Agenda item

Cynllun Busnes Gwasanaeth Cyflawni Addysg (GCA) 2021-2022

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud fod Cynllun Busnes GCA 2021/22 wedi ei ddatblygu trwy gydweithrediad Casnewydd, Torfaen, Sir Fynwy, Caerffili a Blaenau Gwent. Byddai’r Cynllun Busnes yn cefnogi pob ysgol a lleoliad, gan sicrhau mynediad at amrywiaeth o ddysgu proffesiynol a chefnogaeth unswydd, sydd yn cyd-fynd â blaenoriaethau gwella’r ysgolion.

 

Rhoddwyd ystyriaeth lawn i’r hinsawdd yr oedd ysgolion a lleoliadau yn gweithio ynddo ar hyn o bryd. Byddai’r cynllun busnes yn adeiladu ar yr arferion da a welwyd yn ystod yr amser heriol hwn (gan gynnwys dysgu cyfun a hyblyg), ac yn cefnogi ysgolion a’u dysgwyr yn y cyfnod adfer i gael dysgu o ansawdd uchel ac i gefnogi lles disgyblion.

 

Yr oedd Cynllun Busnes GCA yn cynnwys blaenoriaethau addysgol strategol penodol i Gasnewydd, a hyn yn cyd-fynd ag argymhellion Estyn. Byddai hyn yn sicrhau fod blaenoriaethau gwella ysgolion yn lleol a rhanbarthol wedi eu cysylltu er mwyn cael y cyfle gorau i lwyddo.

 

Bu’r Cynllun trwy broses ymgynghori gadarn gyda Phenaethiaid, Cyrff Llywodraethol, Aelodau Cabinet, Pwyllgorau Craffu a phobl ifanc. Cyflwynir y cynllun i Lywodraeth Cymru yn nes ymlaen y mis hwn.

 

Caiff y cynllun ei fonitro’n rheolaidd i olrhain ei gyflwyno a’i effaith. Bydd adroddiad yn mynd bob tymor trwy’r Cyd-Gr?p Addysg sydd yn cynnwys Prif Swyddog Addysg a’r Aelod Cabinet dros Addysg ym mhob un o’r pum awdurdod lleol. Bydd Bwrdd Cwmni y GCA , gyda chynrychiolaeth o bob awdurdod lleol, hefyd yn adrodd bob tymor.

 

Croesawodd yr Arweinydd Ed Pryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol y GCA, i ddisgrifio uchelgais gyffredinol ac unarddeg blaenoriaeth allweddol y cynllun.

 

Atgoffodd Ed Pryce y Cabinet mai perchenogion y GCA oedd y pum awdurdod lleol, ac mai gwasanaeth gwella ysgolion ydoedd, yn hytrach na chwmni annibynnol.

 

Oherwydd y data ystyrlon, nid oedd yr atodiad wedi ei gynnwys, ond y mae’r GCA yn gweithio gyda phartneriaid i gael data mwy defnyddiol gan yr ysgolion yn hytrach na data diwedd cyfnod yn ystod y cyfnod hwn o adfer.

 

Yr oedd yn hanfodol ein bod yn dychwelyd yn gadarnhaol ac wedi dysgu gwersi gyda’n partneriaid o’r hyn a ddigwyddodd dros y flwyddyn a aeth heibio.

 

Cynhaliwyd hyfforddiant helaeth i fwy na 200 o lywodraethwyr ysgolion dros y Pasg. Yr oedd y gwasanaeth wedi cyrraedd arweinwyr ac ymarferwyr ysgolion mewn modd na wnaed o’r blaen. Yr oedd cydweithredu yn allweddol er mwyn cael y canlyniad hwn.

 

Ni wnaeth Ed Pryce fynd trwy bob un o’r 11 blaenoriaeth am eu bod yn adlewyrchu’r pum blaenoriaeth strategol a drafodwyd yn y Pwyllgor Craffu Perfformiad - Partneriaethau.

 

Mae’r GCA hefyd yn sicrhau bod gan ysgolion sy’n defnyddio dysgu cyfun y rhwydweithiau priodol, a’u bod yn parhau gyda’r cwricwlwm i Gymru.

 

Sicrhaodd elfen gyllid y cynllun y byddai’r gyfradd ddirprwyo yn aros ar 94% ac yn uwch, gydag elfen fechan o gyfraniad gan yr ALl.

 

Ychwanegodd Sarah Davies, GCA, fod y berthynas rhyngddynt hwy, yr ysgolion a’r awdurdodau lleol yn gryfder mawr a byddant yn parhau i weithio ynghyd er lles yr holl ddysgwyr, teuluoedd a chymunedau yng Nghasnewydd.  Yr oedd ysgolion yn llefydd cadarnhaol ac yr oedd y GCA  am adeiladau ar y berthynas a ddatblygwyd gyda theuluoedd a disgyblion, a’i chryfhau.

 

Yr oedd y Dirprwy Brif Swyddog Addysg yn ystyried fod y Cynllun Busnes a gyflwynwyd i’r Cabinet yn gynhwysfawr ac yn seiliedig ar dystiolaeth, ac yr oedd yn hyderus felly y byddai’n help i’r ysgolion adfer. Y peth pwysicaf oedd sicrhau y byddai plant yn ddiogel i ddychwelyd i’r ysgol pan fyddant yn agor yr wythnos nesaf. Y gobaith oedd y byddai hyn yn brofiad dymunol ac yn haf da, gyda lles a dysgu yn cael rhan amlwg.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Diolchodd y Cynghorydd D Davies i’r GCA am eu cefnogaeth i’r llywodraethwyr eleni gyda chyfarfodydd ar-lein. Bu’r hyfforddiant, y cyngor a’r gefnogaeth yn gyson er mwyn sicrhau y gallai llywodraethwyr wneud eu gwaith yn effeithiol.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod y cynllun yn wastad yn ddogfen fanwl, ond fod eleni yn eithriadol, gyda syniadau fel partneriaeth a natur gadarnhaol yn amlwg. Wrth i ni symud ymaith o’r pandemig,  bydd dychweliad graddol i ddysgu fel arfer yn yr ysgol. Yr oedd yn falch hefyd o weld fod anghenion plant bregus yn cael eu trin. At y dyfodol, y gobaith oedd na fydd angen i blant fod ar eu colled oherwydd bod cyfleusterau o bell ar gael.

 

Penderfyniad:

Fod y Cabinet yn fodlon fod y Cynllun Busnes yn rhoi cefnogaeth a her ddigonol i ysgolion a’i fod yn ymdrin â’r meysydd gwella a nodwyd yng Nghynllun Strategol Addysg Casnewydd. Yr oedd y Cabinet felly yn cymeradwyo Cynllun Busnes 2021-2022 y GCA.

 

 

Dogfennau ategol: