Agenda item

Cofrestr Risgiau Corfforaethol Chwarter 4

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes yr eitem hon.

 

Yn Ch4, mae’r cyngor yn ymdrin â 46 o risgiau gan gynnwys y rhai yn y gofrestr risgiau corfforaethol ar draws pob maes gwasanaeth. Mae manylion yr holl risgiau hyn yn yr adroddiad. Mae 6 maes gwasanaeth lle cafodd risgiau eu cau yn y chwarter hwn.

 

Mae peth newid hefyd yng nghyfeiriad risgiau corfforaethol yn yr adroddiad. Lleihaodd risg Brexit. Yn ystod y flwyddyn, lleihau wnaeth risg rheoli ariannol oherwydd cau ar ddiwedd blwyddyn. Yr oedd risg pandemig Covid-19 yn cilio erbyn diwedd Mawrth oherwydd y rhaglen frechu; parheir i  gadw llygad barcud ar hyn. Mae risg stad eiddo CDC wedi cynyddu oherwydd Ysgol Iau St Andrew, ac y mae camau lliniaru yn eu lle ar gyfer hyn.  Mae risg lleoliadau Allsirol am Anghenion Addysgol Arbennig hefyd wedi cynyddu ar derfyn Ch4.

 

Esboniodd y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil ein bod, ar derfyn Ch4, wedi nodi nifer o risgiau sydd wedi aros ar yr un sgôr dros y flwyddyn a aeth heibio. Yng ngoleuni hyn, bydd y tîm rheoli corfforaethol (TRhC) yn cymryd agwedd fwy rhagweithiol, gan edrych ar berfformiad risg dros y flwyddyn i ddod. Byddant yn cynnal adolygiadau hynod ddwfn er mwyn deall pam yr erys rhai risgiau yn uchel, a beth y gellir ei wneud i liniaru a lleihau’r risgiau hyn er mwyn cyrraedd y sgoriau targed risg. Fel rhan o arfer da, bydd y TRhC a’r Cabinet yn edrych ar y datganiad awch risg cyfredol, ac yn ystyried a oes angen ei newid i adlewyrchu pa risgiau sy’n cael eu hwynebu’n fewnol ac yn allanol. Yn y man, bydd y pwyllgor yn derbyn y datganiad awch risg hwn er mwyn ei ystyried a rhoi sylwadau, yna fe aiff at y Cabinet.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Dywedoddyr aelodau eu bod yn falch bod nifer y risgiau wedi cwympo. Holwyd pam fod y risg wedi cynyddu am leoliadau allsirol, er i fwy o leoedd gael eu hagor i blant mewn gofal.

o   Esboniodd y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil esboniodd y bydd lleoliadau Allsirol yn newid yn y ddeddfwriaeth ynghylch anghenion dysgu ychwanegol, sydd wedi rhoi mwy o ofynion ar y gwasanaeth. Mae angen i ni ddefnyddio lleoliadau Allsirol oherwydd y cynnydd yn y galw.

o   Dywedoddyr aelodau y gallai’r adroddiad esbonio’n gliriach fod y risg wedi codi oherwydd mwy o alw ar y gwasanaeth.

·         Gofynnoddyr aelodau am y risg stad eiddo ac eisiau bod yn garbon niwtral erbyn 2030; sut y byddai hyn yn effeithio ar y risg oherwydd y buddsoddiad sylweddol fyddai ei angen?

o   Atebodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod dod yn garbon niwtral erbyn 2030 yn her anferth. Mae carbon wedi ei ledaenu ar draws amrywiaeth o weithgareddau, sy’n ymwneud yn rhannol ag eiddo, ond daw llawer o’r ôl troed hon hefyd o gaffael gwasanaethau, yn ogystal â gweithgareddau trafnidiaeth. Mae’r risg hon wedi cysylltu ar draws ein holl stad, a phan fydd materion fel eiddo St Andrews yn codi, maent yn cael effaith ar risg. Fe fydd y cynllun lleihau carbon yn cael effaith ar hynny.

·         Dywedodd y Cadeirydd fod TRhC yn cymryd mwy o berchenogaeth o risg nag o’r blaen. Ar dudalen 49, mae gennym 10 risg goch nad ydynt yn symud, sy’n awgrymu nad oes llawer yn cael ei wneud i liniaru’r risgiau hyn. A fydd y TRhC yn ceisio lliniaru’r risgiau hyn?

o   Atebodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes fod llawer yn digwydd i liniaru’r risgiau hyn, ond fod rhai ohonynt yn heriol iawn. Mae angen dod â gwahanol farn, syniadau ac adnoddau i ymdrin â’r risgiau hyn. Rydym yn cymryd risgiau o ddifrif, ac y mae llawer o waith yn mynd ymlaen. I edrych at y dyfodol, mae angen ystyried sut yr ydym yn trin rheoli perfformiad a risg ynghyd, a byddai’n fuddiol ystyried y mater mewn dyfnder. Mae rhai o’r risgiau hyn y tu hwnt i reolaeth y TRhC. Rhaid i ni benderfynu sut i bennu beth yw ein sgoriau targed risg. Efallai y bydd angen i ni dderbyn bod ein sgoriau targed risg efallai yn rhy uchel weithiau.

o   Esboniodd y Partner Busnes Perfformiad ac Ymchwil mai ein nod yw cymryd agwedd fwy aeddfed o ran rheoli risg. Mae’r TRhC yn cymryd mwy o berchenogaeth a chyfrifoldeb. Buasem yn hapus i ymchwilio’n fanwl a galw i mewn unrhyw berchenogion risgiau i esbonio sefyllfa gwahanol faterion.

Cytunwyd:

Cafodd y papur hwn ei nodi a’i gymeradwyo.

 

Dogfennau ategol: