Agenda item

Diweddariad Adferiad Covid 19

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef diweddariad ar ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 gan gefnogi’r ddinas (yn fusnesau a thrigolion) i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol a chynnydd gyda Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. 

 

23 Mawrth oedd yn nodi blwyddyn ers i’r Deyrnas Unedig fynd i’r cyfnod clo cyntaf, ac yn amser i gofio ein holl anwyliaid, cyfeillion ac aelodau ein teuluoedd a gollodd eu bywydau oherwydd Covid.

 

Yr oedd yn gyfle hefyd i adfyfyrio a diolch i’r bobl hynny sydd yn gweithio ar y rheng flaen yn ein hysbytai, y gwasanaethau cymdeithasol, cartrefi gofal, y gwasanaethau brys, athrawon, gweithwyr sbwriel, gweithwyr siopau a’r sawl a roddodd eu hamser i wirfoddoli a chefnogi eu cymunedau, eu cymdogion a’r rhai mewn angen

 

I Gyngor Dinas Casnewydd, yr oedd hon yn flwyddyn ddigynsail lle bu’n rhaid i ni wynebu sawl penderfyniad anodd, gan weld ein trigolion a busnesau yn ein wardiau yn dioddef effeithiau Covid a’r cyfyngiadau oedd i warchod y mwyaf bregus yn ein cymunedau. Yr oedd y pandemig hwn yn effeithio ar bawb.

 

Yr oedd Arweinydd y Cyngor wedi gweld sut y daeth Cynghorwyr o bob plaid wleidyddol, swyddogion a’n partneriaid strategol mewn iechyd, Casnewydd Fyw, Cyd-Wasanaeth Adnoddau, Casnewydd Norse a darparwyr gwasanaeth eraill ynghyd i ddatrys problemau, gan ddod o hyd y ffyrdd newydd ac arloesol o gyflwyno ein gwasanaethau, a chefnogi’r sawl oedd angen help. 

 

Gwyddai’r Cabinet hwn hefyd fod mwy i’w wneud i gefnogi pobl a busnesau yn yr argyfwng hwn. 

 

Byddai cyfleoedd newydd i ni ddal ati i wneud Casnewydd yn lle gwell i fyw, gweithio ac ymweld â hi, ac i wella gwytnwch ein cymunedau. 

 

Ymateb y Cyngor i Covid-19 a’r Cynnydd hyd yma

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Mawrth, llaciodd Llywodraeth Cymru fwy o gyfyngiadau, gan ganiatáu i drigolion a busnesau ddychwelyd yn raddol i’r drefn normal. 

 

Dros fis Ebrill, y gobaith oedd gweld mwy o gyfyngiadau yn llacio, fel bod siopau arferol a busnesau yn ail-agor dros yr haf. Bydd yn bwysig i bawb gefnogi busnesau lleol Casnewydd i adfywio economi cynaliadwy at y dyfodol. 

 

Er hynny, mae’n bwysig hefyd i’r holl drigolion a pherchenogion bunses i gadw at y mesurau ymbellhau cymdeithasol a chanllawiau Llywodraeth Cymru er mwyn cadw cyfradd yr achosion yn isel ac atal unrhyw gyfnodau clo yn y dyfodol wrth i ni barhau ar y daith i frechu pobl yn ein cymunedau.

 

Gyda chyflwyno’r brechiad, mae dros 1.2 miliwn o bobl bellach wedi derbyn eu dos gyntaf yng Nghymru. 

 

Neges y Cabinet hwn i drigolion yng Nghasnewydd oedd i gymryd y brechiad pan fyddai’n cael ei gynnig ac annog aelodau ein teuluoedd, ein cyfeillion a grwpiau cymunedol i wneud yr un fath. Nid yn unig y byddai hyn yn ein helpu oll i ddychwelyd i normal, ond byddai’n ein galluogi i gwrdd â’n hanwyliaid a gwneud yr hyn yr arferem ei wneud.   

 

Ar waethaf yr heriau, mae ein swyddogion a’n partneriaid wedi parhau i gyflwyno gwasanaethau i’n cymunedau yng Nghasnewydd dros y 12 mis diwethaf. 

 

Gwelodd y Cabinet hwn mor gadarn a dyfeisgar y bu’r swyddogion wrth weithio o gartref, gofalu am eu plant a’u teuluoedd, a dysgu yn y cartref. Ond hefyd rhaid cofio y swyddogion, athrawon, staff y gwasanaethau cymdeithasol oedd yn dal i fod allan o gwmpas Casnewydd yn casglu gwastraff, ymweld ac yn gofalu am y mwyaf bregus yn y ddinas.

 

Yr oedd y Cyngor yn edrych ymlaen i lunio gwasanaethau fyddai’n cael eu cyflwyno yn gynaliadwy yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ffyrdd newydd o weithio, datblygu modelau fyddai’n galluogi staff a defnyddwyr gwasanaeth i ddefnyddio technoleg ac adeiladau yn wahanol.

 

Yr oedd y Cyngor wedi ymrwymo i fod yn Gyngor Sero Net Carbon ac yn edrych ar ffyrdd i wneud y ddinas yn wyrddach a glanach i’r trigolion, busnesau ac ymwelwyr.   

 

Bydd Casnewydd hefyd yn esblygu o ran y ffordd y byddwn yn symud o gwmpas y ddinas ac yn defnyddio’r mannau cyhoeddus yn wahanol i gwrdd â’n ffrindiau, i siopa a hamddena. Mae peth o’n gwaith yn cynnwys teithio llesol, a datblygu’r Bont Gludo, y Ganolfan Hamdden, Arcêd y Farchnad a’r Orsaf Wybodaeth.

 

Cyhoeddiadau’r Cyngor

 

Dros y mis diwethaf, cyflwynwyd yn y meysydd allweddol a ganlyn:

 

Dechreuodd Casnewydd dreialu dyfeisiadau 10 KOMP ar gyfer trigolion h?n i’w galluogi yn ddigidol a gwneud galwadau fideo, rhannu lluniau a negeseuon gyda’u perthnasau mewn dull diogel.

 

Rhoddodd busnesau lleol liniaduron ac iPads i blant mewn cartrefi preswyl ac mewn gofal maeth i gynnal eu haddysg.

 

Derbyniodd y Cyngor ei gerbyd gwastraff trydan cyntaf; dyma’r cyntaf yng Nghymru hefyd. 

 

Derbyniodd prosiectau mawr fel y ganolfan Hamdden newydd, a’r Bont Gludo arian Llywodraeth Cymru i dalu am eu datblygiad.

 

Agorodd y Cyngor gartref preswyl arall fel rhan o Broject Perthyn a chadarnhau arian eto am drydydd cartref preswyl yn y ddinas.

 

Yr oedd cyllideb gyfranogol gyda phartneriaid wedi galluogi grwpiau cymunedol i fidio a chael arian fyddai’n eu galluogi i gyflwyno prosiectau lleol i’w trigolion ledled Casnewydd. Cafodd y cyhoedd gyfle i ddewis y bid buddugol. Derbyniwyd dros 80 o fidiau ledled y ddinas gyda gwerth o dros £400,000.

 

Bydd diweddariad pellach am gynnydd y Cyngor yn cael ei roi fis nesaf.

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Yr oedd y Cynghorydd Mayer yn gobeithio y byddai pobl yn cofio fod y sector cyhoeddus wedi dangos mai hwy oedd yn rhedeg popeth yn ystod y pandemig.  Yr oedd am ddiolch i holl awdurdodau a swyddogion y sector cyhoeddus oedd wedi parhau i gydgordio gwasanaethau, yn enwedig y Comand Aur.

 

Cyfeiriodd hefyd at y mentrau yn y gyllideb gyfranogol, gyda channoedd yn ymgeisio. Gyda chefnogaeth gan y Cynghorydd Cockeram, bu’r ddau gynghorydd yn edrych am gymunedau i weld pwy oedd angen help a chefnogaeth. Yr oedd yn fenter wych ac arloesol, a’r gobaith oedd y gellid ei hailadrodd.

 

Cyfeiriodd y Dirprwy Arweinydd at y pwyntiau allweddol, gyda 1.2M o bobl yn derbyn eu brechiad cyntaf, y cyngor a Chasnewydd Fyw yn cefnogi’r GIG, a nodi pa mor effeithiol yr oedd y canolfannau brechu yn cael eu rhedeg. Diolchodd y Dirprwy Arweinydd i bawb am eu gwaith caled.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Cockeram sylwadau ei gydweithwyr, a diolchodd hefyd i LlC am ddarparu’r gronfa galedi, oedd mor werthfawr i’r trigolion.  Yr oeddent wedi arwain y ffordd, a Chymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno brechiad Moderna. 

 

Yr oedd y Cynghorydd Davies yn canolbwyntio ar fidio am gynllun y gyllideb, a sylwodd ar y diffyg ymwneud ag aelodau ymylol ein cymuned: yr oedd y gallu i glywed eu lleisiau hwy yn gyfle allweddol. Y ffordd ymlaen fel awdurdod lleol oedd ymwneud â phobl ar lawr gwlad i gyflwyno cynlluniau.

 

Adleisiodd y Cynghorydd Harvey sylwadau’r aelodau a diolchodd i Steve Ward, Casnewydd Fyw a’r GIG am eu gwaith caled cyson adeg cyflwyno’r brechiadau wrth i ni weld pa mor dda y buom yn gweithio gyda’n gilydd. Yr oedd yr help rhyfeddol a gynigiwyd ac a dderbyniwyd wedi cadw Casnewydd i fynd.

 

Dywedodd yr Arweinydd fod gweithio mewn partneriaeth yng Ngwent wedi esgor ar ganlyniadau cadarnhaol, ac y byddai hyn yn parhau. Gwnaed hyn oll gyda llawer o gefnogaeth ac ymwneud â LlC. Bu Casnewydd hefyd yn gweithio gyda’r Dirprwy Weinidog Cydraddoldeb i annog y gymuned BAME i gymryd y brechiad. 

 

Penderfyniad:

Nododd y Cabinet y cynnydd a wnaed hyd yma a’r risgiau oedd yn dal i wynebu’r Cyngor.

 

Dogfennau ategol: