Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Archwilydd Mewnol yr adroddiad hwn. Mae’r adroddiad blynyddol yn seiliedig ar ddwy elfen – sicrwydd fod gennym gamau rheoli mewnol effeithiol, a hefyd berfformiad y tîm. Mae’r adroddiad hwn yn edrych yn ôl dros 2020/21.
Mae’rfarn gyffredinol a roddir yn yr adroddiad yn ffafriol. Mae hyn yn golygu fod gennym gamau rheoli digonol, er bod risgiau lle mae angen gwella. Yr oedd barn 2020/21 yn seiliedig ar werth 6 mis o waith archwilio gan i Covid-19 effeithio ar y gallu i wneud y gwaith. Er i’r pwyllgor archwilio gytuno’n flaenorol ar gynllun o 1200 diwrnod o waith archwilio, 600 diwrnod o waith archwilio oedd yn y cynllun diwygiedig. Gwnaeth y tîm waith ardderchog trwy gael cymaint ag yr oedd modd o raddfeydd barn allan. Am 2020/21 hefyd, bu’n rhaid dibynnu ar waith y blynyddoedd blaenorol, ond ychydig iawn o newidiadau fu o ran system neu staff, sy’n golygu bod gennym sicrwydd y gallwn ddibynnu ar y farn hon.
Agweddarall yr adroddiad yw perfformiad y tîm, sydd wedi cwblhau 78% o’r cynllun y cytunwyd arno, a hyn wedi ei adolygu ar sail hanner blwyddyn o waith. Y gobaith oedd y byddai’r tîm yn dychwelyd i ymweld ag ysgolion a safleoedd eraill, ond oherwydd Covid-19 ni fu modd gwneud hyn.
Mae’rfarn gyffredinol yn seiliedig ar 6 mis o waith, a nododd y tîm 29 barn i roi sicrwydd rhesymol, gan ddibynnu hefyd ar wybodaeth a gwaith archwilio blaenorol, i nodi nad oes problemau sylweddol.
O gymharu blynyddoedd, mae paragraff 6 yn amlinellu sawl barn a roddwyd dros y 4 blynedd a aeth heibio.
2020/21: cyhoeddwyd nifer tebyg o farnau yn 19/20, oedd am flwyddyn lawn. Dengys hyn fod y tîm wedi canolbwyntio’n wirioneddol ar y gwaith barn.
Mae’ndda nodi fod 5 barn dda. Yr oedd 23 barn resymol, ac i farn anfoddhaol (cartref c?n dinas Casnewydd).
Mae’rtîm hefyd wedi cymryd adnodd ychwanegol, sef arbenigwr mewnol a ddarparwyd gan bartneriaeth archwilio mewnol y de orllewin. Byddai’r adroddiad hwn fel rheol yn adrodd am weithredu 2019/20, ond am nad oeddent wedi derbyn y farn archwilio angenrheidiol, ni chyfoeswyd y cynllun gweithredu eto. Adroddir yn ôl i’r pwyllgor yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Mae’rtîm mewn cylch 2-flynedd arall o’r Fenter Dwyll Genedlaethol, ac ar hyn o bryd yn gweithio trwy’r adborth cyfatebol o swyddfa’r cabinet.
Mae’rtîm yn cael adroddiadau drafft allan ymhen 8 diwrnod, a’r adroddiadau terfynol allan ymhen 3 diwrnod, sydd i’w ganmol.
Ynaamlinellodd y Prif Archwilydd Mewnol atodiadau’r adroddiad, oedd yn crynhoi’r eitemau yr adroddwyd arnynt; yr oedd a wnelo hyn â chamau rheoli mewnol a pherfformiad y tîm.
Trafodwyd y canlynol:
· Gwnaethaelodau y sylw fod y cartref c?n wedi dod i fyny sawl gwaith wrth archwilio. Oes angen i ni ymdrin â hyn fel pwyllgor?
o Esboniodd y Prif Archwilydd Mewnol mai un adroddiad anfoddhaol yn unig a gafwyd, felly nad oes angen i’w galw i mewn eto. Os ceir ail farn anfoddhaol, dylid eu galw i mewn.
Cytunwyd:
Nodwyd a chadarnhawyd yr adroddiad.
Dogfennau ategol: