1. A-Y o’n Gwasanaethau
  2. A
  3. B
  4. C
  5. Ch
  6. D
  7. Dd
  8. E
  9. F
  10. Ff
  11. G
  12. Ng
  13. H
  14. I
  15. L
  16. Ll
  17. M
  18. N
  19. O
  20. P
  21. Ph
  22. R
  23. Rh
  24. S
  25. T
  26. Th
  27. U
  28. W
  29. Y

Agenda item

Pwyllgor Archwilio - Newidiadau i'r Cylch Gorchwyl

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio yr eitem hon. Pwrpas yr eitem yw nodi cynnwys yr adroddiad a chadarnhau’r argymhellion i wneud y newidiadau cyfansoddiadol, sy’n adlewyrchu’r ddeddfwriaeth newydd sy’n effeithio ar y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu. Bydd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru yn newid llywodraethu mewnol cynghorau.

 

Daeth y newidiadau o ran archwilio i rym ar 1 Ebrill 2021. Y newid cyntaf yw newid yr enw i ‘Archwilio a Llywodraethuer mwyn adlewyrchu’r gwell cylch gorchwyl a’r cyfrifoldebau ychwanegol. Yr ail newid yw ychwanegu at y cylch gorchwyl statudol i gynnwys cyfrifoldebau ychwanegol o ran trin cwynion, yn ogystal â rôl o asesu perfformiad at y dyfodol dan y ddeddfwriaeth.

 

Ynatodiad 2, gosodwyd y cylch gorchwyl newydd allan i ymgorffori’r newidiadau statudol. Bydd gofyn i’r cyngor wneud y newidiadau cyfansoddiadol hynny yn y cyfarfod nesaf ddiwedd Mehefin.

 

Manteisiwydar y cyfle hefyd i gyfoesi’r disgrifiadau rôl i’r cadeirydd a’r aelodau oherwydd y newidiadau cyfansoddiadol hyn. Bydd y newid i’r weithdrefn trin cwynion yn cychwyn yn syth, a bydd yn y flaen-raglen waith o hyn ymlaen. O ran asesu perfformiad, rydym yn disgwyl am fwy o gyfarwyddyd gan LlC. Y bwriad yw darparu broses hunanasesu ar gyfer cyflwyno gwasanaeth, fydd yn cymryd lle’r system bresennol o adroddiad blynyddol. Mae hon yn broses hunanasesu fwy hyblyg a bydd yn cynnwys adolygiad cyfoedion gan banel annibynnol. Nid yw Gwasanaethau Democrataidd yn glir ar hyn o bryd ynghylch manylion hyn. Bydd angen i’r pwyllgor gynhyrchu’r adroddiad asesu cyntaf erbyn 2022/23, felly mae’n debyg o gael ei ohirio tan Fedi 2022, ar ôl yr etholiadau nesaf. Mae Sir y Fflint wedi gwirfoddoli fod yn gyngor fydd yn cynnal cynllun peilot, a gall y pwyllgor ddysgu o’u profiad hwy. Unwaith i’r broses newydd hon fod mewn grym, bydd y pwyllgor archwilio yn chwarae rôl o oruchwylio’r broses hunanasesu o ran gwella cyflwyno gwasanaethau.

Newidarall sydd ar y gweill yw cyfansoddiad ac aelodaeth y pwyllgor. O fis Mai nesaf ymlaen, bydd gofyniad cyfreithiol i sicrhau bod o leiaf draean o aelodau’r pwyllgor yn annibynnol. Bwriad hyn yw cryfhau’r craffu allanol ar broses archwilio’r cyngor. Rhwng nawr a mis Mai nesaf, bydd angen i ni fynd trwy broses recriwtio i gael aelodau lleyg newydd. Hefyd, oherwydd bod y cadeirydd wedi gwasanaethau am ddau dymor yn olynol, bydd angen recriwtio cadeirydd newydd annibynnol. Mae Gwasanaethau Democrataidd yn argymell ein bod yn cychwyn ar y broses hon yn awr, gan fod y drefn recriwtio a chyfweld yn faith ac yn haearnaidd.

 

Trafodwyd y canlynol:

·         Dywedodd y cadeirydd mai’r pwyllgor archwilio sy’n goruchwylio’r broses risg ar hyn o bryd. A allwn gadarnhau nad yw’r ddeddf newydd hon yn dod ag unrhyw bwerau newydd o ran risg i’r pwyllgor archwilio?

o   Atebodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio nad oes newid i risg. Dan Ddeddf 2011, mae rolau a chyfrifoldebau statudol  ar gyfer archwilio, ond mae gan y cyngor ddisgresiwn i ddarparu rolau ychwanegol. Mae eisoes yn y cylch gorchwyl mai’r pwyllgor archwilio sy’n goruchwylio prosesau risg y cyngor, a rhaid i’r pwyllgor fodloni ei hun fod gan y cyngor fesurau cadarn ar waith i ymdrin â risg. Fodd bynnag, mae adnabod risgiau corfforaethol ac ymdrin â’r rhain yn dal yn fater  i aelodau’r cabinet. 

·         Gofynnoddyr aelodau sut y bydd y broses recriwtio yn digwydd mewn ffordd sy’n gytbwys yn wleidyddol, a phwy fydd yn goruchwylio hyn?

o   Esboniodd y Pennaeth Cyfraith a Rheoleiddio mai’r elfen gyntaf yw disgrifiad y rôl, sy’n gosod allan yr hyn yr ydym yn chwilio amdano; dyma sail asesu ceisiadau. Bydd hyn yn cael ei hysbysebu’n allanol. Bydd y swyddogion wedyn yn creu rhestr fer o ymgeiswyr. Yna, byddwn am sefydlu panel gwleidyddol gytbwys i gyfweld yr ymgeiswyr, gyda chefnogaeth swyddogion sy’n cynghori’r pwyllgor hwn yn rheolaidd. Bydd yr argymhellion hyn wedyn yn mynd i’r cyngor llawn i’w penodi.

Dywedodd y Pennaeth Pobl a Newid Busnes, o ran perfformiad, mai’r bwriad yw gweithio gyda’r pwyllgor i bennu sut beth fydd hyn i’r cyngor, yn hytrach na chyflwyno rhywbeth gorffenedig i’r pwyllgor. Dros y misoedd nesaf, y cynllun yw dwyn rhai syniadau gerbron gyda help LlCLA. 

 

Cytunwyd:

I’rpwyllgor gadarnhau argymhellion y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

 

Dogfennau ategol: