Agenda item

Adroddiad Diweddaru Brexit

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi gwybodaeth i Aelodau’r Cabinet ar gynnydd wedi Brexit / y trefniadau masnach ers 31 Rhagfyr 2020.

 

Y Diweddaraf am y Trafodaethau Masnach

·      Ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd a’r Farchnad Sengl ar 31 Rhagfyr 2020, bu’n rhaid i fusnesau  mewnforio/allforio o’r DU a’r EU gydymffurfio a’r trefniadau tollau newydd.

·      Fel y dangosodd yr adroddiad, bu’n fisoedd anodd i fusnesau yng Nghymru i gwrdd â’r gofynion newydd hyn, a bu cryn gwymp yn lefel yr allforion a’r mewnforion. Ni wyddom eto beth fydd effaith lawn y trefniadau newydd hyn dros y 6 i 12 mis oherwydd cyfyngiadau Covid.

·      Yr oedd gwytnwch economaidd Casnewydd a De Ddwyrain Cymru at y dyfodol yn hollbwysig er mwyn sicrhau y gallai busnesau presennol a rhai newydd barhau i ffynnu yn gynaliadwy. Yr oedd yn bwysig hefyd i ni hybu ‘Cynnig Casnewydd’ i entrepreneuriaid cynhenid yn ogystal â busnesau byd-eang.

·      Byddai meddu ar economi amrywiol a chynaliadwy allai roi twf cynaliadwy yn galluogi cymunedau Casnewydd nid yn unig i ‘godi’r gwastad’ ond i ffynnu hefyd yn y tymor hir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yng Nghasnewydd. 

·      Tynnodd yr adroddiad sylw hefyd at gyllid newydd (Cronfa Codi’r Gwastad a Chronfa Adnewyddu Cymunedau y DU)  oedd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth y  Du yn lle cronfeydd strwythurol yr EU yr elwodd De Ddwyrain Cymru a Chasnewydd arnynt yn y gorffennol.

·      Cyhoeddwyd Cronfa Codi’r Gwastad i alluogi buddsoddi posib ar raddfa fawr mewn trafnidiaeth, adfywio a diwylliant a allai gefnogi Casnewydd i gyflwyno prosiectau o bwys yn y ddinas: nodwyd Casnewydd fel ardal Categori 1 ar gyfer buddsoddi

·      Rhoddwyd blaenoriaeth yng Nghronfa Adnewyddu Cymunedau yr DU i 100 ardal yn y DU ar sail eu cynhyrchedd, incwm aelwydydd, sgiliau y diwaith, a dwysedd poblogaeth. Gallai Cyngor Casnewydd gyflwyno bidiau gan grwpiau cymunedol, elusennau, y Cyngor a sefydliadau addysg drydyddol am hyd at £3miliwn o gyllid fel awdurdod arweiniol.

·      Nodwyd, fodd bynnag, mai proses gystadleuol oedd ar gyfer y ddwy gronfa, ac nad oedd gwarant y derbynnid y cyfan na rhan o’r bidiau a gyflwynwyd. Ymhellach, nid oedd gwarant y byddai Casnewydd na De Ddwyrain Cymru yn derbyn yr un lefel o gyllid ag y buasem wedi ei dderbyn dal y trefniadau blaenorol.  

·      Yr hyn sy’n gwneud Casnewydd yn ddinas wych i fyw, gweithio ac ymweld â hi yw ein cymunedau a’n grwpiau amrywiol a chynhwysol. Bu Casnewydd yn wastad yn ddinas groesawgar i bobl o bob cenedl, waeth beth oedd eu hil, rhywioldeb na’u crefydd.

·      Yr oedd yn fater o bryder i’r Cabinet y gall fod llawer o ddinasyddion yr UE yn byw ac yn gweithio yng Nghasnewydd sydd heb eto wneud cais am Statws Sefydlu yr UE a bod rhai yn dod at y Cyngor heb fynediad at arian cyhoeddus. 

·      Yr oedd Cyngor Casnewydd, ynghyd a grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill yng Nghasnewydd yn hyrwyddo’r cynllun hwn ac yn annog pobl i ymgeisio. Yr oedd yn bwysig annog aelodau’r teulu, cyfeillion a chydweithwyr i wneud cais cyn 30 Mehefin. Gallai unrhyw un nad modd yn sicr neu’n cael trafferth gysylltu â’r Cyngor neu fynd at ein gwefan i gael eu cyfeirio at y safleoedd iawn er mwyn gwneud cais.  

 

Cyfoesiad am Gynnydd a amlinellir yn yr Adroddiad

·      Yr oedd tîm cyfathrebu Cyngor Casnewydd yn dal i rannu gwybodaeth Llywodraeth Cymru am y trefniadau masnach newydd, gofynion busnes a gwybodaeth i ddinasyddion yr EU.  Yr oedd hyn yn cael ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol, llythyrau newyddion i fusnesau, a gwefan y Cyngor.

·      Yn ystod tri mis cyntaf y trefniant newydd, ni wnaeth gwasanaethau Cyngor Casnewydd adrodd am unrhyw broblemau a/neu bryderon cychwynnol o ran cyflenwi nwyddau a gwasanaethau.

·      Adroddodd tîm cyllid y Cyngor (gan gynnwys Caffael) am beth cynnydd yng nghost caffael, ond mae’r cyflenwadau yn gyffredinol wedi rhedeg fel arfer. 

·      Fel rhan o ddarbodaeth ariannol y Cyngor, yr oedd arian wrth gefn i reoli effeithiau Brexit / Covid, ac wrth i’r risg sefydlogi ymhen amser, bydd y dyraniad yn cael ei ail-flaenoriaethu. 

·      Y mae’r Gwasanaethau Rheoleiddio yn dal i gynnig cefnogaeth i fusnesau ac y mae staff Iechyd Amgylchedd wedi cwblhau yr hyfforddiant angenrheidiol i wneud gwiriadau tystysgrifau iechyd.

·      Mae swyddogion Cydlynu Cymunedol y Cyngor yn dal i weithio gyda chymunedau’r EU ac i gynnig cymorth i gymunedau bregus. 

·      Yr oedd grwpiau/elusennau lleol hefyd yn cael cyfle i gael cefnogaeth tlodi bwyd i’r sawl sydd wedi dioddef oherwydd Brexit / Covid.

·      Byddai Cyngor Casnewydd yn derbyn cyllid ychwanegol yn 2021/22 i gefnogi eu gwaith ar dlodi bwyd, a byddai mwy o bwyslais ar ein Hybiau Cymunedol i roi cyngor ar ddyled a thai i’r rhai fydd yn dod at y Cyngor. 

·      Mae’r tabl yn Atodiad 1 yr adroddiad yn rhoi manylion llawn am y meysydd sy’n dod dan waith y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi ymateb y Cyngor i Brexit.

 

 

Dogfennau ategol: