Agenda item

Cwestiynau i Aelodau'r Cabinet

To provide an opportunity to pose questions to Cabinet Members in line with Standing Orders.

 

Process:

No more than 10 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to each Cabinet Member.

 

Members must submit their proposed questions in writing in advance in accordance with Standing Orders.  If members are unable to ask their question orally within the allocated time, remaining questions will be answered in writing.  The question and response will be appended to the minutes.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

 

Questions will be posed to Cabinet Members in the following order:

 

      i.        Deputy Leader and Cabinet Member for City Services

     ii.        Cabinet Member for Education and Skills

    iii.        Cabinet Member for Assets

   iv.        Cabinet Member for Sustainable Development

     v.        Cabinet Member for Community and Resources

   vi.        Cabinet Member for Streetscene

  vii.        Cabinet Member for Licensing and Regulation

 viii.        Cabinet Member for Culture and Leisure

Cofnodion:

Cwestiwn 1 - Aelod Cabinet: Trwyddedu a Rheoleiddio

 

Gofynnodd y Cynghorydd J Watkins y cwestiwn canlynol i’r Aelod Cabinet:

 

O gofio dyfarniadau diweddar am yr effaith yr oedd ansawdd aer gwael yn gael ar iechyd, ac o gofio marwolaeth drist y ferch fach yn Llundain a briodolwyd i lygredd aer, pa gynlluniau oedd gan y Cyngor i weithredu’n gadarnhaol ar ansawdd aer yn y system unffordd yng Nghaerllion, o gofio nad yw blynyddoedd o fonitro wedi arwain at ddim neu fawr ddim gweithredu hyd yma far?

 

Ateb:

 

Hoffwn ddiolch i’r Cynghorydd Watkins am holi’r cwestiwn hwn. Un o’r materion a amlygwyd gan y Crwner yn ei adroddiad ar farwolaeth drasig y ferch druan hon yn Llundain oedd yr angen i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd am effaith llygredd aer ar iechyd y cyhoedd.

 

Gobeithio y bydd hyn yn help i gyfleu’r neges i’r gymuned yn ehangach fod angen gweithredu, gan nad yw mwy o fonitro a rheoleiddio ynddynt eu hunain yn ddigon i ymdrin â’r problemau amgylcheddol hyn.

 

Bu Uwch-Swyddog Gwyddonol y Cyngor mewn gweithdy ar ansawdd aer yn ddiweddar, lle cafodd air â Rosamund Kissi-Debra (mam y ferch fu farw yn Llundain) am yr heriau o gyfleu negeseuon am ansawdd aer i gymunedau a hwyluso newid ymddygiad i wella ansawdd aer.  Byddai codi ymwybyddiaeth ac ymwneud â’r cyhoedd yn rhan hanfodol o strategaeth y Cyngor hwn i ymdrin ag ansawdd aer, yng Nghaerllion a mannau eraill yn y ddinas

 

Pwysleisiodd yr Aelod Cabinet hefyd na allai’r Cyngor ond gweithredu o fewn y rheoliadau presennol am reoli  safonau ansawdd aer, ac mai mater i’r sawl sy’n llunio deddfau a pholisïau fydd sefydlu fframwaith clir i wneud y gwaith hwn.

 

I droi at faterion penodol i Gaerllion, yr oedd yn hollol anghywir dweud nad oedd y gwaith monitro helaeth a wnaed gan swyddogion Iechyd Amgylchedd heb arwain at weithredu hyd yma. Ymysg camau pendant a gymerwyd yng Nghaerllion mae:

 

Nifer o fesurau i ymdrin â phroblemau ansawdd aer oherwydd allyriadau cerbydau yng Nghaerllion, er enghraifft:

 

·        Defnyddio cerbydau trydan i gasglu sbwriel ar lwybrau yng Nghaerllion.

·        Defnyddio bysus trydan ar lwybrau yng Nghaerllion.

·        Parhau â chynllun Eco Stars, oedd yn hwyluso defnyddio llai o danwydd mewn fflyd cerbydau o gwmpas Casnewydd, gan gynnwys Caerllion.

·        Defnyddio’r broses o reoli datblygu i fyny seilwaith cerbydau ynni isel iawn mewn datblygiadau newydd, e.e., pwyntiau gwefru cerbydau trydan fel rhan o ddatblygiad Redrow ar safle’r Brifysgol.

·        Defnyddio cyfleoedd datblygu i fynnu mesurau lliniaru megis camau rheoli atal oedi i gerbydau adeiladu sy’n gwneud gwaith adnewyddu yn Ysgol Charles Williams.

·        Ymwneud a chymuned Caerllion lle bo modd ynghylch pryderon, gwaith cynllunio a phrosiectau sydd ar fin digwydd, e.e., pryderon gan y gymuned leol am lwybrau traffig adeiladu yn ôl ac ymlaen o safle datblygu’r Brifysgol sydd wedi arwain at fwy o fonitro.

·        Yr oedd materion ansawdd aer yn annatod ynghlwm a mentrau ehangach am newid hinsawdd a chynaliadwyedd, a  bydd y gwaith hefyd yn effeithio’n llesol ar holl ardal Casnewydd gan gynnwys Caerllion.

 

Camau ar y gweill/at y dyfodol:

·        Byddai Adroddiadau Cynnydd Blynyddol am Ansawdd Aer yn cael eu paratoi gyda data mwy manwl. Mae’n amlwg nad yw data cyfredol am 2020 yn ddibynadwy oherwydd y lleihad sylweddol mewn traffig oherwydd cyfyngiadau COVID.  Fodd bynnag, er bod pobl wedi parhau i weithio o gartref, bydd hyn yn cael effaith bositif ar ansawdd aer.

·        Bydd y gwaith sy’n mynd rhagddo ar y Strategaeth Teithio Cynaliadwy a’r Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer hefyd yn help i ymdrin ag ansawdd aer. Bydd y Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer yn cael ei adolygu yn 2021/22 gyda’r bwriad o nodi ymyriadau ar gyfer pob Ardal Rheoli Ansawdd Aer, megis Caerllion. Byddai hyn yn ategu’r gwaith sy’n cael ei wneud dan y Cynllun Trafnidiaeth Cynaliadwy.

·        Prynu a defnyddio peiriannau monitro amser-real i dair stryd mewn ARhAA gan gynnwys Caerllion, lle sylwyd ar derfynau uwch na’r amcanion ansawdd aer ar ddarn 75 metr o’r Stryd Fawr. Byddai hyn yn rhoi data am adegau o lygredd mwyaf, fyddai’n bwydo i mewn i ymyriadau a ystyrir fel rhan o broses y Cynllun Gweithredu Ansawdd Aer. Byddai llygrynnau eraill fel gronynnau hefyd yn cael eu mesur gan y peiriannau hyn.

·        Sefydlu Grwpiau Ansawdd Aer i o leiaf chwech o’r ARhAA gan gynnwys Caerllion.

·        Dylai cynlluniau peilot e-Dacsis gynnwys gweithgaredd e-Dacsis yng Nghaerllion.

·        Chwilio am gyfleoedd cyllid trwy Gronfa Dinas-Ranbarth Caerdydd i edrych ar strydoedd problemus fel Stryd Fawr Caerllion, a chanfod atebion i liniaru effeithiau ansawdd aer gwael.

 

Enghreifftiau yn unig oedd y rhain o’r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud neu a gynllunnir, ond mae angen i ni ymwneud â’r cyhoedd a chael eu cydweithrediad er mwyn cyrraedd ein hamcanion ansawdd aer.

 

Ategol:

 

Yr oedd y Cynghorydd J Watkins yn croesawu mentrau fel y bysus trydan a’r unedau trydanol gwaredu gwastraff fyddai’n mynd trwy’r pentref unwaith yr wythnos. Teimlai nad oedd Aelodau’r Cabinet yn dangos parch wrth awgrymu nad yw’r cyhoedd yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau; yr oedd y Cynghorydd yn ystyried bod trigolion Caerllion yn gyfrifol. Holodd y  Cynghorydd J Watkins a oedd yr Aelod Cabinet yn tybio fod ceir trydan yn fforddiadwy, gan nad oeddent i’r rhan fwyaf o drigolion. Onid oedd yn bryd i’r Aelod Cabinet wneud rhywbeth cadarnhaol i Gaerllion a darparu mynediad amgen i’r pentref i wella ansawdd aer.

 

Awgrymodd yr Aelod Cabinet nad oedd cost ceir yn fater i’r cyngor hwn benderfynu na gwneud sylw arno. Yr oedd y pwynt y cyfeiriodd yr Aelod Cabinet ato  o ran pobl yn ysgwyddo cyfrifoldeb ar raddfa fyd-eang, nid dim ond Casnewydd.  Dim ond hyn-a-hyn y gallai’r Cyngor wneud, ac yr oedd yr holl wybodaeth a ddarparwyd yn seiliedig ar dystiolaeth am Gasnewydd.  Yn olaf, pwysleisiodd yr Aelod Cabinet fod y Cyngor yn gwneud cymaint ag y gallai o ran ansawdd aer yng Nghaerllion.

 

Cwestiwn 2 – Aelod Cabinet: Datblygu Cynaliadwy

 

Holodd y Cynghorydd J Watkins y cwestiwn canlynol i’r Aelod Cabinet:

 

A oedd yr Aelod Cabinet yn cytuno y dylai arian Adran 106 oedd yn cael eu cynhyrchu mewn ward benodol gynnwys llais i’r gymuned yn y broses o wneud penderfyniadau ynghylch sut i wario’r cyfryw arian, ac os felly, pam nad oedd y broses ar waith?

 

Ymhellach, a oedd yr Aelod Cabinet yn cytuno y dylid gwario arian o’r fath yn unig ar fentrau neu welliannau yn y ward lle’r oedd yr arian yn cael ei gynhyrchu?

 

Ateb:

 

Yr oedd oblygiadau cynllunio yn oblygiadau cyfreithiol y daethpwyd iddynt i liniaru effeithiau cynnig datblygu. Gall hyn fod trwy gytundeb cynllunio dan adran o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref: dyna’r esboniad o’r term ‘arian adran 106’.

 

Cyflwynwyd hyn yn dilyn Deddf Seneddol yn 1990.

 

Yr oedd hwn yn ddarn sylfaenol o ddeddfwriaeth, yr oedd yn rhaid i’r person neu’r datblygwr oedd â diddordeb yn y tir lynu ato, yn ogystal â’r awdurdod cynllunio. Mae oblygiadau cynllunio sydd yn cyd-fynd â thir yn rhwymo yn gyfreithiol, a gellir eu gorfodi.

 

Petai’r Cyngor yn gwario’r cyfraniadau ar seilwaith neu wasanaethau nad ydynt yn dod o fewn cwmpas y cytundeb cyfreithiol, neu petai’n methu â gwario’r cyfraniad o fewn yr amser a bennwyd,  gallai’r Cyngor orfod dychwelyd y cyfraniadau at y datblygwr.

 

Yr oedd yn bwysig felly deall y broses A106 a’r paramedrau y mae’n rhaid i’r Cyngor weithio o’u mewn i drafod, sicrhau a gwario cyfraniadau A106.

 

Ac mewn ymateb i ail ran y cwestiwn:

 

Rhaid i’r cyfraniadau a fynnir gan y datblygwr gael eu defnyddio i ymdrin ag angen a nodwyd (yn hytrach na rhestr o ddymuniadau), ac yr oedd yn bwysig nodi fod y cyfraniadau arfaethedig yn cael eu gosod allan mewn adroddiadau a bennwyd gan y Pwyllgor Cynllunio oedd yn cael eu cyhoeddi cyn y cyfarfodydd. Fel enghraifft, yr oedd cais Campws Caerllion yn cynnwys dros 5 tudalen o drafodaethau ar gyfraniadau Adran 106 y cytunwyd arnynt gyda Phenaethiaid Telerau. Mae’r manylion hyn yn gyhoeddus, a byddai penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio yn cymryd i ystyriaeth argymhellion y swyddog ar y materion hyn yn ogystal ag unrhyw sylwadau wnaed i’r Pwyllgor.

 

Ategol:

 

Yr oedd gan y Cynghorydd J Watkins ddiddordeb o glywed yr Aelod Cabinet yn crybwyll angen a nodwyd, ac yr oedd angen wedi ei nodi’n glir am sut y byddid yn gwario arian yng Nghaerllion a dim i ddiddori, dwyn i mewn na datblygu plant yng Nghaerllion.   Yr oedd man chwarae gerllaw’r ysgol gyfun oedd wedi dyddio, ac nid oedd dim i bobl ifanc wneud na’i fwynhau. Yr oedd angen gwario’r arian felly ar bobl ifanc i’w dwyn i mewn ac i wella eu bywydau.

 

Yr oedd yr Aelod Cabinet yn cytuno gyda sylwadau’r Cynghorydd J Watkins, gan ddweud fod Redrow Housing wedi cytuno i £1M o’r arian hwn gael ei wario ar ysgolion Caerllion i’w cynnal a’u cadw, a phum maes chwarae a hamdden gwahanol, ynghyd a chwaraeon oedd yn cynnwys rygbi, ac edrych ar anghenion y gwahanol genedlaethau i gynnal lles pobl ifanc. Cytunwyd hefyd ar deithio cynaliadwy, gyda gosod pwyntiau gwefru trydan gan gynnwys ehangu’r hawl tramwy cyhoeddus, croesfannau cerddwyr, dwy arosfan bws newydd, yn ogystal ag atgyweirio’r adeiladau rhestredig. Felly yr oedd y gwelliannau a gynigiwyd gan Redrow wedi eu hystyried yn ofalus a’u cymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio. Byddai hyn yn gwella’r ardal i drigolion Caerllion.

 

Cwestiwn 3 – Aelod Cabinet: Hamdden a Diwylliant

 

Holodd y Cynghorydd A Morris y cwestiwn canlynol i’r Aelod Cabinet:

 

Pa ymdrechion oedd yn cael eu gwneud i ymwneud â gangiau o lanciau oedd yn ymgynnull mewn gwahanol fannau ar draws y ddinas adeg y cyfnod clo?

 

Ateb:

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet fod swyddogion wedi mynd i ymwneud â phobl ifanc  ond yn anffodus, roedd y canolfannau cymuned wedi cau adeg y clo. Yr oedd plant â rhai anghenion wedi eu hystyried ac wedi derbyn gofal.

 

Ategol:

 

Nid oedd y Cynghorydd Morris yn ystyried nad oedd y Cyngor wedi ymwneud â phobl ifanc oedd heb ddim i’w wneud, unman i fynd ac nad oedd yn gwisgo mygydau nac yn ymbellhau yn gymdeithasol. A fyddai’r Cyngor yn ymwneud â’r bobl ifanc i ddangos eu camgymeriadau iddynt a dweud ym mha berygl yr oeddent yn rhoi eu hunain ac eraill ynddo.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet mai materion plismona oedd y rhain. Nid oedd gennym ni fel Cyngor unrhyw hawliau na deddfwriaeth i ddweud wrth bobl i wisgo mygydau neu i beidio â loetran. Defnyddiwyd gorchymyn gwasgaru Adran 48 yn Alway o ganlyniad i ymwneud â’r heddlu, a chynghorwyd y Cynghorydd Morris i wneud yr un peth i Llyswyry trwy gysylltu â’r Arolygydd Cawley.

 

Cwestiwn 4 – Dirprwy Arweinydd/Aelod Cabinet: Gwasanaethau’r Ddinas

 

Gofynnodd y Cynghorydd W Routley y cwestiwn canlynol i’r Aelod Cabinet:

 

Mae’r llifogydd ar 23 Rhagfyr yn destun ymchwiliad Adran 19, a hefyd y fenter storio bagiau tywod fel y trafodwyd eisoes; a fydd modd i chi roi diweddariad i’r Cyngor am y ddau bwnc hwn.

 

Ateb:

 

Mae’r ymchwiliad adran 19 ymlaen ar hyn o bryd, ynghyd ag ymchwiliad gan CNC i’r achos a’r ffactorau cyfranogol i’r llifogydd yn rhan ddwyreiniol y ddinas. Pan fydd y canfyddiadau wedi eu cwblhau a’u derbyn, fe’u cyhoeddir ar wefan y cyngor

 

Nid oes dyletswydd ar awdurdodau lleol i ddarparu bagiau tywod i’r cyhoedd, ond y mae CDC a SWFR yn aml yn cynnal trigolion pan fydd llifogydd. Yn ôl fy nghais i, mae swyddogion ar hyn o bryd yn adolygu’r dewisiadau o ran storio bagiau tywod yn lleol, ac fe gyhoeddaf fwy o fanylion pan fyddant yn barod. Mae angen i fusnesau, ffermwyr a pherchenogion tir amaethyddol ofalu bod ganddynt eu cynlluniau llifogydd eu hunain, a gall CNC roi mwy o gyngor am hyn.

 

Ategol:

 

Soniodd y Cynghorydd Routley ei fod yn dda siarad â’r Aelod Cabinet a’r swyddogion am 23 Rhagfyr, a ddaliodd pawb yn ddiarwybod; fodd bynnag, yr oedd prinder enbyd o fagiau tywod mewn ardaloedd gwledig; nid oedd Depo Stryd Telford ar agor i gasglu bagiau tywod, ac ni allai’r Cyngor eu cludo. Nodwyd tir amaethyddol i storio bagiau tywod yn lleol i drigolion baratoi ymlaen llaw neu ar ddiwrnod digwyddiad o’r fath allu cael y bagiau tywod hyn i atal llifogydd ar eu heiddo. Yr oedd y fenter hon yn rhyddhau’r cyngor i gymryd agwedd fwy rhagweithiol pan fydd hyn yn digwydd eto. Byddai gwelliannau bychain fel y rhain yn rhoi gobaith i drigolion. Cynigiodd y Cynghorydd Routley help i’r Aelod Cabinet i greu canolfannau dosbarthu.

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd fod mannau wedi eu nodi eisoes yng Nghasnewydd, fel y rhai a grybwyllwyd yn Ward Langstone, ac yr oedd y cyngor hefyd yn edrych ar leoliadau addas hefyd, ac unwaith i hyn gael ei gwblhau, yr oedd y cyngor am ddrafftio polisi a chytuno gyda phawb a dderbyniodd.