Agenda item

Deilliannau 2019-2020: Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2, Cyfnod Allweddol 3, Cyfnod Allweddol 4 a Chyfnod Allweddol 5

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud wrth yr aelodau, oherwydd y newidiadau ym mesuriadau perfformiad deilliannau disgyblion a’r pandemig, fod Llywodraeth Cymru wedi canslo casglu holl ddata statudol am ddeilliannau disgyblion am derfyn y flwyddyn academaidd yn haf 2020.

 

Ni chyflwynwyd unrhyw ddata gan ysgolion am ddiwedd cyfnodau. Yr oedd pob ysgol yn dal i gofnodi asesiadau mewnol athrawon at ddibenion cynnydd eu disgyblion hwy. Ni chynhaliwyd unrhyw brosesau cymedroli rhwng ysgolion yng Nghymru.

 

Cafodd arholiadau allanol Cyfnod Allweddol 4 a 5 eu canslo, a rhoi yn eu lle system o ‘Raddfeydd Canolfan Asesu’. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru gasglu na chyhoeddi deilliannau Cyfnod Allweddol 4 na 5.

 

Oherwydd y newidiadau sylweddol yn ffurfio cyrsiau TGAU, galwedigaethol, AS a Lefel A a  diffyg arholiadau allanol, ni fyddai unrhyw ddeilliannau a gynhyrchwyd yn lleol yn cael eu defnyddio at ddibenion atebolrwydd. Ni ddylid defnyddio cymariaethau na thueddiadau data i geisio dadansoddi’r set hon o ddeilliannau disgyblion.

 

Pwrpas yr adroddiad oedd rhoi golwg gyd-destunol o ysgolion heb eu henwi, yn hytrach na pherfformiad yr awdurdod lleol neu ysgolion unigol. Defnyddiwyd y wybodaeth yn sensitif a phriodol.

 

Defnyddiodd yr awdurdod lleol set ehangach o wybodaeth i werthuso pob un o’i ysgolion. Yr oedd hyn yn cynnwys:

·      Gallu’r ysgolion i hunanwerthuso

·      Llwyddiant Cynllun Datblygu’r Ysgol

·      Ansawdd yr addysgu a dysgu

·      Gallu’r ysgolion i wella eu hunain

 

Dangosodd yr adroddiad y bu cynnydd sylweddol yn neilliannau disgyblion ond nid oes modd pennu ai gwelliant yr ysgol unigol yw hyn, neu welliant cynaliadwy.

 

Dangosodd siartiau yn yr adroddiad ddeilliannau CBAC dros ddeng mlynedd gydag enillion amlwg o ryw 10% yn y golofn olaf, sef Graddfeydd Canolfan Asesu mis Awst 2020. 

 

Yr oedd canlyniadau CA4 a 5 Casnewydd yn cynrychioli wyth ysgol cyfrwng Saesneg y ddinas. Bydd gan ein hysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ei set gyntaf o ddeilliannau diwedd Cyfnod Allweddol 4 yn haf 2021.

 

Dangosodd canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 fod gan ysgolion Casnewydd y deilliannau Capiwyd 9 uchaf ac isaf yn y rhanbarth. Yr oedd hyn yn amlwg hefyd n neilliannau Cyfnod Allweddol 5. I roi cyd-destun, nodwyd fod gan Gasnewydd amrywiaeth o ysgolion uwchradd gyda chryn wahaniaeth rhwng niferoedd y dysgwyr sydd â hawl i brydau ysgol am ddim. Yr oedd gan Gasnewydd un ysgol uwchradd yn y ddinas gyda’r lefel uchaf o amddifadedd o’r 32 ysgol uwchradd yn y rhanbarth, sydd â phum awdurdod lleol.

 

Yr oedd y Cyngor yn eithriadol falch o’i dysgwyr a’r Graddfeydd Canolfan Asesu a ddyfarnwyd iddynt.

 

Yr oedd hyn yn erbyn cefndir y pandemig a newidiadau sylweddol mewn addysgu a dysgu y gwnaethant ymaddasu iddynt yn nhymor olaf a mwyaf arwyddocaol eu cyrsiau TGAU, AS a Lefel A.

 

Byddai’r Cyngor yn dal i weithio gyda’i holl ysgolion i’w paratoi a’u cefnogi ar gyfer newidiadau pellach yn y Graddfeydd Canolfan Asesu am haf 2021 a thu hwnt, yn ogystal â sicrhau fod dysgwyr yn trosi yn y modd mwyaf priodol rhwng cyfnodau nesaf eu bywydau, boed hyn mewn ysgolion, mewn prentisiaethau, byd gwaith, neu addysg bellach neu uwch.

 

Yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi’r gallu a’r amodau fyddai’n caniatáu i bob ysgol uwchradd gael graddfeydd cadarn wedi eu dyfarnu gan y ganolfan asesu, ac ar yr un pryd gynnal uniondeb y system gyfan ar gyfer 2021. Yr oedd hyn yn ennyn hyder y cyhoedd ac yn rhoi gwerth i ddysgwyr fel eu bod yn gwybod  fod y graddfeydd a gawsant wedi bod trwy broses ddilysu drwyadl. I gefnogi’r broses hon, yr oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi arian i helpu canolfannau i wneud y canlynol:

·        Mynychu dysgu proffesiynol a gynigir gan CBAC i gefnogi’r broses o bennu graddfeydd gan y ganolfan;

·        Rhoi lle ac amser i ysgolion a cholegau ddatblygu agwedd asesu a sicrhau ansawdd yn fewnol;

·        Rhoi amser i Benaethiaid ac arweinwyr colegau i drafod y broses a’r deilliannau gydag ysgolion a cholegau eraill, i roi sicrwydd a thryloywder i’r canolfannau ac i’r dysgwyr.

 

Byddai pob canolfan yn y rhanbarth yn derbyn £2988 yn y flwyddyn ariannol hon i gefnogi’r egwyddorion hyn.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Gwasanaeth Addysg, yr athrawon, rhieni, y disgyblion a phawb fu’n rhan o hyn am eu cydweithrediad, eu hymrwymiad a’u gwaith caled.

 

Dywedodd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg y bu’n flwyddyn eithriadol, gyda chymaint o darfu ar y disgyblion, a chanmolodd hwy am eu llwyddiannau dan amgylchiadau anodd.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Ategodd y Cynghorydd Harvey ymateb yr Arweinydd, gan ychwanegu ei diolch am waith caled pawb.

 

Yr oedd y Cynghorydd Cockeram yn deall yr anawsterau a gafodd rhieni gyda dysgu gartref, a gobeithiai y byddai athrawon yn cael eu cydnabod am wneud cymaint dros y disgyblion.  Yr oedd yn falch hefyd y byddai’r ysgolion yn agor toc.

 

Penderfyniad:

Fod y Cabinet yn nodi’r adroddiad ac yn cydnabod y sefyllfa o ran perfformiad disgyblion.

 

Dogfennau ategol: