Agenda item

Cwestiynau i Arweinydd y Cyngor

To provide an opportunity for Councillors to ask questions to the Leader of the Council in accordance with the Council’s Standing Orders.

 

Process:

No more than 15 minutes will be allocated at the Council meeting for questions to the Leader of the Council.

 

The question must be addressed through the Mayor or the person presiding at the meeting and not directly to the person being questioned.

Cofnodion:

Cyn cychwyn ar y cwestiynau, rhoddodd yr Arweinydd y diweddaraf i’r Cyngor o ran y cyhoeddiadau isod:

 

·         Dinas Diwylliant

Yr oedd Cyngor Dinas Casnewydd wedi ymrwymo i sicrhau fod pobl yn teimlo’n dda am fyw, gweithio, ymweld a buddsoddi yn ein dinas. 

 

Yr oedd y Cyngor am fanteisio ar bob cyfle i hyrwyddo hyder a balchder mewn cymunedau yn ogystal ag arddangos Casnewydd i’r byd yn ehangach. 

 

Ar 19 Gorffennaf, cyflwynodd y Cyngor fynegiant o ddiddordeb mewn dod yn Ddinas Diwylliant y DU am 2025.

 

Y mae Casnewydd yn ddinas gyda thraddodiad a threftadaeth diwylliannol balch, yn borth i dde Cymru, gyda chymunedau cyfoethog ac amrywiol o ran diwylliant ac iaith.

 

Yr oedd Casnewydd hefyd yn rhan o ranbarth ehangach yr hen Went, gyda chyswllt annatod rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Y mae Casnewydd yn rhannu hanes cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, ar sylfaen ein treftadaeth a gydnabyddir yn rhyngwladol.

 

Mae’r mynegiant hwn o ddiddordeb yn gyfle i amlygu beth sydd gan y ddinas a’r rhanbarth i’w gynnig, a’i ddefnyddio i sbarduno newid.

 

Y gobaith yw y byddai hyn yn herio ac yn llunio barn pobl am Gasnewydd, ac yn adrodd i’r byd ddiwylliant unigryw a hanes hir Casnewydd, gan gynnwys gorymdaith y Siartwyr dros ddemocratiaeth. Byddid hefyd yn adrodd hanesion y bobl o bob cwr o’r byd a ddewisodd Gasnewydd yn gartref dros y canrifoedd.

 

Byddai’r aber a’r gwastadeddau yn cael eu dathlu, fel gan y sawl y gallwn ddal i weld olion eu traed yn llaid yr aber heddiw.

 

Byddai’n helpu i ail-danio brwdfrydedd y ddinas dros gerddoriaeth, celf a doniau cynhenid, i wrando ar farddoniaeth, perfformiadau a cherddoriaeth yn dod o bob cwr, boed fawr neu fach.

 

Yr oedd y Cyngor hefyd eisiau creu llwyfan cryfach i fudiadau gyda’r un diddordebau i gydweithredu yn hytrach na chystadlu am adnoddau. Y nod oedd datblygu rhaglen weithredu ar y cyd, a chyd-gynllunio i hyrwyddo pwysigrwydd cyfoeth diwylliannol Casnewydd i’r trigolion a’r byd yn ehangach.

 

Yr oedd gan Gasnewydd record gref o weithio mewn partneriaeth a chyflwyno gwelliannau i’w hamgylchedd a’i chymunedau, ac wrth gwrs, o ddigwyddiadau mawr ar raddfa ryngwladol.

 

Petai’r bid yn mynd ymlaen i’r cam nesaf, byddai’r Cyngor yn datblygu ac yn cyflwyno bid manwl. Petai hwn yn llwyddo, byddai Casnewydd yn cyflwyno rhaglen blwyddyn o hyd o ddigwyddiadau, gweithgareddau a phrosiectau – gyda chefnogaeth partneriaid gwych ledled y ddinas a’r rhanbarth – fyddai’n dathlu diwylliant amrywiol Casnewydd ac yn helpu i’w hagor i hyd yn oed fwy o bobl – yn lleol, rhanbarthol, yn genedlaethol a rhyngwladol. 

 

·         Y Bont Gludo – cyllid ychwanegol

Yr oedd yr Arweinydd yn falch o adrodd y cafwyd £80,000 o grant ychwanegol gan Sefydliad Wolfson i helpu i dalu am brosiect trawsnewid y Bont Gludo.

 

Y mae’r grant yn ategu’r £8.75m a ddyfarnwyd yn flaenorol gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, £1.5m gan Lywodraeth Cymru a’r £1m o gyllid cyfalaf a neilltuodd y Cyngor i’r prosiect.

 

Yr oedd y Sefydliad yn cydnabod arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol y Bont Gludo, a byddai’r prosiect trawsnewid hwn yn bywiogi hyn trwy well mynediad i’r cyhoedd ac ymwneud â hwy.

 

·         Gwobr HWRC

Roedd canolfan ailgylchu gwastraff cartref y ddinas ar restr fer am wobr Brydeinig. Un o dair yn unig ledled y DU, a’r unig un o Gymru, yr oedd ar y rhestr am ‘wobr safle amwynder dinesig y flwyddyn’ yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ailgylchu a Rheoli Gwastraff eleni.

 

Bu’n flwyddyn hynod o brysur i’r ganolfan, sydd wedi elwa o gynllun newydd, gwell mesurau gwahanu gwastraff, a system archebu newydd.

 

Cyfrannodd y newidiadau hyn i gynnydd yn y gyfradd ailgylchu yn y ganolfan, o 65% yn 2019/20 i fwy na 90% yn 2020/21.

 

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi ar 21 Gorffennaf, a dymunodd yr Arweinydd bob hwyl i’r tîm am eu gwaith haeddiannol.

 

·         Manteisio ar frechu a sesiynau brechu

Wrth i’r cyfyngiadau lacio dros yr wythnosau nesaf, yr oedd yn gynyddol bwysig i drigolion fanteisio ar y cyfle i gael eu brechu, a gofalu eu bod yn derbyn eu hail ddos.

 

Yr oedd y niferoedd yn yr ardal yn wych, ac yn ardal Aneurin Bevan, derbyniodd 88% o’r oedolion yn y boblogaeth eu dos gyntaf ac yr oedd nifer y rhai gafodd ail ddos hefyd yn galonogol, gyda thros 90% o bobl dros 40 oed wedi eu brechu’n llawn.

 

Bu llawer yn ein sesiynau galw heibio hefyd, ac yr oedd hynny wedi helpu i godi’r niferoedd. Diolchodd yr Arweinydd i bawb oedd wëid helpu i ledaenu’r neges mewn cymunedau, ac yn arbennig i’r rhai sy’n gweithio gyda’r sawl all fod yn amharod neu yn bryderus.

 

Byddai sesiwn galw heibio arall yn cael ei chynnal ar ddydd Sul 25 Gorffennaf yng Nghanolfan Casnewydd rhwng 2pm a 6pm.

 

·         Cyfoesi’r CDLl

Yr oedd gwaith yn mynd rhagddo ar y Cynllun Datblygu Lleol amnewidiol. Byddai’n pennu sut olwg fyddai ar y ddinas a sut y caiff ei datblygu dros y pymtheng mlynedd nesaf.

 

Yr oedd y CDLl yn edrych ar sut y dylid defnyddio tir, pa ffyrdd, llwybrau a llwybrau beicio ddylai fod, y defnydd o barciau a mannau gwyrdd, sicrhau bod lle i fusnes, yn ogystal â gwarchod yr amgylchedd.

 

Yr oedd y cyfnod ymgynghori diweddaraf yn rhedeg tan 27 Awst, a chafodd tirfeddianwyr, mudiadau rhanddeiliaid a chymunedau lleol gyfle i gyflwyno safleoedd posib i’w cynnwys yn y CDLl amnewidiol, fyddai’n cael eu galw yn Safleoedd a Gynigir.

 

Gellid gwneud cyflwyniadau am sawl math o ddefnydd – er enghraifft, tai, gwaith, manwerthu, twristiaeth, seilwaith gwyrdd, adloniant ac ynni adnewyddol. 

 

Anogodd yr Arweinydd unrhyw bartïon oedd â diddordeb i ddweud eu dweud yng nghyfnod hwn y broses.

 

Soniodd yr Arweinydd am ofalwyr maeth yng Nghasnewydd a’u hymrwymiad gwych i ofalu am y plant dan eu gofal. Manteisiodd yr Arweinydd ar y cyfle i roi diolch cyhoeddus i’r gofalwyr hynny. Hefyd, fel ffordd o roi diolch arbennig i’r rhai fu’n ofalwyr maeth ers amser, enwodd y Cyngor rosyn arbennig yn ‘Feithrin gyda Chariad’. Mae hyn yn deyrnged i holl ofalwyr maeth Casnewydd gan bawb yng Nghyngor Dinas Casnewydd. 

 

Yr oedd yr Arweinydd hefyd eisiau diolch yn arbennig i Joel Hughes o Gaerllion a ysbrydolwyd i sefydlu tudalen Just Giving ar gyfer cefnogwr pêl-droed ifanc y dangoswyd ei loes pan gollodd ei thîm gêm Ewropeaidd ar gyfryngau cymdeithasol. Llwyddasant i ddod o hyd i deulu’r ferch, a roddodd yr arian i UNICEF.  Yr oedd hyn yn weithred arbennig gan un o ddinasyddion Casnewydd a wnaeth yr Arweinydd yn falch o gryfderau pobl Casnewydd.

 

 

Cwestiynau i’r Arweinydd

 

Cynghorydd M Evans:

 

Canmolodd y Cynghorydd M Evans hefyd Joel Hughes, a soniodd hefyd am y gofalwyr maeth a’u gwaith da.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at economi’r nos, a’i bryderon fod hyn mewn perygl. Er ei bod yn amlwg fod Covid wedi cael effaith ar yr economi, teimlai’r Cynghorydd Evans fod hyn yn rhannol oherwydd partneriaeth y Cyngor gyda Phrifysgol De Cymru. Cyfeiriodd y Cynghorydd Evans at y ffaith fod PDC wedi derbyn arian gan Gasnewydd ar gyfer yr adeiladau newydd,  a gwerthu safleoedd Caerllion ac Allt-yr-ynn, ond methu â denu nifer y myfyrwyr a ragwelwyd i’r ddinas. Aeth ymlaen i ddweud fod Casnewydd wedi dod yn ail gwael i Bontypridd.  Yn ail, nid oedd gan Gasnewydd unrhyw gwmnïau clybiau nos cenedlaethol, a heb fod â rhai, credai’r Cynghorydd Evans, gan fod gan Mecca Tiffany. Yr oedd y person oedd yn berchen ar glybiau nos yng Nghasnewydd yn rhan o fater dadleuol. Holodd y Cynghorydd Evans a oedd yr Arweinydd yn cytuno fod angen gweithredu radical i ymdrin â’r materion hyn ac a fyddai’r Arweinydd yn ystyried holi cwmni clybiau nos cenedlaethol a hefyd gwmni casino. Yn olaf, beth oedd yr Arweinydd yn wneud ynghylch PDC iddynt hwy gymryd Casnewydd yn fwy o ddifrif?

 

Ateb:

 

Holodd yr Arweinydd pa gwestiwn yr hoffai’r Cynghorydd Evans ateb iddo gan fod yno ddau gwestiwn gwahanol. Soniodd y Cynghorydd Evans eu bod yn un cwestiwn mewn gwirionedd am eu bod yn cyfeirio at economi’r nos. 

 

Cyfeiriodd yr Arweinydd at y berthynas waith cadarnhaol ac adeiladol gyda PDC a bod llawer o’u gweithgaredd seibr a digidol wedi ei leoli yng Nghasnewydd. Maent yn cynnig cefnogaeth gref i egin-gwmniau, oedd yn bwysig i’r Cyngor, gan fod rhai o’r busnesau yng Nghasnewydd megis adeilad Alacrity. Mae Alacrity, a’r Academi Meddalwedd Genedlaethol yn adeilad yr Orsaf Wybodaeth sydd hefyd yn cynnal egin-gwmniau. Yr oedd gan PDC hefyd ran bwysig yn nhwf economaidd y ddinas a chyfnewid gwybodaeth. Hefyd, yr oeddent yn rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Casnewydd a Rhwydwaith Economaidd Casnewydd. Mae’r byd wedi newid, a chanolbwynt prifysgolion wedi newid, gan roi cyfle i ddatblygu’r cynnig seibr yng Nghasnewydd, ac yr ydym yn gweithio’n gadarnhaol gyda PDC i wneud hyn.

 

Yr oedd yr Arweinydd hefyd wedi ymweld â chanol y ddinas, a’r adborth gan gwmnïau oedd eu bod yn manteisio ar gyfleoedd i ddatblygu cynigion newydd, megis seddi y tu allan, a bod economi’r nos yn dechrau adfer o effaith y pandemig.  Yr oedd yr Arweinydd yn deall fod a wnelo’r cwestiwn ag economi’r nos cyn y pandemig, ond yng nghyd-destun y pandemig, mae’r strategaeth adfer yn arwain at gyfleoedd. Yr oedd Gwesty’r Queen’s wedi newid dwylo yn ddiweddar, a byddai clwb nos newydd yn yr eiddo hwn. Ni allai’r Arweinydd wneud sylw am gasino gan fod pob achos yn cael ei ystyried yn unigol, ac y byddai’n rhaid i’r cynlluniwyd edrych i mewn i hyn.

 

Ategol:

 

Dywedodd y Cynghorydd Evans fod niferoedd myfyrwyr wedi gostwng, ac er bod mentrau newydd yn y ddinas, fod llety myfyrwyr yng Nghasnewydd yn cael ei lenwi gan fyfyrwyr o Fryste. Ychwanegodd y Cynghorydd Evans nad oedd myfyrwyr lleol yn cael eu hystyried pan fod angen llenwi bloc llety gyda myfyrwyr. Dywedodd y Cynghorydd Evans fod angen cydnabod y mater hwn, am ei fod yn effeithio ar economi’r nos.

Ynn 2017, cyhoeddodd y Cyngor Statws Baner Borffor i economi’r nos, a byddai’r Aelod Cabinet ar y pryd yn edrych i mewn i hyn. Yr oedd y Cynghorydd Evans yn sylweddoli na allai clybiau nos ar hyn o bryd agor yng Nghymru, ond yr oedd am gael ymchwil i’r Statws Baner Borffor. Teimlai’r Cynghorydd Evans, ar fater casino, fod angen i’r Cyngor edrych ar atebion radical. Er bod yr ICC a’r Celtic Manor ar gael, efallai y byddai’n well gan gwsmeriaid fynd i Gaerdydd neu Fryste yn lle Casnewydd.

 

Ateb:

 

Dywedodd yr Arweinydd fod Casnewydd yn gweithio’n dda gyda PDC oedd â nifer allweddol o weithgareddau, a disgyblaethau gwyddonol a busnes yma.  Dywedodd yr Arweinydd fod hyn yn cyfateb i ganolbwynt ein dinas, sef twf a chael dinas ffyniannus i bawb.  O ran niferoedd myfyrwyr, ni cwestiwn ar ei ben ei hun mo hwn, a rhaid ystyried Coleg Gwent fyddai’n symud i ganol y ddinas, ac y deuai mwy o fyfyrwyr.  Dylid nodi hefyd nad yw pob myfyriwr mewn colegau addysg bellach yn 16-18 oed, a bod y colegau hyn yn denu llawer o fyfyrwyr aeddfed. Byddai adleoli Coleg Gwent yng nghanol y ddinas yn denu rhyw 2,000 o fyfyrwyr i’r ardal. O ran cyfle am dwf ac atyniadau, mae hyn yn dibynnu a oedd y canolbwynt ar les y trigolion ai peidio. Gellid peryglu lles meddyliol trwy agor casino ac annog gamblo, neu gellid cael band byw, fel y digwyddodd yng nghanol y ddinas brynhawn Sadwrn diwethaf yn y Stryd Fawr. Anogodd yr Arweinydd y Cynghorydd i siarad â chynrychiolwyr, megis busnesau lleol, a gofyn am eu syniadau. O ran Bid y Ddinas Diwylliant, roedd y busnesau lleol oll wedi dweud eu bod eisiau Casnewydd fyddai’n tyfu’n organig heb fod angen i gwmnïau mawr ddod i mewn a cham-fanteisio ar bobl.

 

Nid oedd y Cynghorydd K Whitehead yn bresennol i gyflwyno cwestiwn i’r Arweinydd, ond byddai’n gwneud hynny trwy e-bost yn ôl cyfarwyddyd y Cynghorydd Jordan.

 

Cynghorydd C Townsend:

 

Fel rhan o gais codi’r gwastad diweddar, a allai’r Arweinydd gadarnhau a oedd y Cabinet yn edrych i mewn i unrhyw gynlluniau eraill?

 

Ateb:

 

Mae ein Cynllun Meistr am ganol y ddinas yn rhoi i ni’r fframwaith i ateb y meini prawf am Godi’r Gwastad, oedd yn cynnwys y cynlluniau adfywio. Yr hyn oedd yn tywys y penderfyniad hwn felly oedd: y Cynllun Meistr, terfynau ariannol y Gronfa, a’r hyn y gellid yn rhesymol ei gyflawni o fewn yr amser o ran gweithredu unrhyw gamau o fidiau llwyddiannus. Ffactor arall yn y penderfyniad oedd yr effaith lluosydd o ran teithio llesol, yn dilyn ymlaen o Gomisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru. Dyma pam fod y maes hwn yn cael ei amlygu.

 

Cynghorydd Forsey:

 

O ran bid Casnewydd i ddod yn Ddinas Diwylliant 2025, pa fudiadau oedd yn rhan o hyn, a pha ddigwyddiadau oedd ar y gweill?

 

Ateb:

 

Ysgrifennydd Gwladol Cymru a anogodd Gyngor Dinas Casnewydd i wneud y bid. O ran y cais ei hun, dyma’r tro cyntaf i Lywodraeth y DU ganiatáu cyflwyno cais fel hwn ar sail daearyddol ehangach. Er bod Casnewydd fel dinas yn gwneud y bid, byddai hefyd yn gadael ôl troed i Went, gyda’i chyfoeth o hanes a diwylliant. Ein partneriaid yn hyn fyddai pedwar awdurdod lleol Gwent. Ymysg y llu o bartneriaid eraill yr oedd PDC, Coleg Gwent, Bid Casnewydd Nawr, Friars Walk, a’r cwmnïau creadigol, Cynghrair Sgrîn Cymru, a rhai cwmnïau llawrydd. Yr oedd hyn am fod Casnewydd yn cydnabod fod angen ymdrech ar y cyd i fanteisio i’r eithaf ar y cyfoeth diwylliannol, a’r manteision economaidd ddeuai o adfywio. Edrych i’r dyfodol yr ydym, gan ddeall fod ein hanes a’n treftadaeth yn annatod ynghlwm, o ddiwydiant trwm y gorffennol i ddiwydiant y dyfodol. Byddwn yn ceisio gwreiddio data a thechnoleg. Yr hyn oedd yn bwysig oedd rôl unigolion a chymunedau yn gweithio gyda mudiadau a phlant yn y cymunedau hynny i ddatblygu rhaglen o ddigwyddiadau. Enghraifft oedd Operasonic, oedd yn gweithio gyda theuluoedd teithiol sipsiwn Roma ym Maendy a Lliswerry, gan ddefnyddio cerddoriaeth i uno a ffurfio cymunedau cydlynus. Yr oedd Ballet Cymru hefyd wedi gwneud gwaith gwych gyda phlant yn Somerton yng nghyswllt y Prosiect Deuawdau  Cenedlaethol. Yr oeddem felly am ymwneud â’r cymunedau er mwyn cael llwyfan cadarn at y dyfodol.