Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Newydd: Ar ôl Ymgynghori Ardystio Adroddiad Adolygu a Chytundeb Cyflawni

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan ddweud fod Adroddiad yr Adolygiad o’r CDLl Newydd yn ddogfen oedd yn gosod allan y newidiadau allweddol mewn deddfwriaeth a pholisi oedd wedi digwydd ers mabwysiadu’r CDLl yn 2015. Yr oedd y ddogfen hefyd yn cynnwys asesiad o ba bolisïau CDLl oedd yn gweithio’n dda a pha rai oedd angen eu hadolygu.

 

Yr oedd Cytundeb Cyflwyno’r CDLl Newydd yn amserlen yn gosod allan sut y bwriada’r Cyngor reoli a chyflwyno’r CDLl.  Mae hefyd yn gosod allan pwy, sut a phryd y  bydd y Cyngor yn ymgynghori ac yn ymwneud wrth gynhyrchu’r CDLl Newydd.

 

Daeth y ddwy ddogfen ddrafft gerbron y Cabinet ym mis Hydref 2020 a chytunwyd y byddant yn destun ymgynghori cyhoeddus. Digwyddodd hyn, a gofynnir i’r Cabinet ystyried y sylwadau a dderbyniwyd, cymeradwyo’r ymateb a awgrymir, a chadarnhau’r ddwy ddogfen i’w cyflwyno i’r Cyngor llawn ddiwedd Ebrill. Wedi i’r Cyngor llawn gadarnhau, gallwn gyflwyno’n ffurfiol i Lywodraeth Cymru.  Byddai derbyn gan Lywodraeth Cymru yn nodi cychwn yn gyfreithiol ar adolygu’r CDLl.

 

O ran Adborth Ymgynghori ar Adroddiad yr Adolygiad:

 

Mae Atodiad A Adroddiad y Cabinet yn gosod allan yr holl ymatebion a dderbyniwyd. Yn gyffredinol, yr oedd y sylwadau yn cefnogi Adroddiad yr Adolygiad ac yn cytuno y dylid bwrw ymlaen i adolygu’r CDLl.

 

Ymysg rhai ymatebion i’w nodi yr oedd:

·        Nododd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru fod cynllunio yn faes blaenoriaeth o ran cyflwyno’n nodau lles.

·        Ceisiadau i atal unrhyw ddatblygiadau yng Ngwastadeddau Gwent. Yr oedd effaith cynlluniau ynni adnewyddol mawr yn fater pryder arbennig.

·        Gyda Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi argyfwng bioamrywiaeth a newid hinsawdd, codwyd pwnc effeithiolrwydd y polisi presennol i warchod a gwella ecoleg.

·        Cefnogwyd parhad o strategaeth tir llwyd, ynghyd â’r angen i sicrhau nad yw strategaeth y cynllun yn arwain at anfantais gymdeithasol.

·        Rôl a phwysigrwydd cynllunio mwynau i Gasnewydd a’r rhanbarth.

·        Yr angen i ystyried mynediad at yr afon at ddibenion hamdden a gwasanaethau badau achub.

·        Yr angen i adolygu polisi twristiaeth a chydnabod pwysigrwydd hyn i economi Casnewydd.

·        Effaith Covid 19 a defnyddio cynllunio fel arf i helpu adfer.

·        Pwysigrwydd a chyfleoedd treftadaeth a’i rôl yng Nghynnig Casnewydd.

·        Yr angen i ganoli ar adfywio canol y ddinas, a’r

·        Cyfleoedd sy’n deillio i welliannau cludiant cyhoeddus cenedlaethol a rhanbarthol.

 

 O ran y Cytundeb Cyflwyno:

 

Mae Atodiad B yr Adroddiad yn gosod allan yr holl ymatebion a dderbyniwyd. Eto, yr oedd cefnogaeth gyffredinol i’r Cytundeb Cyflwyno; ymysg rhai o’r sylwadau a dderbyniwyd yr oedd:

·        Cefnogaeth i’r amserlen arfaethedig.

·        Dolenni defnyddiol i randdeiliaid nas cynhwyswyd yn y drafft.

·        Cwestiynau am effaith Covid-19 ar ymwneud, a’r

·        Angen am dryloywder gwneud penderfyniadau trwy gydol proses y CDLl Newydd.

 

I Gloi

 

O ganlyniad i’r ymgynghori cyhoeddus, gwnaed nifer fechan o fân newidiadau i’r ddwy ddogfen. Mae’r newidiadau yn yr atodiadau ac yr oedd dolenni i’r dogfennau drafft newydd hefyd yn yr adroddiad.  Gofynnwyd i’r Cabinet ystyried a chymeradwyo’r dogfennau hyn a chytuno iddynt gael eu cyfeirio at y Cyngor llawn gyda’r bwriad o’u cyflwyno yn ffurfiol i Lywodraeth Cymru.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Cefnogodd y Cynghorydd Davies y sylwadau a wnaed gan gyrff allanol i fwrw ymlaen â’r CDLl.  Croesawodd y ffaith fod trigolion Casnewydd eisiau cymryd rhan yn y broses. Yr oedd yn ddogfen ragorol, a rhoddir ystyriaeth yn y dyfodol i’r pwyntiau a godwyd gan y trigolion.

 

Penderfyniad:

 

§  Cymeradwyodd y Cabinet yr ymatebion a argymhellwyd i’r adborth a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghori, a chadarnhau fersiynau Adroddiad yr Adolygiad a’r Cytundeb Cyflwyno a ddiweddarwyd

§  Cabinet i argymell i’r Cyngor Llawn y dylid mabwysiadu’r dogfennau hyn yn ffurfiol a’u cymeradwyo i’w cyflwyno’n ffurfiol i Lywodraeth Cymru. 

 

Dogfennau ategol: