Agenda item

Pill PSPO - 2021-2024 (Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus) Ar ôl Ymgynghori

Cofnodion:

Gwahoddwyd:             

-        Rhys Thomas (Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio)

-        Gareth Price (Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio)

-        Cynghorydd Ray Truman (Aelod Cabinet dros Drwyddedu a Rheoleiddio)

-        Sarjant Mervyn Priest (Heddlu Gwent)

-        Cynghorydd Tracey Holyoake (Cynghorydd Ward PilgwenlliCyngor Dinas Casnewydd)

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio yr adroddiad am y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC). Mae’r adroddiad hwn yn rhoi casgliadau’r ymgynghoriad a wnaed o ganlyniad i adroddiad a gyflwynwyd i’r pwyllgor 2 fis yn ôl. Aeth y broses ymgynghori rhagddi, a derbyniwyd dros 150 o ymatebion. Y farn lethol o’r ymgynghoriad oedd fod cefnogaeth eang i gyfyngiadau’r GGMC. 

 

Gofynnodd yr Aelodau y canlynol:

 

Holodd yr Aelodau a oedd modd cyfoesi’r adroddiad i adlewyrchu union nifer y cyfranogwyr oedd o blaid neu yn erbyn yr eitemau, yn hytrach na dim ond canrannau.

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio y gellid cynnwys hyn yn yr adroddiad.

 

       Gofynnodd yr Aelodau am grynodeb o’r canlyniadau hyn o arolwg ymwneud y cyhoedd.

 

Atebodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod yr adroddiad yn amlinellu rhai o’r themâu sy’n digwydd dro ar ôl tro gan yr ymatebwyr; er enghraifft, nodwyd sbwriel mewn nifer o sylwadau. Y farn gyffredinol yw bod cefnogaeth eang i’r GGMC hwn. Yr oedd rhan fwyaf yr ymatebwyr yn derbyn yr ardal gyfyngu, a’r rhan fwyaf ohonynt yn drigolion Pilgwenlli neu â busnesau yno. 

 

       Holodd yr Aelodau a oes ymateb gan y Cynghorwyr Ward.      

 

Esboniodd y Cynghorydd Holyoake ei bod yn cael diweddariadau rheolaidd am y GGMC, a’i bod yn pwyso am iddo gael ei basio, oherwydd cynnydd mawr mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol (YG) dros amser. Cyn hyn, yr oedd canol y dref wedi ei dargedu gan GGMC, sydd wedi cynyddu YG ym Mhilgwenlli. Yr oedd hefyd yn bwysig bod yn ymwybodol o’r tywydd twym oedd ar fin dod, gan mai dyma pryd y mae problemau yn cynyddu. Cadarnhaodd y Cynghorydd ei bod yn cynnal sgyrsiau yn gyson, a bod gan y GGMC gefnogaeth lawn cynghorwyr y ward. 

 

       Dywedodd yr Aelodau fod dau le degol ar y canrannau ar y graff, a bod hyn efallai yn ormod.

 

Rhoddodd y Sarjant Mervyn Priest, cynrychiolydd o dîm Cymdogaeth Gorllewin Casnewydd yn Heddlu Gwent hefyd ddiweddariad. Dywedodd fod yr adborth cadarnhaol gan gymunedau wedi ei gofnodi, ac y mae’n amlwg yn bwysig i gymuned Pilgwenlli i gael hyn. Bu nifer o sgyrsiau gyda’r cyhoedd, busnesau a grwpiau ffydd yn yr ardal. Nid cyfle yw’r gorchymyn hwn i roi rhybuddion cosb penodol (RhCB); mae’n fater o addysgu’r gymuned a gwneud y disgwyliadau o ran ymddygiad derbyniol yn glir. Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd fod hyn yn rhoi erfyn i’r Heddlu i ymdrin â phobl nad ydynt yn newid eu hymddygiad. Mae gwir angen gorchymyn fel hyn ar yr ardal hon, nid dim ond i’r heddlu, ond i wardeniaid diogelwch hefyd. Y nod yw gwneud bywyd yn well i drigolion Pilgwenlli fyw mewn cymuned fwy diogel. 

 

       Dywedodd y Cadeirydd ei bod yn falch o weld bod yr heddlu wedi gofyn i’r sylwadau yn y gorchymyn am lithio er mwyn puteinio a llercian ar hyd cyrbiau gael eu tynnu o’r gorchymyn. 

 

Esboniodd y Sarjant Priest nad yw gofyn am dynnu’r sylwadau allan yn gyfystyr â dweud nad yw’n digwydd. Mae llawer o waith yn mynd ymlaen i ddiogelu pobl sy’n cael eu hecsploetio yn rhywiol yn y gymdogaeth. Byddai rhoi tocyn yn erbyn rhywun sy’n llithio fel petai yn mynd yn erbyn y gwaith da sy’n cael ei wneud. Bydd y gwaith gyda’r bobl hyn sy’n cael eu hecsploetio yn parhau ynghyd â chyflwyno’r GGMC hwn. 

 

Yroedd y Cynghorydd Holyoake eisiau pwysleisio fod trigolion gwych ym Mhilgwenlli, sydd wedi gorfod goddef yr hyn maent yn dystion iddo, ond ni ddylent orfod arfer â’r math hwn o ymddygiad. Mae’r GGMC wedi dechrau dod yn job yn y gymuned. Ers hynny, neilltuwyd heddlu ychwanegol i’r ardal, ac y mae hwy am wneud gwahaniaeth. Dim ond o gael GGMC y gall y swyddogion heddlu hyn wneud gwahaniaeth. Mae gwir angen i’r trigolion gael y gorchymyn er mwyn cael rhywfaint o heddwch yn eu hardal. Mae hyn yn cael effaith andwyol ar fywydau pobl yn y gymuned. Mae’r Cynghorwyr Ward yn cefnogi’r GGMC hwn yn llwyr. 

 

       Dywedoddaelod ei bod yn beth da fod targedu’r rhai sy’n llithio wedi cael ei dynnu allan, ac yr oedd diolch yn ddyledus i’r Heddlu am wneud hyn. Gwnaed y sylw wedyn fod pryder o hyd y bydd targedu’r sawl sy’n llercian ar hyd cyrbiau yn symud y broblem hon dan ddaear. Gofynnodd yr Aelod i’r heddlu barhau i fod yn sensitif tuag at y gymuned a’r bobl sydd â phroblemau cymhleth. Mae’r problemau ym Mhilgwenlli yn deillio o ddegawdau o gael eu cynnwys.

 

Ymatebodd y Sarjant Priest trwy sicrhau’r pwyllgor fod y GGMC hwn yn fater o gael un erfyn arall i’r heddlu ddefnyddio. Datblygodd y timau berthynas gref gyda phartneriaid yn yr ardal hon. Mae pobl sy’n ymddwyn fel hyn angen cefnogaeth ac addysg am sut y dylent ymddwyn. 

Dywedodd yr Aelodau eu bod yn credu mewn agwedd flaengar, ac nid yw symud y broblem ar yr wyneb o raid yn datrys arferion cyffuriau pobl. 

 

       Dywedodd yr Aelodau fod trigolion Pilgwenlli yn cefnogi’r GGMC yn gyfan gwbl. Nid yw’n rhesymol i drigolion Pilgwenlli orfod dioddef hyn trwy gydol y dydd. Pan fydd y gymuned yn codi sbwriel, mae cyffuriau ac alcohol yn cael eu defnyddio’n agored yn ystod y dydd: ni ddylai plant weld hyn. Os nad yw’r Cyngor yn darparu toiledau cyhoeddus, yna mae’n anodd atal pobl rhag baeddu: fel arall, ni fydd gennym ymateb i hyn, a bydd yn broblem y gellir ei datrys. 

 

DywedoddAelodau fod enghreifftiau o arferion da mewn ardaloedd eraill, er enghraifft Stokes Croft ym Mryste. Byddai’n fuddiol ystyried yr enghreifftiau hyn a phenderfynu a oes modd gwnned yr un peth ym Mhilgwenlli. 

 

       Yroedd yr Aelodau eisiau cydnabod y gwaith partneriaeth a ddigwyddodd yma. Mae’n bwysig cydnabod gwaith yr Heddlu o ran ymateb a gwrando ar sylwadau’r pwyllgor. Nid ydym am weld hyn fel ffordd o gosbi pobl sydd eisoes mewn trafferthion. Mae’n fwy yn fater o ddiogelwch y cyhoedd a gwella’r amgylchedd lle mae pobl yn byw. Mae angen i hyn fod yn ffordd synhwyrol o ganiatáu i bobl fyw yn ddiogel safely. 

 

       Yr oedd yr Aelodau yn cydnabod fod cynghorwyr ward a thrigolion 100% y tu ôl i hyn. Dyma ddull o geisio atal ymddygiad problemus, ac ni ddylai’r bobl sy’n byw yno oddef pethau fel hyn. Nid yw Pilgwenlli yn ward syml, ac nid yw hyn yn fesur ar ei ben ei hun, ond rhaid ei gysylltu ag agweddau amlasiantaethol eraill; dyma’r gwarant na fydd y broblem yn cael ei gwthio dan ddaear. Fel cyngor, mae angen i ni ymdrin â’r problemau dwys hyn, a’i weld fel problem ddynol, nid mater o gosbi.

 

       Dywedoddyr Aelodau mai dim ond ymateb gan y Wallich sydd yn yr adroddiad, ond mai hwy yw’r unig gr?p a ymatebodd yn ffurfiol. Awgrymwyd, fodd bynnag, y dylem ymgynghori â grwpiau eraill. 

 

Esboniodd y Rheolwr Gwasanaethau Rheoleiddio fod y ddolen wedi ei hanfon at bob gr?p a allasai fod wedi llenwi hyn. Cawsant wybod am yr ymgynghoriad a chael dolen i’r holiadur. Dim ond y Wallich a roddodd ymateb unswydd, ond gallasai grwpiau eraill fod wedi gwneud pe dymunent.

 

       Gofynnodd yr Aelodau pa waith arall sy’n digwydd i ymdrin â rhai o’r problemau yn yr ardal, fel nad ydynt yn cael eu gwthio i rywle arall.

 

Esboniodd y Sarjant Priest fod Heddlu Gwent yn plismona trwy ganolbwyntio ar broblemau. Ym Mhilgwenlli, mae nifer o bynciau i ganoli arnynt, a bydd swyddogion yn datblygu cynllun er mwyn deall y broblem, ac yna’n gweithio gyda phartneriaid i’w datrys. Bydd aelodau’r tîm yn cael y materion hyn i weithio arnynt a’u trin fel tîm. Mae’n bwysig nodi mannau lle gall partneriaid helpu i ddatrys problemau yn unedig. 

 

       O ran pobl sy’n cael eu hecsploetio yn rhywiol, pa waith yn benodol sy’n digwydd i gefnogi’r bobl hyn?

 

Esboniodd y Sarjant Priest y bydd partneriaid yn ceisio ymwneud â’r grwpiau hyn. Mae’r tîm yn adnabod yr oedolion sydd wedi eu hecsploetio yn dda iawn, ac yn siarad â hwy yn ddyddiol. Yr agwedd yw adeiladu llwybrau diogelu. Bydd yn bwysig hefyd delio â phobl sy’n mynd i’r ardal (h.y., llithio am wasanaethau rhywiol) i atal defnyddio’r gwasanaethau hyn. Gofynnodd yr Aelodau wedyn a yw’r timau yn gweld cynnydd ac a yw’r agwedd yn gweithio. Atebodd y Sarjant Priest fod y timau yn bendant yn gwneud cynnydd yn y ffordd yr ydym yn gweithio gyda’n partneriaid. Yr ydym mewn lle gwell o lawer o adnabod y bobl sy’n cael eu hecsploetio. 

 

       Codwyd mater argaeledd toiledau cyhoeddus. Esboniodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio fod strategaeth toiledau cyhoeddus ar gael.

 

       Dywedodd yr Aelodau, erbyn i rywun fod allan ar y strydoedd, mae’r broblem wedi mynd yn rhy bell, a bod angen i ni ymyrryd yn gynt. 

 

Yr oedd y Sarjant Priest eisiau pwysleisio fod pedair ardal o blismona trwy ganolbwyntio ar broblemau ym Mhilgwenlli. Rhaid i ni gydnabod eu bod yn gysylltiedig fel rhan o droseddau trefnedig. 

 

       Yr oedd Cynghorydd ward Pilgwenlli eisiau diolch i’r Cynghorydd Truman a gr?p partneriaeth Pilgwenlli Ddiogelach am eu holl waith caled. Mae hyn yn fater o addysg a diogelu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion am eu presenoldeb.

 

Casgliadau

 

Yna symudodd y Pwyllgor i bleidlais, gan bleidleisio’n unfrydol i argymell fod y Cyngor yn ystyried ac yn mabwysiadu’r GGMC hwn yn eu cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2021. Yr oedd y Pwyllgor hefyd eisiau gwneud y sylwadau canlynol i’r Aelod Cabinet:

 

       Yroedd y Pwyllgor eisiau cydnabod y gwaith partneriaeth a aeth i mewn i hyn, gan gynnwys y gwaith a wnaeth yr Heddlu i ymateb a gwrando ar sylwadau’r pwyllgor. Yr oedd y Pwyllgor hefyd yn falch o weld fod y darpariaethau am lithio er mwyn puteinio a llercian ar hyd cyrbiau wedi cael eu tynnu o’r gorchymyn.

 

Gwnaethyr Aelodau sylw y byddai’r diffyg toiledau cyhoeddus yn yr ardal yn ei gwneud yn anodd gorfodi’r gwaharddiad ar wneud d?r a baeddu yn gyhoeddus. Dywedodd Aelodau fod enghreifftiau o arferion da mewn ardaloedd eraill lle darparwyd toiledau cludadwy, er enghraifft Stokes Croft ym Mryste. Byddai’n fuddiol ystyried yr enghreifftiau hyn a phenderfynu a oes modd gwnned yr un peth ym Mhilgwenlli.  

 

       Dywedodd yr Aelodau y dylai gwaith barhau i ymdrin â’r problemau gwaelodol. Strategaeth ymatebol yw’r GGMC, a rhaid i ni edrych yn ofalus ar wraidd yr ymddygiad. Mynegodd Aelodau awydd i ganolbwyntio ar leihau’r broblem gyffuriau, a dweud hefyd, erbyn i rywun fod allan ar y stryd, fod y broblem wedi mynd yn rhy bell, felly mae angen ymyrryd yn gynt. 

 

       Gofynnoddyr Aelodau a oedd modd cyfoesi’r adroddiad i adlewyrchu union nifer y cyfranogwyr oedd o blaid neu yn erbyn yr eitemau, yn hytrach na dim ond canrannau.

 

Dogfennau ategol: