Agenda item

Adroddiad Diwedd Blwyddyn Rheolaeth Trysorlys 2020/21

Cofnodion:

Esboniodd Laura Mahoney, Uwchbartner Busnes Cyllid, mai diben y papur hwn yw rhoi gwybod i’r pwyllgor am y gweithgareddau rheoli trysorlys a wnaed ym mlwyddyn ariannol 2020/21. Adroddiad am yr hyn sydd eisoes wedi digwydd yw hwn, sy’n cadarnhau fod y cyngor yn glynu at ei strategaeth o gynnal ei fuddsoddiadau i’r lleiafswm, yn hytrach na benthyca mwy dros y tymor hir.

 

Dengyscrynodeb o’r gweithgareddau rheoli trysorlys fod cyfanswm y benthyciadau yn y flwyddyn 2020/21 wedi gostwng o £13.1 miliwn i £153.2 miliwn, a bod cyfanswm y buddsoddiadau wedi codi o £12.3 miliwn i £24.8 miliwn. Gostyngodd hyn y benthyca net o £25.4 miliwn i £128.4 miliwn.

 

Y prif resymau dros y gostyngiad o ran benthyca net ar ddiwedd 2019/20 oedd bod y cyngor wedi gwneud peth benthyca tymor byr i gefnogi busnesau bach ym Mawrth 2020, mewn ymateb i’r pandemig. Yna, ad-dalodd Llywodraeth Cymru hyn ac ad-dalwyd y benthyciadau ym Mehefin 2020. Mae’r cynnydd mewn buddsoddiadau wedi digwydd oherwydd bod lefelau uwch o arian parod, o ganlyniad i bwysau annisgwyl posibl yn ystod y pandemig.

 

Erys y strategaeth fenthyca gyffredinol yr un fath, ac y mae gan y cyngor ofynion benthyca tymor-hir sylweddol. Mae strategaeth gyfredol y cyngor o dalu am wariant cyfalaf yn defnyddio benthyca mewnol yn hytrach na benthyca o’r newydd, lle y gall wneud hyn. Mae lefel y benthyca mewnol cyfredol yn £107 miliwn fel ar ddiwedd 31 Mawrth 2021. Ar hyn o bryd, rydym ond yn buddsoddi dros dymor byr iawn gyda llywodraeth y DU a llywodraeth leol, sy’n golygu bod cyfraddau llog yn isel iawn, ond y teimlad oedd mai peth doeth oedd hyn yn ystod y pandemig. Cytunodd strategaeth rheoli trysorlys 2020/21 y byddai’r cyngor yn cynnal strategaethau buddsoddi mwy dros gyfnodau hwy mewn buddsoddiadau â mwy o risg, er mwyn cynhyrchu incwm. Ataliodd CCLCD fuddsoddiadau newydd yn dilyn y pandemig. Oherwydd bod y marchnadoedd mor ansefydlog ar y pryd, penderfynwyd na fyddai’n ddoeth dechrau buddsoddi mewn offerynnau â mwy o risg.

 

O ran effaith Covid-19 ar lif arian, bu’n rhaid i’r cyngor beidio â chymryd mwy o fenthyciadau hirdymor ers mis Ionawr 2021, ar wahân i £94,000 am Salex, prosiect ynni unwaith-am-byth. Yr oedd hyn oherwydd i Lywodraeth Cymru roi cyllid sylweddol yn ystod Covid-19. Y disgwyl yw y gall fod angen mwy o gyllido hirdymor dros y flwyddyn sydd i ddod.

 

Mae’r BBGC wedi rhyddhau telerau benthyca newydd yn dilyn ymgynghoriad llynedd. Bydd cyfraddau llog yn cael eu gostwng, ar yr amod y bydd Awdurdodau Lleol yn cyflwyno cynlluniau gwariant cyfalaf manwl. 

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Holoddaelodau beth yw ystyr BBGC

o   Esbonioddyr Uwchbartner Busnes Cyllid mai Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ydyw.

·         Holoddyr aelodau a oes papur yn dweud pryd y gallwn ddisgwyl taliad yn ôl gan Salex, a lle mae’r arian hwn yn cael ei fuddsoddi?

o   Esbonioddyr Uwchbartner Busnes Cyllid mai prosiect i osod goleuadau newydd yn lle’r holl rai yn y felodrom ydyw, er mwyn bod yn ynni-effeithlon. Disgwylir y  bydd ad-daliad ymhen 8-10 mlynedd.

o   Dywedoddyr aelodau fod 10 mlynedd yn amser hir i dalu’n ôl

o   Ateboddyr Uwchbartner Busnes Cyllid y disgwylir i’r cyfnod talu’n ôl fod yn 8 mlynedd

·          Holodd y Cadeirydd faint yw’r llithriad ar wariant cyfalaf

o   Ateboddyr Uwchbartner Busnes Cyllid ei fod oddeutu £7 miliwn

o   Gofynnodd y Cadeirydd pam fod hyn yn llithro 25% o flwyddyn i flwyddyn, ac a yw’r trysorlys yn cymryd hyn i ystyriaeth yn y strategaeth?

o   Y mae Rheolwyr y Trysorlys yn ystyried llithriad fel rhan o’r rhagamcanion, ac yn tueddu i ragdybio 25-30% am bob blwyddyn. Eleni, yr oedd llawer o’r llithriad yng nghyswllt grantiau gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi caniatáu estyniad hyd at ddiwedd Ebrill er mwyn gwario rhai o’r dyraniadau. Yn aml, erbyn i’r dyraniadau gael eu derbyn, yr oedd yn anodd cael cynlluniau a chontractwyr yn eu lle. 

o   Holodd y Cadeirydd, os oes gennym gynllun am gyfalaf, a bod llithriad bob blwyddyn, onid yw hyn yn arwydd o reolaeth wael ar brosiectau? Ni fuasem yn dymuno peryglu colli grantiau Llywodraeth Cymru os yw’n ymddangos nad ydym yn  gwario’r arian a gawsom.

·         Dywedoddaelodau fod diffyg mewn prosiectau addysg wedi ei roi fel y rheswm dros lithriad y flwyddyn flaenorol. A gaewyd allan yr holl lithriad oedd i’w briodoli i brosiectau addysg?

o   Esbonioddyr Uwchbartner Busnes Cyllid y bu peth llithriad mewn prosiectau Addysg, ond fod y prif feysydd llithriad llynedd wedi eu rheoli yn fwy effeithiol eleni

·         Gofynnodd y Cadeirydd, gan fod ein benthyca yn awr yn £128 miliwn, a ydym wedi mynd i lawr i lefelau cymharol isel o ddyled net?

o   Dywedoddyr Uwchbartner Busnes Cyllid y byddai’n rhaid iddi fynd yn ôl i gadarnhau hynny

Gweithredu:

Laura Mahoney i egluro’r ymholiad diwethaf ynghylch lefelau dyled.

Cytunwyd:

Cafodd y papur ei nodi a’i gymeradwyo gan y pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: