Agenda item

Adroddiad Blynyddol yr Iaith Gymraeg

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan hysbysu’r Cabinet  fod gofyn i’r cyngor adrodd yn flynyddol ar eu cynnydd o ran cydymffurfio â Safonau’r Iaith Gymraeg dan Fesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011. Yr oedd yr adroddiad yn ymdrin â phumed blwyddyn ei weithredu, wedi i’r cyngor dderbyn y rhan fwyaf o Safonau’r Iaith Gymraeg  ym Mawrth 2016.

 

Yr oedd yr adroddiad yn rhoi trosolwg o gynnydd y Cyngor o ran cwrdd â Safonau’r Iaith Gymraeg, ac yn cynnwys gwybodaeth y mae’r gyfraith yn mynnu sydd i’w gyhoeddi bob blwyddyn, crynodeb o lwyddiannau allweddol yn ystod y flwyddyn, a meysydd blaenoriaeth am waith at y dyfodol.

 

Aeth yr Arweinydd drwy lwyddiannau’r flwyddyn, oedd yn cynnwys:

 

§  Gwaith cadarnhaol gan swyddog Hybu’r Gymraeg y cyngor, yn canolbwyntio ar ymwneud a rhanddeiliaid allweddol yn y gymuned a darparu cefnogaeth i ysgolion a phartneriaid yn ystod y pandemig.

§  Hyrwyddodyddiadau allweddol trwy gydol y flwyddyn, yn fewnol ac ymysg cymunedau, a noddi G?yl Newydd rithiol.

§  SefydluGweithgor Cynrychiolwyr a chynllun gweithredu sy’n cynnwys canoli ar gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ledled y sefydliad.

§  Sefydlu is-gr?p Iaith Gymraeg y Bwrdd Sgiliau Cywir, sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo agwedd gyson at ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ar draws y ddinas a chyda phartneriaid allweddol y BGC.

§  Adolygufframwaith rheoli perfformiad y cyngor, fel bod modd monitro cydymffurfio â’r safonau yn fwy effeithiol ar lefel maes gwasanaeth a sefydliadol.

§  Comisiynunifer o fideos hyfforddi yn Gymraeg wedi eu hanimeiddio, i’r holl staff ddilyn, fyddai ar gael yr haf hwn.

 

Yr oedd yr adroddiad hefyd yn nodi blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf, fyddai’n cynnwys:

 

§  Gweithiogyda’n cymunedau ffoaduriaid, mudwyr a lleiafrifoedd ethnig i wreiddio’r Gymraeg yn well fel rhan o hunaniaeth a rennir ledled y ddinas, yn enwedig yng nghyd-destun datblygu ein pedwaredd ysgol cyfrwng-Cymraeg.

§  Gwella a datblygu ein polisi Sgiliau Iaith Gymraeg, gan gynnwys cofnodi a monitro sgiliau’r Gymraeg yn y gweithle, a gwneud gwell defnydd o’r data hwn fel sail i gynllunio strategol.

§  Ymwneud ac ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol a chymunedau fel sail i ddatblygu ein Strategaeth Iaith Gymraeg 5-mlynedd newydd.

§  Mabwysiadunifer o egwyddorion Cymraeg Clir i annog mwy o staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle

 

Gwahoddodd yr Arweinydd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau ac Adnoddau sydd hefyd yn arwain ar Gydraddoldeb a’r Iaith Gymraeg i ddweud gair words.

 

Yr oedd yr Aelod Cabinet yn falch o weld fod y cyngor yn dal i lwyddo i wneud cynnydd cadarnhaol yn erbyn ein hymrwymiadau i’r Gymraeg, er i’r flwyddyn hon fod yn un heriol. O edrych ymlaen at eleni, yr oedd yr Aelod Cabinet yn hyderus y byddai datblygu ein pedwaredd ysgol gynradd Gymraeg yn parhau i gryfhau gwaith yn y maes hwn ac yn dwyn cyfleoedd newydd yn y ddinas i  ddefnyddio’r Gymraeg yn ein holl gymunedau.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd y Cynghorydd Hughes, Pencampwr y Gymraeg i siarad,  mynegodd ei ddiolch yn Gymraeg a Saesneg:

 

Hoffwnddechrau trwy gydnabod yn heriau anhygoel a wynebodd ein staff yn ddiweddar.

 

Rwyf am ddiolch i’r aelodau mewn timau Heather Powell, Rhys Cornwall a hefyd Deborah Weston ac am yr arweiniad y maen nhw wedi ei ddangos.

 

Hefydhoffwn ganmol a diolch i’n holl staff sydd wedi ymuno â chyrsiau amrywiol i ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg-yn aml o’r dechrau.

 

Tra bod llawer o’n gwaith yn y gymuned wedi cael ei ddal yn ôl, rwy’n falch o hysbysu’r Arweinydd ein bod wedi cael cyfarfod cadarnhaol iawn ddoe a gynhaliwyd gan Dafydd Henry o Fenter Iaith Casnewydd gyda thîm dwyieithog Dinas Caerdydd.

 

Rhai o bethau sydd yn egluro a dangos y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghasnewydd yw’r faith bod y ddinas yn agor ei phedwaredd ysgol cyfrwng Cymraeg a Chylch Meithrin yng Nghaerllion, a  hefyd  fod Casnewydd yn dathlu G?yl Gymraeg - a heddiw mae Aelod y Cabinet a Phencampwr y Gymraeg yn y  ddinas yn cyflwyno i’r cabinet yn yr iaith Gymraeg.

 

Rwy’nddiolchgar i’r Arweinydd am y cyfle ac am ei hymdrechion ei hun i hyrwyddo’r iaith yng Nghasnewydd.

 

I would like to begin by acknowledging the unprecedented challenges our staff have faced of late.

 

I would like to thank especially Heather Powell, Rhys Cornwall and Deborah Weston for their personal efforts and that of their team members who have supported myself and this administration in furthering and promoting the Welsh language within our Council and throughout the city.

 

I would also like to thank all of our staff who have signed up for Welsh language courses this year.

 

While much of our work has been held back this year because of covid restrictions within our communities,  there has been progress for sure.

 

I am happy to report to the Cabinet and the Leader that we had an immensely positive meeting yesterday hosted by Dafydd Henry at Menter Iaith Casnewydd with the Cardiff City Local Authority Billingual Team.

 

Few things have however shown the progress more within our city than the opening of our fourth Welsh language medium ysgol in September in Caerleon and the opening of a Cylch Meithrin in the same ward-something I could never have imagined when I moved here 27 years ago. The fact that the city has a Welsh champion who is presenting his report in Welsh to Cabinet is clear evidence of the progress being made under this administration-some would even say historic.

 

I am thankful to the Leader for the opportunity and also for her own efforts and that of this administration in promoting the Welsh language, culture and heritage and this is evident throughout this report.

 

Penderfyniad:

Cymeradwyodd y Cabinet yr adroddiad i’w gyhoeddi ar wefan y Cyngor, yn unol â’r terfynau amser statudol.

 

Dogfennau ategol: