Agenda item

Cynnig Ad-drefnu Ysgolion i Ehangu Ysgol Basaleg

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd y Prif Swyddog Addysg a gyflwynodd yr adroddiad.

 

Hysbysodd y Prif Swyddog Addysg y Cabinet mai Ysgol Basaleg oedd yr ysgol uwchradd fwyaf poblogaidd yng Nghasnewydd a’i bod yn gwasanaethu dalgylch eang oedd yn dal i dyfu oherwydd datblygiadau tai newydd, adfywio a buddsoddi yn yr ardal leol.

 

Gwnaed y cynnig yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru. O ganlyniad i hyn, cafwyd cyfnod ymgynghori ffurfiol o chwe wythnos rhwng mis Hydref a mis Tachwedd 2020. Fel y gellid disgwyl, cafwyd llawer iawn o ohebiaeth, sy’n cael ei grybwyll yn Adroddiad yr Ymgynghori, a gyhoeddwyd ar wefan y Cyngor ac a rannwyd gyda rhanddeiliaid ym mis Ionawr eleni.

 

Yn dilyn ystyried Adroddiad yr Ymgynghori, yr oedd Aelodau’r Cabinet o’r farn y dylid bwrw ymlaen â’r cynnig,  ac felly cyhoeddwyd hysbysiad statudol ym Mawrth eleni am y cyfnod angenrheidiol o 28 diwrnod. Y cyfnod hwn oedd pryd y gallai rhanddeiliaid nodi gwrthwynebiadau i’r cynnig. Lle nad oedd gwrthwynebiadau, gallai Aelodau’r Cabinet gymryd y penderfyniad terfynol ar y cynnig. Fodd bynnag, petai gwrthwynebiadau, yr oedd y ddeddfwriaeth yn mynnu y dylai Panel Pennu Lleol ystyried yr holl dystiolaeth oedd ar gael cyn penderfynu. Yn yr achos hwn, derbyniwyd dau wrthwynebiad ffurfiol a dau bryder pellach, ac felly yr oedd gofyn i’r Cabinet, gan weithredu fel y Panel Pennu Lleol, ystyried y penderfyniad terfynol.

 

Crynhowyd y gwahanol resymau dros wrthwynebu yn yr adroddiad ond cyfeiriwyd atynt hefyd yn fanwl yn yr Adroddiad Gwrthwynebu. Nodwyd fod mwyafrif y rhesymau dros wrthwynebu wedi eu codi hefyd yn ystod y cyfnod ymgynghori ffurfiol, a chyfeiriwyd atynt ac ymateb iddynt yn Adroddiad yr Ymgynghori.

 

Yr oedd y buddsoddiad arfaethedig yn Ysgol Basaleg yn bosib trwy Fand B Rhaglen Ysgolion yr  21ain Ganrif y Cyngor, ac yn cael ei gyllido felly ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, neilltuwyd swm o £28m i’r prosiect, er y nodwyd, gan nad oedd y broses dendro wedi cwblhau, fod y cynllun cost diweddaraf yn awgrymu y byddai angen cyfanswm buddsoddiad o ryw £31m. Yr oedd yn hollol bosib felly y byddai angen adolygu rhaglen Band B yn gyffredinol dros y misoedd nesaf, pan fyddai mwy o sicrwydd am gostau prosiectau penodol.

 

Byddai’rcynnig a’r buddsoddiad gyda’i gilydd yn gyfle gwych i wella a chynyddu’r ddarpariaeth i ddysgwyr yn un o’n hysgolion uwchradd mwyaf llwyddiannus, a gwneud hyn yn amgylchedd dysgu’r 21ain Ganrif mewn gwirionedd.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Cabinet y cynnig ad-drefnu ysgolion igynyddu’r lle yn gyffredinol yn Ysgol Basaleg o 1747 i 2050 o fis Medi 2023 ymlaen”.

 

Dogfennau ategol: