Agenda item

Adroddiad Diweddaru ar Adferiad Covid-19

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad, gan roi cyfoesiad ar ymateb y Cyngor a’i bartneriaid i argyfwng Covid-19 a chefnogi’r ddinas (trigolion a busnesau) i gydymffurfio â’r cyfyngiadau presennol ac i fwrw ymlaen â Nodau Adfer Strategol y Cyngor a’r Cynllun Corfforaethol. 

 

Ersi’r Cabinet hwn gyfarfod ddiwethaf ym Mai, bu gostyngiadau pellach yn yr achosion o Covid-19, ac y mae hyn wedi galluogi llacio’r cyfyngiadau clo, fel bod cyrchfannau lletygarwch dan do yng Nghasnewydd wedi ail-agor.

 

DechreuoddLlywodraeth Cymru hefyd roi prawf ar ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ledled Cymru. Yng Nghasnewydd, gallodd dilynwyr tîm peldroed Casnewydd wylio dwy gêm, tra cynhaliodd Gwesty’r Celtic Manor ddigwyddiad busnes i 100 o wahoddedigion.

 

Er bod hyn i’w groesawu, mae angen i drigolion Casnewydd barhau yn wyliadwrus a gofalus.

 

Dros yr wythnosau diwethaf, cynyddodd achosion o amrywiolyn Indiaidd Covid-19 ar draws y DU, a gwelodd Casnewydd glystyrau bychain o achosion. Er bod cyfradd yr achosion yn is o lawer nag y buont yn gynharach yn y flwyddyn, bydd yn rhaid i ni oll ddysgu byw gyda’r firws hwn, a thra bod cyfyngiadau yn dal ar waith, rhaid sicrhau ein bod yn cadw at y canllawiau o ran cadw pellter cymdeithasol.

 

Dylai trigolion Casnewydd sy’n tybio fod ganddynt symptomau Covid-19 gymryd prawf a hunan-ynysu yn unol â chanllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

 

Parhaodd y rhaglen frechu yng Nghasnewydd a Chymru i fod yn llwyddiannus, a derbyniodd dros 2 filiwn o bobl eu dos gyntaf, gyda thros 900,000 yn derbyn eu hail frechiad.

 

Rhaidcanmol gwaith Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, Casnewydd Fyw, y Cyngor hwn ac eraill am eu holl waith caled yn ein hamddiffyn ni i gyd ar hyd a lled Casnewydd, ac nid oedd amheuaeth fod hyn yn cael effaith ar ledaeniad y firws. 

 

Yr oedd y rhaglen frechu yn awr yn cyrraedd poblogaeth 18 i 30 oed Casnewydd, ac yr oedd yr un mor bwysig i’r gr?p oedran hwn a’n grwpiau du a lleiafrifoedd ethnig gymryd y brechiad. 

 

Osoedd gan unrhyw un amheuon neu bryderon am y brechiad, dylent gael gair â’u meddyg teulu neu fynd at wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael cyngor.     

 

Fis diwethaf, dathlodd cymuned Foslemaidd Casnewydd ddiwedd Ramadan a dathlu Eid al-Fitr.  Yr oedd yn bleser gweld y gymuned yn dathlu Eid yn ddiogel gyda theuluoedd a chyfeillion.

 

Yr oedd gwasanaethau a staff Cyngor yn dal i roi gwasanaeth i drigolion a busnesau ar draws Casnewydd, boed hyn ar y rheng flaen mewn cartrefi preswyl, yn ymweld â chleientiaid, casglu gwastraff, dysgu neu weithio o gartref neu mewn swyddfa. 

 

Bu swyddogion a phartneriaid strategol y Cyngor yn dwys ystyried sut y gallai staff a gwasanaethau ddychwelyd yn ddiogel a gweithio mewn modd mwy hyblyg er mwyn i ni adeiladu ar y newidiadau a ddigwyddodd yn ystod yr argyfwng. 

 

Fis nesaf, bydd y Cabinet yn derbyn adroddiad fyddai’n amlinellu agwedd y Cyngor at y dyfodol ac yn manteisio ar gyfleoedd i barhau i wella ein gwasanaethau.

 

Dros y mis diwethaf, cyflwynodd y Cyngor yr isod:

 

§  Parhaui ddarparu cefnogaeth a hyfforddiant digidol i blant ac oedolion yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng.

§  Dechraudatblygu Strategaeth Ddigidol newydd i gymunedau Casnewydd a’r Cyngor

§  Cyflwynoceisiadau Cronfa Adnewyddu Cymunedol i gefnogi cyfleoedd gwaith a hyfforddiant newydd i gymunedau.

§  Grantiaugwerth cyfanswm o £1.64m i gynorthwyo 820 o fusnesau a phobl hunangyflogedig yng Nghasnewydd.

§  Parhaui weithio i ddatblygu Cynllun Ynni Ardal Leol i Gasnewydd fyddai’n cefnogi dad-garboneiddio anghenion p?er, gwres a thrafnidiaeth Casnewydd at y dyfodol.

§  Yr oedd gwasanaethau oedolion yn ystyried addasu’r trefniadau gwasanaeth i ddychwelyd at wasanaethau dydd. 

§  Ail-ddechreuodd Casnewydd Fyw wasanaethau Hamdden a chyflwyno gweithgareddau ymarfer corff awyr-agored.

§  ByddCyngor Casnewydd yn gwneud mwy o waith ymwneud trwy’r Panel Dinasyddion a wifi ar fysus.

 

Dyna derfyn yr adroddiad, a bydd mwy o gyfoesiadau am gynnydd y Cyngor yn cael ei roi fis nesaf.

 

SylwadauAelodau’r Cabinet:

 

Dywedodd y Cynghorydd Cockeram y gallai arian i gartrefi gofal yn y sector preifat redeg allan, oedd yn achos pryder. Cytunodd yr Arweinydd fod hyn yn bwnc pwysig, a chanmolodd hefyd dîm Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor oedd yn gwneud yn si?r nad effeithiwyd yn andwyol ar yr henoed.

 

Ategodd y Cynghorydd Truman sylwadau’r Arweinydd a thalu teyrnged i Lywodraeth Cymru am eu rhaglen frechu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Harvey i’r holl staff am eu gwaith caled, yn ogystal â gwaith caled staff Casnewydd Fyw.

 

Diolchodd y Cynghorydd Hughes hefyd i’r staff a’r gwirfoddolwyr oedd yn helpu pobl fregus.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i bawb yn y cyngor am eu cefnogaeth, gan grybwyll y timau Iechyd Amgylchedd a Phrofi ac Olrhain. Pwysleisiodd nad oedd y perygl drosodd o bell ffordd, ac anogodd y trigolion i helpu i reoli a chyfyngu ar y firws ledled y byd. 

 

Hefyd, soniodd y Prif Weithredwr fod yr adroddiad ar Godi’r Gwastad yn adlewyrchiad o ymdrech a gwaith timau o bob cwr o’r cyngor.

 

Penderfyniad:

Ystyriodd y Cabinet gynnwys yr adroddiad a nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma a’r risgiau yr oedd y Cyngor yn dal i’w hwynebu.

 

Dogfennau ategol: