Cofnodion:
Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybod i gydweithwyr ei bod yn bwysig i’r Cyngor gael Cod Llywodraethu Corfforaethol cyfoes a pherthnasol. Yr oedd Datganiad Llywodraethu Blynyddol y Cyngor yn seiliedig ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol. Cafodd y Cod ei ddiwygio ddiwethaf yn 2014 a’i gymeradwyo gan y Cabinet.
Cafodd Cod Llywodraethu Corfforaethol Cyngor Dinas Casnewydd ei gyfoesi a’i adolygu i gydymffurfio ag arferion da cyhoeddedig y Sefydliad Siartredig Cyllid a Chyfrifo Cyhoeddus (CIPFA) a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-Reolwyr Awdurdodau Lleol (SOLACE), “Fframwaith Cyflwyno Llywodraethiant Da mewn Llywodraeth Leol 2016” a “Nodiadau Canllaw i Awdurdodau Cymru am Gyflwyno Llywodraethiant Da mewn Llywodraeth Leol 2016”, sydd yn cynnwys elfennau’r rheolaeth ariannol fewnol a fynnir gan “God Ymarfer Cyfrifo Awdurdodau Lleol yn y Deyrnas Unedig”.
Er mwyn cwrdd â gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2014, rhaid i Gyngor Dinas Casnewydd gyflwyno Datganiad Llywodraethiant Blynyddol (DLlB) gyda’r Datganiad Cyfrifon Blynyddol. Bu’r DLlB yn seiliedig ar y Cod Llywodraethu Corfforaethol hwn ers 2016/17.
Mae’r Cod hwn yn gosod allan agwedd Cyngor Dinas Casnewydd at gynnal a chael llywodraethu corfforaethol da.
Yr oedd y Cyngor yn gweld Llywodraethu Corfforaethol fel anelu at wneud y pethau iawn yn y ffordd iawn i’r bobl iawn mewn dull amserol, cynhwysol, agored, gonest ac atebol. Mae’n cynnwys y systemau a’r prosesau, y diwylliant a’r gwerthoedd oedd yn cyfeirio ac yn rheoli’r Cyngor, a dangos ar yr un pryd ei fod yn atebol i’w ddinasyddion ac yn ymwneud â hwy.
Mae llywodraethu cryf, tryloyw ac ymatebol yn galluogi’r Cyngor i roi’r dinasyddion yn gyntaf trwy ddilyn ei nod a’i flaenoriaethau yn effeithiol, gyda’r mecanweithiau priodol i reoli perfformiad a risg yn sail i hyn. I gadw hyder y dinasyddion, rhaid i’r mecanweithiau hyn fod yn gadarn a chael eu gweld felly.
Yr oedd y system o reoli mewnol yn rhan sylweddol o’r fframwaith hwn, wedi ei fwriadu i reoli risg ar lefel resymol. Yr oedd yn rhoi sicrwydd rhesymol o effeithiolrwydd, heb fod yn absoliwt. Yr oedd rheoli mewnol yn seiliedig ar broses gyson o nodi a rhoi blaenoriaeth i unrhyw risgiau i gyflawni polisïau, nodau ac amcanion y Cyngor, gan sicrhau fod adnoddau’r Cyngor yn cael eu defnyddio yn effeithiol, effeithlon ac economaidd.
Y Fframwaith Llywodraethu
Adolygwyd Cod Llywodraethu Corfforaethol y Cyngor yn unol â’r egwyddorion isod:
Gofynion cyffredinol i weithredu er budd y cyhoedd:
A Ymddwyn gydag uniondeb, gan ddangos ymrwymiad cryf i werthoedd moesegol a pharchu rheol y gyfraith
B Bod yn agored ac ymwneud yn gynhwysfawr â rhanddeiliaid
Hefyd, er mwyn llywodraethu yn dda, mae’r Cyngor angen trefniadau effeithiol i wneud yr isod:
C Diffinio deilliannau o ran buddion cynaliadwy, economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol
D Pennu’r ymyriadau sydd eu hangen i gyrraedd y deilliannau yn y ffordd orau
E Datblygu gallu’r endid, gan gynnwys gallu’r arweinyddiaeth a’r unigolion yn yr endid
F Rheoli risgiau a pherfformiad trwy reolaeth fewnol gadarn a rheolaeth ariannol gryf yn gyhoeddus
G Rhoi arferion da ar waith o ran tryloywder, adrodd ac archwilio er mwyn bod yn atebol yn effeithiol.
Y mae ymrwymiad y Cyngor i Lywodraethu Corfforaethol wedi ei osod allan yn y Cod hwn, ynghyd â’r trefniadau i gynnal llywodraethu corfforaethol da.
Penderfyniad:
Cymeradwyo’r Cod Llywodraethu Corfforaethol diwygiedig.
Dogfennau ategol: