yr ymgynghoriad cyhoeddus yn effeithiol.  Roedd angen i gynifer o bobl â phosibl ddweud eu dweud - trigolion lleol, cyflogwyr ac ysgolion, grwpiau cerdded a beicio a grwpiau cymunedol.  Byddai hyn yn ein galluogi i wybod pa lwybrau newydd y gellid eu hychwanegu, a fyddai'n galluogi mwy o deithiau ar feic neu ar droed.  Y mwyaf o ymatebion a gawsom, gorau oll y gellid adlewyrchu anghenion y gymuned gyfan.

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Tîm am eu cyflwyniad a'u llongyfarch ar eu gwaith a wnaed hyd yma.

 

Dogfennau ategol: