Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

Cofnodion:

Cyhoeddodd yr Arweinydd y canlynol cyn bwrw ymlaen â’r Cwestiynau.

 

·        Cyllid a ddyfarnwyd am ganolfan hamdden

Fis diwethaf, rhoddodd yr Arweinydd ddiweddariad i’r Cyngor am y ganolfan hamdden a lles newydd yng nghanol ein dinas.

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau fod y cyngor wedi llwyddo i sicrhau £7 miliwn o gyllid Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru tuag at y prosiect.

 

Byddai’r ganolfan unswydd yn rhoi’r cyfleusterau diweddaraf i drigolion ac yn paratoi’r ffordd i ail-ddatblygu safle bresennol Canolfan Casnewydd i roi cyfleuster addysg bellach newydd sbon i Goleg Gwent.

 

Yr oedd gwaith yn digwydd ar gynigion terfynol a dyluniadau cyn cyflwyno cais cynllunio llawn, a ddisgwylir yn nes ymlaen eleni.

 

·        Cyllid i’r Bont Gludo

Cafodd un arall o brosiectau arweiniol y Cyngor hwb gan y newyddion cadarnhaol fod  grant gwerth £1.5m wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect trawsnewid y Bont Gludo.

 

Byddai’r arian yn ategu’r £8.75m a ddyfarnwyd gan Gronfa Treftadaeth Genedlaethol y Loteri, a chyllid cyfalaf o £1m a ymrwymodd y cyngor hefyd i’r prosiect.

 

Byddai’r Arweinydd yn edrych ymlaen yn fawr at agor y cyfleusterau newydd gwell yn 2023.

 

·        Terfynau cyflymder 20mya

Bu ein timau yn gweithio’n galed i gyflwyno terfynau cyflymder 20 mya ar draws nifer o strydoedd preswyl yn chwech o wardiau ein dinas.

 

Yr oedd y mesurau yn cael eu cyflwyno i helpu i wella diogelwch ar strydoedd preswyl i gefnogi pobl i deimlo’n hyderus i ddewis dulliau teithio llesol fel cerdded a beicio – rhywbeth yr oedd y cyngor yn mynd ati i’w hyrwyddo trwy gynlluniau teithio llesol.

 

·        Teithio llesol

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gadarnhau y bydd Casnewydd yn elwa o bron i £10m o arian Llywodraeth Cymru i wella nifer o lwybrau teithio llesol ledled y ddinas.

 

Mae’r cyllid o £8m wedi ei neilltuo o godi pont droed newydd yn Devon Place, gan ei gysylltu ar draws prif lein y rheilffordd i Queensway.

 

Neilltuwyd £100k ychwanegol i wella llwybr cyswllt y gamlas rhwng y Betws a Malpas. Byddai £61k yn helpu i ddatblygu llwybrau teithio llesol ym Mhwll Llyswyry, gan roi dewis oddi ar y ffordd i gysylltu â’r ardal o gwmpas â Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd.

 

Byddai’r cyngor hefyd yn derbyn £751k mewn grantiau craidd, fyddai’n mynd tuag at ddatblygu cynlluniau a nodwyd fel rhan o adolygiad map teithio llesol 2017/18. Diolchodd yr Arweinydd i bawb oedd wedi cymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd ymgynghoriad pellach ar lwybrau arfaethedig newydd ar sail awgrymiadau a dderbyniwyd yn dechrau toc.

 

·        Cerbyd sbwriel trydan

Fis diwethaf, yr oeddem yn falch iawn o lansio cerbyd casglu sbwriel trydanol cyntaf Cymru.

 

Yr oedd yn cael ei ddefnyddio ar rowndiau casglu o gwmpas y ddinas, a byddai’n gwasanaethu ardaloedd fel Caerllion, a nodwyd fel blaenoriaeth o ran helpu i wella lefelau ansawdd aer.

 

Byddai’r cerbyd yn lleihau allyriadau carbon o ryw 25-35 tunnell y flwyddyn o gymharu â cherbydau safonol heb fod yn rhai trydan.

 

Yr oedd yn rhan o brosiect ehangach i roi cerbydau newydd i’r cyngor gyda cherbydau ecogyfeillgar i ddod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030

 

·        Cynllun digartrefedd

Mewn cynllun arloesol newydd arall, yr oedd yr Arweinydd yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu tai fforddiadwy i bobl mewn perygl o ddigartrefedd.

 

Gan weithio gyda Linc Cymru, cytunwyd i brydlesu rhan o faes parcio Hill Street ar gyfer prosiect tai gyda chefnogaeth fyddai’n cynnwys deuddeg o fflatiau hunangynhwysol.

 

Byddai’r fflatiau hyn yn darparu llety "symud ymlaen" i bobl mewn llety dros dro, mewn lleoliad sy’n agos at wasanaethau hanfodol.

 

Byddai Linc Cymru yn rheoli’r tenantiaethau ac yn cefnogi trigolion, fel y gallant gael bywyd mwy sefydlog a diogel. Y nod oedd eu helpu i gael llety tymor hir lle gallent fyw yn annibynnol.

 

Yr oedd gwaith cychwynnol yn dechrau gan ddefnyddio hawliau datblygu a ganiatawyd, ac yr oedd ymgynghori gyda chymdogion wedi dechrau cyn cyflwyno cais cynllunio llawn.

 

·        Cronfa Adnewyddu Cymunedol y DU

·        Gwahoddwyd ceisiadau am Gronfa Adnewyddu Cymunedol y DU am brosiectau yng Nghasnewydd.

 

Y nod oedd cefnogi pobl a chymunedau mwyaf anghenus yn y DU, gan greu cyfleoedd i roi prawf ar agweddau newydd a syniadau arloesol ar lefel leol.

 

Fel cyngor, buasem yn cydgordio cyflwyno prosiectau yng Nghasnewydd, felly yr oedd yr Arweinydd am annog trigolion i gefnogi ceisiadau lleol. Yr oedd manylion llawn am y cynllun ar gael ar wefan y Cyngor a’r dyddiad cau oedd dydd Gwener 21 Mai.

 

Yn olaf, rhoddodd yr Arweinydd ddiolchiadau personol i Bennaeth Ysgol St Andrew’s, Jo Giles, ei huwch-dîm rheoli a’r holl gydweithwyr. Yr oedd hyn am y gefnogaeth a roddwyd i’r ysgol pan oedd gwaith mawr yn cael ei wneud i’r prif adeilad ac y bu’n rhaid i’r plant iau symud i ystafell ddosbarth dros dro.

 

Diolchodd yr Arweinydd i Gasnewydd Fyw a Casnewydd Norse am drawsnewid y ganolfan gyswllt yn gyfleuster gwych i’r ysgol.

 

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o gael ei gwahodd i ymweld â’r ysgol gyda’r Dirprwy Arweinydd oedd yn Gadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol.

 

Cwestiynau i’r Arweinydd

 

§  Cynghorydd M Evans:

 

Yr oedd y Gr?p Ceidwadol wedi cyflwyno nifer o Gwestiynau Ar Unrhyw Adeg (CAUA) i Aelodau’r Cabinet a Chwestiynau i’r Cyngor,  a bod nifer cynyddol wedi eu dyfarnu fel rhai gweithredol, oedd yn golygu na chawsant eu cyhoeddi i’r cyhoedd weld, ac nad oedd Aelodau Cabinet yn cael eu dal i gyfrif am y cwestiwn. Enghraifft o hyn oedd pan ofynnodd y Cynghorydd Routley i’r Aelod Cabinet dros Gymuned ac Adnoddau beth oedd yn digwydd i hen ddyfeisiadau electronig cynghorwyr, megis gliniaduron ac iPads ac a oedd modd eu hadnewyddu a’u hanfon i’r gymuned, a bod hyn wedi ei alw yn weithredol.  Sylwodd y Cynghorydd M Evans hefyd o ran datganiadau i’r wasg, mai dim ond storïau am newyddion da oedd yn cael eu cyhoeddi ar ran yr Arweinydd neu Aelodau’r Cabinet, ond pan fyddai unrhyw eitem yn debyg o greu embaras, llefarydd y Cyngor fyddai’n cyhoeddi datganiad. Pryd, felly, y byddai’r Arweinydd a’r Cabinet yn cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd?

 

Atebodd yr Arweinydd trwy ddweud, o ran cymryd cyfrifoldeb ac fel cyn- Arweinydd y Cyngor, yr oedd yr Arweinydd yn si?r fod y Cynghorydd M Evans yn ymwybodol fod ymatebion CAUAS gan Aelodau Cabinet yng nghyswllt polisïau a strategaethau, y cymerwyd agwedd strategol. Yr oedd cwestiynau gweithredol eraill yn cael eu dirprwyo i Benaethiaid Gwasanaeth a swyddogion yn y Cyngor i roi ymateb. Nid oedd dim felly ynghudd ac yr oedd yr holl gwestiynau yn destun Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (RhG), fel y gwyddai cydweithwyr y Cynghorydd M Evans. Yr oedd yr Arweinydd felly yn hapus i ddweud ei bod hi a’i chydweithwyr yn atebol am eu holl weithredoedd a’u bod yn agored a thryloyw.

 

Ategol:

 

Yr oedd y Cynghorydd M Evans wedi gwrando ar gyfarfodydd Cabinet, oedd yn swnio iddo ef fel cymanfa hunan-ganmol. Ni allai’r cynghorydd gofio’r tro diwethaf y cymerodd y Cabinet gyfrifoldeb dros eu gweithredoedd ac yr oedd unrhyw gamgymeriadau yn cael eu hystyried yn fai rhywun arall. Anfonodd y Cynghorydd J Watkins  gwestiwn i’r Cyngor  am y gyllideb hyfforddi a sut y’i gwariwyd. Yr ateb eto oedd mai mater gweithredol oedd hwn ac y byddai swyddog yn ateb, sydd yn penderfynu pwy sy’n mynd i ba gyrsiau hyfforddi. Ystyriodd y Cynghorydd M Evans y dylai hyn gael ei ateb gan y Cabinet fel rhan o’u cyfrifoldeb a gofynnodd pwy oedd yn rhedeg y cyngor, yr Aelodau Cabinet neu’r swyddogion.

 

Ailadroddodd yr Arweinydd ei hateb ei bod hi a’i chydweithwyr yn y Cabinet yn cymryd penderfyniadau strategol yn unol â pholisïau ac mai’r swyddogion oedd yn cymryd penderfyniadau gweithredol.

 

§  Cynghorydd Whitehead:

 

Yn y gyllideb ddiweddar, pleidleisiodd y Cyngor i fuddsoddi £500,000 mewn cronfa adfer gymunedol Covid i gefnogi grwpiau cymunedol i chwarae eu rhan i gefnogi adferiad cyfrifol. Gofynnodd y Cynghorydd Whitehead felly faint o’r arian hwn a ddosbarthwyd ac i bwy.

 

Dywedodd yr Arweinydd nad oedd dim o’r arian wedi ei ddosbarthu eto, gan mai’r broses oedd i grwpiau cymunedol wneud cais am y cyllid a phenderfynu sut a lle i’w wario. Cymerodd y Cabinet ran mewn proses o gyllideb gyfranogol a gyllidwyd gan y sector iechyd i grwpiau cymunedol gyflwyno bidiau, oedd yn cael eu hasesu a phleidleisio arnynt, oedd yn cael ei ragweld hefyd ar gyfer cronfa gymunedol Covid i benderfynu pwy oedd yn derbyn y cyllid.

 

Ategol:

 

Gofynnodd y Cynghorydd Whitehead a fyddai’r Arweinydd yn darparu’r wybodaeth a drafodwyd uchod ar y wefan, wedi ei farcio’n glir i aelodau’r cyhoedd wybod sut i wneud cais am yr arian, wedi’i ategu gan y wasg a’r cyfryngau cymdeithasol. Yr oedd cyllid hefyd ar gyfer pob gr?p ar draws y sbectrwm.

 

Cytunodd yr Arweinydd mai mater o adfer ar lawr gwlad oedd hyn ac ar gyfer y grwpiau hynny na fedrodd weithredu yn ystod y clo. Yr oedd yr Arweinydd yn cydnabod yr effaith ar yr incwm bychan mae grwpiau yn dderbyn, a hefyd yr effaith ar unigolion a’u lles. Yr oedd yr Arweinydd eisiau cefnogi eu lles trwy rymuso’r grwpiau hyn. Gallai grwpiau newydd hefyd wneud cais am yr arian hwn. Yr oedd y swyddogion yn dal i weithio ar y fformiwla ddosbarthu i weld a oedd modd ymwneud gan ddefnyddio’r model a grybwyllwyd uchod, a buont yn gweithio’n eithriadol yn hyn o beth. Wrth gwrs, byddai’r Arweinydd yn gofalu y byddai’r cyllid hwn yn cael llawer o gyhoeddusrwydd ac yr oedd am i’w holl gydweithwyr helpu gyda hyn.

 

§  Cynghorydd C Townsend:

 

Gyda phenodi Prif Weithredwr fis Gorffennaf llynedd, a fydd yr Arweinydd yn rhoi cyfoesiad am recriwtio Cyfarwyddwr Strategol Lle a Phobl.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Cynghorydd Townsend am ei chwestiwn ac am gymryd rhan yn y broses recriwtio fis Gorffennaf ddiwethaf. Yr oedd y Prif Weithredwr yn edrych ar strwythur sefydliadol y cyngor a bydd yn dod ag adroddiad i’r Cyngor am hyn yn y man.

 

§  Cynghorydd J Hughes:

 

Wedi derbyn crynodeb o fusnes ar y bwletin ar-lein, allai’r Arweinydd roi cyfoesiad am waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC).

 

Soniodd yr Arweinydd fod hyn yn ofyniad statudol, a sefydlwyd gan y ddeddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2015.  Yr oedd Casnewydd yn unigryw yn ei aelodaeth ac wedi sefydlu cynllun lles, a oedd yn asio ag amcanion y cynllun corfforaethol.

 

Rhoddwyd nifer o flaenoriaethau gydag arweinwyr dynodedig o blith aelodau’r bwrdd i fwrw ymlaen â hwy i ddinasyddion Casnewydd. Yn ogystal â meddu ar bartneriaid statudol, yr oedd gan y BGC bartneriaid heb fod yn statudol oedd yn cael eu gwahodd: yr oedd y rhain o Iechyd Cyhoeddus Cymru, y Gwasanaeth Prawf, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, Casnewydd Fyw, Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn ogystal â chynrychiolwyr o GAVO a Chyngor ar Bopeth. Daethant at ei gilydd gyda phartneriaid ar brosiectau fyddai o les i Gasnewydd, ac yr oedd y gyllideb gyfranogol hefyd yn rhan o’r cynllun hwn, gan weld canlyniadau cadarnhaol. 

 

Soniodd yr Arweinydd y dylai grybwyll gwaith y BGC a rhannu rhai o’u blaenoriaethau, megis themâu sgiliau, cynaliadwyedd, a hefyd waith Casnewydd ddiogelach a Chynnig Casnewydd, oedd yn edrych ar agweddau ehangach byw yng Nghasnewydd.  Yr oedd yr holl waith hwn yn mynd rhagddo, ac yr oedd yn falch o adrodd yn ôl am y gwaith oedd yn cael ei wneud. Soniodd yr Arweinydd hefyd fod y fformat newydd yn hygyrch iawn, gan roi trosolwg i bawb o’r BGC.

 

Ategol:

 

Holodd y Cynghorydd Hughes sut yr oedd mannau gwyrdd a theithio cynaliadwy yn cyd-fynd â’r awdurdod lleol.

 

Dywedodd yr Arweinydd mai un o’r blaenoriaethau oedd datblygu cynaliadwy a bod y cyngor yn gweithio’n galed ar hyn ac yn awyddus i fwrw ymlaen. Yr oedd yn falch o allu dweud wrth ei chydweithwyr fod y Cabinet a’r Tîm Rheoli Corfforaethol wedi dilyn hyfforddiant llythrennedd carbon oedd yn galluogi  i ni gael ein hachredu fel awdurdod. Yr oedd yr Arweinydd am wneud yn si?r fod pawb yn gwybod am hyn, ac un o’r materion allweddol oedd arwyddo’r siarter teithio cynaliadwy, gyda’r BGC.  Yr oedd y Cyngor yn gyflogwr o bwys ledled Gwent ac felly eisiau helpu gweithwyr, a’u cymell i ganolbwyntio ar ffyrdd gwahanol o fynd i’r gwaith. Yr oedd y cyngor hefyd yn gweithio gyda phartneriaid megis Cyfoeth Naturiol Cymru ar brosiectau seilwaith. Yr oedd y Cabinet wedi nodi swm sylweddol o arian i gefnogi gweithgareddau cynaliadwyedd ar gyfer adferiad gwyrdd, a rhan o hyn oedd edrych ar waith prosiect fel draenio cynaliadwy a glanhau canol y ddinas yn ogystal  â’r gamlas. Yr oedd hyn oll yn cael ei wneud gyda help y BGC.