Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR YMATEB I COVID-19 A'R ADFERIAD OHONO

Cofnodion:

Yr Arweinydd i gyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet.

 

Rhoddodd yr Adroddiad Cabinet hwn ddiweddariad ar ymateb y Cyngor a'i bartneriaid i argyfwng Covid-19 gan gefnogi'r Ddinas (trigolion a busnesau) i gydymffurfio â'r cyfyngiadau a'r cynnydd presennol yn Nodau Adfer Strategol a Chynllun Corfforaethol y Cyngor. 

 

I Gyngor Casnewydd roedd hwn yn gyfnod digynsail lle'r oeddem wedi wynebu llawer o benderfyniadau anodd, gan weld trigolion a busnesau'n dioddef o effeithiau Covid a'r cyfyngiadau i amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.  Nid oedd yr un person heb i’r pandemig hwn wedi effeithio arno.

 

Mae Cynghorwyr ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol, swyddogion a'n partneriaid strategol ym maes iechyd, Casnewydd Fyw, y Gwasanaeth Adnoddau a Rennir, Newport Norse a darparwyr gwasanaethau eraill wedi dod at ei gilydd i ddatrys materion sydd wedi dod i’r amlwg; gan ddod o hyd i ffyrdd arloesol a newydd o ddarparu ein gwasanaethau, a chefnogi'r rheiny sydd angen ein cymorth. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn gwybod bod mwy y gallem ac y byddem yn ei wneud i gefnogi pobl a busnesau allan o'r argyfwng hwn.   

 

Ymateb y Cyngor i Covid-19 a’r Cynnydd hyd yma:

 

Ers yr adroddiad blaenorol ym mis Ebrill, llaciwyd rhagor o gyfyngiadau gan alluogi trigolion a busnesau i ddychwelyd yn araf i'r drefn arferol. 

 

Gyda lletygarwch a gweithgareddau awyr agored yn ailagor (bydd lletygarwch dan do yn ailagor ym mis Mai) a busnesau eraill ar agor ers mis Ebrill, mae’n bwysig ein bod yn cefnogi ein busnesau a'n heconomi leol ledled Casnewydd i greu economi gynaliadwy a llwyddiannus ar gyfer y dyfodol. 

 

Parhaodd y rhaglen frechu i symud ymlaen trwy’r grwpiau oedran yng Nghymru gyda dros 1.7 miliwn o bobl bellach wedi cael eu brechiad cyntaf.  Roedd rhywfaint o waith i'w wneud eto ac roedd yr un mor bwysig i bobl rhwng 18 a 39 oed gael eu brechu gan gynnwys ein cymunedau lleiafrifoedd ethnig yng Nghasnewydd.

 

Fodd bynnag, nid oedd hyn yn golygu y gallem ddychwelyd i fywyd fel yr oedd cyn Covid.  Fel y gwelsom mewn gwledydd fel Brasil ac India sydd wedi dioddef yn sylweddol, roedd yn bwysig ein bod yn parhau’n wyliadwrus o ran cadw pellter cymdeithasol a bod y rheiny â symptomau, neu eu ffrindiau neu eu teulu, yn cael eu profi, yn hunanynysu ac yn dilyn y canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.    

 

 Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd gennym, parhaodd swyddogion a'n partneriaid i ddarparu gwasanaethau ar draws cymunedau yng Nghasnewydd yn ystod y 12 mis diwethaf. 

 

Roedd y Cyngor wedi gweld pa mor wydn a dyfeisgar oedd swyddogion wrth weithio gartref, gofalu am eu plant a pherthnasau ac addysgu gartref, yn ogystal â'r swyddogion, yr athrawon, a’r staff gwasanaethau cymdeithasol hynny a oedd wedi parhau i weithio ar draws Casnewydd yn casglu gwastraff, yn glanhau ein strydoedd ac yn ymweld â'r bobl fwyaf agored i niwed yn y ddinas ac yn gofalu amdanynt. 

 

Roedd y Cyngor hefyd yn edrych ymlaen, drwy lunio sut y byddai ein gwasanaethau’n cael eu darparu'n gynaliadwy yn y dyfodol.  Roedd hyn yn cynnwys edrych ar ffyrdd newydd o weithio, a datblygu modelau a fyddai'n galluogi staff a defnyddwyr gwasanaethau i ddefnyddio technoleg a'n hadeiladau'n wahanol. 

 

Yn ystod y mis diwethaf, cyflawnodd y canlynol:

·         Ail-agorodd pob ysgol yn llawn ym mis Ebrill.

·         Ail-agorodd llyfrgelloedd a Hybiau Cymunedol i alluogi pobl i ddefnyddio llyfrgelloedd a gwasanaethau cymunedol eraill.   

 

Sylwadau Aelodau’r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Truman fod yr adroddiad yn ymdrin â phopeth a gwelodd pa mor dda y daeth cymunedau at ei gilydd yn ystod y pandemig.  Roedd busnesau a phartneriaid hefyd wedi gwneud llawer.  Roedd llawer o frechiadau wedi’u rhoi ond roedd angen i Gasnewydd symud ymlaen yn bwyllog.  Diolchodd y Cynghorydd Truman i holl ddinasyddion a gweithwyr Casnewydd am eu cefnogaeth barhaus.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cockeram yn fawr i’r gofalwyr maeth sy'n gofalu am blant dan ofal Cyngor Dinas Casnewydd yn ystod y cyfnod hwn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Jeavons i Waste Savers a diolchodd i ddinasyddion Casnewydd am eu hamynedd a'u dealltwriaeth.

 

Diolchodd y Cynghorydd Rahman i bartneriaid, trigolion a busnesau yng Nghasnewydd sy’n mynd i'r afael â'r pandemig ac i Casnewydd Fyw.  Roedd y Cynghorydd Rahman yn falch o weld campfeydd yn ailagor ac o 17 Mai y gobaith oedd agor y maes lletygarwch fel theatrau.  Diolchodd y Cynghorydd Rahman hefyd i Rodney Parade am ganiatáu lleoli’r canolfannau profi ar eu tiroedd a diolchodd i staff y Cyngor am eu gwaith caled a'u cyfraniad.  Roedd hefyd yn bwysig cynnal cyfyngiadau megis mesurau ymbellhau cymdeithasol a golchi dwylo.  Roedd angen i ni wneud ein rhan i sicrhau ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir.  Diolchodd y Cynghorydd Rahman i'r Arweinydd am gefnogi busnesau gyda grantiau, gan ychwanegu mai Cyngor Dinas Casnewydd oedd un o'r awdurdodau cyntaf i roi’r grantiau hyn.

 

Yn olaf, diolchodd yr Arweinydd i drigolion, partneriaid a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth a diolchodd i'w chydweithwyr yn y Cabinet am gydnabod hyn.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nododd y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma a'r risgiau yr oedd y Cyngor yn dal i'w hwynebu.

 

Dogfennau ategol: