Agenda item

Datganiad Polisi Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad gan ddweud ei bod yn bwysig i’r Cyngor gael datganiad polisi cyfoes a pherthnasol o ran gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd er mwyn atal y fath beth yn y sefydliad a’r sefydliadau sy’n bartneriaid, i ymdrin ag unrhyw honiadau yn briodol, a chryfhau’r trefniadau llywodraethiant yn gyffredinol. Dyma oedd yr adolygiad cyntaf o’r datganiad ers rhai blynyddoedd.

 

Cytunodd Pwyllgor Archwilio’r Cyngor i nodi a chadarnhau’r datganiad polisi gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd ac argymell fod y Cabinet yn ei gymeradwyo’n ffurfiol.

 

Cyngor Dinas Casnewydd oedd un o sefydliadau mwyaf y ddinas. Mae’n rheoli miliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus ac yn rhoi’r pwys mwyaf ar ddisgwyliadau uchel y cyhoedd a graddfa’r craffu cyhoeddus ar faterion y Cyngor.

 

Y mae llywodraethiant corfforaethol da yn mynnu bod yr Awdurdod yn dangos yn glir ei fod wedi llwyr ymrwymo i drin twyll a llygredd ac y byddai’n delio â’r sawl sy’n gwneud hyn yn fewnol (Aelodau a swyddogion) a’r tu allan i’r Cyngor.  Hefyd, ni fyddai unrhyw wahaniaethu o ran ymchwilio i achosion sy’n esgor ar fudd ariannol a’r rhai nad ydynt. Y bwriad oedd annog diwylliant o atal twyll a llygredd, ac ar yr un pryd, anfon neges glir iawn, petai gweithgaredd o’r fath yn cael ei ganfod, y byddai’n cael ei drin yn gadarn, yn gyson ac yn briodol.

 

Yr oedd y datganiad polisi yn ymgorffori set o fesurau a fwriadwyd i rwystro unrhyw weithred dwyllodrus neu lwgr, a’r camau i’w cymryd petai’r fath beth yn digwydd, yn rhoi’r cysylltiadau allweddol i adrodd am amheuon o dwyll neu lygredd, ynghyd â chyfrifoldebau swyddogion, aelodau a gweithwyr allweddol. Yr oedd yn ymgorffori Deddf Twyll 2006 sydd yn diffinio twyll trwy dair trosedd allweddol, yn rhoi diffiniad o lygredd a hefyd yn amlinellu Deddf Llwgrwobrwyo 2010 lle’r oedd pedair trosedd allweddol.

 

Y ddedfryd uchaf oedd 10 mlynedd o garchar i rywun a gafwyd yn euog o dwyll neu lwgrwobrwyo, gyda photensial am ddirwy ddiderfyn os ceir yn euog o lwgrwobrwyo.

 

Y mae’r datganiad polisi hwn yn ymgorffori set o fesurau a fwriadwyd i rwystro unrhyw weithred dwyllodrus neu lwgr, a’r camau i’w cymryd petai’r fath beth yn digwydd. I’w ddeall yn well, mae wedi ei rannu yn bum maes, fel y gwelir isod:-

         Diwylliant                                       

         Atal                        

         Ataliaeth                                                    

         Canfod ac Ymchwilio        

         Hyfforddi

 

Diffiniodd Deddf Twyll 2006 dwyll trwy dair trosedd allweddol:

 

·         Twyll drwy osodiad ffug (lle mae person yn anonest yn gwneud gosodiad ffug ac yn bwriadu, trwy wneud y gosodiad, i gael elw iddo’i hun neu rywun arall  neu achosi neu beri risg colli i rywun arall);

·         Twyll drwy fethu a datgelu gwybodaeth (lle methodd person yn anonest a datgelu i rywun arall wybodaeth yr oedd dyletswydd gyfreithiol arno i ddatgelu; ac y bwriadodd ,trwy fethu â gwneud hynny, i gael elw iddo’i hun neu rywun arall  neu achosi neu beri risg colli i rywun arall); a

·         Twyll drwy gamddefnyddio safle (lle’r oedd person mewn safle lle’r oedd disgwyl iddo ddiogelu neu beidio â gweithredu yn erbyn buddiannau ariannol rhywun arall;  yn anonest yn camddefnyddio’r safle honno gyda’r bwriad o i gael elw iddo’i hun neu rywun arall  neu achosi neu beri risg colli i rywun arall).

 

Creodd droseddau newydd hefyd:

 

·         Cael gwasanaethau yn anonest

·         Bod ym meddiant, gwneud a chyflenwi eitemau i’w defnyddio mewn twyll

·         Masnachu twyllodrus sy’n gymwys i fasnachwyr heb fod yn rhai corfforaethol.

 

Yr oedd y ddeddf i raddau helaeth yn disodli cyfreithiau o gael eiddo trwy dwyll, cael mantais ariannol a throseddau eraill a grëwyd dan Ddeddf Lladrad 1978.

 

Nid oedd diffiniad o lygredd sy’n cael ei dderbyn yn gyffredinol, er i Fanc y Byd ei ddiffinio fel ‘cynnig, rhoddi, derbyn neu gymell, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, unrhyw beth o werth i ddylanwadu’n amhriodol ar weithredoedd parti arall’.           

 

Yr oedd llygredd yn aml yn gysylltiedig â’r weithred o lwgrwobrwyo. Nododd Deddf Llwgrwobrwyo 2010 drosedd llwgrwobrwyo a nodi pedair trosedd allweddol:

 

·        Llwgrwobrwyo person arall - (Person yn cyflawni trosedd trwy gynnig, addo neu roi mantais ariannol neu fel arall i berson arall, yn uniongyrchol neu trwy ganolwr: bwriadu i’r fantais honno gymell person i gyflawni swyddogaeth yn amhriodol neu i wobrwyo person am wneud hynny (boed yr un person y cynigiwyd y fantais iddo neu beidio) neu wybod neu gredu y byddai derbyn y fantais ynddo’i hun yn gyflawni swyddogaeth yn amhriodol);

·        Derbyn llwgrwobr - (Person yn cyflawni’r drosedd hon trwy ofyn, cytuno i dderbyn mantais ariannol neu fel arall , yn uniongyrchol neu trwy drydydd parti, er ei l/lles ei hun neu rywun arall; fod person yn bwriadu, o ganlyniad i swyddogaeth gael ei gyflawni yn amhriodol (boed fel gwobr, gan ddisgwyl neu o ganlyniad i’r cais, cytundeb neu dderbyn). Gall y cais, cytundeb neu dderbyn  ynddo’i hun fod yn gyflawni swyddogaeth yn amhriodol);

·        Llwgrwobrwyo Ffigwr Cyhoeddus Tramor (Byddai’r drosedd hon yn cael ei chyflawni petai person yn cynnig neu yn rhoi mantais ariannol neu fel arall i swyddog cyhoeddus tramor gyda’r bwriad o ddylanwadu ar y swyddog cyhoeddus tramor a chael neu gadw busnesau, lle nad oedd hawl na gofyniad  ar y swyddog cyhoeddus tramor yn ôl y gyfraith ysgrifenedig i gael ei ddylanwadu felly); a

·        Methu ag atal Llwgrwobrwyo – (Yr oedd cwmni yn “gaeth atebol” am unrhyw lwgrwobr a dalwyd gan berson yn cyflawni gwasanaeth ar ei ran, oni all y sefydliad brofi fod gweithdrefnau gwrth-lwgrwobrwyo yn bodoli.)

 

Disodlodd Deddf Llwgrwobrwyo 2010 y troseddau gwasgaredig a chymhleth mewn cyfraith gwlad ac yn Neddfau Atal Llygredd 1889-1916.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyo’r datganiad polisi gwrth-dwyll, llwgrwobrwyo a llygredd.

 

Dogfennau ategol: