Agenda item

Diweddariad ar y Gofrestr Risg Gorfforaethol (Ch4)

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, sef cyfoesiad o Gofrestr Risg Gorfforaethol yCyngor am ddiwedd Chwarter Pedwar (31 Mawrth 2021).

 

Gofynnwydi aelodau ystyried cynnwys yr adroddiad a nodi’r newidiadau i Risgiau Corfforaethol y Cyngor.

 

Mae Polisi Rheoli Risg a Chofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor yn galluogi’r weinyddiaeth hon a’i swyddogion i fod yn effeithiol wrth nodi, rheoli a monitro’r risgiau hynny a allai atal y Cyngor rhag cyflawni ei amcanion yn y Cynllun Corfforaethol (2017-22) a chyflawni ei ddyletswyddau statudol fel awdurdod lleol.

Byddai’radroddiad risg Chwarter Tri yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Llywodraethiant ac Archwilio’r Cyngor ar 27 Mai i adolygu prosesau rheoli risg y Cyngor a’i drefniadau llywodraethiant.

 

Arddiwedd chwarter pedwar, yr oedd gan  y Cyngor 46 risg wedi eu cofnodi ar draws wyth maes gwasanaeth y Cyngor.

 

Cafodd y risgiau hynny a bennwyd fel rhai’r mwyaf arwyddocaol o ran cyflwyno Cynllun Corfforaethol y Cyngor a’i wasanaethau eu codi i Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor er mwyn eu monitro. 

Arddiwedd chwarter pedwar, cofnodwyd 18 risg ar y Gofrestr Risg Corfforaethol:

·        UnarddegRisg Ddifrifol (15 i 25);

·        PedwarRisg Fawr (7 i 14);

·        Dwy Risg Ganolig (4 i 6); ac

·        Un Risg Isel (1 i 3).

Yn chwarter pedwar, gwelodd y Gofrestr Risg Gorfforaethol hefyd ddwy sgôr risg yn cynyddu, tair yn gostwng ac 13 yn aros yr un fath ag yn chwarter tri.

 

Arhyn o bryd, yr oedd y Cabinet yn cael adroddiadau misol am faterion yn ymwneud  â Brexit, a mesurau lliniaru.  

 

Gostyngodd y sgôr risg o 18 i 12, gan nad oedd gwasanaethau’r Cyngor wedi nodi effeithiau uniongyrchol ar eu cyflenwyr a’u cyllid ers y cytundeb masnach. 

 

Foddbynnag, fel yr adroddir yn adroddiad Brexit, yr oedd Statws Sefydlu yr UE yn dal yn faes pryder i gymunedau’r ddinas oherwydd y terfyn amser o 30 Mehefin. 

 

Yr oedd ansicrwydd am nifer y dinasyddion o’r UE a allasai fod wedi colli’r terfyn amser i wneud cais am y cynllun a/neu a fu’n aflwyddiannus yn eu ceisiadau. 

 

Gallasaihyn gael effaith ar y Cyngor gan y gall trigolion fethu cyrchu gwasanaethau cyhoeddus a bydd angen cefnogaeth ychwanegol. 

 

Gostyngoddrisg Rheolaeth Ariannol y flwyddyn o  chwech i dri, oherwydd yr alldro’r Cyngor a ragwelwyd am y flwyddyn ariannol a aeth heibio, oedd yn dangos cryn warged.

 

Byddidyn cadw golwg fanwl ar y risg hon yn chwarteri un a dau i weld a fyddai unrhyw bryderon/pwysau wrth i’r ddinas weld llacio graddol ar y cyfyngiadau.

 

Gostyngoddsgôr risg pandemig Covid-19 o 25 i 20 oherwydd llwyddiant cyflwyno’r brechiad a llacio cyfyngiadau clo, a’i gwnaeth yn bosib ail-agor gwasanaethau megis cyswllt wyneb yn wyneb.

 

Parhaoddgwasanaethau rheng-flaen y Cyngor i redeg fel arfer. Er hynny, yr oedd rhai clystyrau yn parhau yn y gymuned, oedd yn cael eu rheoli trwy’r timau Profi, Olrhain ac Amddiffyn.

 

Mae Gr?p Adfer Covid (Aur) y Cyngor yn dal i gyfarfod yn rheolaidd a monitro’r sefyllfa. Mae adroddiadau misol yn cael eu rhoi i’r Cabinet, sy’n rhoi trosolwg o ymateb y Cyngor i Covid.

 

Cynyddoddsgôr risg Stad Eiddo Cyngor o 12 i 16 i adlewyrchu’r problemau diweddar a nodwyd gydag Ysgol Iau St Andrew yn Ch4 2020/21. 

 

Foddbynnag, yr oedd y risg yn cael ei lliniaru a’i rheoli trwy ddefnyddio’r Rhaglen Gyfalaf Gynnal yn ogystal â monitro rheolaidd. 

 

Mae’rCyngor, ynghyd â Casnewydd Norse  yn parhau i gynnal arolygon cyflwr ar draws gweddill y stad, a defnyddir yr arolygon hyn fel sail o wybodaeth i ddyrannu a blaenoriaethu gwariant cyfalaf.

 

Mae’rCyngor yn dal i weithio’n agos gyda meysydd gwasanaeth eraill, gan gynnwys Addysg , i nodi a sicrhau pob ffynhonnell bosib o arian, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i dalu am gynnal a chadw a gwelliannau, yn enwedig nodi ffyrdd o wneud ein stadau yn fwy ynni-effeithlon i helpu i gyrraedd nod yr awdurdod o fod yn garbon niwtral erbyn 2030.

 

Cododdsgôr risg Addysg am leoliadau allsirol o naw i 12 oherwydd y cynnydd yn nifer y plant a’r bobl ifanc gydag anghenion cymhleth sydd angen cefnogaeth ychwanegol.

 

Yr oedd ysgolion arbennig y Cyngor (Maes Ebbw ac Ysgol Bryn Derw) yn llawn, oedd yn cynyddu’r risg o fod angen lleoliadau allsirol.  

 

Trwygomisiynu darparwyr lleol fel Casnewydd Fyw, Catch 22 a Sporting Chance, gallodd y Cyngor gyrchu darpariaethau arbenigol lleol, oedd yn lleihau’r angen am ddarpariaeth arbenigol allsirol.

 

Yr oedd dewisiadau megis codi estyniadau hefyd yn cael eu hystyried er mwyn gofalu bod digon o lefydd ar gael i ddisgyblion ag anghenion cymhleth. Comisiynwyd Mastodon C hefyd i greu rhagfynegiadau data ar gyfer yr angen yn y dyfodol am ddarpariaeth arbenigol.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Prif Swyddog Addysg am ei chyflwyniad a gwahoddodd gwestiynau gan y Cabinet.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

Lleisiodd y Cynghorydd Cockeram bryder am lefel y cyllido oherwydd effaith Covid. Yn ail, yng nghyswllt addysg, cafodd ymddygiad plant oedd yn dychwelyd i’r ysgol ei drafod yn ddiweddar yn y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol. Byddid yn cyflwyno bid i Lywodraeth Cymru am gyllid i ddarparu cwnsela, ac i ddeall effeithiau’r pandemig ar blant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mayer at gyhoeddiad diweddar y Prif weinidog am gytundeb gydag Awstralia i fewnforio bwyd, ac anogodd drigolion Casnewydd i brynu’n lleol.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rahman at eiddo’r Cyngor, gan adleisio sylwadau’r Arweinydd am Ysgol Iau St Andrew’s, a dywedodd wrth y Cabinet fod y risg yn cael ei lliniaru trwy fonitro’r stadau yng Nghasnewydd yn rheolaidd, gan eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer gwario cyfalaf. Hefyd, byddai’r stadau hynny yn cael eu gwneud yn fwy ynni-effeithlon i’r trigolion, a byddai hyn yn cynnwys y ganolfan hamdden arfaethedig newydd.

 

Soniodd y Cynghorydd Jeavons fod y gwaith o gwympo coed oherwydd clefyd marwolaeth yr ynn yn cael ei wneud dan ganllawiau diogelwch i warchod y trigolion, a bod Cyngor Dinas Casnewydd yn ail-blannu dwy goeden am bob un oedd yn cael eu cwympo, a bod y gwaith yn angenrheidiol i atal y clefyd rhag cael ei gludo ar yr awyr.

 

Penderfyniad:

Nododd y Cabinet gynnwys cyfoesiad chwarter tri y Gofrestr Risg Gorfforaethol.

 

Dogfennau ategol: